Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bydda’n Llawen Wrth Ddisgwyl yn Amyneddgar am Jehofa

Bydda’n Llawen Wrth Ddisgwyl yn Amyneddgar am Jehofa

A WYT ti’n edrych ymlaen at yr amser pan fydd Jehofa’n cael gwared ar yr holl ddrygioni ac yn gwneud pob peth yn newydd? (Dat. 21:​1-5) Wrth gwrs dy fod ti! Ond, gall fod yn anodd aros yn amyneddgar am Jehofa, yn enwedig pan ydyn ni’n wynebu anawsterau. Gall gobaith sy’n cael ei ohirio dorri’r galon.—Diar. 13:12.

Er hynny, mae Jehofa yn disgwyl inni aros yn amyneddgar iddo weithredu ar yr amser iawn. Pam? Beth gall ein helpu ni i fod yn hapus wrth inni aros?

PAM MAE JEHOFA YN DISGWYL INNI AROS?

Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD yn disgwyl [yn amyneddgar, NWT] i gael trugarhau wrthych, ac yn barod i ddangos tosturi. Canys Duw cyfiawnder yw’r ARGLWYDD; gwyn ei fyd pob un sy’n disgwyl wrtho.” (Esei. 30:​18, BCND) Yn wreiddiol, roedd geiriau Eseia wedi eu cyfeirio at yr Iddewon ystyfnig. (Esei. 30:1) Ond, roedd ’na rai ffyddlon ymysg yr Iddewon. Rhoddodd y geiriau hyn obaith iddyn nhw ac maen nhw’n rhoi gobaith i bobl Dduw heddiw.

Felly, rhaid inni aros yn amyneddgar oherwydd dyna mae Jehofa yn ei wneud. Mae ganddo amser penodol i ddod â’r system hon i ben, ac mae’n aros am y dydd hwnnw a’r awr honno. (Math. 24:36) Bryd hynny, bydd yn gwneud yn gwbl glir bod cyhuddiadau’r Diafol yn ffals a bydd yn cael gwared arno ef a’r rhai sy’n ochri gydag ef. Ond, bydd Jehofa yn drugarog tuag aton ni.

Yn y cyfamser, efallai na fydd Jehofa yn cael gwared ar ein treialon, ond mae’n rhoi sicrwydd inni y gallwn ni fod yn hapus tra ein bod ni’n aros am rywbeth da ddigwydd, fel dywedodd Eseia. (Esei. 30:18) a Dyma bedair ffordd i dderbyn yr hapusrwydd hwn.

SUT I FOD YN HAPUS WRTH DDISGWYL

Canolbwyntia ar y pethau positif. Er bod y Brenin Dafydd wedi gweld llawer o ddrygioni, ysgrifennodd: “Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD. Paid digio pan wyt ti’n gweld pobl eraill yn llwyddo wrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys.” (Salm 37:​7, 35) Dyna a wnaeth Dafydd wrth iddo ganolbwyntio ar addewidion Jehofa i’w helpu a’i achub. Roedd Dafydd hefyd yn ofalus i sylwi a gwerthfawrogi ei fendithion oddi wrth Jehofa. (Salm 40:5) Os ydyn ni’n canolbwyntio ar y pethau da ac nid y drwg yn ein bywydau, bydd yn haws inni aros yn amyneddgar am Jehofa.

Defnyddia bob cyfle i foli Jehofa. Mae’n debyg mai Dafydd a ysgrifennodd Salm 71, lle mae’n dweud wrth Jehofa: “Ond byddaf fi’n disgwyl yn wastad, ac yn dy foli’n fwy ac yn fwy.” (Salm 71:​14, BCND) Sut byddai’n moli Jehofa? Drwy sôn amdano wrth eraill a chanu mawl iddo. (Salm 71:​16, 23) Fel Dafydd, gallwn ni fod yn llawen wrth ddisgwyl am Jehofa. Gallwn ni foli wrth bregethu, wrth siarad amdano gyda’n ffrindiau a’n teulu, a thrwy ganu iddo. Y tro nesaf iti ganu un o’n caneuon, meddylia’n ofalus am y geiriau a sut maen nhw’n rhoi llawenydd iti.

Treulia amser gyda dy frodyr a dy chwiorydd. Wrth iddo wynebu treialon, dywedodd Dafydd wrth Jehofa: “Dw i’n mynd i obeithio yn dy enw di. Mae’r rhai sy’n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti!” (Salm 52:9) Gallwn ni hefyd dderbyn anogaeth wrth inni dreulio amser gyda’n brodyr a’n chwiorydd yn ein cyfarfodydd, ar y weinidogaeth, ac wrth gymdeithasu gyda’n gilydd.—Rhuf. 1:​11, 12.

Cryfha dy obaith. Mae Salm 62:5 yn dweud: “Disgwyl di’n dawel am Dduw, fy enaid, achos fe ydy dy obaith di.” Mae gobaith cadarn yn cynnwys disgwyl yn hyderus—sy’n hanfodol os dydy’r diwedd ddim wedi dod mor fuan ag oedden ni eisiau. Rhaid inni fod yn hollol sicr bydd Jehofa yn gwireddu ei holl addewidion ni waeth faint rydyn ni wedi bod yn aros. Gallwn ni gryfhau ein gobaith drwy astudio Gair Duw—y proffwydoliaethau, ei harmoni mewnol, a’r manylion y mae Jehofa’n eu datgelu amdano’i hun. (Salm 1:​2, 3) Hefyd, rhaid inni weddïo am “help yr ysbryd glân” er mwyn cadw ein perthynas dda gyda Jehofa wrth inni aros am ei addewid o fyw am byth ddod yn wir.—Jwd. 20, 21.

Fel y Brenin Dafydd, bydda’n hyderus fod Jehofa’n gofalu am y rhai sy’n disgwyl amdano a’i fod yn cyfleu Ei gariad ffyddlon atyn nhw. (Salm 33:​18, 22) Arhosa yn amyneddgar am Jehofa drwy ganolbwyntio ar y pethau positif yn dy fywyd, drwy ei foli, drwy dderbyn anogaeth gan dy gyd-addolwyr, a thrwy gadw dy obaith gwerthfawr yn gryf.

a Mae’r term yn yr iaith wreiddiol, ‘disgwyl,’ yn gallu golygu “hiraethu neu obeithio am i rywbeth ddigwydd,” sy’n dangos ei fod yn normal inni eisiau i Jehofa ddod â’n dioddefaint i ben.