Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 45

Trysora Dy Fraint o Addoli yn Nheml Ysbrydol Jehofa

Trysora Dy Fraint o Addoli yn Nheml Ysbrydol Jehofa

“Addolwch yr Un a wnaeth y nef a’r ddaear.”—DAT. 14:7.

CÂN 93 Bendithia Ein Cyfarfod

CIPOLWG  a

1. Beth mae angel yn ei ddweud, a beth mae hynny’n ei olygu inni?

 PETAI angel yn siarad â ti, a fyddet ti’n gwrando ar yr hyn oedd ganddo i’w ddweud? Wel, heddiw mae ’na angel yn siarad “i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl.” Beth mae ef yn ei ddweud? “Ofnwch Dduw a rhowch ogoniant iddo . . . Felly addolwch yr Un a wnaeth y nef a’r ddaear.” (Dat. 14:​6, 7) Jehofa ydy’r unig wir Dduw y dylai pawb ei addoli. Rydyn ni mor ddiolchgar i gael y cyfle amhrisiadwy i addoli Ef yn y deml ysbrydol fawr!

2. Beth ydy teml ysbrydol Jehofa? (Gweler hefyd y blwch “ Dydy’r Deml Ysbrydol Ddim . . . ”)

2 Beth yn union ydy’r deml ysbrydol, ac o le cawn ni hyd i’r manylion sy’n eu hesbonio? Nid adeilad llythrennol ydy’r deml ysbrydol. Trefn Jehofa ydy hi i’w addoli yn y ffordd iawn ar sail aberth pridwerthol Iesu. Esboniodd yr Apostol Paul fwy am hyn yn ei lythyr at y Cristnogion Hebreig a oedd yn byw yn Jwdea yn y ganrif gyntaf. b

3-4. Pam roedd Paul yn poeni am y Cristnogion Hebreig yn Jwdea, a sut gwnaeth eu helpu nhw?

3 Pam gwnaeth Paul ysgrifennu ei lythyr at y Cristnogion Hebreig yn Jwdea? Mae’n debyg am ddau brif reswm. Yn gyntaf, i roi anogaeth iddyn nhw. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu magu yn y grefydd Iddewig. Efallai roedd eu harweinwyr crefyddol cynt wedi gwneud hwyl am eu pennau am fod yn Gristnogion. Pam? Oherwydd doedd ’na ddim teml i’r Cristnogion addoli ynddi, dim allor er mwyn aberthu i Dduw, a dim offeiriaid i weini arnyn nhw. Gallai hyn fod wedi digalonni disgyblion Crist ac achosi i’w ffydd gwanhau. (Heb. 2:1, 3:12, 14) Efallai roedd rhai ohonyn nhw wedi meddwl am fynd yn ôl i’r grefydd Iddewig.

4 Yn ail, gwnaeth Paul ddweud wrth y Cristnogion Hebreig nad oedden nhw’n gwneud digon o ymdrech i ddeall dysgeidiaethau newydd a dwfn, y “bwyd solet” sydd yng Ngair Duw. (Heb. 5:​11-14) Mae’n amlwg bod rhai ohonyn nhw yn dal i lynu wrth Gyfraith Moses. Eglurodd Paul na fyddai aberthau’r gyfraith yn gallu cael gwared ar bechod yn gyfan gwbl. Oherwydd hynny, roedd y gyfraith wedi “cael ei roi o’r neilltu.” Felly, aeth Paul ymlaen i ddysgu dysgeidiaethau mwy dwfn. Atgoffodd ei gyd-ddisgyblion am y “gobaith gwell” sy’n seiliedig ar aberth Iesu a allai eu helpu nhw i agosáu at Dduw.—Heb. 7:​18, 19.

5. Beth mae’n rhaid inni ei ddeall o lyfr Hebreaid, a pham?

5 Esboniodd Paul i’w frodyr Hebreig fod eu haddoliad Cristnogol yn llawer gwell nawr nag oedd yn y gorffennol. Roedd ffordd yr Iddewon o addoli yn dilyn y gyfraith yn “gysgod o’r pethau sy’n dod, ond mae’r realiti yn perthyn i’r Crist.” (Col. 2:17) Mae cysgod yn dangos siâp cyffredinol rhywbeth yn unig nid y peth go iawn. Mewn ffordd debyg, roedd patrwm yr Iddewon gynt o addoli yn gysgod o’r realiti oedd i ddod. Mae’n angenrheidiol inni ddeall trefn Jehofa ar gyfer maddau ein pechodau er mwyn inni ei addoli mewn ffordd sy’n dderbyniol iddo. Gad inni gymharu’r “cysgod” (yr hen batrwm Iddewig), gyda’r “realiti” (y ffordd Gristnogol o addoli) sy’n cael eu hesbonio yn Hebreaid. Drwy wneud hynny, gallwn ddeall y deml ysbrydol yn well, a deall ein rhan ynddi.

Y TABERNACL

6. Sut cafodd y tabernacl ei ddefnyddio?

6 Yr hen batrwm. Gwnaeth Paul seilio ei drafodaeth ar y tabernacl a gafodd ei osod i fyny gan Moses yn 1512COG. (Gweler y siart “Yr Hen Batrwm o Addoli—Y Realiti Cristnogol.”) Roedd y tabernacl yn debyg i babell a gafodd ei gario o le i le gan yr Israeliaid ar gyfer addoli. Gwnaethon nhw ei ddefnyddio am tua 500 o flynyddoedd nes i’r deml gael ei hadeiladu yn Jerwsalem. (Ex. 25:​8, 9; Num. 9:22) Roedd yr Israeliaid yn dod at ei gilydd wrth “y Tabernacl” i addoli Duw ac i offrymu eu haberthau. (Ex. 29:​43-46) Ond, roedd y tabernacl hefyd yn cynrychioli rhywbeth llawer gwell a oedd i ddod ar gyfer Cristnogion.

7. Pryd daeth y deml ysbrydol yn realiti?

7 Y realiti Cristnogol. Roedd y tabernacl yn “enghraifft o’r pethau nefol,” ac roedd yn cynrychioli teml fawr ysbrydol Jehofa. Dywedodd Paul fod y “babell hon [neu, tabernacl hwn] yn cynrychioli’r hyn sy’n bodoli nawr.” (Heb. 8:5; 9:9) Erbyn iddo ysgrifennu at yr Hebreaid, roedd y deml ysbrydol yn bodoli’n barod. Daeth i fodolaeth yn 29OG pan gafodd Iesu ei fedyddio, ei eneinio â’r ysbryd glân, a dechrau gwasanaethu yn nheml ysbrydol Jehofa fel yr “archoffeiriad mawr.” cHeb. 4:14; Act. 10:​37, 38.

YR ARCHOFFEIRIAD

8-9. Yn ôl Hebreaid 7:​23-27, pa wahaniaeth sydd rhwng archoffeiriad Israel a’r Archoffeiriad mawr, Iesu Grist?

8 Yr hen batrwm. Roedd yr archoffeiriad yn cynrychioli’r bobl o flaen Duw. Cafodd Aaron, archoffeiriad cyntaf Israel, ei benodi gan Jehofa pan gafodd y tabernacl ei gysegru. Ond fel esboniodd Paul, “roedd rhaid i lawer o offeiriaid ddod, un ar ôl y llall, oherwydd bod marwolaeth yn eu rhwystro nhw rhag parhau i wasanaethu.” d (Darllen Hebreaid 7:​23-27.) A gan fod yr archoffeiriaid hynny yn amherffaith, roedd rhaid iddyn nhw offrymu aberthau dros eu pechodau nhw eu hunain. Mae hyn yn wahaniaeth mawr rhwng archoffeiriaid Israel a’r Archoffeiriad mawr, Iesu Grist.

9 Y realiti Cristnogol. Fel ein Harchoffeiriad, mae Iesu Grist “yn weinidog y . . . wir babell, a gafodd ei gosod gan Jehofa, nid dynion.” (Heb. 8:​1, 2) Esboniodd Paul: “Oherwydd ei fod ef [Iesu] yn parhau i fyw am byth, ni fydd neb yn dod yn offeiriad ar ei ôl.” Ychwanegodd Paul fod Iesu “yn bur, wedi ei wahanu oddi wrth y pechaduriaid” ac yn wahanol i archoffeiriaid Israel, “does dim angen iddo offrymu aberthau bob dydd” am ei bechodau. Nawr rydyn ni am edrych ar beth sy’n wahanol rhwng yr allorau a’r aberthau yn yr hen batrwm o addoli a’r realiti Cristnogol.

YR ALLORAU A’R ABERTHAU

10. Beth mae’r aberthau a’r allor gopr yn eu cynrychioli?

10 Yr hen batrwm. Y tu allan i fynedfa’r tabernacl roedd allor gopr lle cafodd anifeiliaid eu haberthu i Jehofa. (Ex 27:​1, 2; 40:29) Ond doedd yr aberthau hynny ddim yn gallu rhoi maddeuant llawn i’r bobl. (Heb 10:​1-4) Roedd yr aberthau parhaol o anifeiliaid yn y tabernacl yn pwyntio at yr aberth a fyddai’n dod â maddeuant unwaith ac am byth i’r ddynoliaeth.

11. Ar ba allor gwnaeth Iesu offrymu ei hun fel aberth? (Hebreaid 10:​5-7, 10)

11 Y realiti Cristnogol. Roedd Iesu yn gwybod bod Jehofa wedi ei anfon i’r ddaear i roi ei fywyd fel aberth pridwerthol dros y ddynoliaeth. (Math. 20:28) Felly pan gafodd ei fedyddio, cyflwynodd Iesu ei hun i wneud beth oedd Jehofa eisiau. (Ioan 6:38; Gal. 1:4) Aberthodd Iesu ei fywyd ar allor ffigurol, sef ewyllys Duw i’w fab aberthu ei fywyd perffaith ar y ddaear. Cafodd fywyd Iesu ei aberthu “unwaith ac am byth” i gymodi, neu i wneud yn iawn, am bechodau pawb a oedd yn rhoi ffydd ynddo. (Darllen Hebreaid 10:​5-7, 10.) Nesaf, rydyn ni am edrych ar arwyddocâd y pethau oedd y tu mewn i’r tabernacl.

Y SANCTAIDD A’R MWYAF SANCTAIDD

12. Pwy oedd yn gallu mynd i mewn i’r ystafelloedd gwahanol yn y tabernacl?

12 Yr hen batrwm. Roedd y tabernacl yn debyg iawn i’r temlau a gafodd eu hadeiladu yn Jerwsalem yn nes ymlaen. Roedd ’na ddwy ystafell tu mewn—y “Lle Sanctaidd” a’r “Mwyaf Sanctaidd”—a oedd yn cael eu gwahanu â llen. (Heb. 9:​2-5; Ex. 26:​31-33) Yn y Sanctaidd, roedd ’na ganhwyllbren aur, allor i losgi arogldarth, a bwrdd gyda bara cysegredig arno. Dim ond yr offeiriaid oedd yn cael mynd i mewn i’r Sanctaidd i gyflawni eu dyletswyddau. (Num. 3:​3, 7, 10) Roedd arch y cyfamod a oedd yn cynrychioli presenoldeb Jehofa o fewn y Mwyaf Sanctaidd. (Ex. 25:​21, 22) Dim ond yr archoffeiriad a oedd yn cael mynd heibio’r llen i’r Mwyaf Sanctaidd ar Ddydd y Cymod. (Lef. 16:​2, 17) Bob blwyddyn, roedd yn mynd i mewn i’r Mwyaf Sanctaidd gyda gwaed anifeiliaid i wneud yn iawn am bechodau ei hun a phechodau’r genedl. Yn y pen draw, gwnaeth Jehofa, drwy gyfrwng yr ysbryd glân, ddangos arwyddocâd y pethau hyn.—Heb. 9:​6-8. e

13. Beth mae Sanctaidd a Mwyaf Sanctaidd y tabernacl yn eu cynrychioli yn y realiti Cristnogol?

13 Y realiti Cristnogol. Mae ’na rif penodol o ddisgyblion Crist sydd wedi cael eu heneinio â’r ysbryd glân, ac y maen nhw’n mwynhau perthynas agos â Jehofa. Bydd y 144,000 hyn yn gwasanaethu fel offeiriaid yn y nefoedd gyda Iesu. (Dat. 1:6; 14:1) Mae Sanctaidd y tabernacl yn cynrychioli cyflwr yr eneiniog tra eu bod nhw ar y ddaear fel meibion sydd wedi eu mabwysiadu gan Dduw. (Rhuf. 8:​15-17) Mae Mwyaf Sanctaidd y tabernacl yn cynrychioli’r nefoedd, lle mae Jehofa. Mae’r “llen,” sy’n gwahanu’r Sanctaidd a’r Mwyaf Sanctaidd, yn cynrychioli corff cnawdol Iesu. Tra oedd ar y ddaear, doedd Iesu ddim yn gallu mynd i’r nefoedd a bod yn Archoffeiriad yn y deml ysbrydol. Drwy aberthu ei gorff cnawdol, fe wnaeth Iesu agor y ffordd i’r rhai eneiniog fyw yn y nefoedd am byth. Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd adael eu cyrff cnawdol er mwyn iddyn nhw allu derbyn eu gwobr nefol. (Heb. 10:​19, 20; 1 Cor. 15:50) Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, aeth i mewn i’r Mwyaf Sanctaidd yn y deml ysbrydol, lle mae’r eneiniog yn ymuno ag ef yn y pen draw.

14. Yn ôl Hebreaid 9:​12, 24-26, beth sydd mor rhagorol am drefn teml ysbrydol Jehofa?

14 Mae hyn yn dangos pa mor rhagorol ydy trefn Jehofa ar gyfer addoliad pur sy’n seiliedig ar aberth pridwerthol Iesu a’i offeiriadaeth. Roedd archoffeiriad Israel yn mynd i mewn i’r Mwyaf Sanctaidd ar y ddaear gyda gwaed anifeiliaid a oedd wedi cael eu haberthu, ond aeth Iesu “i mewn i’r nef ei hun,” y lle sancteiddiaf oll, i ymddangos o flaen Jehofa. Yno fe wnaeth gyflwyno gwerth ei fywyd dynol perffaith ar ein rhan ni “er mwyn cael gwared ar bechod drwy ei aberthu ei hun.” (Darllen Hebreaid 9:​12, 24-26.) Aberth Iesu ydy’r unig aberth a fydd yn dileu pechod am byth. Fel y byddwn ni’n dysgu nesaf, p’un a ydy ein gobaith yn y nefoedd neu ar y ddaear, gall pob un ohonon ni wasanaethu Jehofa yn ei deml ysbrydol.

Y CYRTIAU

15. Pwy a wnaeth gwasanaethu yng nghwrt y tabernacl?

15 Yr hen batrwm. Roedd gan y tabernacl un cwrt—ardal fawr a oedd wedi cael ei ffensio lle roedd yr offeiriaid yn cyflawni eu dyletswyddau. Beth oedd yn y cwrt? Allor gopr i losgi aberthau, a dŵr mewn dysgl gopr i’r offeiriaid golchi eu hunain cyn cyflawni eu gwasanaeth cysegredig. (Ex. 30:​17-20; 40:​6-8) Roedd gan y temlau a gafodd eu hadeiladu wedyn gwrt allanol lle roedd y rhai nad oedd yn offeiriaid yn gallu sefyll ac addoli Duw.

16. Pwy sy’n gwasanaethu yng nghyrtiau gwahanol y deml ysbrydol?

16 Y realiti Cristnogol. Cyn mynd i’r nefoedd i wasanaethu fel offeiriaid gyda Iesu, mae gweddill yr eneiniog yn gwasanaethu’n ffyddlon yng nghwrt mewnol y deml ysbrydol ar y ddaear. Mae’r ddysgl gopr, sy’n llawn dŵr, yn eu hatgoffa nhw i aros yn foesol ac yn ysbrydol lân, fel y dylai pob Cristion. Ble, felly, mae’r “tyrfa fawr” sy’n cefnogi brodyr eneiniog Crist yn gwasanaethu? Gwnaeth yr apostol Ioan eu gweld “yn sefyll o flaen” gorsedd Duw, sef y cwrt allanol ar y ddaear “yn cyflawni gwasanaeth cysegredig ddydd a nos yn ei deml.” (Dat. 7:​9, 13-15) Rydyn ni mor ddiolchgar bod Jehofa wedi rhoi’r cyfle inni allu ei wasanaethu yn ei deml fawr ysbrydol.

EIN BRAINT I WASANAETHU JEHOFA

17. Pa aberthau sydd gynnon ni’r fraint o offrymu i Jehofa?

17 Heddiw, mae gan bob un Cristion y fraint o wasanaethu Jehofa drwy ddefnyddio eu hamser, eu hegni, a’u pethau materol. Fel dywedodd yr apostol wrth y Cristnogion Hebreig, “Gadewch inni bob amser offrymu i Dduw aberth o foliant, hynny yw, ffrwyth ein gwefusau sy’n datgan yn gyhoeddus ei enw.” (Heb. 13:15) Rydyn ni’n gallu dangos i Jehofa pa mor ddiolchgar ydyn ni o’r fraint o’i wasanaethu drwy wneud ein gorau oll.

18. Yn ôl Hebreaid 10:​22-25, beth dylen ni byth ei anghofio?

18 Darllen Hebreaid 10:​22-25. Tuag at ddiwedd ei lythyr at yr Hebreaid, roedd Paul yn pwysleisio rhannau o’n haddoliad ni ddylen ni byth eu hanghofio. Mae’r rhain yn cynnwys gweddïo ar Jehofa, mynd ar y weinidogaeth, mynd i’r cyfarfodydd, a chalonogi ein gilydd, ‘a hynny yn fwy byth wrth inni weld dydd Jehofa yn dod yn agos.’ Tuag at ddiwedd llyfr Datguddiad, mae angel Jehofa yn pwysleisio rhywbeth drwy ei ddweud dwywaith: “Addola Dduw!” (Dat. 19:10; 22:9) Gad inni byth anghofio beth rydyn ni wedi ei ddysgu am deml fawr ysbrydol Jehofa a’r fraint anhygoel sydd gynnon ni o addoli ein Duw mawr!

CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi

a Un o ddysgeidiaethau mwyaf dwfn Gair Duw yw teml fawr ysbrydol Jehofa. Beth yw’r deml? Mae’r erthygl hon yn trafod manylion y deml sydd i’w gweld yn llyfr Hebreaid. Bydd yr erthygl hon yn dy helpu di i werthfawrogi’r fraint sydd gen ti o addoli Jehofa.

b Er mwyn gweld cipolwg o llyfr Hebreaid, gweler y fideo Cyflwyniad i Hebreaid ar jw.org/cy.

c Hebreaid ydy’r unig lyfr yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol sy’n cyfeirio at Iesu fel Archoffeiriad.

d Yn ôl un ffynhonnell, mae’n debyg bod Israel wedi cael bron i 84 o archoffeiriaid erbyn yr amser pan gafodd y deml yn Jerwsalem ei dinistrio yn 70OG.

e Er mwyn deall ystyr symbolaidd gweithredoedd yr archoffeiriad ar Ddydd y Cymod, gweler y fideo Saesneg ar jw.org, The Tent.

g Gweler y blwch “How the Spirit Revealed the Meaning of the Spiritual Temple” yn rhifyn Gorffennaf 15, 2010, y Tŵr Gwylio Saesneg, t. 22.