Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 44

Astudia’r Beibl yn Fanwl

Astudia’r Beibl yn Fanwl

“Er mwyn ichi . . allu deall yn llawn beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder.”—EFF. 3:18.

CÂN 95 Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch

CIPOLWG a

1-2. Beth ydy’r ffordd orau i ddarllen ac astudio’r Beibl? Eglura.

 DYCHMYGA dy fod ti’n trio penderfynu prynu tŷ. Beth wyt ti eisiau ei weld cyn penderfynu? Llun o’r tŷ yn unig? Heb os, byddet ti eisiau gweld pob manylyn o’r tŷ, cerdded o’i gwmpas, a mynd i bob ystafell. Efallai byddet ti hyd yn oed eisiau gweld cynlluniau’r tŷ i weld sut cafodd ei adeiladu.

2 Rydyn ni’n gallu gwneud rhywbeth tebyg wrth inni ddarllen ac astudio’r Beibl. Mae un esboniad Beiblaidd yn cymharu neges y Beibl i “adeilad anferth gyda thyrau uchel a sylfeini dwfn.” Felly, sut gallwn ni ddod yn gyfarwydd â phopeth sydd yn y Beibl? Os wyt ti’n ei ddarllen yn gyflym, efallai byddi di ond yn dysgu ‘pethau sylfaenol neges Dduw.’ (Heb. 5:12) Yn lle hynny, dos i mewn i’r tŷ fel petai, i weld ei holl brydferthwch. Ffordd wych o astudio’r Beibl yw gweld sut mae’r gwahanol rannau o’r neges yn cysylltu â’i gilydd. Ceisia ddeall, nid yn unig beth rwyt ti’n ei gredu, ond hefyd pam rwyt ti’n ei gredu.

3. Beth gwnaeth yr apostol Paul ysgogi ei gyd-Gristnogion i’w wneud, a pham? (Effesiaid 3:​14-19)

3 Er mwyn deall Gair Duw yn llawn, mae’n rhaid inni ddysgu gwirioneddau dwfn y Beibl. Fe wnaeth yr apostol Paul annog ei frodyr a’i chwiorydd Cristnogol i astudio Gair Duw yn fanwl er mwyn iddyn nhw allu deall yn llawn lled, hyd, uchder, a dyfnder y gwir. Yna bydden nhw’n cael eu ‘gwreiddio a’u sefydlu’ yn eu ffydd. (Darllen Effesiaid 3:​14-19.) Mae’n rhaid i ni wneud yr un fath. Gad inni weld sut gallwn ni astudio Gair Duw yn fanwl er mwyn cael gwell ddarlun o’i ystyr.

CLODDIO’N DDYFNACH I WIRIONEDDAU’R BEIBL

4. Beth gallwn ni ei wneud i agosáu at Jehofa? Rho esiamplau.

4 Fel Cristnogion, rydyn ni eisiau mwy na dealltwriaeth sylfaenol o’r Beibl yn unig. Gyda help ysbryd glân Duw, rydyn ni’n awyddus i ddysgu “hyd yn oed pethau dwfn Duw.” (1 Cor. 2:​9, 10) Beth am ddechrau prosiect astudio fydd yn dy helpu di i agosáu at Jehofa? Er enghraifft, gelli di ddysgu am sut dangosodd Jehofa ei gariad tuag at ei weision yn y gorffennol, a sut mae hynny’n profi ei fod yn dy garu di hefyd. Gelli di gymharu’r ffordd roedd Jehofa eisiau i’r Israeliaid addoli â’r drefn Gristnogol heddiw. Neu efallai gelli di astudio manylion y proffwydoliaethau gwnaeth Iesu eu cyflawni yn ystod ei fywyd ar y ddaear a’i weinidogaeth.

5. A oes yna bwnc hoffet ti ymchwilio’n bellach?

5 Yn y blwch “ Pynciau ar Gyfer Prosiectau Astudio,” mae yna restr o bynciau y byddai rhai myfyrwyr yn hoffi ymchwilio’n ddyfnach. Gelli di fwynhau astudio pynciau o’r fath gan ddefnyddio’r Watch Tower Publications Index neu Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa. Gall cloddio’n ddyfnach i’r Beibl gryfhau dy ffydd a dy helpu di i ‘ddod i wybod am Dduw.’ (Diar. 2:​4, 5) Nawr rydyn ni am edrych ar rai gwirioneddau eraill o’r Beibl gallwn ni ddysgu mwy amdanyn nhw.

MEDDYLIA’N DDWFN AM BWRPAS DUW

6. (a) Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng cynllun a phwrpas? (b) Pam gallwn ni ddweud bod gan Jehofa bwrpas “tragwyddol” i’r ddynoliaeth a’r ddaear? (Effesiaid 3:11)

6 Ystyria, er enghraifft, beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bwrpas Duw. Mae gwahaniaeth mawr rhwng cynllun a phwrpas. Mae cynllun yn debyg i lwybr penodol sy’n dy gymryd di i rywle. Ond gall cynllun fethu os oes rhwystr ar draws y ffordd. Mae pwrpas yn canolbwyntio ar, nid y llwybr, ond pen y daith ei hun. Rydyn ni’n gwybod yn union lle rydyn ni eisiau mynd, ond ddim eto’n gwybod yr union ffordd. Mae’n gallu cael ei haddasu yn ôl yr angen. Diolch byth, mae Jehofa wedi datgelu ei ‘bwrpas tragwyddol’ yn y Beibl. (Eff. 3:11) Oherwydd bod gan Jehofa “bwrpas i bopeth y mae’n ei wneud,” mae’n wastad yn llwyddo. (Diar. 16:4) A bydd canlyniadau gweithredoedd Jehofa yn para am byth. Ond beth ydy pwrpas Jehofa, a sut mae Jehofa wedi addasu pethau er mwyn cyrraedd ei nod?

7. Ar ôl i Adda ac Efa wrthryfela, sut gwnaeth Jehofa addasu’r ffordd y byddai’n cyflawni ei bwrpas? (Mathew 25:34)

7 Dywedodd Duw wrth y cwpl cyntaf beth oedd ei bwrpas iddyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am . . . [yr] holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.” (Gen. 1:28) Pan wrthryfelodd Adda ac Efa, ac achosi i’r holl deulu dynol bechu, ni chafodd pwrpas Jehofa ei stopio. Newidiodd y ffordd y byddai’n cael ei gwblhau. Heb oedi dim, penderfynodd sefydlu Teyrnas yn y nefoedd a fyddai’n cyflawni ei bwrpas gwreiddiol ar gyfer y ddynoliaeth a’r ddaear. (Darllen Mathew 25:34.) Ar yr amser iawn, anfonodd Jehofa ei Fab cyntaf-anedig i’r ddaear i’n dysgu ni am y Deyrnas ac i roi ei fywyd yn bridwerth i’n hachub ni rhag pechod a marwolaeth. Yna cafodd Iesu ei atgyfodi yn ôl i’r nefoedd i reoli fel Brenin ar Deyrnas Dduw. Ond mae mwy i’w ystyried am bwrpas Duw.

Dychmyga’r amser pan fydd pawb yn y nefoedd ac ar y ddaear yn unedig ac yn gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon! (Gweler paragraff 8)

8. (a) Beth yw thema’r Beibl? (b) Yn ôl Effesiaid 1:​8-11, beth yw prif bwrpas Jehofa? (Gweler y llun ar y clawr.)

8 Prif thema’r Beibl ydy sancteiddio enw Duw. Bydd yn gwneud hyn wrth iddo gyflawni ei bwrpas ar gyfer y ddaear drwy gyfrwng ei Deyrnas o dan Grist. Dydy pwrpas Jehofa ddim yn newid. Mae wedi rhoi sicrwydd inni y bydd yn llwyddo i’w gyflawni. (Esei. 46:​10, 11; Heb. 6:​17, 18) Ymhen amser, bydd y ddaear yn cael ei newid yn baradwys, lle bydd disgynyddion perffaith Adda ac Efa yn mwynhau bywyd am byth. (Salm 22:26) Ond bydd Jehofa yn cyflawni rhywbeth llawer mwy na hynny. Ei bwrpas yn y pen draw yw uno ei holl weision ffyddlon yn y nefoedd ac ar y ddaear. Yna bydd pawb yn y bydysawd yn ufuddhau i Jehofa fel eu Sofran. (Darllen Effesiaid 1:​8-11.) Onid wyt ti’n rhyfeddu at y ffordd hyfryd mae Jehofa yn cyflawni ei bwrpas?

MEDDYLIA’N DDWFN AM DY DDYFODOL

9. Pa mor bell gallwn ni ei weld i’r dyfodol drwy ddarllen y Beibl?

9 Ystyria’r broffwydoliaeth a roddodd Jehofa yng ngardd Eden, fel y cofnodwyd yn Genesis 3:15. b Mae’n cyfeirio at ddigwyddiadau a fyddai’n cyflawni ei bwrpas ond na fyddai’n digwydd am filoedd o flynyddoedd. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys manylion am had Abraham a fyddai’n arwain at enedigaeth y Crist. (Gen. 22:​15-18) Yna, yn 33OG, gwnaeth Iesu gael ei daro yn ei sawdl fel cafodd ei ragfynegi. (Act. 3:​13-15) Mae digwyddiad olaf y broffwydoliaeth honno, sef sathru pen Satan, yn dal dros fil o flynyddoedd i ffwrdd. (Dat. 20:​7-10) Ac mae’r Beibl yn datgelu mwy am gyfundrefn Jehofa a’i gelyn, byd Satan, yn ystod y dyddiau olaf.

10. (a) Beth fydd yn digwydd yn fuan? (b) Sut gallwn ni baratoi ein calonnau a’n meddyliau? (Gweler y troednodyn.)

10 Meddylia am y digwyddiadau enfawr hyn sy’n cael eu rhagfynegi yn y Beibl. Yn gyntaf, bydd y cenhedloedd yn datgan “heddwch a diogelwch!” (1 Thes. 5:​2, 3) Yna yn sydyn bydd y trychineb mawr yn dechrau wrth i’r cenhedloedd ymosod ar gau grefydd i gyd. (Dat. 17:16) Ar ôl hynny, efallai bydd ddigwyddiad goruwchnaturiol wrth i Fab y dyn ddod “ar gymylau’r nef gyda grym a gogoniant mawr.” (Math. 24:30) Bydd Iesu’n barnu’r ddynoliaeth, ac yn gwahanu’r defaid oddi wrth y geifr. (Math. 25:​31-33, 46) Ond bydd Satan yn dal i greu helynt. Oherwydd ei gasineb tuag at bobl Dduw, bydd yn cymell grŵp o genhedloedd y mae’r Beibl yn ei alw’n Gog o dir Magog i ymosod ar bobl Jehofa. (Esec. 38:​2, 10, 11) Rywbryd yn ystod yr adeg honno, bydd yr eneiniog yn cael eu casglu i ymuno â Christ a’i fyddinoedd nefol i frwydro yn rhyfel Armagedon, a fydd yn dod â diwedd ar y trychineb mawr. c (Math. 24:31; Dat. 16:​14, 16) Yna bydd Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist dros y ddaear yn dechrau.—Dat. 20:6.

Pa mor agos fyddi di’n teimlo tuag at Jehofa ar ôl dysgu amdano am filiynau o flynyddoedd? (Gweler paragraff 11)

11. Beth mae byw am byth yn ei olygu iti? (Gweler hefyd y llun.)

11 Nawr meddylia am y dyfodol pell. Mae’r Beibl yn dweud bod ein Creawdwr wedi rhoi “tragwyddoldeb yng nghalonnau pobl.” (Preg. 3:​11, BCND) Meddylia am sut mae hynny’n effeithio arnat ti a dy berthynas â Jehofa. Mae’r llyfr Draw Close to Jehovah, tudalen 319, yn ennyn ein diddordeb gan ddweud: “Ar ôl inni fyw am gannoedd, miloedd, miliynau neu hyd yn oed biliynau o flynyddoedd, byddwn ni’n gwybod llawer mwy am Jehofa Dduw nag yr ydyn ni heddiw. Ond bydd yna dal llawer mwy o bethau rhyfeddol i’w dysgu. . . . Bydd cymaint o amrywiaeth a fydd y tu hwnt i’n dychymyg wrth inni fyw am byth. Y peth gorau am fyw am byth fydd agosáu at Jehofa.” Yn y cyfamser, wrth inni ddal ati i astudio Gair Duw, beth arall gallwn ni ei astudio?

EDRYCHA I FYNY I’R NEFOEDD

12. Sut gallwn ni edrych i fyny i’r nefoedd? Rho esiampl.

12 Mae Gair Duw yn rhoi cipolwg inni ar bresenoldeb Jehofa “yn yr uchelder.” (Esei. 33:5) Mae’n datgelu pethau rhyfeddol am Jehofa ac am ran nefol ei gyfundrefn. (Esei. 6:​1-4; Dan. 7:​9, 10; Dat. 4:​1-6) Er enghraifft, gallwn ni ddarllen am y pethau syfrdanol a welodd Eseciel pan “agorwyd y nefoedd a [chafodd] weledigaethau o Dduw.”—Esec. 1:​1, BCND.

13. Sut rwyt ti’n teimlo am rôl Iesu yn y nefoedd, fel sy’n cael ei hesbonio yn Hebreaid 4:​14-16?

13 Meddylia hefyd am rôl Iesu yn y nefoedd fel Brenin ac Archoffeiriad sy’n llawn cydymdeimlad. Drwyddo ef, gallwn ni “agosáu at orsedd caredigrwydd rhyfeddol” Duw mewn gweddi, a gofyn am drugaredd a help “ar yr amser iawn.” (Darllen Hebreaid 4:​14-16.) Paid â gadael i ddiwrnod fynd heibio heb feddwl am beth mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud droston ni a beth maen nhw’n dal i’w wneud o’r nefoedd. Dylai eu cariad tuag aton ni gyffwrdd â’n calonnau a’n cymell ni i wasanaethu ac addoli Jehofa’n selog.—2 Cor. 5:​14, 15.

Dychmyga dy lawenydd yn y byd newydd o wybod dy fod ti wedi helpu eraill i ddod yn Dystion Jehofa ac yn ddisgyblion i Iesu! (Gweler paragraff 14)

14. Sut gallwn ni ddangos pa mor ddiolchgar ydyn ni i Jehofa ac Iesu? (Gweler hefyd y lluniau.)

14 Gallwn ni ddangos pa mor ddiolchgar ydyn ni i Dduw a’i Fab drwy geisio helpu eraill i ddod yn Dystion i Jehofa ac yn ddisgyblion i Iesu. (Math. 28:​19, 20) Dyna’n union beth a wnaeth yr apostol Paul. Roedd yn gwybod bod Jehofa eisiau i bobl ‘o bob math gael eu hachub a chael gwybodaeth gywir am y gwir.’ (1 Tim. 2:​3, 4) “Ym mhob ffordd bosib,” gweithiodd yn galed iawn yn ei weinidogaeth er mwyn “achub rhai.”—1 Cor. 9:​22, 23.

MWYNHA ASTUDIO GAIR DUW

15. Yn ôl Salm 1:​2, beth fydd yn ein gwneud ni’n hapus?

15 Disgrifiodd y Salmydd berson hapus a llwyddiannus fel rhywun sydd “wrth ei fodd” yng nghyfraith Jehofa ac sy’n “myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos.” (Salm 1:​1-3) Dywedodd un cyfieithydd o’r Beibl, Joseph Rotherham, yn ei lyfr Studies in the Psalms, y dylai person “eisiau cael arweiniad Duw cymaint nes iddo chwilio amdano, ei astudio, a threulio amser yn meddwl amdano.” Ychwanegodd fod “pob dydd sy’n mynd heibio heb ddarllen y Beibl wedi ei wastraffu.” Gelli di fwynhau astudio’r Beibl drwy roi sylw i’w holl fanylion prydferth, a gweld sut maen nhw’n cysylltu â’i gilydd. Mae astudio Gair Duw yn fanwl yn bleser pur!

16. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

16 Dydy’r gwirioneddau hyfryd sydd yng Ngair Duw ddim yn rhy anodd inni eu deall. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod un gwirionedd dwfn, sef teml ysbrydol fawr Jehofa, sy’n cael ei disgrifio yn llythyr Paul at yr Hebreaid. Bydd astudio’r pwnc hwnnw yn dod â llawenydd mawr iti.

CÂN 94 Gwerthfawrogi Gair Duw

a Gall glosio at ein Tad nefol drwy astudio’r Beibl ddod â llawenydd mawr inni drwy gydol ein bywydau. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut medrwn ni ddarganfod beth ydy lled, hyd, uchder, a dyfnder Gair Duw.

b Gweler yr erthygl “Hen Broffwydoliaeth Sy’n Effeithio Arnat Ti” yn rhifyn Gorffennaf 2022 y Tŵr Gwylio.

c Er mwyn dy baratoi dy hun ar gyfer y digwyddiadau enfawr a fydd yn dod yn y dyfodol agos, gweler y llyfr God’s Kingdom Rules! t. 230.