Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 5

CÂN 27 Datguddir Meibion Duw

“Wna i Byth Gefnu Arnat Ti”!

“Wna i Byth Gefnu Arnat Ti”!

“Mae [Duw] wedi dweud: ‘Ni wna i byth dy adael di, ac ni wna i byth gefnu arnat ti.’”HEB. 13:5b.

PWRPAS

I roi sicrwydd i weision Duw ar y ddaear fydd Jehofa ddim yn cefnu arnyn nhw ar ôl i’r holl eneiniog gael eu cymryd i’r nefoedd.

1. Pryd bydd yr holl eneiniog yn y nefoedd?

 FLYNYDDOEDD yn ôl, roedd pobl Jehofa yn gofyn, ‘Pryd bydd y rhai olaf o’r eneiniog yn cael eu cymryd i’r nefoedd?’ Roedden ni’n arfer meddwl efallai bydd rhai o’r eneiniog yn aros ar y ddaear yn y Baradwys ar ôl rhyfel Armagedon. Ond, yn Rhifyn Gorffennaf 15, 2013 o’r Tŵr Gwylio, gwnaethon ni ddysgu y bydd yr holl eneiniog sydd ar ôl ar y ddaear yn cael eu cymryd i’r nefoedd cyn rhyfel Armagedon.—Math. 24:31.

2. Pa gwestiwn a all godi, a beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

2 Er hynny, gallwn ni ofyn: Beth bydd yn ei ddigwydd i “ddefaid eraill” Iesu sydd ar y ddaear yn ystod y ‘trychineb mawr’? (Ioan 10:16; Math. 24:21) Efallai bydd rhai heddiw yn pryderu am deimlo ar goll ac ar eu pennau eu hunain pan mae’r eneiniog yn cael eu cymryd i’r nef. Gad inni edrych nawr ar ddau hanes o’r Beibl a all wneud i bobl meddwl felly. Ac wedyn, gallwn ni drafod pam nad oes rhaid inni boeni am hyn.

BETH NA FYDD YN DIGWYDD?

3-4. Beth gallai rhai ei feddwl, a pham?

3 Efallai fod rhai yn meddwl bydd y defaid eraill yn cefnu ar y gwir os nad yw’r brodyr eneiniog ar y Corff Llywodraethol yma i roi arweiniad. Gall rhai hanesion o’r Beibl wneud iddyn nhw deimlo felly. Gad inni edrych nawr ar ddwy esiampl. Yn gyntaf, byddwn ni’n edrych ar esiampl dyn ardderchog yng ngolwg Jehofa, yr Archoffeiriad Jehoiada. Roedd ef a’i wraig, Jehosheba, wedi amddiffyn bachgen ifanc o’r enw Jehoas, a’i helpu i fod yn frenin ardderchog. Yn ystod bywyd Jehoiada, roedd Jehoas yn gwneud yn dda, ac arhosodd yn ffyddlon. Ond, ar ôl i Jehoiada farw, trodd Jehoas i ffwrdd o’r gwir. Gwnaeth ef adael Jehofa a gwrando ar arweinwyr drwg Jwda.—2 Cron. 24:​2, 15-19.

4 Yr ail enghraifft yw’r Cristnogion yn yr ail ganrif. Yr apostol Ioan oedd yr unig apostol ar ôl. Roedd Ioan yn ddylanwad da ar nifer o Gristnogion oherwydd ei fod wedi eu helpu nhw i ddal ati i wasanaethu Jehofa. (3 Ioan 4) Ynghyd ag apostolion ffyddlon eraill Iesu, roedd Ioan wedi bod yn brwydro yn erbyn gwrthgiliad am gyfnod hir. (1 Ioan 2:18; gweler y nodyn astudio ar 2 Thes. 2:7.) Ond ar ôl i Ioan farw, lledaenodd y gwrthgiliad yn gyflym. O fewn degawdau, roedd y gynulleidfa Gristnogol wedi cael ei llygru.

5. Beth nad ydy’r ddwy esiampl yn ei ddysgu inni?

5 Ydy’r ddwy esiampl hon yn dangos bod rhywbeth tebyg yn mynd i ddigwydd pan mae’r eneiniog yn cael eu cymryd i’r nefoedd? Ydy’r rhai ffyddlon ar y ddaear yn mynd i gefnu ar y gwir fel gwnaeth Jehoas, a throi’n wrthgiliol fel llawer o Gristnogion yn yr ail ganrif? Ddim o gwbl! Gallwn ni fod yn sicr pan mae’r eneiniog yn gadael y ddaear bydd Jehofa yn dal i edrych ar ôl y defaid eraill. Pam gallwn ni fod mor hyderus?

FYDD ADDOLIAD PUR DDIM YN CAEL EI LYGRU

6. Pa dri chyfnod o amser byddwn ni’n eu trafod?

6 Pam gallwn ni fod yn hyderus fydd addoliad pur ddim yn cael ei lygru, hyd yn oed yn ystod yr amseroedd anodd sydd o’n blaenau ni? Oherwydd, yn ôl beth rydyn ni wedi ei ddysgu o’r Beibl, rydyn ni’n byw mewn cyfnod gwahanol iawn i’r Israeliaid gynt a Christnogion yr ail ganrif. Mae’n amser nawr inni ystyried tri chyfnod gwahanol: (1) Cyfnod Israel gynt, (2) y cyfnod ar ôl i’r apostolion farw, a (3) ein cyfnod ni, “pan fydd pob peth yn cael ei adfer.”—Act. 3:21.

7. Yn Israel gynt, pam doedd y rhai ffyddlon ddim yn digalonni pan drodd y genedl a’i brenhinoedd yn ddrwg?

7 Cyfnod Israel gynt. Cyn i Moses farw, dywedodd wrth yr Israeliaid: “Dw i’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd. Ar ôl i mi farw byddwch chi’n sbwylio popeth drwy droi cefn ar y ffordd o fyw dw i wedi ei dysgu i chi.” (Deut. 31:29) Dywedodd hefyd petai Israel yn gwrthryfela, byddai’r genedl gyfan yn cael eu halltudio. (Deut. 28:​35, 36) A ddaeth y geiriau hyn yn wir? Do. Dros y canrifoedd, roedd nifer o frenhinoedd wedi cymryd y llwybr anghywir. Dyna pam roedd rhaid i Jehofa gosbi ei bobl a dod â’r llinach ddaearol o frenhinoedd i ben. (Esec. 21:​25-27) Ond roedd yr Israeliaid ffyddlon wedi cael eu hatgyfnerthu o weld geiriau Jehofa yn dod yn wir.—Esei. 55:​10, 11.

8. A ddylen ni synnu bod cynulleidfa Gristnogol y ganrif gyntaf wedi cael ei llygru? Esbonia.

8 Y cyfnod ar ôl i’r apostolion farw. A ddylen ni gael ein synnu bod cynulleidfa Gristnogol y ganrif gyntaf wedi cael ei llygru? Na ddylen. Dywedodd Iesu byddai gwrthgiliad mawr yn digwydd. (Math. 7:​21-23; 13:​24-30, 36-43) Roedd yr apostolion Paul, Pedr, ac Ioan wedi cadarnhau bod y broffwydoliaeth wedi dechrau cael ei chyflawni yn y ganrif gyntaf. (2 Thes. 2:​3, 7; 2 Pedr 2:1; 1 Ioan 2:18) Yn yr ail ganrif, roedd y gynulleidfa Gristnogol wedi cael ei llygru ac wedi dod yn rhan o Fabilon Fawr, sef ymerodraeth fyd-eang gau grefydd. Unwaith eto, roedd proffwydoliaeth ysbrydoledig yn cael ei chyflawni.

9. Sut mae’n cyfnod ni yn wahanol i gyfnod yr Israeliaid gynt a chyfnod Cristnogion yr ail ganrif?

9 Y cyfnod “pan fydd pob peth yn cael ei adfer.” Mae ein cyfnod ni’n wahanol i gyfnod Israel gynt a’r cyfnod o wrthgiliad mawr yn yr ail ganrif. Pa gyfnod ydyn ni’n byw ynddo? Yn aml rydyn ni’n cyfeirio at ein hamser ni fel y “dyddiau olaf” o’r system hon. (2 Tim. 3:1) Ond yn ôl y Beibl, dechreuodd cyfnod hirach ar yr un pryd a fyddai’n parhau nes bod y Deyrnas Feseianaidd wedi troi’r byd yn baradwys. Disgrifiwyd y cyfnod hwn fel “yr amseroedd pan fydd pob peth yn cael ei adfer,” a dechreuodd hyn ym 1914. (Act. 3:21) Beth a gafodd ei adfer? Cafodd Iesu ei goroni’n Frenin yn y nefoedd. Felly, unwaith eto, roedd gan Jehofa frenin i’w gynrychioli, disgynnydd i’r brenin ffyddlon Dafydd. Ond ar ben hynny, dechreuodd Jehofa adfer gwir addoliad! (Esei. 2:​2-4; Esec. 11:​17-20) A fydd addoliad pur yn cael ei lygru eto?

10. (a) Beth mae’r Beibl yn ei ragfynegi am addoliad pur yn ein hamser ni? (Eseia 54:17) (b) Pam mae proffwydoliaethau o’r fath yn galonogol?

10 Darllen Eseia 54:17. Meddylia am y broffwydoliaeth honno: “Ond fydd yr arfau sydd wedi’u llunio i dy daro di ddim yn llwyddo”! Mae’r geiriau ysbrydoledig hyn yn dod yn wir heddiw. Mae’r geiriau cysurus canlynol hefyd yn ymwneud â’n hamser ni: “Bydd pob un o dy blant yn cael eu dysgu gan yr ARGLWYDD, a bydd dy blant yn profi heddwch mawr. Byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder . . . Fydd dim rhaid i ti fod ag ofn, a fydd dychryn ddim yn dod yn agos atat ti.” (Esei. 54:​13, 14) Ni fydd “duw’r system hon,” Satan, yn gallu gwneud unrhyw beth i atal y gwaith addysgiadol mae pobl Jehofa yn ei wneud. (2 Cor. 4:4) Mae addoliad pur wedi cael ei ailsefydlu ac ni fydd byth yn cael ei lygru eto. Bydd yma am byth bythoedd. Ni fydd unrhyw arf yn llwyddo yn ein herbyn!

BETH FYDD YN DIGWYDD?

11. Beth sy’n dy wneud di’n sicr na fydd y dyrfa fawr yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain ar ôl i’r eneiniog fynd i’r nefoedd?

11 Beth fydd yn digwydd pan fydd yr eneiniog yn cael eu cymryd i’r nefoedd? Cofia fod Iesu yn fugail arnon ni. Ef yw pen ar y gynulleidfa Gristnogol. Dywedodd Iesu yn glir: “Un Arweinydd sydd gynnoch chi, y Crist.” (Math. 23:10) Bydd ein Brenin byth yn methu cyflawni ei swydd. Gyda Iesu yn rheoli dros ei bobl ar y ddaear, fydd ’na ddim byd inni boeni amdano. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn gwybod pob manylyn o sut bydd Iesu’n ein harwain ni. Gad inni edrych nawr ar enghreifftiau eraill o’r Beibl sy’n gallu ein hatgyfnerthu ni.

12. Sut gwnaeth Jehofa ofalu am ei bobl (a) ar ôl i Moses farw? (b) ar ôl i Elias gael aseiniad arall? (Gweler hefyd y llun.)

12 Roedd Moses wedi marw cyn i’r Israeliaid fynd i mewn i Wlad yr Addewid, felly sut byddan nhw’n ymdopi hebddo? A oedden nhw wedi cael eu gadael ar eu pennau eu hunain? Nag oedden. Tra oedden nhw’n ffyddlon, roedd Jehofa’n edrych ar eu holau. Cyn i Moses farw, rhoddodd Jehofa Josua i’r Israeliaid. Roedd Moses wedi bod yn hyfforddi Josua am ddegawdau. (Ex. 33:11; Deut. 34:9) Ar ben hynny, roedd nifer o ddynion yn gallu cymryd yr awenau—swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant, a deg o bobl. (Deut. 1:15) Roedd pobl Dduw mewn dwylo da. Rydyn ni’n gweld enghraifft debyg gydag Elias. Roedd wedi bod yn cymryd y blaen gydag addoliad pur am ddegawdau. Ond daeth yr amser pan wnaeth Jehofa ei drosglwyddo i aseiniad gwahanol, yn ne Jwda. (2 Bren. 2:1; 2 Cron. 21:12) A oedd pobl y Deyrnas deg llwyth wedi eu gadael ar eu pennau eu hunain? Nag oedden. Roedd Elias wedi bod yn hyfforddi Eliseus am flynyddoedd. Roedd ‘meibion y proffwydi’ hefyd wedi cael eu trefnu i fynd i ysgolion o ryw fath. (2 Bren. 2:​7, BC) Felly, roedd nifer o frodyr ffyddlon ar gael i helpu pobl Dduw. Roedd pwrpas Jehofa yn symud yn ei flaen, ac roedd yn gofalu am ei bobl ffyddlon.

Gwnaeth Moses (y llun ar y chwith) ac Elias (y llun ar y dde) hyfforddi rhywun galluog i gymryd yr awenau ar eu holau nhw (Gweler paragraff 12)


13. Pa hyder mae Hebreaid 13:5b yn ei roi inni? (Gweler hefyd y llun.)

13 Wrth feddwl am hyn, beth ydych chi’n meddwl sy’n mynd i ddigwydd pan fydd yr eneiniog yn cael eu cymryd i’r nefoedd? Does dim rhaid inni boeni. Dyma wirionedd calonogol a syml o’r Beibl: Ni fydd Jehofa byth yn cefnu ar ei bobl ar y ddaear. (Darllen Hebreaid 13:5b.) Fel Moses ac Elias, mae’r Corff Llywodraethol yn deall pa mor bwysig ydy hyfforddiant. Maen nhw wedi bod yn hyfforddi rhai o’r defaid eraill i gymryd yr awenau ers degawdau. Er enghraifft, maen nhw wedi trefnu nifer o ysgolion i hyfforddi henuriaid, arolygwyr teithiol, aelodau Pwyllgorau Cangen, arolygwyr yn y Bethel, ac eraill. Mae’r Corff Llywodraethol yn bersonol wedi hyfforddi helpwyr i wahanol bwyllgorau’r Corff Llywodraethol. Mae’r helpwyr ffyddlon hyn nawr yn ysgwyddo llawer o gyfrifoldebau mawr y gyfundrefn. Maen nhw wedi paratoi’n dda ar gyfer edrych ar ôl defaid Crist.

Mae’r Corff Llywodraethol wedi gweithio’n galed i hyfforddi helpwyr ac i drefnu ysgolion i hyfforddi henuriaid, arolygwyr teithiol, aelodau Pwyllgorau Cangen, arolygwyr yn y Bethel, a chenhadon dros y byd i gyd (Gweler paragraff 13)


14. Beth ydy’r pwynt allweddol o’n trafodaeth?

14 Dyma’r pwynt allweddol o’n trafodaeth: Pan fydd yr un olaf o’r eneiniog yn cael ei gymryd i’r nefoedd tuag at ddiwedd y trychineb mawr, bydd addoliad pur yn parhau i fodoli ar y ddaear. Diolch i arweiniad Iesu Grist, bydd addolwyr Duw ddim yn colli curiad. Yn wir, yn ystod yr amser hwn, bydd Gog o dir Magog, cynghrair ymosodol o genhedloedd, yn ymladd yn erbyn pobl Jehofa. (Esec. 38:​18-20) Ond bydd yr ymosodiad byr hwn yn ffaelu’n llwyr, ac ni fydd yn stopio pobl Dduw rhag addoli Jehofa. Bydd yn siŵr o’u hachub nhw! Mewn gweledigaeth, gwelodd yr apostol Ioan “dyrfa fawr” o ddefaid eraill, ac mae’r rhain “yn dod allan o’r trychineb mawr.” (Dat. 7:​9, 14) Felly, byddan nhw’n cael eu cadw’n ddiogel!

15-16. Yn ôl Datguddiad 17:​14, beth bydd yr eneiniog yn ei wneud yn ystod rhyfel Armagedon, a pham mae hyn yn galonogol?

15 Ond efallai bydd rhai yn gofyn: ‘Beth am yr eneiniog? Beth byddan nhw’n ei wneud ar ôl mynd i’r nefoedd?’ Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwn yn uniongyrchol. Mae’n dangos bydd llywodraethau’r byd yn “brwydro yn erbyn yr Oen.” Byddan nhw’n colli, wrth gwrs. Rydyn ni’n darllen: “Bydd yr Oen yn eu concro nhw.” Pwy fydd yn helpu’r Oen? Mae’r adnod yn rhoi’r ateb. Y rhai “sy’n cael eu galw a’u dewis ac sy’n ffyddlon.” (Darllen Datguddiad 17:14.) Pwy ydy’r rhain? Dyma’r eneiniog sydd wedi cael eu hatgyfodi! Felly, pan fydd y rhai olaf o’r eneiniog yn cael eu cymryd i’r nefoedd tuag at ddiwedd y trychineb mawr, un o’u haseiniadau cyntaf fydd i ymladd. Dyna ti aseiniad! Roedd rhai o’r eneiniog yn ymladd neu yn y fyddin cyn iddyn nhw ddod yn wir Gristnogion heddychlon. (Gal. 5:22; 2 Thes. 3:16) Maen nhw wedi rhoi’r gorau i ymladd yma ar y ddaear. Ond ar ôl cael eu hatgyfodi i’r nefoedd, byddan nhw’n gwasanaethu gyda Christ a’i angylion i frwydro yn y rhyfel olaf yn erbyn gelynion Duw.

16 Meddylia amdani! Ar y ddaear, mae rhai o’r eneiniog yn hen neu’n fregus. Ond ar ôl iddyn nhw gael eu hatgyfodi i’r nefoedd, byddan nhw’n ysbryd greaduriaid anfarwol gyda’r aseiniad i ymladd ochr yn ochr â Iesu Grist. Ar ôl rhyfel Armagedon, byddan nhw’n helpu’r ddynoliaeth i gyrraedd perffeithrwydd. Heb os, byddan nhw’n gallu rhoi llawer mwy o gymorth inni o’r nefoedd bryd hynny nag ydyn nhw nawr ar y ddaear fel pobl amherffaith!

17. Sut rydyn ni’n gwybod bydd holl weision Duw yn ddiogel yn ystod rhyfel Armagedon?

17 A wyt ti’n un o’r defaid eraill? Beth bydd yn rhaid i ti ei wneud pan fydd rhyfel Armagedon yn dechrau? Mae mor syml â hyn: Trystia Jehofa, a dilyna ei gyfarwyddiadau. Beth gallai hyn ei gynnwys? Mae’r Beibl yn dweud: “Ewch i’ch ystafelloedd, a chloi’r drysau ar eich hôl. Cuddiwch am funud fach, nes i’w lid basio heibio.” (Esei. 26:20) Bydd pawb sy’n gwasanaethu Jehofa, yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn ddiogel yn ystod yr amser hwnnw. Fel yr apostol Paul, rydyn ni’n hollol sicr na all “llywodraethau na phethau sydd yma nawr na phethau sydd i ddod . . . ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw.” (Rhuf. 8:​38, 39) Cofia, ni fydd Jehofa byth yn cefnu arnat ti!

PAN FYDD YR OLAF O’R ENEINIOG YN CAEL EU CYMRYD I’R NEFOEDD,

  • beth na fydd yn digwydd?

  • pam gallwn ni fod yn siŵr na fydd addoliad pur yn cael ei lygru?

  • pam gallwn ni fod yn siŵr bydd Jehofa yn gofalu am ei bobl?

CÂN 8 Jehofa Yw Ein Noddfa