Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 35

Parha i Fod yn Amyneddgar

Parha i Fod yn Amyneddgar

“Gwisgwch . . . amynedd.”—COL. 3:12.

CÂN 114 “Byddwch yn Amyneddgar”

CIPOLWG a

1. Pam rwyt ti’n gwerthfawrogi pobl sy’n amyneddgar?

 RYDYN ni i gyd yn hoffi pobl sy’n amyneddgar. Pam felly? Gan ein bod ni’n parchu’r rhai sy’n gallu disgwyl am rywbeth heb deimlo’n rhwystredig. Rydyn ni’n ddiolchgar pan fydd eraill yn amyneddgar gyda ni pan ydyn ni’n gwneud camgymeriadau. Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd ein hathro wrth inni geisio deall, derbyn, a rhoi ar waith ddysgeidiaethau’r Beibl. Yn bennaf oll, rydyn ni mor ddiolchgar bod Jehofa Dduw yn dangos amynedd tuag at bob un ohonon ni!—Rhuf. 2:4.

2. Ym mha achlysuron gall dangos amynedd fod yn anodd?

2 Er ein bod ni’n gwerthfawrogi pan fydd pobl eraill yn dangos amynedd aton ni, ar adegau, gall fod yn anodd inni ddangos amynedd. Er enghraifft, gall fod yn anodd bod yn amyneddgar mewn rhes o draffig, yn enwedig os ydyn ni’n rhedeg yn hwyr. Hefyd, gallwn golli ein tymer pan fydd eraill yn mynd ar ein nerfau ni. Ac weithiau mae’n anodd disgwyl ar Jehofa i ddod â’i fyd newydd. Hoffet ti fod yn fwy amyneddgar? Yn yr erthygl hon byddwn ni’n trafod sut gallwn ni ddangos amynedd, pam mae mor bwysig, a sut gallwn ni ddatblygu’r rhinwedd hon.

BETH MAE BOD YN AMYNEDDGAR YN EI OLYGU?

3. Sut mae person amyneddgar yn ymateb wrth gael ei bryfocio?

3 Ystyria bedair ffordd gallwn ni ddangos amynedd. Yn gyntaf, mae person amyneddgar yn araf i ddigio. Mae’n ceisio peidio â chynhyrfu ac yn dal yn ôl rhag talu’r pwyth yn ôl pan fydd yn cael ei bryfocio neu o dan straen. Mae’r ymadrodd “araf i ddigio” yn ymddangos yn y Beibl am y tro cyntaf pan mae Duw yn cael ei ddisgrifio fel “Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb.”—Ex. 34:6, BCND.

4. Sut mae person amyneddgar yn ymateb pan fydd rhaid iddo ddisgwyl am rywbeth?

4 Yn ail, gall person amyneddgar ddisgwyl heb gynhyrfu. Os bydd rhywbeth yn cymryd amser hir i ddigwydd, mae person o’r fath yn ceisio peidio â chynhyrfu neu fod yn aflonydd. (Math. 18:26, 27) Mae’n rhaid inni beidio â chynhyrfu mewn nifer o sefyllfaoedd. Er enghraifft, mae’n rhaid inni wrando yn amyneddgar wrth i rywun arall siarad heb dorri ar draws. (Job 36:2) Efallai bydd rhaid inni fod yn amyneddgar wrth helpu myfyriwr i ddysgu dysgeidiaeth o’r Beibl neu i drechu arferiad drwg.

5. Ym mha ffordd arall gallwn ni ddangos amynedd?

5 Yn drydydd, dydy person amyneddgar ddim yn fyrbwyll. Wrth gwrs, mae’n rhaid gweithredu’n gyflym weithiau. Ond dydy person amyneddgar ddim yn brysio i mewn i dasg bwysig nac yn brysio i’w orffen. Yn hytrach, mae’n gwneud yn siŵr bod ganddo ddigon o amser i wneud cynllun. Yna mae’n cymryd yr amser sydd ei angen i gyflawni’r dasg yn dda.

6. Sut bydd person amyneddgar yn ymateb wrth wynebu treialon neu heriau?

6 Yn bedwerydd, mae person amyneddgar yn ceisio wynebu treialon heb gwyno. Gallwn ddweud bod amynedd yn debyg i ddyfalbarhad. Wrth gwrs, dydy agor i fyny i ffrind agos a bwrw ein bol am sut rydyn ni’n ei deimlo am dreial ddim yn beth drwg. Er hynny, mae person amyneddgar yn myfyrio ar bethau da yn ei fywyd ac yn gwneud ei orau i gadw agwedd bositif. (Col. 1:11) Fel Cristnogion, mae’n rhaid inni ddangos amynedd yn y ffyrdd yma i gyd. Sut? Gad inni ystyried rhai o’r rhesymau hynny.

PAM MAE AMYNEDD MOR BWYSIG?

Yn union fel mae ffermwr yn gorfod disgwyl yn amyneddgar i’r cnwd dyfu, mae’n rhaid i ninnau hefyd ddisgwyl yn amyneddgar i Jehofa wireddu ei addewidion yn ei amser ei hun

7. Yn ôl Iago 5:7, 8, pam mae amynedd mor bwysig? (Gweler hefyd y llun.)

7 Rhaid bod yn amyneddgar i gael byw am byth. Fel gweision ffyddlon yn y gorffennol, mae’n rhaid inni aros yn amyneddgar er mwyn i Dduw wireddu ei addewidion. (Heb. 6:11, 12) Mae’r Beibl yn ein cymharu ni â ffermwr. (Darllen Iago 5:7, 8.) Mae ffermwr yn gweithio’n galed i blannu ac i ddyfrio ei gnydau, ond dydy ef ddim yn gwybod yn union bryd byddan nhw’n tyfu. Felly, mae’r ffermwr yn disgwyl yn amyneddgar ac yn trystio y byddan nhw yn tyfu. Yn yr un modd, rydyn ni’n aros yn brysur gyda gweithgareddau ysbrydol er dydyn ni ‘ddim yn gwybod pa ddydd y bydd ein Harglwydd yn dod.’ (Math. 24:42) Arhoswn yn amyneddgar ac yn hyderus y bydd Jehofa yn cyflawni pob un o’i addewidion ar yr amser iawn. Petasen ni’n colli ein hamynedd, gallen ni gael llond bol a dechrau creu bwlch rhyngon ni a Jehofa. Gallen ni hefyd ddechrau canolbwyntio ar bethau rydyn ni’n meddwl bydd yn ein gwneud ni’n hapus nawr. Ond, os ydyn ni’n amyneddgar, byddwn ni’n dyfalbarhau i’r diwedd ac yn cael ein hachub.—Mich. 7:7; Math. 24:13.

8. Sut mae amynedd yn ein helpu ni i ddelio ag eraill? (Colosiaid 3:12, 13)

8 Mae amynedd yn ein helpu ni i ddelio ag eraill. Mae’n ein helpu ni i wrando’n astud wrth i eraill siarad. (Iago 1:19) Mae amynedd hefyd yn hybu heddwch. Mae’n ein gwarchod ni rhag ymateb yn rhy gyflym a rhag dweud rhywbeth cas pan ydyn ni o dan straen. Ac os ydyn ni’n amyneddgar, byddwn ni’n araf i ddigio pan fydd rhywun yn brifo ein teimladau. Yn lle talu’r pwyth yn ôl, mae’r Beibl yn annog: “Parhewch i oddef eich gilydd ac i faddau i’ch gilydd heb ddal yn ôl.”—Darllen Colosiaid 3:12, 13.

9. Sut mae amynedd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau? (Diarhebion 21:5)

9 Gall amynedd hefyd ein helpu ni i wneud penderfyniadau gwell. Yn lle gweithredu’n rhy gyflym, byddwn ni’n cymryd yr amser i wneud ymchwil ac asesu pa benderfyniad fydd orau. (Darllen Diarhebion 21:5.) Er enghraifft, os ydyn ni’n edrych am waith, efallai bydden ni’n dueddol o dderbyn y cynnig cyntaf rydyn ni’n ei gael, hyd yn oed os ydy hynny’n amharu ar ein haddoliad i Jehofa. Ond, os ydyn ni’n amyneddgar, byddwn ni’n cymryd yr amser i ystyried ffactorau fel y lleoliad, yr oriau, a’r effaith bydd y swydd yn ei chael ar ein teulu a’n bywyd ysbrydol. Pan ydyn ni’n amyneddgar, gallwn ni osgoi gwneud penderfyniad drwg.

SUT GALLWN NI FOD YN FWY AMYNEDDGAR?

10. Sut gall Cristion feithrin a dal ati i ddangos amynedd?

10 Gweddïa am fwy o amynedd. Mae amynedd yn rhan o ffrwyth yr ysbryd. (Gal. 5:22, 23) Felly gallwn ni weddïo am ysbryd glân a gofyn i Jehofa am help i feithrin ei ffrwyth. Os ydyn ni’n wynebu sefyllfa sy’n profi ein hamynedd, rydyn ni’n ‘dal ati i ofyn’ am yr ysbryd glân i’n helpu ni i fod yn amyneddgar. (Luc 11:9, 13) Gallwn ni hefyd ofyn am help Jehofa i weld y sefyllfa o’i safbwynt ef. Ac ar ôl gweddïo, mae’n rhaid inni wneud ein gorau i fod yn amyneddgar bob dydd. Os ydyn ni’n dal ati i weddïo am amynedd a gwneud ein gorau i’w ddatblygu, bydd Jehofa yn ein helpu ni i feithrin y rhinwedd hon hyd yn oed os nad oedden ni’n berson amyneddgar o’r blaen.

11-12. Sut mae Jehofa wedi bod yn amyneddgar?

11 Meddylia’n Ddwfn am Esiamplau o’r Beibl. Mae ’na lawer o esiamplau yn y Beibl o bobl a oedd yn dangos amynedd. Drwy feddwl am yr hanesion hyn, gallwn ni ddysgu sut i fod yn amyneddgar. Ond cyn inni eu hystyried nhw, gad inni edrych ar yr esiampl orau oll o amynedd, sef esiampl Jehofa.

12 Yng ngardd Eden, gwnaeth Satan enllibio enw Jehofa ac ymosod ar ei enw da fel rheolwr teg a chariadus. Yn lle dinistrio Satan yn syth, dangosodd Jehofa amynedd a hunanreolaeth, gan wybod byddai’n cymryd amser i brofi mai ei ffordd Ef o reoli yw’r gorau. Ac yn y cyfamser, mae wedi dioddef pobl yn pardduo ei enw. Ar ben hynny, mae Jehofa wedi disgwyl yn amyneddgar er mwyn i fwy o bobl gael y cyfle i fyw am byth. (2 Pedr 3:9, 15) O ganlyniad, mae miliynau o bobl wedi dod i’w adnabod ef. Drwy ganolbwyntio ar amynedd Jehofa a’r canlyniadau da sy’n dod o hynny, bydd yn haws inni ddisgwyl am ei amser Ef i ddod â’r diwedd.

Bydd amynedd yn ein helpu ni i fod yn araf i ddigio pan mae pobl yn ein pryfocio ni (Gweler paragraff 13)

13. Sut mae Iesu wedi adlewyrchu amynedd ei dad yn berffaith? (Gweler hefyd y llun.)

13 Tra oedd Iesu ar y ddaear, efelychodd amynedd ei Dad yn berffaith. Ar adegau, ni fyddai hynny wedi bod yn hawdd iddo, yn enwedig wrth ddelio â’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid rhagrithiol. (Ioan 8:25-27) Ond yn union fel ei Dad, roedd Iesu yn araf i ddigio. Ni wnaeth dalu’r pwyth yn ôl pan oedd eraill yn ei bryfocio. (1 Pedr 2:23) Wynebodd Iesu dreialon gydag amynedd a heb gwyno. Does dim rhyfedd felly bod y Beibl yn dweud wrthon ni i ystyried “yn ofalus yr un sydd wedi dioddef y fath siarad gelyniaethus gan bechaduriaid”! (Heb. 12:2, 3) Gallwn ni hefyd wynebu unrhyw dreialon yn amyneddgar gyda help Jehofa.

Os gwnawn ni efelychu amynedd Abraham, gallwn ni fod yn siŵr bydd Jehofa yn ein gwobrwyo ni nawr ac yn fwy byth yn Ei fyd newydd (Gweler paragraff 14)

14. Beth gallwn ni ei ddysgu o amynedd Abraham? (Hebreaid 6:15) (Gweler hefyd y llun.)

14 Beth os nad ydy ein disgwyliadau ynglŷn â’r diwedd wedi cael eu cyflawni eto? Oeddet ti’n disgwyl i’r diwedd ddod amser maith yn ôl? Efallai dy fod ti’n poeni na fyddi di’n byw yn ddigon hir i weld y diwedd. Beth all ein helpu ni i ddisgwyl yn amyneddgar? Ystyria esiampl Abraham. Pan oedd Abraham yn 75 mlwydd oed a heb blant, gwnaeth Jehofa addo: “Bydda i’n dy wneud di yn genedl fawr.” (Gen. 12:1-4) A wnaeth Abraham weld yr addewid hwnnw’n cael ei gyflawni? Ddim yn gyfan gwbl. Ar ôl croesi Afon Ewffrates a disgwyl am 25 mlynedd, gwelodd Abraham y wyrth o’i fab Isaac yn cael ei eni, ac ar ôl 60 mlynedd arall, ei wyrion Esau a Jacob yn cael eu geni. (Darllen Hebreaid 6:15.) Ond ni wnaeth Abraham weld ei ddisgynyddion yn dod yn genedl fawr ac etifeddu Gwlad yr Addewid. Er hynny, arhosodd yn ffyddlon a pharhaodd mewn perthynas dda â’i greawdwr. (Iago 2:23) A phan ddaw Abraham yn ôl yn yr atgyfodiad, bydd mor hapus i weld y bendithion a fydd wedi dod i’r byd i gyd oherwydd ei ffydd a’i amynedd! (Gen. 22:18) Beth yw’r wers inni? Efallai na fyddwn ni’n gweld pob addewid gan Jehofa yn cael ei gyflawni’n syth. Ond, os ydyn ni’n dangos yr un amynedd ag Abraham, gallwn ni fod yn sicr bydd Jehofa yn ein gwobrwyo ni nawr ac yn fwy byth yn ei fyd newydd.—Marc 10:29, 30.

15. Beth gallwn ni ei ystyried wrth wneud astudiaeth bersonol?

15 Gelli di gael hyd i lawer iawn mwy o esiamplau yn y Beibl o bobl a oedd yn amyneddgar. (Iago 5:10) Gallai fod yn fuddiol i astudio’r esiamplau hynny. b Er enghraifft, er bod Dafydd yn fachgen pan gafodd ei eneinio i fod yn frenin dros Israel, roedd rhaid iddo ddisgwyl am flynyddoedd cyn iddo dderbyn y frenhiniaeth. Gwnaeth Simeon ac Anna wasanaethu’n ffyddlon wrth iddyn nhw ddisgwyl am y Meseia addawedig. (Luc 2:25, 36-38) Wrth iti astudio’r hanesion hyn, edrycha am yr atebion i’r cwestiynau canlynol: Beth allai fod wedi helpu’r bobl hyn i ddangos amynedd? Beth oedd y buddion o fod yn amyneddgar? Sut galla i efelychu eu hamynedd? Gelli di hefyd elwa o ddysgu am y rhai a wnaeth beidio â dangos amynedd. (1 Sam. 13:8-14) Gelli di ofyn: ‘Beth achosodd iddyn nhw ddangos diffyg amynedd? Beth oedd y canlyniadau?’

16. Pa fuddion sy’n dod o fod yn amyneddgar?

16 Ystyria’r buddion o fod yn amyneddgar. Rydyn ni’n hapusach ac yn dawelach ein meddwl pan ydyn ni’n amyneddgar. Felly, gall amynedd wella ein hiechyd corfforol ac emosiynol. Bydd ein perthynas ag eraill yn gwella pan fyddwn ni’n amyneddgar â nhw. Bydd ein cynulleidfa yn dod yn fwy unedig. Os bydd rhywun yn ein pryfocio, bydd bod yn araf i ddigio yn atal y sefyllfa rhag mynd yn waeth. (Salm 37:8; Diar. 14:29) Ond yn bennaf oll, pan ydyn ni’n amyneddgar, rydyn ni’n efelychu ein Tad nefol ac yn nesáu ato yn fwy byth.

17. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

17 Mae amynedd yn wir yn rhinwedd sydd yn fuddiol i bob un ohonon ni! Er nad ydy hi’n wastad yn hawdd i fod yn amyneddgar, gyda help Jehofa, gallwn ni barhau i feithrin y rhinwedd hon. Ac wrth inni ddisgwyl yn amyneddgar am y byd newydd, gallwn ni fod yn sicr bydd Jehofa yn edrych ar ôl y rhai sy’n ei ofni, a’r “rhai sy’n disgwyl wrth ei ffyddlondeb.” (Salm 33:18, BCND) Gad inni i gyd fod yn benderfynol o barhau i wisgo amynedd.

CÂN 41 Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

a Does dim llawer o bobl amyneddgar ym myd Satan heddiw. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthon ni i wisgo amynedd. Bydd yr erthygl hon yn dangos inni pam mae’r rhinwedd hon mor bwysig a sut gallwn ni fod yn fwy amyneddgar.

b I gael hyd i hanesion yn y Beibl am amynedd, chwilia am “Amynedd” yn LLYFRGELL AR-LEIN—Y Tŵr Gwylio, neu “Patience” yn y Watch Tower Publications Index.