Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Awgrymiad ar Gyfer Astudio

Awgrymiad ar Gyfer Astudio

Cadw i Fyny Gydag Addasiadau i’n Dealltwriaeth

Rydyn ni’n byw mewn adeg hynod o gyffrous pan mae Jehofa yn datgelu mwy am ei Air nag erioed. (Dan. 12:4) Ond, gall fod yn anodd inni gadw i fyny gydag addasiadau i’n dealltwriaeth o wirioneddau’r Beibl. Ble gallwn ni ddod o hyd i’r addasiadau a’r eglurebau hyn?

• Mae chwilio am “Beliefs Clarified” yn y Watch Tower Publications Index yn rhoi rhestr lawn inni o addasiadau sydd wedi cael eu trefnu yn ôl bob blwyddyn. Am restr o gynnwys, chwilia am “understanding clarified” (gan gynnwys y dyfynodau) yn bar chwilio Watchtower Library neu “dealltwriaeth newydd” yn bar chwilio LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio.

• Mae’r Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa yn cynnwys rhestr gryno yn ôl wahanol bynciau. Dos i “Tystion Jehofa,” “Ein Safbwynt a’n Cred,” ac yna “Eglurhad o’n Daliadau.”

Yn ystod dy astudiaeth bersonol, beth am bigo un addasiad diweddar a gwneud ymchwil i ddeall y rheswm ysgrythurol tu ôl i’r newid?