Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 1

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

Trechu Ofn Drwy Drystio yn Jehofa

Trechu Ofn Drwy Drystio yn Jehofa

TESTUN Y FLWYDDYN AR GYFER 2024: “Pan mae gen i ofn, dw i’n dy drystio di.”SALM 56:3.

PWRPAS

Dysga sut gallwn ni gryfhau ein tryst yn Jehofa a dod dros ein hofnau.

1. Pam efallai y bydden ni’n teimlo’n ofnus ar adegau?

 MAE pawb yn teimlo’n ofnus ar adegau. Wrth gwrs, mae astudio’r Beibl wedi ein helpu ni i beidio ag ofni’r meirw, y goruwchnaturiol, a’r dyfodol. Ond rydyn ni’n dal yn byw mewn byd sy’n llawn “pethau dychrynllyd,” fel rhyfeloedd, troseddau, ac afiechydon. (Luc 21:11) Efallai bydd gynnon ni ofn dyn, ofn y llywodraethau sy’n ein gormesu, neu ofn aelodau ein teulu sy’n gwrthwynebu gwir addoliad. Mae rhai yn poeni na fydden nhw’n gallu dod dros dreial maen nhw’n ei wynebu nawr neu un y byddan nhw’n ei wynebu yn y dyfodol.

2. Disgrifia sefyllfa Dafydd pan oedd yn ninas Gath.

2 Roedd Dafydd yn teimlo’n ofnus. Er enghraifft, pan oedd y Brenin Saul yn rhedeg ar ei ôl, gwnaeth Dafydd ffoi i Gath, un o ddinasoedd y Philistiaid. Gwnaeth brenin Gath, Achish, ddod i wybod mai Dafydd oedd y milwr dewr a oedd wedi lladd ‘degau o filoedd’ o Philistiaid. Gwnaeth hyn ‘godi ofn ar Dafydd.’ (1 Sam. 21:​10-12) Roedd yn poeni’n arw am beth byddai Achish yn ei wneud iddo. Sut gwnaeth Dafydd ddod dros ei ofn?

3. Yn ôl Salm 56:​1-3, 11, sut gwnaeth Dafydd drechu ei ofn?

3 Yn Salm 56, mae Dafydd yn mynegi y teimladau roedd ganddo yn Gath. Yn y salm honno, mae Dafydd yn esbonio’n glir pam roedd ganddo ofn, ond mae hefyd yn esbonio beth gwnaeth ei helpu i ddod dros yr ofn hwnnw. Pan oedd Dafydd yn ofnus, trystiodd yn Jehofa. (Darllen Salm 56:1-3, 11.) Roedd ganddo resymau da dros drystio yn Jehofa. Gyda bendith Jehofa, penderfynodd Dafydd i wneud rhywbeth rhyfedd. Gwnaeth cogio fod yn wallgof! Nawr, doedd Achish ddim yn gweld Dafydd fel bygythiad mwyach ac roedd Dafydd yn gallu ffoi.—1 Sam. 21:13–22:1.

4. Sut gallwn ni gryfhau ein tryst yn Jehofa? Eglura.

4 Rydyn ninnau hefyd yn gallu trechu ofn drwy drystio yn Jehofa. Ond sut gallwn ni gryfhau ein tryst yn Jehofa, yn enwedig pan ydyn ni’n teimlo’n ofnus? Ystyria’r enghraifft hon. Os wyt ti’n dod i wybod bod gen ti afiechyd, efallai ar y dechrau rwyt ti’n teimlo’n ofnus. Ond mae’n bosib iti drechu dy ofn os wyt ti’n trystio yn dy ddoctor. Efallai ei fod wedi trin llawer o bobl gyda’r afiechyd hwnnw yn llwyddiannus. Efallai bydd yn gwrando arnat ti’n ofalus ac yn gwneud iti deimlo ei fod yn deall dy deimladau. Ac efallai bydd yn awgrymu triniaeth sydd wedi gweithio i bobl eraill. Yn debyg, rydyn ni’n cryfhau ein tryst yn Jehofa drwy feddwl am beth mae Ef wedi ei wneud yn y gorffennol, beth mae Ef yn ei wneud nawr, a beth fydd Ef yn ei wneud droston ni yn y dyfodol. Dyna a wnaeth Dafydd. Wrth inni ystyried rhai o’i eiriau ysbrydoledig yn Salm 56, meddylia am sut y gelli di gryfhau dy dryst yn Jehofa a threchu dy ofnau.

BETH MAE JEHOFA WEDI EI WNEUD YN BAROD?

5. Beth myfyriodd Dafydd arno er mwyn dod dros ei ofn? (Salm 56:​12, 13)

5 Er bod Dafydd mewn sefyllfa beryglus, roedd yn canolbwyntio ar y pethau roedd Jehofa wedi eu gwneud drosto yn barod. (Darllen Salm 56:​12, 13.) Dyna oedd meddylfryd Dafydd drwy gydol ei fywyd. Er enghraifft, roedd yn myfyrio ar greadigaeth Jehofa, a oedd yn gwneud iddo gofio am bŵer Jehofa a faint roedd Ef yn caru pobl. (Salm. 65:​6-9) Hefyd, myfyriodd Dafydd ar y pethau roedd Jehofa wedi eu gwneud dros eraill. (Salm. 31:19; 37:​25, 26) Yn bennaf, myfyriodd ar beth roedd Jehofa wedi ei wneud yn barod drosto ef yn bersonol. Roedd Jehofa wedi cefnogi a gwarchod Dafydd ers iddo fod yn fabi. (Salm. 22:​9, 10) Meddylia ar sut roedd myfyrio ar y pethau hyn wedi cryfhau tryst Dafydd yn Jehofa!

Cryfhaodd Dafydd ei dryst yn Jehofa drwy ganolbwyntio ar yr hyn mae Ef wedi ei wneud yn barod, yr hyn roedd yn ei wneud ar y pryd, a’r hyn fydd yn ei wneud yn y dyfodol (Gweler paragraffau 5, 8, 12) d


6. Pan ydyn ni’n teimlo’n ofnus, beth fydd yn ein helpu ni i drystio yn Jehofa?

6 Pan wyt ti’n teimlo’n ofnus, gofynna iti dy hun, ‘Beth mae Jehofa wedi ei wneud yn barod?’ Myfyria ar y pethau mae Ef wedi eu creu. Er enghraifft, edrycha’n ofalus ar sut mae Jehofa yn gofalu am yr adar a’r blodau er nad ydyn nhw wedi cael eu creu gyda’i rinweddau a dydyn nhw ddim gyda’r gallu i’w addoli. Felly mae’n wir i ddweud bod Jehofa yn ein caru ni’n llawer mwy! Gall myfyrio ar hynny wneud inni ei drystio’n fwy. (Math. 6:​25-32) Ystyria hefyd beth mae Jehofa wedi ei wneud ar gyfer ei addolwyr. Gelli di astudio cymeriad o’r Beibl a ddangosodd ffydd gref, neu ddarllen am un o weision Jehofa o’r oes fodern. a Hefyd, myfyria ar sut mae Jehofa wedi edrych ar dy ôl di’n barod. Sut gwnaeth Ef dy ddenu di i’r gwir? (Ioan 6:44) Sut mae Ef wedi ateb dy weddïau? (1 Ioan 5:14) Sut rwyt ti’n elwa bob dydd o aberth Iesu Grist?—Eff. 1:7; Heb. 4:​14-16.

Rydyn ni’n cryfhau ein tryst yn Jehofa drwy ganolbwyntio ar yr hyn mae Ef wedi ei wneud yn barod, yr hyn mae yn ei wneud nawr, a’r hyn bydd yn ei wneud yn y dyfodol (Gweler paragraffau 6, 9-10, 13-14) e


7. Sut gwnaeth profiad y proffwyd Daniel helpu Vanessa i ddod dros ei hofn?

7 Gwnaeth chwaer o Haiti, o’r enw Vanessa, b wynebu sefyllfa ofnus. Gwnaeth dyn yn ei chymuned ei ffonio hi a gyrru negeseuon iddi bob diwrnod er mwyn rhoi pwysau arni i gael perthynas ag ef. Yn blwmp ac yn blaen, dywedodd hi ‘na.’ Ond, aeth y dyn yn fwy bygythiol a dweud y byddai’n ei brifo hi. Dywedodd Vanessa: “Roedd gen i ofn.” Sut gwnaeth hi ddod dros ei hofn? Cymerodd hi gamau ymarferol er mwyn amddiffyn ei hun. Gwnaeth henuriad ei helpu hi i gysylltu â’r awdurdodau. Hefyd, canolbwyntiodd hi ar sut gwnaeth Jehofa helpu ei weision yn y gorffennol. Mae Vanessa’n dweud: “Y person cyntaf gwnes i feddwl amdano oedd y proffwyd Daniel. Cafodd ei daflu i’r llewod er ei fod yn ddieuog. Er hynny, roedd Jehofa yn gofalu amdano. Rhoddais y sefyllfa yn nwylo Jehofa yn llwyr. Ar ôl hynny, doedd gen i ddim ofn bellach.”—Dan. 6:​12-22.

BETH MAE JEHOFA YN EI WNEUD NAWR?

8. Pa reswm oedd gan Dafydd dros fod yn hyderus? (Salm 56:8)

8 Er bod Dafydd mewn sefyllfa hynod o beryglus pan oedd yn ninas Gath, ni wnaeth ildio i’r ofn. Yn hytrach, dewisodd ystyried beth roedd Jehofa yn gwneud drosto ar y pryd. Roedd Dafydd yn sicr bod Jehofa yn ei arwain, yn ei amddiffyn, ac yn deall ei deimladau. (Darllen Salm 56:8.) Roedd gan Dafydd hefyd ffrindiau fel Jonathan a’r Archoffeiriad Achimelech a oedd yn ei gefnogi ac yn rhoi cymorth ymarferol iddo. (1 Sam. 20:​41, 42; 21:​6, 8, 9) Ac er bod y Brenin Saul eisiau ei ladd, gwnaeth Dafydd lwyddo i ddianc. Roedd yn gwbl hyderus bod Jehofa yn gwybod am ei dreialon a’r effaith emosiynol roedden nhw’n ei chael arno.

9. Beth mae Jehofa yn sylwi am bob un ohonon ni?

9 Pan wyt ti’n wynebu her sy’n dy wneud di’n ofnus, cofia fod Jehofa yn sylwi ar dy dreial ac yn gwybod sut mae’r treial hwnnw yn gwneud iti deimlo. Er enghraifft, gwnaeth Jehofa sylwi ar sut cafodd yr Israeliaid eu cam-drin yn yr Aifft ac roedd yn “teimlo drostyn nhw.” (Ex. 3:7) Canodd Dafydd fod Jehofa yn gwybod pa “mor anodd” oedd ei broblemau iddo. (Salm. 31:7) A phan wnaeth pobl Dduw ddioddef—hyd yn oed o ganlyniad i benderfyniadau hurt nhw eu hunain—“roedd e’n diodde hefyd.” (Esei. 63:9) Pan mae gen ti ofn, mae Jehofa yn deall sut rwyt ti’n teimlo ac mae’n awyddus i dy helpu di i ddod dros yr ofn hwnnw.

10. Pam rwyt ti’n hyderus bod Jehofa yn sylwi arnat ti ac yn dy helpu di i ymdopi ag unrhyw dreial?

10 Efallai byddi di’n cwestiynu sut mae Jehofa yn dy gefnogi di wrth iti fynd trwy dreial sy’n codi ofn. Gofynna iddo dy helpu di i weld ei gefnogaeth. (2 Bren. 6:​15-17) Yna, ystyria: A ydy anerchiad neu sylwad yn ystod y cyfarfod wedi dy gryfhau? A ydy cyhoeddiad, fideo, neu gân wreiddiol wedi dy galonogi? A ydy rhywun wedi rhannu gair caredig neu ysgrythur â ti? Mae’n ddigon hawdd inni gymryd yn ganiataol gariad ein brodyr a’n chwiorydd a’r bwyd ysbrydol rydyn ni yn ei dderbyn. Ond, maen nhw’n anrhegion arbennig gan Jehofa. (Esei. 65:13; Marc 10:​29, 30) Maen nhw’n profi ei fod yn edrych ar dy ôl di. (Esei. 49:​14-16) Hefyd, maen nhw’n rhoi sail iti ei drystio.

11. Beth helpodd Aida i dawelu ei phryderon?

11 Sylwodd Aida, sy’n byw yn Senegal, ar sut roedd Jehofa yn ei chefnogi hi yn ystod treial. Gan mai hi oedd y plentyn hynaf, roedd ei rhieni yn disgwyl iddi ennill digon o arian i ofalu amdani hi ei hun a nhwthau. Ond ar ôl iddi symleiddio ei bywyd er mwyn arloesi, nad oedd gan Aida lawer o arian. Digiodd ei theulu ac roedden nhw’n lladd arni. Dywedodd Aida: “Roedd gen i ofn na fyddwn i’n gallu helpu fy rhieni a byddai pawb yn fy nghasáu. Gwnes i hyd yn oed roi’r bai ar Jehofa am adael i bethau mynd mor ddrwg.” Yna, clywodd hi anerchiad yn y cyfarfod. “Gwnaeth y siaradwr ein hatgoffa ni fod Jehofa yn gwybod beth sy’n gwneud inni boeni a phryderu. Yn araf deg, ar ôl cael cyngor gan yr henuriaid ac eraill, roeddwn i’n siŵr o gariad Jehofa. Dechreuais weddïo ar Jehofa gyda mwy o hyder a theimlais heddwch arbennig wrth imi weld fy ngweddïau yn cael eu hateb.” Mewn amser, gwnaeth Aida ddod o hyd i swydd a oedd yn ei chynnal hi fel arloeswraig a hefyd yn caniatáu iddi helpu ei rhieni ac eraill yn ariannol. “Rydw i wedi dysgu i drystio yn Jehofa’n llwyr,” dywedodd Aida. “Nawr, ar ôl gweddïo, yn aml mae fy ofnau yn diflannu.”

BETH BYDD JEHOFA YN EI WNEUD YN Y DYFODOL?

12. Yn ôl Salm 56:​9, beth roedd Dafydd yn hyderus ohono?

12 Darllen Salm 56:9. Mae’r adnod hon yn datgelu ffordd arall gwnaeth Dafydd drechu ei ofnau. Er bod ei fywyd yn y fantol, myfyriodd ar beth byddai Jehofa yn ei wneud drosto yn y dyfodol. Roedd Dafydd yn gwybod byddai Jehofa yn ei achub ar yr amser iawn. Wedi’r cwbl, roedd Jehofa wedi dweud mai Dafydd fyddai brenin nesaf Israel. (1 Sam. 16:​1, 13) I Dafydd, roedd pob addewid gan Jehofa yn siŵr o ddigwydd.

13. Pa hyder gallwn ni ei gael yn Jehofa?

13 Beth mae Jehofa wedi ei addo ar dy ran di? Dydyn ni ddim yn disgwyl iddo ein hamddiffyn rhag ein holl broblemau. c Ond, pa bynnag dreialon rydyn ni’n eu hwynebu yn y system hon, mae Jehofa yn addo cael gwared arnyn nhw yn y byd newydd. (Esei. 25:​7-9) Mae ein Creawdwr yn ddigon cryf i atgyfodi’r meirw, i’n hiacháu ni, ac i gael gwared ar unrhyw wrthwynebwyr.—1 Ioan 4:4.

14. Beth gallwn ni fyfyrio arno?

14 Pan wyt ti’n teimlo’n ofnus, meddylia am sut byddi di’n teimlo ar ôl i Jehofa gael gwared ar Satan a phobl ddrygionus, pan fydd dim ond pobl gyfiawn ar ôl, a phan fydd amherffeithion yn diflannu fesul tipyn bob dydd. Roedd ’na ddangosiad yn y gynhadledd ranbarthol yn 2014 a ddangosodd sut gallwn ni fyfyrio ar ein gobaith. Gwnaeth tad drafod gyda’i deulu sut byddai 2 Timotheus 3:​1-5 yn gallu cael ei ysgrifennu’n wahanol petasai’n disgrifio’r Baradwys: “Yn y byd newydd bydd gynnon ni’r amser mwyaf hapus. Oherwydd bydd dynion yn caru eraill, yn caru trysorau ysbrydol, yn wylaidd, yn ostyngedig, yn moli Duw, yn ufudd i’w rhieni, yn ddiolchgar, yn ffyddlon, gyda chariad mawr tuag at eu teulu, yn barod i gytuno â phobl eraill, yn siarad yn dda am eraill, gyda hunain rheolaeth, yn addfwyn, gyda chariad at ddaioni, yn ddibynadwy, yn barod i ildio, heb feddwl gormod ohonyn nhw eu hunain, yn caru Duw yn hytrach na charu pleser, wedi eu cymell gan ddefosiwn Duwiol, cadw’n agos at y bobl hyn.” A wyt ti’n trafod bywyd yn y byd newydd gyda dy deulu neu gyd-addolwyr?

15. Er bod gan Tanja ofn, beth gwnaeth ei helpu i drechu ei hofnau?

15 Gwnaeth chwaer o’r enw Tanja, o ogledd Macedonia, drechu ei hofnau drwy fyfyrio ar y bendithion fyddai’n dod yn y dyfodol. Roedd ei rhieni yn casáu’r ffaith ei bod hi’n astudio’r Beibl. Mae hi’n dweud: “Digwyddodd rhai o’r pethau roeddwn i’n eu hofni. Gwnaeth fy mam fy nghuro i ar ôl pob cyfarfod. Gwnaeth fy rhieni fygwth fy lladd i petaswn i’n dod yn un o Dystion Jehofa.” Yn y pen draw, cafodd Tanja ei thaflu allan o’i chartref. Sut gwnaeth Tanja ymateb? Mae hi’n dweud: “Gwnes i ganolbwyntio ar yr hapusrwydd y byddwn i’n ei gael am byth o ddewis i fod yn ffyddlon. Meddyliais am y bendithion bydd Jehofa yn eu rhoi imi yn y byd newydd am beth bynnag rydw i’n ei golli yn y system hon, a sut bydd yr holl bethau drwg yn cael eu hanghofio.” Arhosodd Tanja yn ffyddlon. A gyda help Jehofa, gwnaeth hi ddod o hyd i rywle i fyw. Heddiw, mae Tanja wedi priodi brawd ffyddlon ac maen nhw’n gwasanaethu’n hapus gyda’i gilydd yn arloesi’n llawn amser.

CRYFHA DY DRYST YN JEHOFA HEDDIW

16. Beth fydd yn ein helpu ni i aros yn ddewr pan fydd y digwyddiadau sydd wedi eu proffwydo yn Luc 21:​26-28 yn digwydd?

16 Yn ystod y trychineb mawr, bydd pobl yn “gwegian oherwydd ofn.” Ond, bydd pobl Dduw yn aros yn gadarn ac yn ddewr. (Darllen Luc 21:​26-28.) Pam na fyddwn ni’n ildio i’r ofn? Oherwydd byddwn ni wedi dysgu i drystio yn Jehofa yn barod. Mae Tanja, a ddyfynnwyd yn gynharach, yn dweud bod ei phrofiadau hi wedi ei helpu i wynebu sefyllfaoedd anodd iawn. Mae hi’n dweud: “Rydw i wedi dysgu ym mhob sefyllfa bod Jehofa’n gallu gwneud i bethau weithio allan yn dda inni. Ar adegau mae’n gallu ymddangos fel bod pobl yn rheoli pethau, ond mewn gwirionedd, mae Jehofa yn fwy pwerus na nhw. Ac er bod treial yn gallu bod yn anodd, fe ddaw i ben.”

17. Sut bydd testun y flwyddyn 2024 yn ein helpu ni? (Gweler y llun ar y clawr.)

17 Mae’n hollol normal heddiw i deimlo ofn. Ond fel Dafydd, gallwn ni wrthod cael ein parlysu gan ofn. Mae testun y flwyddyn 2024 wedi ei gymryd o un o weddïau Dafydd ar Jehofa: “Pan mae gen i ofn, dw i’n dy drystio di.” (Salm. 56:3) Fel mae un cyfeirlyfr am y Beibl yn ei ddweud am yr adnod hon: “Doedd Dafydd ddim yn bwydo ei ofnau nac yn canolbwyntio ar ei broblemau. Ond roedd yn edrych ar ei waredwr i’w achub.” Meddylia am destun y flwyddyn yn y misoedd sydd i ddod, yn enwedig wrth iti wynebu sefyllfaoedd a all godi ofn. Cymera’r amser i fyfyrio ar weithredoedd Jehofa yn y gorffennol, yn y presennol, ac ar beth bydd yn ei wneud yn y dyfodol. Yna, byddi di’n gallu dweud fel gwnaeth Dafydd: “Dw i’n trystio Duw, does gen i ddim ofn.”—Salm. 56:4.

Yng nghanol treial, mae chwaer yn myfyrio ar destun y flwyddyn (Gweler paragraff 17)

SUT GELLI DI DRECHU OFN DRWY FYFYRIO AR . . .

  • beth mae Jehofa wedi ei wneud yn barod?

  • beth mae Jehofa yn ei wneud nawr?

  • beth bydd Jehofa yn ei wneud yn y dyfodol?

CÂN 33 Bwrw Dy Faich ar Jehofa

a Gelli di ddod o hyd i wybodaeth sy’n gallu cryfhau dy ffydd ar jw.org drwy deipio “efelychu eu ffydd” a “profiadau” yn y bar chwilio. Yn yr ap JW Library®, edrycha o dan y gyfres erthyglau “Efelychu Eu Ffydd” neu “Profiadau Tystion Jehofa.”

b Newidiwyd rhai enwau.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Dafydd yn myfyrio ar sut rhoddodd Jehofa y nerth iddo ladd arth, yr help ymarferol roedd Jehofa yn ei roi iddo drwy Achimelech, a’r ffaith byddai Jehofa yn ei wneud yn frenin.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd sydd wedi cael ei garcharu am ei ffydd yn myfyrio ar sut gwnaeth Jehofa ei helpu i stopio ysmygu, ar sut mae yn ei galonogi drwy lythyrau gan ei deulu a’i ffrindiau, a’r gobaith o fyw am byth yn y Baradwys.