Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 6

CÂN 10 Clodfori Ein Duw Jehofa

‘Molwch Enw Jehofa’

‘Molwch Enw Jehofa’

“Molwch e, weision yr ARGLWYDD! Molwch enw [Jehofa]!”SALM 113:1.

PWRPAS

I dynnu sylw at beth sy’n ein cymell ni i foli enw sanctaidd Jehofa ar bob cyfle.

1-2. Beth gall ein helpu ni i ddeall sut roedd Jehofa yn teimlo pan gafodd ei enw da ei bardduo?

 DYCHMYGA hyn: Mae rhywun sy’n agos iawn atat ti yn dweud rhywbeth ofnadwy amdanat ti. Rwyt ti’n gwybod ei fod yn gelwydd, ond eto mae rhai yn ei gredu. Ac yn waeth na hynny, maen nhw’n ailadrodd y celwydd, ac mae nifer arall yn ei gredu hefyd. Sut byddet ti’n teimlo? Os ydy pobl eraill a dy enw da yn bwysig iti, oni fyddai’r celwydd yn dy frifo?—Diar. 22:1.

2 Gall y sefyllfa hon ein helpu ni i ddeall sut roedd Jehofa yn teimlo pan gafodd ei enw da ei bardduo. Dywedodd un o’i angylion gelwydd amdano i’r ddynes gyntaf, Efa. Credodd hi’r celwydd a gwnaeth hwnnw arwain ein rhieni cyntaf i wrthryfela yn erbyn Jehofa. Oherwydd hynny, daeth pechod a marwolaeth i’r teulu dynol. (Gen. 3:​1-6; Rhuf. 5:12) Mae’r problemau i gyd rydyn ni’n eu gweld yn y byd—y marwolaethau, y rhyfeloedd, y gofid—wedi dod o ganlyniad i’r celwydd a ddywedodd Satan yng ngardd Eden. Ydy’r celwydd a’i ganlyniadau yn brifo Jehofa? Does dim dwywaith amdani. Er hynny i gyd, dydy Jehofa ddim yn chwerw nac yn digio, ond mae’n ‘Dduw hapus.’—1 Tim. 1:11.

3. Pa fraint sydd gynnon ni?

3 Mae gynnon ni’r fraint o gyfrannu at sancteiddio enw Jehofa drwy fod yn ufudd i’r gorchymyn hwn: “Molwch enw [Jehofa]!” (Salm 113:1) Rydyn ni’n gwneud hyn drwy siarad yn dda am y person y tu ôl i’r enw. A fyddi di’n gwneud hynny? Gad inni ystyried tri chymhelliad pwerus a fydd yn ein helpu ni i foli enw ein Duw gyda’n holl galon.

RYDYN NI’N PLESIO JEHOFA DRWY FOLI EI ENW

4. Pam rydyn ni’n plesio Jehofa pan ydyn ni’n moli ei enw? Eglura. (Gweler hefyd y llun.)

4 Rydyn ni’n plesio ein Tad nefol pan ydyn ni’n moli ei enw. (Salm 119:108) Ydy hynny’n golygu bod y Duw hollalluog yn debyg i bobl amherffaith sy’n crefu am foliant oherwydd eu bod nhw’n anghenus neu’n ansicr? Nac ydy. Ystyria eglureb. Mae merch fach yn taflu ei breichiau yn gariadus o gwmpas gwddf ei thad ac yn dweud, “Ti ydy’r tad gorau yn y byd!” Mae hyn yn plesio’r tad ac yn cyffwrdd â’i galon. Pam? A ddylen ni gymryd yn ganiataol ei fod yn ddyn ansicr sy’n dibynnu ar foliant ei blentyn? Na ddylen. Yn hytrach, rydyn ni’n meddwl amdano fel tad cryf sydd wrth ei fodd yn gweld ei ferch yn dangos cariad a gwerthfawrogiad. Mae’n gwybod bydd y rhinweddau hyn yn cyfrannu at ei hapusrwydd wrth iddi hi dyfu i fyny. Am resymau tebyg, pan ydyn ni’n moli Jehofa, mae’n ei blesio.

Yn union fel mae tad yn hapus pan mae ei blentyn yn dangos ei gariad ato, mae Jehofa yn hapus pan ydyn ni’n moli ei enw (Gweler paragraff 4)


5. Pa gelwydd gallwn ni helpu i wrthbrofi drwy foli enw Duw?

5 Pan ydyn ni’n moli ein tad nefol, rydyn ni’n helpu i wrthbrofi celwydd sy’n effeithio arnon ni’n bersonol. Mae Satan yn honni na fydd unrhyw berson dynol yn aros yn ffyddlon ac yn amddiffyn enw Duw pan fydd yn cael ei brofi. Mae’n dweud y bydden ni i gyd yn troi yn erbyn Duw petasen ni’n meddwl y bydden ni’n elwa. (Job 1:​9-11; 2:4) Ond gwnaeth ffyddlondeb Job brofi bod Satan yn dweud celwydd. Beth amdanat ti? Mae gan bob un ohonon ni’r fraint o sefyll i fyny dros enw ein Tad a’i blesio drwy ei wasanaethu yn ffyddlon. (Diar. 27:11) Mae’n anrhydedd i wneud hynny.

6. Sut gallwn ni efelychu’r Brenin Dafydd a’r Lefiaid? (Nehemeia 9:5)

6 Mae cariad tuag at Dduw yn ysgogi pobl ffyddlon i foli ei enw gyda chalon lawn. Ysgrifennodd y Brenin Dafydd: “Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Y cwbl ohono i, bendithia’i enw sanctaidd!” (Salm 103:1) Roedd Dafydd yn deall bod moli enw Jehofa yn golygu moli Jehofa ei hun. Pan ydyn ni’n clywed ei enw, mae’n ein hatgoffa ni o’i bersonoliaeth, ei rinweddau prydferth, a’i weithredoedd rhyfeddol. Roedd Dafydd eisiau trin enw ei Dad yn sanctaidd a’i foli. Roedd eisiau gwneud hyn gyda phopeth oedd ganddo—hynny ydy, gyda’i holl galon. Yn debyg, cymerodd y Lefiaid y blaen yn moli Jehofa a gwnaethon nhw gydnabod yn ostyngedig na fyddai eu geiriau byth yn gallu mynegi’r moliant y mae enw sanctaidd Jehofa yn ei haeddu. (Darllen Nehemeia 9:5.) Yn sicr, byddai Jehofa wedi bod yn hapus iawn yn derbyn eu moliant gostyngedig o’r galon.

7. Sut gallwn ni foli Jehofa yn y weinidogaeth ac yn ein bywydau bob dydd?

7 Heddiw, gallwn ni blesio Jehofa drwy siarad amdano gyda chynhesrwydd, diolchgarwch, a chariad. Ar y weinidogaeth, rydyn ni’n cofio ein prif nod—denu pobl at Jehofa er mwyn iddyn nhw deimlo fel rydyn ni am ein Tad nefol. (Iago 4:8) Rydyn ni’n llawenhau wrth ddangos i bobl sut mae’r Beibl yn disgrifio Jehofa, yn datgelu ei gariad, ei gyfiawnder, ei ddoethineb, ei bŵer, a’i rinweddau apelgar eraill. Rydyn ni hefyd yn moli Jehofa a’i blesio wrth geisio ei efelychu. (Eff. 5:1) Drwy wneud hynny rydyn ni’n sefyll allan yn wahanol yn y byd drygionus hwn, ac efallai bydd pobl yn sylwi ac yn gofyn pam. (Math. 5:​14-16) Wrth inni dreulio amser â nhw mae’n bosib cawn ni gyfle i esbonio. O ganlyniad, mae pobl ddiffuant yn cael eu denu at ein Duw. Pan ydyn ni’n moli Jehofa yn y ffyrdd hyn, rydyn ni’n dod â llawenydd i’n Tad.—1 Tim. 2:​3, 4.

RYDYN NI’N PLESIO IESU DRWY FOLI ENW JEHOFA

8. Sut mae Iesu wedi cymryd y blaen yn moli enw Duw?

8 Does neb yn y nefoedd nac ar y ddaear yn adnabod y Tad yn well na’r Mab. (Math. 11:27) Mae Iesu yn caru ei Dad, ac mae wedi cymryd y blaen yn moli enw Jehofa. (Ioan 14:31) Mewn gweddi i’w Dad ar y noson cyn iddo farw, gwnaeth grynhoi ei weinidogaeth ar y ddaear yn y ffordd hon: “Rydw i wedi rhoi gwybod iddyn nhw am dy enw di.” (Ioan 17:26) Beth mae hynny’n ei olygu?

9. Sut defnyddiodd Iesu ddameg i roi darlun clir o bersonoliaeth Jehofa?

9 Roedd Iesu yn gwneud mwy na datgelu mai enw Duw ydy Jehofa. Roedd yr Iddewon a oedd yn cael eu dysgu ganddo yn gwybod hynny. Roedd Iesu yn “esbonio pwy ydy Ef.” (Ioan 1:​17, 18) Er enghraifft, mae’r Ysgrythurau Hebraeg yn datgelu bod Jehofa yn drugarog ac yn dosturiol. (Ex. 34:​5-7) Mae’r gwirionedd hwn yn glir yn nameg Iesu am y mab colledig a’i dad. Pan ydyn ni’n darllen am y tad yn gweld ei fab edifar “tra oedd ef yn dal yn bell i ffwrdd,” yn rhedeg ato, yn ei gofleidio, ac yn maddau iddo o’i galon, rydyn ni’n gweld darlun clir o dosturi a thrugaredd Jehofa. (Luc 15:​11-32) Roedd Iesu yn helpu pobl i wir adnabod ei Dad.

10. (a) Sut rydyn ni’n gwybod bod Iesu wedi defnyddio enw personol ei Dad ac wedi annog eraill i wneud hynny hefyd? (Marc 5:19) (Gweler hefyd y llun.) (b) Beth mae Iesu eisiau inni ei wneud heddiw?

10 A oedd Iesu eisiau i bobl eraill ddefnyddio enw personol ei Dad? Yn bendant. Efallai fod rhai arweinwyr crefyddol y dydd yn meddwl bod enw Duw yn rhy sanctaidd i’w ddweud yn uchel, ond ni wnaeth Iesu adael i draddodiadau anysgrythurol ei stopio rhag anrhydeddu enw ei Dad. Ystyria’r amser pan wnaeth iacháu dyn roedd cythreuliaid wedi bod ynddo, yn ardal y Geraseniaid. Cododd ofn ar y bobl a gwnaethon nhw ymbil ar Iesu i fynd i ffwrdd o’r ardal, ac felly fe aeth. (Marc 5:​16, 17) Er hynny, roedd Iesu eisiau i enw Duw gael ei gyhoeddi yno. Felly, anfonodd y dyn a oedd wedi ei iacháu i ddweud wrth y bobl, nid beth roedd Iesu wedi ei wneud, ond beth roedd Jehofa wedi ei wneud. (Darllen Marc 5:19.) a Mae eisiau’r un fath heddiw—inni hysbysebu enw ei Dad drwy’r byd i gyd! (Math. 24:14; 28:​19, 20) Pan ydyn ni’n gwneud ein rhan, rydyn ni’n plesio ein Brenin, Iesu.

Dywedodd Iesu wrth y dyn roedd cythreuliaid wedi bod ynddo i adrodd wrth eraill am sut roedd Jehofa wedi ei helpu (Gweler paragraff 10)


11. Beth gwnaeth Iesu ddysgu i’w ddisgyblion ei gynnwys yn eu gweddïau, a pham mae hynny’n bwysig inni? (Eseciel 36:23)

11 Roedd Iesu’n gwybod mai pwrpas Jehofa oedd sancteiddio Ei enw a’i lanhau o unrhyw gerydd. Dyna pam gwnaeth ein meistr ddysgu ei ddilynwyr i weddïo: “Ein Tad yn y nefoedd, gad i dy enw gael ei sancteiddio.” (Math. 6:9) Roedd Iesu’n deall mai dyma oedd y mater mwyaf pwysig oedd yn wynebu’r holl greadigaeth. (Darllen Eseciel 36:23.) Does neb yn y bydysawd wedi gwneud mwy i sancteiddio enw Jehofa na Iesu. Er hynny, pan gafodd Iesu ei arestio, gwnaeth ei elynion ei gyhuddo o gablu! Byddai dod â gwarth ar enw ei Dad yn teimlo fel y pechod gwaethaf posib i Iesu. Teimlodd aflonyddwch mawr am gael ei gyhuddo a’i farnu’n euog o’r drosedd hon. Efallai dyna oedd y prif reswm i Iesu fod mewn “cymaint o boen meddwl” yn yr oriau olaf cyn iddo gael ei arestio.—Luc 22:​41-44.

12. Sut sancteiddiodd Iesu enw ei Dad yn y ffordd orau bosib?

12 Er mwyn sancteiddio enw ei Dad, cafodd Iesu ei arteithio, ei sarhau, a’i gamgyhuddo. Roedd yn gwybod ei fod wedi ufuddhau i’w Dad ym mhob peth; doedd ganddo ddim byd i deimlo cywilydd amdano. (Heb. 12:2) Roedd yn gwybod hefyd fod Satan yn ymosod arno’n uniongyrchol yn yr oriau anodd hynny. (Luc 22:​2-4; 23:​33, 34) Roedd Satan yn ceisio cael Iesu i blygu, ond gwnaeth ef fethu yn llwyr! Profodd Iesu yn llwyr fod Satan yn gelwyddgi creulon. Mae gan Jehofa weision sy’n aros yn ffyddlon, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd iawn!

13. Sut gelli di blesio dy Frenin?

13 Hoffet ti blesio dy Frenin? Parha i foli enw Jehofa, ac i helpu eraill i ddod i adnabod rhinweddau hyfryd ein Duw. Wrth iti wneud hyn, byddi di’n dilyn olion traed Iesu. (1 Pedr 2:21) Fel Iesu, rwyt ti’n gwneud calon Jehofa yn hapus ac yn profi bod Ei elyn, Satan, yn gelwyddgi!

RYDYN NI’N ACHUB BYWYDAU DRWY FOLI ENW JEHOFA

14-15. Pa bethau hyfryd sy’n digwydd o ganlyniad i ddysgu eraill am Jehofa?

14 Wrth inni foli enw Jehofa, rydyn ni’n achub bywydau. Sut? Wel, mae Satan wedi ‘dallu meddyliau’ yr anghredinwyr. (2 Cor. 4:4) O ganlyniad i hyn, maen nhw wedi dod i gredu celwyddau fel: Dydy Duw ddim wir yn bodoli, mae Duw yn bell oddi wrthon ni a does ganddo ddim ots am ddynolryw, mae Duw yn greulon ac yn cosbi pechaduriaid am byth. Pwrpas y celwyddau hyn i gyd yw lladd ar enw da Duw, fel na fydd gan unrhyw un yr awydd i nesáu ato. Ond mae ein gwaith pregethu yn stopio Satan rhag gwneud hynny, yn datgelu’r gwir am ein Duw, ac yn moli ei enw sanctaidd. Gyda pha ganlyniad?

15 Mae gwirioneddau Gair Duw yn hynod o bwerus. Drwy ddysgu eraill am bersonoliaeth Jehofa, rydyn ni’n gweld rhywbeth hyfryd. Wrth i gelwyddau Satan gael eu dinoethi, mae’r unigolion hyn yn dechrau gweld rhinweddau apelgar ein Tad. Mae ei bŵer di-ben-draw yn eu syfrdanu. (Esei. 40:26) Maen nhw’n dod i’w drystio oherwydd ei gyfiawnder perffaith. (Deut. 32:4) Maen nhw’n dysgu cymaint o’i ddoethineb anhygoel. (Esei. 55:9; Rhuf. 11:33) Ac mae’n gysur iddyn nhw wybod mai cariad ydy Duw. (1 Ioan 4:8) Wrth iddyn nhw nesáu at Dduw, mae eu gobaith o fyw am byth yn cael ei gryfhau. Mae gynnon ni’r fraint anhygoel o helpu eraill i ddod i adnabod eu Tad. Wrth inni wneud hyn, mae Jehofa yn ein hystyried fel “cyd-weithwyr” iddo.—1 Cor. 3:​5, 9.

16. Pa effaith mae dysgu enw Duw yn ei chael ar bobl? Rho enghreifftiau.

16 Efallai’r peth cyntaf rydyn ni’n dysgu i bobl ydy enw Duw. Gall hynny gael effaith enfawr ar y rhai sydd â’r agwedd gywir. Er enghraifft, cafodd dynes ifanc o’r enw Aaliyah b ei magu mewn crefydd nad oedd wedi ei seilio ar y Beibl. Ond doedd hi ddim yn hapus gyda’i chrefydd, nac yn teimlo’n agos i Dduw chwaith. Newidiodd hynny wrth iddi astudio gyda’r Tystion. Gwnaeth hi ddechrau gweld Duw fel ffrind iddi. Roedd hi wedi synnu i ddysgu bod nifer mawr o Feiblau wedi disodli enw Duw gyda theitlau fel Arglwydd. Roedd dysgu am Dduw yn drobwynt yn ei bywyd. Dywedodd hi: “Mae gan fy ffrind gorau enw!” Beth oedd y canlyniad? Aeth hi ymlaen i ddweud: “Mae gen i gymaint o heddwch nawr. Dw i mor ddiolchgar.” Mae gan gerddor o’r enw Steve gefndir Iddewig ceidwadol. Doedd ef ddim eisiau bod yn rhan o grefydd oherwydd yr holl ragrith roedd ef wedi ei weld. Ond ar ôl i’w fam farw, cytunodd i eistedd i mewn ar astudiaeth Feiblaidd gydag un o Dystion Jehofa. Gwnaeth dysgu enw Duw gyffwrdd â’i galon. Dywedodd: “Doeddwn i byth wedi dysgu enw Duw. Am y tro cyntaf, roeddwn i’n deall bod Duw yn real! Mae’n berson go iawn imi. Wnes i ffeindio ffrind.”

17. Pam rwyt ti’n benderfynol o ddal ati i foli enw Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)

17 A wyt ti’n rhannu enw sanctaidd Jehofa gyda phobl yn y weinidogaeth? A wyt ti’n eu helpu nhw i ddeall gwir bersonoliaeth Duw? Rwyt ti’n moli enw Duw drwy wneud hynny. Dal ati i foli enw sanctaidd Duw ac i helpu eraill i ddod i adnabod y Person y tu ôl i’r enw. Drwy wneud hynny, rwyt ti’n helpu i achub bywydau, yn dilyn arweiniad dy Frenin Iesu Grist, ac yn bwysicaf oll, rwyt ti’n plesio dy Dad cariadus, Jehofa. Rydyn ni eisiau iti foli Jehofa “am byth bythoedd!”—Salm 145:2.

Rydyn ni’n moli Jehofa drwy ddysgu ei enw i bobl a’u helpu nhw i ddod i adnabod y person y tu ôl i’r enw (Gweler paragraff 17)

SUT MAE MOLI ENW DUW . . .

  • yn plesio Jehofa?

  • yn plesio Iesu Grist?

  • yn achub bywydau?

CÂN 2 Jehofa Yw Dy Enw

a Mae ’na dystiolaeth gref sy’n awgrymu bod Marc wedi defnyddio’r enw dwyfol wrth ddyfynnu Iesu yn yr adnod hon. Felly, mae wedi cael ei adfer yn Cyfieithiad y Byd Newydd. Gweler y nodyn astudio ar yr adnod hon yn fersiwn astudio’r New World Translation of the Holy Scriptures.

b Newidiwyd rhai enwau.