Awgrymiad ar Gyfer y Wefan
Cael hyd i Erthyglau Oedd ar yr Hafan
Mae’r erthyglau ar hafan jw.org yn cael eu defnyddio gan lawer o’n brodyr a’n chwiorydd yn y weinidogaeth. Maen nhw’n hawdd i’w hanfon ymlaen yn electronig, ac maen nhw’n aml yn esbonio sut mae’r hyn sy’n mynd ymlaen yn y byd ar hyn o bryd yn cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl. Ysgrifennodd un brawd bod erthyglau ar yr hafan wedi bod “union beth rydyn ni ei angen ar gyfer y ffordd rydyn ni’n pregethu nawr.”
Ond mae’r pigion yn newid yn aml, felly sut gelli di gael hyd i erthyglau sydd ddim ar yr hafan bellach?
Ar hafan jw.org, clicia’r linc “Gweld Mwy” sy’n agos i dop y dudalen. Bydd hynny’n mynd â ti at “Erthyglau Diweddar o’r Dudalen Hafan,” lle gelli di weld rhestr o’r cynnwys diweddar.
Ar jw.org neu yn JW Library®, dewisa “Llyfrgell,” yna “Cyfres Erthyglau,” ac yna “Pynciau Eraill.” Mae’r adran hon yn cynnwys llawer o’r erthyglau sydd wedi bod ar yr hafan.