Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 42

A Wyt Ti’n “Barod i Ufuddhau”?

A Wyt Ti’n “Barod i Ufuddhau”?

“Mae’r doethineb sy’n dod oddi uchod . . . yn barod i ufuddhau.”—IAGO 3:17.

CÂN 101 Cydweithio Mewn Undod

CIPOLWG a

1. Pam gall ufudd-dod fod yn anodd inni?

 A WYT ti’n ei chael hi’n anodd ufuddhau ar adegau? Roedd hi’n anodd i’r Brenin Dafydd, felly gweddïodd ar Dduw: “Gwna fi’n awyddus i fod yn ufudd i ti.” (Salm 51:12) Roedd Dafydd yn caru Jehofa. Ond ar adegau, roedd hi’n dal yn anodd i Dafydd fod yn ufudd, ac rydyn ni’n cael yr un drafferth. Pam? Yn gyntaf, rydyn ni wedi etifeddu’r tueddiad i fod yn anufudd. Yn ail, mae Satan yn ceisio ein perswadio ni i wrthryfela, fel y gwnaeth ef. (2 Cor. 11:3) Yn drydydd, mae agwedd wrthryfelgar y byd o’n cwmpas ni drwy’r amser, “yr ysbryd sydd nawr ar waith ym meibion anufudd-dod.” (Eff. 2:2) Mae’n gofyn am ymdrech i frwydro yn erbyn ein tueddiadau amherffaith ac yn erbyn pwysau’r Diafol a’i fyd. Mae’n rhaid inni weithio’n galed i fod yn ufudd i Jehofa ac i’r rhai y mae Ef wedi rhoi awdurdod iddyn nhw.

2. Beth mae’n ei olygu i fod “yn barod i ufuddhau”? (Iago 3:17)

2 Darllen Iago 3:17. Cafodd Iago ei ysbrydoli i ysgrifennu mai pobl ddoeth sydd “yn barod i ufuddhau.” Beth mae hynny yn ei olygu? Mae’n rhaid inni fod yn awyddus i ufuddhau i’r rhai y mae Jehofa wedi rhoi rhywfaint o awdurdod iddyn nhw. Wrth gwrs, dydy Jehofa ddim yn disgwyl inni ufuddhau i berson sy’n gofyn inni dorri Ei gyfreithiau.—Act. 4:​18-20.

3. Pam mae’n bwysig i Jehofa ein bod ni’n ufuddhau i’r rhai sydd ag awdurdod droston ni?

3 Efallai ei bod yn haws inni ufuddhau i Jehofa nag i bobl eraill. Wedi’r cwbl, mae arweiniad Jehofa bob amser yn berffaith. (Salm 19:7) Dydy hynny ddim yn wir am bobl sydd ag awdurdod. Er hynny, mae ein Tad nefol wedi rhoi rhywfaint o awdurdod i rieni, swyddogion y llywodraeth, a henuriaid. (Diar. 6:20; 1 Thes. 5:12; 1 Pedr 2:​13, 14) Wrth ufuddhau iddyn nhw, rydyn ni hefyd yn ufuddhau i Jehofa. Gad inni weld sut gallwn ni fod yn ufudd i bobl y mae Jehofa wedi rhoi awdurdod iddyn nhw, er ei bod hi’n anodd inni weithiau ddilyn eu harweiniad.

BYDDA’N UFUDD I DY RIENI

4. Pam mae llawer o blant yn anufudd i’w rhieni?

4 Mae llawer o bobl ifanc yn y byd heddiw yn tueddu i fod “yn anufudd i’w rhieni.” (2 Tim. 3:​1, 2) Pam maen nhw’n anufudd? Mae rhai’n meddwl bod eu rhieni’n rhagrithiol ac yn disgwyl i’w plant wneud pethau nad ydyn nhw’n barod i’w gwneud eu hunain. Mae eraill yn meddwl bod cyngor eu rhieni’n hen ffasiwn, yn rhy lym, neu heb fod yn berthnasol. Os wyt ti’n berson ifanc, wyt ti weithiau’n teimlo felly? Mae’n anodd i lawer ddilyn gorchymyn Jehofa: “Byddwch yn ufudd i’ch rhieni mewn undod â’r Arglwydd, oherwydd bod hyn yn gyfiawn.” (Eff 6:1) Beth all dy helpu di i wneud hynny?

5. Beth sy’n rhyfeddol am y ffaith bod Iesu wedi ufuddhau i’w rieni, fel sydd wedi ei gofnodi yn Luc 2:​46-52?

5 Gelli di ddysgu bod yn ufudd o’r esiampl orau erioed—Iesu. (1 Pedr 2:​21-24) Roedd Iesu’n berffaith ond roedd ei rieni’n amherffaith. Er hynny, roedd yn anrhydeddu ei rieni hyd yn oed pan oedden nhw’n gwneud camgymeriadau neu yn ei gamddeall weithiau. (Ex. 20:12) Ystyria beth ddigwyddodd pan oedd Iesu’n 12 oed. (Darllen Luc 2:​46-52.) Gwnaeth ei rieni adael Jerwsalem hebddo wrth deithio adref o’r ŵyl. Cyfrifoldeb Joseff a Mair oedd sicrhau bod eu plant ymhlith y grŵp. Pan ddaeth Joseff a Mair o hyd iddo, roddodd Mair y bai ar Iesu am yr holl helynt. Gallai Iesu fod wedi dweud nad oedd hyn yn deg. Ond yn lle hynny, ymatebodd mewn ffordd barchus a syml. Doedd Joseff a Mair “ddim yn deall beth roedd yn ei ddweud wrthyn nhw.” Er hynny, “arhosodd Iesu yn ufudd iddyn nhw.”

6-7. Beth all helpu pobl ifanc i fod yn ufudd i’w rhieni?

6 Os wyt ti’n ifanc, ydy hi’n anodd iti ufuddhau i dy rieni pan maen nhw’n gwneud camgymeriadau neu’n dy gamddeall? Beth all helpu? Yn gyntaf, meddylia am sut mae Jehofa’n teimlo. Mae’r Beibl yn dweud bod ufuddhau i dy rieni “yn plesio’r Arglwydd.” (Col. 3:20) Mae Jehofa yn gwybod pan nad ydy dy rieni yn dy ddeall di, neu pan mae eu rheolau’n annheg. Ond bydd Jehofa yn hapus pan wyt ti’n dewis ufuddhau beth bynnag.

7 Yn ail, meddylia am sut mae dy rieni’n teimlo. Pan wyt ti’n ufuddhau i dy rieni, byddan nhw’n hapusach ac yn dy drystio di’n fwy. (Diar. 23:​22-25) Mae’n debyg y byddi di’n teimlo’n agosach atyn nhw hefyd. “Pan ddechreuais ufuddhau i fy rhieni’n fwy aml,” meddai brawd o wlad Belg o’r enw Alexandre, “newidiodd ein perthynas. Roedden ni’n hapusach.” b Yn drydydd, meddylia am sut bydd bod yn ufudd yn dy helpu di’n nes ymlaen. Mae Paulo, sy’n byw ym Mrasil, yn dweud, “Mae dysgu i fod yn ufudd i fy rhieni wedi fy helpu i ufuddhau i Jehofa ac i eraill mewn awdurdod.” Mae ’na resymau da yng Ngair Duw dros ufuddhau i rieni. Mae’n dweud: “Er mwyn i bethau fynd yn dda iti ac iti gael byw am amser hir ar y ddaear.”—Eff. 6:​2, 3.

8. Pam mae llawer o rai ifanc yn dewis bod yn ufudd i’w rhieni?

8 Mae llawer o bobl ifanc wedi gweld y canlyniadau da sy’n dod o fod yn ufudd. Doedd Luiza, sydd hefyd yn dod o Frasil, ddim yn deall ar y dechrau pam doedd hi ddim yn cael defnyddio ffôn symudol. Roedd y rhan fwyaf o bobl yr un oed â hi yn defnyddio un. Ond yna sylweddolodd hi fod ei rhieni’n ei hamddiffyn hi. Mae’n dweud: “Dydy ufuddhau i fy rhieni ddim yn gwneud imi deimlo’n rhwystredig bellach, mae’n teimlo fel gwregys diogelwch a all achub fy mywyd.” Mae Elizabeth, chwaer ifanc o’r Unol Daleithiau, sy’n dal yn cael trafferth bod yn ufudd i’w rhieni, yn dweud: “Pan dydw i ddim yn deall rheolau fy rhieni, dw i’n meddwl yn ôl i’r adegau roedd eu rheolau wedi fy amddiffyn i.” Mae Monica, sy’n byw yn Armenia, yn dweud bod pethau wastad wedi troi allan yn well ar ôl bod yn ufudd yn hytrach na phan mae hi wedi torri’r rheolau.

BYDDA’N UFUDD I’R “RHAI MEWN AWDURDOD”

9. Sut mae llawer yn teimlo am ufuddhau i’r gyfraith?

9 Mae llawer o bobl yn cydnabod ein bod ni angen llywodraethau ac y dylen ni ufuddhau i o leiaf rhai o’r rheolau sydd wedi eu gosod gan y “rhai mewn awdurdod.” (Rhuf. 13:1) Ond efallai na fyddan nhw’n ufuddhau i reolau dydyn nhw ddim yn eu hoffi neu rai maen nhw’n teimlo sydd yn annheg. Ystyria, er enghraifft, talu trethi. Mewn un wlad yn Ewrop, mae llawer o bobl yn credu “does dim rhaid talu trethu os rwyt ti’n meddwl eu bod nhw’n annheg.” Nid yw’n syndod felly bod y dinasyddion yno dim ond yn talu tua 65 y cant o’u trethi.

Beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrth ufudd-dod Mair a Joseff? (Gweler paragraffau 10-12) c

10. Pam rydyn ni’n ufudd i gyfreithiau nad ydyn ni’n eu hoffi?

10 Mae’r Beibl yn cydnabod bod llywodraethau dynol yn achosi dioddefaint. Maen nhw o dan reolaeth Satan a byddan nhw’n cael eu dinistrio’n fuan. (Salm 110:​5, 6; Preg. 8:9; Luc 4:​5, 6) Mae hefyd yn dweud: “Os ydyn ni’n gwrthwynebu eu hawdurdod, rydyn ni’n gweithio yn erbyn Duw.” Mae Jehofa yn caniatáu i’r llywodraethau hyn reoli ar hyn o bryd i gadw trefn, ac mae’n disgwyl inni ufuddhau iddyn nhw. Felly, rhaid inni roi “i bawb yr hyn y dylai ei dderbyn,” gan gynnwys trethi, parch, ac ufudd-dod. (Rhuf. 13:​1-7) Efallai bydd cyfraith yn teimlo’n annheg, yn rhy gostus, neu’n gofyn gormod gynnon ni. Ond rydyn ni’n ufudd i Jehofa ac mae’n dweud wrthon ni am ufuddhau i’r awdurdodau cyn belled nad ydyn nhw’n gofyn inni dorri ei gyfraith.—Act. 5:29.

11-12. Fel sydd wedi ei gofnodi yn Luc 2:​1-6, sut gwnaeth Joseff a Mair ufuddhau i gyfraith a oedd yn anghyfleus, a beth oedd y canlyniad? (Gweler hefyd y lluniau.)

11 Gallwn ni ddysgu o esiamplau Joseff a Mair, a oedd yn barod i ufuddhau i’r llywodraethau hyd yn oed mewn sefyllfa anodd. (Darllen Luc 2:​1-6.) Pan oedd Mair wedi bod yn feichiog am tua naw mis, gwnaeth Awgwstus, ymerawdwr Rhufain, orchymyn i bawb fynd i’w dref ei hun i gael ei gofrestru. Roedd yn rhaid i Joseff a Mair deithio i Fethlehem, tua 93 milltir (150 km) i fyny ac i lawr tir mynyddog. Byddai’r daith yn anghyfforddus, yn enwedig i Mair. Efallai roedden nhw’n poeni am iechyd Mair a’r babi bach. Beth petai hi’n dechrau cael y babi wrth deithio? Roedd hi’n cario’r Meseia addawedig yn ei chroth. A fyddai hynny yn eu hesgusodi nhw rhag ufuddhau i’r llywodraeth?

12 Er bod gan Joseff a Mair nifer o resymau dros bryderu, roedden nhw’n ufudd. Bendithiodd Jehofa eu hufudd-dod. Gwnaeth Mair gyrraedd Bethlehem yn saff, rhoi genedigaeth i fabi iach, a hyd yn oed helpu i gyflawni proffwydoliaeth o’r Beibl.—Mich. 5:2.

13. Sut gall ein hufudd-dod effeithio ar ein brodyr?

13 Pan fyddwn ni’n ufudd i’r awdurdodau, mae pawb yn elwa. Sut felly? Rydyn ni’n osgoi cael ein cosbi fel y rhai sy’n torri’r gyfraith. (Rhuf. 13:4) Gall ein hufudd-dod personol ni effeithio ar sut mae’r awdurdodau’n gweld Tystion Jehofa. Er enghraifft, nifer o flynyddoedd yn ôl yn Nigeria, aeth milwyr i mewn i Neuadd y Deyrnas yn ystod cyfarfod. Roedden nhw’n edrych am bobl a oedd yn protestio yn erbyn talu trethi. Ond dywedodd y prif swyddog wrth y milwyr am adael, gan ddweud: “Dydy Tystion Jehofa ddim yn osgoi talu trethi.” Bob tro rwyt ti’n ufuddhau i’r gyfraith, gelli di wella agwedd pobl eraill tuag at Dystion Jehofa a chreu enw da a all helpu i warchod dy frodyr a dy chwiorydd.—Math. 5:16.

14. Beth helpodd un chwaer i fod “yn barod i ufuddhau” i’r awdurdodau?

14 Ond, efallai na fydden ni’n teimlo fel gwrando ar yr awdurdodau bob tro. “Roedd yn anodd iawn imi fod yn ufudd,” dywedodd Joanna, chwaer o’r Unol Daleithiau, “oherwydd bod yr awdurdodau wedi trin fy nheulu yn anghyfiawn.” Ond ymdrechodd Joanna yn galed i newid ei ffordd o feddwl. Yn gyntaf, stopiodd ddarllen postiadau ar gyfryngau cymdeithasol a oedd yn erbyn yr awdurdodau. (Diar. 20:3) Yn ail, gweddïodd ar Jehofa a gofyn am help i ymddiried ynddo ef yn hytrach na gobeithio am unrhyw newidiadau mewn llywodraethau dynol. (Salm 9:​9, 10) Yn drydydd, darllenodd hi erthyglau yn ein cyhoeddiadau ynglŷn â niwtraliaeth. (Ioan 17:16) Mae Joanna yn dweud bod parchu’r awdurdodau ac ufuddhau iddyn nhw wedi rhoi iddi “heddwch na all geiriau ei esbonio.”

BYDDA’N UFUDD I GYFARWYDDIADAU GAN GYFUNDREFN JEHOFA

15. Pam gall fod yn anodd inni ufuddhau i arweiniad sy’n dod o gyfundrefn Jehofa?

15 Mae Jehofa yn gofyn inni fod ‘yn ufudd i’r rhai sy’n ein harwain ni’ yn y gynulleidfa. (Heb. 13:17) Er bod ein harweinydd, Iesu, yn berffaith, mae’r rhai y mae ef yn eu defnyddio i’n harwain yma ar y ddaear, yn amherffaith. Gall fod yn heriol inni ufuddhau iddyn nhw, yn enwedig os ydyn nhw’n gofyn inni wneud rhywbeth dydyn ni ddim eisiau ei wneud. Ar un adeg, roedd hi’n anodd iawn i’r apostol Pedr fod yn ufudd. Pan ddywedodd angel wrtho am fwyta anifeiliaid a oedd yn aflan o dan Gyfraith Moses, gwrthododd Pedr—nid unwaith, ond deirgwaith! (Act. 10:​9-16) Pam? Doedd y cyfarwyddiadau newydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr iddo. Os oedd hi’n anodd i Pedr dderbyn cyfarwyddiadau gan angel perffaith, cymaint anoddach y bydd hi inni dderbyn cyfarwyddiadau gan ddynion amherffaith!

16. Sut ymatebodd yr apostol Paul i gyfarwyddiadau a allai fod wedi teimlo’n annheg? (Actau 21:​23, 24, 26)

16 Roedd yr apostol Paul yn “barod i ufuddhau,” hyd yn oed pan gafodd gyfarwyddiadau a oedd yn teimlo’n annheg. Roedd y Cristnogion Iddewig wedi clywed sibrydion bod Paul wedi amharchu Cyfraith Moses ac yn dysgu pethau gwrthgiliol. (Act. 21:21) Penderfynodd yr henuriaid yn Jerwsalem y dylai Paul fynd i’r deml gyda phedwar dyn a glanhau ei hun yn seremonïol i ddangos ei fod yn dilyn y Gyfraith. Ond roedd Paul yn gwybod nad oedd Cristnogion o dan orfodaeth i ddilyn y Gyfraith, ac nad oedd ef wedi gwneud unrhyw beth o’i le. Ond wnaeth Paul ddim oedi. “Y diwrnod wedyn, fe gymerodd Paul y dynion, a gwnaethon nhw eu glanhau eu hunain yn seremonïol.” (Darllen Actau 21:​23, 24, 26.) Roedd ufudd-dod Paul yn helpu i gadw undod.—Rhuf. 14:​19, 21.

17. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Stephanie?

17 Roedd hi’n anodd i chwaer o’r enw Stephanie dderbyn penderfyniad gafodd ei wneud gan frodyr cyfrifol yn ei gwlad. Roedd hi a’i gŵr yn cael amser braf yn gwasanaethu mewn grŵp iaith arall. Ond yna fe wnaeth y gangen gau’r grŵp a chafodd y cwpl eu hailaseinio i gynulleidfa yn yr iaith frodorol. Mae Stephanie yn cyfaddef: “Doeddwn i ddim yn hapus o gwbl. Doeddwn i ddim yn meddwl bod mwy o angen yn ein mamiaith.” Er hynny, penderfynodd hi ddilyn yr arweiniad newydd. “Dros amser gwelais ddoethineb y penderfyniad. Rydyn ni wedi dod yn rhieni ysbrydol i rai yn y gynulleidfa sydd heb deulu yn y gwir. Rydw i’n astudio gyda chwaer anweithredol sydd newydd ddechrau dod yn ôl. A nawr mae gen i fwy o amser i wneud astudiaeth bersonol.” Mae’n ychwanegu, “Mae fy nghydwybod yn lân o wybod mod i wedi gwneud fy ngorau i fod yn ufudd.”

18. Sut rydyn ni’n elwa o fod yn ufudd?

18 Mae’n bosib inni ddysgu bod yn ufudd. Dysgodd Iesu ufudd-dod, nid o gael yr amgylchiadau perffaith ond “drwy’r pethau a ddioddefodd.” (Heb. 5:8) Yn aml, mae amgylchiadau anodd yn ein dysgu ninnau i fod yn ufudd hefyd. Er enghraifft, yn nyddiau cynnar y pandemig COVID-19 pan ofynnwyd inni stopio cyfarfod yn Neuaddau’r Deyrnas, a pheidio â mynd o ddrws i ddrws, a oedd hi’n anodd iti ddilyn y cyfarwyddiadau? Ond roedd bod yn ufudd yn dy warchod di, dy uno di â dy frodyr a dy chwiorydd, ac yn gwneud Jehofa’n hapus. Mae hyn wedi ein paratoi ni i fod yn barod i ufuddhau i unrhyw gyfarwyddiadau byddwn ni’n eu cael yn ystod y trychineb mawr. Bydd dilyn y cyfarwyddiadau hynny yn arbed ein bywydau.—Job 36:11.

19. Pam rwyt ti eisiau bod yn ufudd?

19 Rydyn ni wedi dysgu bod ufudd-dod yn dod â bendithion di-rif. Ond yn bennaf, rydyn ni’n ufuddhau i Jehofa oherwydd ein bod ni’n ei garu ac eisiau ei blesio. (1 Ioan 5:3) Dydy hi ddim yn bosib inni dalu’n ôl i Jehofa am bopeth y mae wedi ei roi inni. (Salm 116:12) Ond gallwn ni ufuddhau iddo ef ac i’r rhai mewn awdurdod sy’n rheoli droston ni. Drwy fod yn ufudd, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ddoeth, ac mae’r rhai doeth yn gwneud i galon Jehofa lawenhau.—Diar. 27:11.

CÂN 89 Gwrandewch, Ufuddhewch, a Chewch Fendithion

a Gan ein bod ni’n amherffaith, gall fod yn anodd wrando ar arweiniad dilys ar adegau. Bydd yr erthygl hon yn trafod sut gallwn ni elwa drwy fod yn ufudd i’n rhieni, i’r “rhai mewn awdurdod,” ac i’r brodyr sydd yn ein harwain yn y gynulleidfa Gristnogol.

b Am awgrymiadau ar sut i siarad â dy rieni am reolau sy’n anodd iti eu dilyn, gweler yr erthygl ar jw.org “Sut Galla’ i Siarad â Fy Rhieni am eu Rheolau?

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Dilynodd Joseff a Mair orchymyn Cesar i gael eu cofrestru ym Methlehem. Heddiw, mae Cristnogion yn ufuddhau i ddeddfau traffig, yn talu eu trethi, ac yn dilyn canllawiau gan yr awdurdodau ynglŷn ag iechyd.