Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

1923​—Can Mlynedd Yn Ôl

1923​—Can Mlynedd Yn Ôl

“RYDYN ni’n disgwyl i’r flwyddyn 1923 fod yn hynod o gyffrous.” Dyna a ddywedodd y Tŵr Gwylio Saesneg, Ionawr 1, 1923. “Mae hi’n wir yn fraint i ddweud wrth bobl sydd wedi eu llethu fod dyddiau gwell yn dod.” Yn ystod y flwyddyn 1923, cafodd Myfyrwyr y Beibl eu calonogi’n fawr wrth i’w haddoliad a’u gweinidogaeth ddod yn fwy unedig. Dangosodd hyn fod ganddyn nhw’r wir grefydd.

CYFARFODYDD YN CRYFHAU’R UNDOD

Calendr gydag ysgrythurau a rhifau emynau

Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth y gyfundrefn rai newidiadau er mwyn helpu Myfyrwyr y Beibl i fod yn fwy unedig. Dechreuodd y Tŵr Gwylio gynnwys esboniadau o’r adnodau a oedd yn cael eu hystyried yn wythnosol yn y Cyfarfod Gweddi a Moliant. Hefyd, argraffodd Myfyrwyr y Beibl galendr a oedd yn cynnwys adnod yr wythnos yn ogystal ag emyn i’w ganu yn ystod astudiaeth bersonol ac addoliad teuluol.

Roedd cyfarfodydd Myfyrwyr y Beibl yn cynnwys profiadau o’r weinidogaeth. Hefyd, roedd rhai yn diolch i Jehofa, yn canu caneuon, neu’n dweud gweddïau. Roedd Eva Barney, a gafodd ei bedyddio ym 1923 yn 15 mlwydd oed yn cofio: “Os oedd rhywun eisiau rhoi sylwad, roedd yn rhaid sefyll a dechrau dweud rhywbeth fel, ‘Rydw i eisiau diolch i’r Arglwydd am bopeth da y mae wedi ei wneud drosto i.’” Roedd rhai brodyr yn hoff iawn o siarad. Ychwanegodd y Chwaer Barney: “Roedd gan y Brawd Godwin, a oedd yn brawd mor annwyl, lawer o bethau i ddiolch i’r Arglwydd amdanyn nhw. Pan oedd ei wraig yn gweld y brawd a oedd yn arwain yn mynd yn aflonydd, roedd hi’n tynnu ar gôt ei gŵr, a byddai’n eistedd i lawr.”

Unwaith y mis, roedd pob cynulleidfa yn cynnal Cyfarfod Gweddi a Moliant arbennig. Yn disgrifio’r cyfarfod hwn, dywedodd y Tŵr Gwylio Saesneg Ebrill 1, 1923: “Dylai hanner y cyfarfod gynnwys sylwadau a phrofiadau o’r weinidogaeth, a chalonogi’r gweithwyr. . . . Rydyn ni’n credu bydd gwneud hyn yn cryfhau’r undod ac yn dod â’r ffrindiau yn agosach at ei gilydd.”

Roedd Charles Martin, a oedd yn gyhoeddwr y gynulleidfa pan oedd yn 19 oed, o Vancouver, Canada, yn elwa’n fawr o’r cyfarfodydd hyn. Dywedodd: “Dyma lle gwnes i ddysgu beth i’w ddweud ar y drysau. Yn aml, roedd rhai yn rhannu profiadau o’r weinidogaeth ac roedd hynny’n rhoi syniadau imi o beth i ddweud a sut i ymateb i gwestiynau gwahanol.”

Y WEINIDOGAETH YN CRYFHAU’R UNDOD

Bulletin Mai 1, 1923

Gwnaeth “dyddiau gweinidogaeth” hefyd helpu i uno’r gyfundrefn. Cyhoeddodd y Tŵr Gwylio Saesneg Ebrill 1, 1923: “Er mwyn inni fod yn unedig yn ein gwaith . . . , mae dydd Mawrth, Mai 1, 1923, wedi ei benodi fel diwrnod gweinidogaeth. Bydd pob dydd Mawrth cyntaf y mis o hyn ymlaen yn ddiwrnod gweinidogaeth . . . Dylai pob aelod o bob cynulleidfa gael rhan yn y gwaith.”

Gwnaeth hyd yn oed Myfyrwyr y Beibl ifanc gael rhan yn y gwaith. Mae Hazel Burford a oedd dim ond yn 16 mlwydd oed ar y pryd yn dweud: “Roedd gan y Bulletin sgyrsiau enghreifftiol inni eu dysgu ar gof. a Gyda fy nhad-cu, gwnes i weithio’n frwdfrydig yn y gwaith hwn.” Ond, roedd y Chwaer Burford wedi synnu ar agwedd un brawd tuag at ei gweinidogaeth hi. Dywedodd hi: “Roedd un hen frawd annwyl yn teimlo’n gryf na ddylwn i bregethu i bobl. Ar y pryd, nid pawb oedd yn deall y dylai pob Myfyriwr y Beibl, gan gynnwys ‘bechgyn a merched ifanc,’ gael rhan yn y gwaith o foli ein Duw.” (Salm 148:​12, 13) Er hynny, gwnaeth y Chwaer Burford ddal ati. Aeth hi ymlaen i fynychu ail ddosbarth Ysgol Gilead ac i wasanaethu fel cenhades yn Panama. Mewn amser, gwnaeth y brodyr hynny newid eu hagwedd tuag at rai ifanc yn y weinidogaeth.

CYNADLEDDAU YN CRYFHAU’R UNDOD

Gwnaeth cynadleddau hefyd helpu uno ein brodyr. Roedd llawer o’r cynadleddau hyn yn cynnwys diwrnod o weinidogaeth, fel yr un yn Winnipeg, Canada. Ar Fawrth 31 gwnaeth pawb a oedd yn mynychu’r gynhadledd gael eu gwahodd i bregethu yn y ddinas. Roedd y dyddiau hyn yn gosod sail ar gyfer cynnydd yn y dyfodol. Ar Awst 5 gwnaeth tua 7,000 o bobl fynychu cynhadledd arall yn Winnipeg. Ar y pryd, dyma oedd y cyfanswm uchaf oedd erioed wedi mynychu cynhadledd yng Nghanada.

Cynhadledd bwysicaf Tystion Jehofa ym 1923 oedd ar Awst 18-26, yn Los Angeles, California. Wythnosau cyn y gynhadledd cafodd hysbysebion eu rhoi yn y papurau newydd, 500,000 o daflenni eu dosbarthu gan Fyfyrwyr y Beibl, a baneri eu rhoi ar dramiau a cheir.

Cynhadledd Myfyrwyr y Beibl yn Los Angeles yn 1923

Ar ddydd Sadwrn, Awst 25, rhoddodd Brawd Rutherford yr anerchiad “Sheep and Goats,” lle dangosodd yn glir bod y “defaid” yn bobl dda a fyddai’n byw ar baradwys ddaear. Hefyd, cyflwynodd y penderfyniad: “Rhybudd.” Gwnaeth y penderfyniad hwn gondemnio gau Gristnogaeth ac annog rhai onest i wahanu eu hunain o ‘Fabilon Fawr.’ (Dat. 18:​2, 4) Yn nes ymlaen byddai Myfyrwyr y Beibl yn ymuno â’r gwaith o ddosbarthu miliynau o gopïau o’r penderfyniad hwn.

“Rydyn ni’n credu bydd gwneud hyn yn cryfhau’r undod ac yn dod â’r ffrindiau yn agosach at ei gilydd”

Ar ddiwrnod olaf y gynhadledd, clywodd dros 30,000 y Brawd Rutherford yn rhoi’r anerchiad “All Nations Marching to Armageddon, but Millions Now Living Will Never Die.” Yn disgwyl tyrfa fawr, gwnaeth Myfyrwyr y Beibl logi yr adeilad newydd y Los Angeles Coliseum. Er mwyn gwneud yn siŵr y byddai pawb yn gallu clywed, gwnaeth y brodyr defnyddio system sain y stadiwm, a oedd yn dechnoleg newydd ar y pryd. Gwrandawodd llawer mwy dros y radio.

TYFIANT AR DRAWS Y BYD

Yn y flwyddyn 1923, ehangodd y gwaith pregethu yn fawr yn Affrica, Ewrop, India, a De America. Yn India, wrth ofalu am ei wraig a chwech o’i blant, roedd A. J. Joseph yn gyfrifol am gynhyrchu llenyddiaeth yn Hindi, Tamil, Telwgw, ac Wrdw.

William R. Brown a’i deulu

Yn Sierra Leone, ysgrifennodd Myfyrwyr y Beibl Alfred Joseph a Leonard Blackman i’r pencadlys yn Brooklyn, Efrog Newydd, i ofyn am help. Ar Ebrill 14, 1923, cawson nhw ateb. “Yn hwyr un nos Sadwrn,” dywedodd Alfred, “fe wnes i dderbyn galwad ffôn annisgwyl.” Clywodd llais cryf yn gofyn, “Ai ti sydd wedi ysgrifennu i’r Watch Tower Society yn gofyn am bregethwyr?” “Ie,” atebodd Alfred. “Wel, maen nhw wedi anfon fi.” William R. Brown oedd yn siarad. Roedd newydd lanio o’r Caribî gyda’i wraig, Antonia, a’u dwy ferch, Louise a Lucy. Ni fyddai’r brodyr yn gorfod disgwyl yn hir i gyfarfod y teulu newydd.

Ychwanegodd Alfred: “Y bore nesaf tra oedd Leonard a finnau yn cynnal ein hastudiaeth Feiblaidd wythnosol, gwelon ni ddyn tal wrth y drws. William R. Brown oedd yno. Roedd mor selog dros y gwir, roedd eisiau rhoi anerchiad y diwrnod nesaf.” Mewn llai na mis, roedd William wedi gosod yr holl lenyddiaeth oedd ganddo. Yn fuan, derbyniodd 5,000 o lyfrau ychwanegol, a chyn bo hir oedd angen mwy byth. Ond doedd pobl ddim yn ei adnabod fel gwerthwr llyfrau yn unig. Fel gwas selog, roedd yn wastad yn cyfeirio at y Beibl yn ei anerchiadau ac felly cafodd ei alw’n ‘Bible Brown’.

Bethel Magdeburg yn yr 1920au

Yn y cyfamser, roedd y gangen yn Barmen, yr Almaen, yn llawn dop, ac roedd y ddinas yn wynebu ymosodiad gan Ffrainc. Gwnaeth Myfyrwyr y Beibl ddod o hyd i adeilad yn Magdeburg oedd yn ymweld yn berffaith ar gyfer argraffu llenyddiaeth. Ar Fehefin 19, gwnaeth y brodyr orffen pacio yr offer argraffu a’r dodrefn, ac yna symud i’r Bethel newydd yn Magdeburg. Y diwrnod ar ôl i’r pencadlys cael gwybod eu bod nhw wedi gorffen symud, cyhoeddodd y papurau newydd fod Ffrainc wedi cymryd drosodd y ddinas Barmen. Roedd y brodyr mor ddiolchgar bod Jehofa wedi eu helpu nhw a’u hamddiffyn.

George Young gyda Sarah Ferguson (dde) a’i chwaer

Ym Mrasil, gwnaeth George Young, a oedd wedi teithio llawer i ledaenu’r newyddion da, sefydlu cangen newydd a dechrau argraffu’r Tŵr Gwylio ym Mhortiwgaleg. O fewn ychydig o fisoedd, oedd wedi gosod mwy na 7,000 o gyhoeddiadau. Roedd Sarah Ferguson yn hapus iawn pan wnaeth y Brawd Young gwrdd â’i theulu. Roedd hi wedi bod yn darllen y Tŵr Gwylio ers 1899, ond doedd hi erioed wedi cael y cyfle i gael ei bedyddio. O’r diwedd, ar ôl ychydig o fisoedd, cafodd y chwaer Ferguson a’i phedwar o blant eu bedyddio.

GWASANAETHU YN LLAWEN

Wrth i’r flwyddyn ddod at ei diwedd, gwnaeth y Tŵr Gwylio Rhagfyr 15, 1923 sôn am y ffordd unedig roedd Myfyrwyr y Beibl yn addoli: “Mae’n hawdd gweld bod y cynulleidfaoedd mewn cyflwr ysbrydol da. Boed inni baratoi am fwy o waith a dal ati i wasanaethu ein Duw gyda sêl a llawenydd yn ystod y flwyddyn 1924.”

Byddai’r flwyddyn nesaf yn garreg filltir i Fyfyrwyr y Beibl. Roedd y brodyr yn y Bethel wedi bod yn gweithio am fisoedd ar ddarn o dir ar Ynys Staten, a oedd yn agos at y pencadlys yn Brooklyn. Cafodd yr adeiladau ar y safle newydd hwnnw eu cwblhau yn gynnar ym 1924, a gwnaethon nhw helpu i uno’r frawdoliaeth ac i ledaenu’r newyddion da mewn ffyrdd newydd.

Gweithwyr adeiladu ar Ynys Staten

a Sydd nawr yn cael ei alw’n Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth GristnogolGweithlyfr y Cyfarfodydd