Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Efelychu’r Ffordd Mae Jehofa’n Trin Merched?

Wyt Ti’n Efelychu’r Ffordd Mae Jehofa’n Trin Merched?

MAE gan frodyr y fraint o wasanaethu ochr yn ochr â llawer o ferched ffyddlon. Ac rydyn ni’n caru ac yn gwerthfawrogi pob un o’r chwiorydd ffyddlon hyn sy’n gweithio mor galed! a Felly, frodyr, ceisiwch eu trin nhw’n deg, yn garedig, ac yn barchus. Gan ein bod ni’n amherffaith, gall fod yn anodd ar adegau i wneud hynny. Ond i rai brodyr, mae hyn yn anoddach byth.

Mae rhai wedi cael eu magu mewn diwylliant lle mae llawer o ddynion yn trin merched yn israddol. Er enghraifft, mae Hans, arolygwr Cylchdaith yn Bolifia, yn dweud: “Cafodd rhai dynion eu magu mewn diwylliant lle roedd yn rhaid iddyn nhw ymddangos yn gryf a brolio. Mae hyn wedi achosi iddyn nhw deimlo bod dynion yn well na merched.” Mae henuriad yn Taiwan o’r enw Shengxian yn dweud: “Lle dwi’n byw, mae llawer o ddynion yn teimlo na ddylai merched busnesu na rhoi eu barn ar bethau. Os ydy dyn yn ailadrodd beth mae dynes wedi ei ddweud am rywbeth, gall dynion eraill edrych i lawr arno.” Mae dynion eraill yn dangos rhagfarn tuag at ferched mewn ffyrdd llai amlwg. Er enghraifft, maen nhw’n dweud jôcs amharchus amdanyn nhw.

Does ’na ddim un dyn sy’n gaeth i’w ddiwylliant. Mae’n gallu newid y teimlad bod dynion yn well na merched drwy efelychu esiampl Jehofa. (Eff. 4:​22-24) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut mae Jehofa yn trin merched, sut gall brodyr ddysgu i efelychu ffordd Jehofa o drin merched, a sut gall henuriaid gymryd y blaen drwy ddangos parch at chwiorydd.

SUT MAE JEHOFA YN TRIN MERCHED?

Mae Jehofa yn gosod yr esiampl berffaith o sut i drin merched. Fel Tad trugarog, mae’n caru ei deulu dynol. (Ioan 3:16) Ac mae’n trin pob un chwaer ffyddlon fel merch werthfawr iddo. Ystyria sut mae Jehofa yn anrhydeddu merched.

Mae’n eu trin nhw heb ffafriaeth. Gwnaeth Jehofa greu dynion a merched ar ei ddelw. (Gen. 1:27) Ni wnaeth greu dynion i fod yn fwy clyfar na’n fwy talentog na merched, a dydy ef ddim yn ffafrio dynion dros ferched. (2 Cron. 19:7) Mae wedi creu dynion a merched gyda’r gallu i ddeall gwirioneddau’r Beibl yr un mor dda â’i gilydd ac i fyfyrio ar ei rinweddau hyfryd. Hefyd, mae Jehofa yn ystyried ffydd dynion a merched yr un fath—p’un a ydy eu gobaith yn y nefoedd i wasanaethu fel offeiriaid a brenhinoedd, neu ar y ddaear. (2 Pedr 1:1) Yn amlwg, does gan Jehofa ddim rhagfarn yn erbyn merched.

Mae’n gwrando arnyn nhw. Mae gan Jehofa ddiddordeb mewn teimladau a phroblemau merched. Er enghraifft, gwnaeth wrando ar weddïau Rachel a Hanna a’u hateb nhw. (Gen. 30:22; 1 Sam. 1:​10, 11, 19, 20) Hefyd, gwnaeth Jehofa ysbrydoli ysgrifenwyr y Beibl i gynnwys hanesion dynion a wrandawodd ar ferched. Er enghraifft, gwnaeth Abraham ddilyn cyngor Jehofa i wrando ar ei wraig, Sara. (Gen. 21:​12-14) Gwnaeth y Brenin Dafydd wrando ar Abigail. Mewn gwirionedd, teimlodd Dafydd fod Jehofa wedi ei hanfon hi i siarad ag ef. (1 Sam. 25:​32-35) Gwrandawodd Iesu ar ei fam, Mair, ac roedd ef yn adlewyrchu rhinweddau ei Dad yn berffaith. (Ioan 2:​3-10) Mae’r esiamplau hyn yn pwysleisio un ffordd y mae Jehofa yn dangos parch at ferched, hynny yw drwy wrando arnyn nhw.

Mae’n eu trystio nhw. Er enghraifft, gwnaeth Jehofa drystio Efa i helpu i ofalu am y ddaear gyfan. (Gen. 1:28) Roedd gwneud hyn yn dangos nad oedd Jehofa yn ei gweld hi’n llai pwysig na’i gŵr, Adda, ond roedd yn ei hystyried hi’n bartner gwerthfawr iddo. Gwnaeth Jehofa hefyd drystio’r proffwydi Debora a Hulda i roi cyngor i’w bobl, gan gynnwys barnwr a brenin. (Barn. 4:​4-9; 2 Bren. 22:​14-20) Heddiw, mae Jehofa yn trystio merched Cristnogol i wneud ei waith. Mae chwiorydd ffyddlon yn gwasanaethu fel cyhoeddwyr, arloeswyr, a chenhadon. Maen nhw’n helpu i ddylunio, adeiladu, a chynnal a chadw Neuaddau’r Deyrnas ac adeiladau’r gangen. Mae rhai ohonyn nhw’n gwasanaethu yn y Bethel a swyddfeydd cyfieithu. Mae’r chwiorydd hyn yn debyg i dyrfa mae Jehofa yn ei defnyddio i gyflawni ei ewyllys. (Salm 68:11) Yn amlwg, dydy Jehofa ddim yn ystyried merched yn wan neu analluog.

SUT GALL BRODYR DDYSGU I DRIN MERCHED FEL Y MAE JEHOFA YN EU TRIN?

Frodyr, i weld a ydyn ni’n trin chwiorydd fel y mae Jehofa yn eu trin nhw, mae’n rhaid inni fod yn onest am y ffordd rydyn ni’n meddwl a gweithredu. Er mwyn gwneud hynny, rydyn ni angen help. Yn union fel mae peiriant pelydr-X yn gallu gweld problemau mewn calon lythrennol, mae ffrind da a Gair Duw yn gallu ein helpu ni i weld os oes gynnon ni unrhyw deimladau negyddol tuag at ferched. Sut gallwn ni gael yr help rydyn ni’n ei angen?

Gofyn i ffrind da. (Diar. 18:17) Byddai’n beth da i fynd at ffrind agos sy’n ein hadnabod ni’n dda, sy’n garedig, ac sy’n gytbwys a gofyn iddo gwestiynau fel: “Sut rwyt ti’n meddwl fy mod i’n trin chwiorydd? Ydyn nhw’n gallu dweud fy mod i’n eu parchu nhw? Oes ’na le imi wella’r ffordd dw i’n siarad â nhw?” Os ydy dy ffrind yn tynnu sylw at un neu ddau o bethau y gelli di ei wneud yn well, paid â mynd yn amddiffynnol. Yn hytrach, bydda’n barod i wneud newidiadau.

Astudio Gair Duw. Gallwn ni edrych ar ein hagwedd a’n gweithredoedd yng ngolau Gair Duw i ddysgu a ydyn ni’n trin chwiorydd yn dda. (Heb. 4:12) Wrth inni astudio’r Beibl, rydyn ni’n dysgu am ddynion a oedd yn trin merched yn dda ac am rai nad oedd yn gwneud hynny. Yna gallwn ni gymharu beth wnaethon nhw â beth rydyn ni’n ei wneud. Hefyd, drwy gymharu adnodau gwahanol o’r Beibl, gallwn ni osgoi cymryd rhywbeth allan o’i gyd-destun i gefnogi camsyniad sydd gynnon ni am sut i drin merched. Er enghraifft, yn ôl 1 Pedr 3:​7, mae’n rhaid rhoi anrhydedd i wraig gan mai hi “yw’r llestr gwannaf.” b Ydy hynny’n golygu ei bod hi’n israddol, hynny yw yn llai clyfar neu’n alluog, na dyn? Ddim o gwbl! Cymhara geiriau Pedr â beth sy’n cael ei ddweud yn Galatiaid 3:​26-29, sy’n dweud bod Jehofa wedi dewis merched yn ogystal â dynion i reoli gyda Iesu yn y nefoedd. Pan ydyn ni’n astudio Gair Duw ac yn gofyn i ffrind da am ei sylwadau am sut rydyn ni’n trin merched, gallwn ni ddysgu i ddangos y parch y mae ein chwiorydd yn ei haeddu.

SUT MAE HENURIAID YN DANGOS PARCH AT CHWIORYDD?

Gall brodyr yn y gynulleidfa ddysgu i drin chwiorydd yn barchus drwy ddilyn esiampl henuriaid caredig. Sut mae henuriaid yn gosod yr esiampl yn hyn o beth? Ystyria rai ffyrdd penodol.

Maen nhw’n canmol chwiorydd. Gosododd yr apostol Paul esiampl dda i henuriaid. Gwnaeth ganmol sawl chwaer yn gyhoeddus yn ei lythyr i’r gynulleidfa yn Rhufain. (Rhuf. 16:12) A fedri di ddychmygu llawenydd y chwiorydd hynny pan gafodd y llythyr ei ddarllen i’r gynulleidfa? Mewn ffordd debyg, mae henuriaid yn canmol chwiorydd yn aml am y rhinweddau da sydd ganddyn nhw ac am y gwaith maen nhw’n ei wneud i Jehofa. Mae hyn yn atgoffa chwiorydd cymaint mae Jehofa yn eu parchu nhw a’u gwerthfawrogi nhw. Efallai bydd gair caredig gan henuriad ar yr amser iawn yn codi calon chwaer ac yn ei helpu hi i ddal ati i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon.—Diar. 15:23.

Canmola

Mae henuriaid yn dweud pethau diffuant a phenodol wrth ganmol chwiorydd. Pam? Mae chwaer o’r enw Jessica yn dweud: “Mae’n braf clywed brodyr yn dweud ‘gwaith da.’ Ond rydyn ni’n hynod o ddiolchgar pan mae brodyr yn ein canmol ni am rywbeth penodol, fel dysgu ein plant i eistedd yn ddistaw yn y cyfarfodydd neu am fynd allan o’n ffordd i ddod â rhywun i’r cyfarfod.” Pan mae henuriaid yn canmol chwiorydd am bethau penodol, maen nhw’n gwneud i’r chwiorydd deimlo eu bod nhw’n werthfawr i’r gynulleidfa.

Maen nhw’n gwrando ar chwiorydd. Mae henuriaid gostyngedig yn cydnabod nid nhw’n unig sy’n cael syniadau da. Mae henuriaid yn gofyn i chwiorydd am awgrymiadau ar sut i wneud pethau, ac maen nhw’n gwrando’n ofalus wrth i chwiorydd siarad. Drwy wneud hyn, mae henuriaid yn annog chwiorydd ac maen nhw eu hunain ar eu hennill. Sut? Mae henuriad o’r enw Gerardo, sy’n gwasanaethu yn y Bethel yn dweud: “Rydw i wedi ffeindio bod gofyn i chwiorydd am eu help yn fy helpu i wneud fy ngwaith yn well. Yn aml, mae ganddyn nhw fwy o brofiad yn gwneud y gwaith na’r rhan fwyaf o’r brodyr.” Mae llawer o chwiorydd yn gwasanaethu fel arloeswyr yn ein cynulleidfaoedd. Felly maen nhw’n gwybod llawer am y bobl sy’n byw’n lleol. Mae henuriad o’r enw Bryan yn dweud: “Mae gan ein chwiorydd gymaint i gynnig i’r gyfundrefn, felly dysga o’u profiad!”

Gwranda

Dydy henuriaid doeth ddim yn anwybyddu awgrymiadau chwiorydd. Pam? “Gall safbwynt a phrofiad chwaer helpu brawd i weld y darlun mawr a’i helpu i ddatblygu empathi,” meddai henuriad o’r enw Edward. (Diar. 1:5) Hyd yn oed os nad ydy henuriad yn gallu rhoi syniad chwaer ar waith, mae’n dal yn gallu diolch iddi am awgrymu rhywbeth ac am rannu ei gwybodaeth.

Maen nhw’n hyfforddi chwiorydd. Mae henuriaid doeth yn edrych am gyfleoedd i hyfforddi chwiorydd. Er enghraifft, maen nhw’n gallu dysgu chwiorydd sut i arwain cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth rhag ofn nad oes brawd bedyddiedig ar gael. Maen nhw’n gallu hyfforddi chwiorydd i ddefnyddio tŵls neu beiriannau er mwyn iddyn nhw allu helpu ar brosiectau adeiladu neu gynnal a chadw. Yn y Bethel, mae arolygwyr wedi hyfforddi chwiorydd i ofalu am wahanol aseiniadau, gan gynnwys cynnal a chadw, prynu, cadw cyfrifon, rhaglennu cyfrifiadurol, ac yn y blaen. Pan mae henuriaid yn hyfforddi chwiorydd, maen nhw’n dangos eu bod nhw’n ystyried y chwiorydd yn alluog ac yn ddibynadwy.

Hyffordda

Mae llawer o chwiorydd yn defnyddio’r hyfforddiant maen nhw wedi ei gael gan henuriaid i helpu eraill. Er enghraifft, mae rhai chwiorydd yn defnyddio’r sgiliau adeiladu maen nhw wedi eu dysgu i helpu eraill i ailadeiladu eu tai ar ôl trychineb naturiol. Oherwydd hyfforddiant, mae rhai chwiorydd wedi gallu dysgu chwiorydd eraill i wneud mathau o weinidogaeth fel tystiolaethu cyhoeddus. Sut mae chwiorydd yn teimlo am yr henuriaid sydd wedi eu hyfforddi nhw? Mae chwaer o’r enw Jennifer yn dweud: “Pan weithiais ar un prosiect yn adeiladu Neuadd y Deyrnas, cymerodd un arolygwr yr amser i fy hyfforddi i. Gwnaeth sylwi ar y gwaith roeddwn i’n ei wneud, a fy nghanmol i. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio efo fo oherwydd roeddwn i’n teimlo ei fod yn fy ngwerthfawrogi i ac yn fy nhrystio i.”

Y CANLYNIADAU DA SY’N DOD O DRIN CHWIORYDD FEL TEULU

Rydyn ni’n caru ein chwiorydd ffyddlon fel y mae Jehofa yn eu caru! Felly rydyn ni’n eu trin nhw fel teulu. (1 Tim. 5:​1, 2) Mae’n fraint ac yn anrhydedd inni gael gwasanaethu ochr yn ochr â nhw. Ac rydyn ni mor hapus pan maen nhw’n teimlo ein cariad a’n cefnogaeth. Mae chwaer o’r enw Vanessa yn dweud: “Rydw i mor ddiolchgar i Jehofa am fy mod i’n gallu bod yn rhan o’i gyfundrefn, sy’n llawn o frodyr sydd wedi fy nghalonogi i yn fawr iawn.” Mae chwaer yn Taiwan yn dweud: “Rydw i’n ddiolchgar i Jehofa ac i’w gyfundrefn am werthfawrogi merched cymaint ac am ystyried ein teimladau. Mae hyn yn cryfhau fy ffydd ac yn fy ngwneud i’n fwy diolchgar byth am y fraint o fod yn rhan o gyfundrefn Jehofa.”

Mae’n rhaid bod Jehofa mor prowd o frodyr ffyddlon sy’n ceisio trysori a pharchu merched fel y mae ef yn ei wneud! (Diar. 27:11) “Mae llawer o ddynion yn y byd yn bychanu merched,” meddai henuriad yn yr Alban o’r enw Benjamin. “Felly pan mae merched yn cerdded i mewn i Neuadd y Deyrnas, rydyn ni eisiau iddyn nhw deimlo’r gwahaniaeth.” Rydyn ni eisiau gwneud ein gorau glas i efelychu Jehofa drwy drin ein chwiorydd annwyl gyda’r cariad a’r parch maen nhw’n eu haeddu.—Rhuf. 12:10.

a Yn yr erthygl hon, mae’r term “chwiorydd” yn cyfeirio’n gyson at chwiorydd Cristnogol, nid at chwiorydd o fewn y teulu.

b Am esboniad pellach o’r ymadrodd “llestr gwannaf,” gweler yr erthyglau canlynol o’r Tŵr Gwylio Saesneg: “The Value of ‘a Weaker Vessel’,” rhifyn Mai 15, 2006, a “Wise Guidance for Married Couples,” rhifyn Mawrth 1, 2005.