Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dau Aelod Newydd o’r Corff Llywodraethol

Dau Aelod Newydd o’r Corff Llywodraethol

AR DDYDD Mercher, Ionawr 18, 2023, gwnaeth cyhoeddiad arbennig ymddangos ar jw.org, yn dweud bod y Brodyr Gage Fleegle a Jeffrey Winder wedi cael eu penodi i wasanaethu fel aelodau o Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa. Mae gan y ddau frawd hanes hir o wasanaethu Jehofa yn ffyddlon.

Gage Fleegle a’i wraig, Nadia

Cafodd y Brawd Fleegle ei fagu yn y gwir gan ei rieni yn ochr orllewinol Pennsylvania, UDA. Pan oedd yn ei arddegau, gwnaeth ei deulu symud i dref fechan wledig lle roedd mwy o angen. Yn fuan ar ôl hynny, cafodd ei fedyddio ym mis Tachwedd 20, 1988.

Gwnaeth rhieni Brawd Fleegle ei galonogi i wasanaethu Jehofa’n llawn amser. Yn aml, gwnaethon nhw wahodd arolygwyr cylchdaith a brodyr a chwiorydd a oedd yn gwasanaethu yn y Bethel i’w cartref, ac roedd y Brawd Fleegle yn gallu gweld pa mor hapus roedd y brodyr a chwiorydd hynny. Ddim yn hir ar ôl iddo gael ei fedyddio, dechreuodd arloesi’n llawn amser—ar Fedi 1, 1989. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cyrhaeddodd ei nod oedd wedi ei osod pan oedd yn ddeuddeg oed—y nod o wasanaethu yn y Bethel. Dechreuodd ei aseiniad yn y Bethel yn Brooklyn yn Hydref 1991.

Yn y Bethel, gwnaeth y Brawd Fleegle weithio yn yr Adran Rwymo am wyth mlynedd, ond wedyn cafodd ei aseinio i’r Adran Wasanaeth. Yn ystod yr amser hwnnw, gwnaeth ef wasanaethu mewn cynulleidfa Rwseg am sawl blynedd. Ar ôl priodi Nadia yn 2006, gwnaethon nhw wasanaethu yn y Bethel gyda’i gilydd. Hefyd, maen nhw wedi gwasanaethu yn y maes Portiwgaleg, ac yn y maes Sbaeneg am dros ddeng mlynedd. Ar ôl llawer o flynyddoedd yn yr Adran Wasanaeth, cafodd y Brawd Fleegle aseiniad newydd i weithio ar y Pwyllgor Addysgu, ac yn nes ymlaen ar y Pwyllgor Gwasanaeth. Ym Mawrth 2022 cafodd ei benodi fel helpwr i Bwyllgor Gwasanaeth y Corff Llywodraethol.

Jeffrey Winder a’i wraig, Angela

Cafodd y Brawd Winder ei fagu yn y gwir yn Murrieta, California, UDA, a chafodd ei fedyddio ar Fawrth 29, 1986. Y mis nesaf, penderfynodd arloesi’n gynorthwyol. Roedd yn ei fwynhau gymaint nes ei fod eisiau cario ymlaen. Ar ôl sawl mis yn arloesi’n gynorthwyol, dechreuodd arloesi’n llawn amser ar Hydref 1, 1986.

Pan oedd yn ei arddegau, ymwelodd y Brawd Winder â’i ddau frawd oedd yn gwasanaethu yn y Bethel ar y pryd. Gwnaeth hynny wneud iddo eisiau gwasanaethu yn y Bethel pan oedd yn hŷn. Ac ym Mai 1990, cafodd ei wahodd i wasanaethu yn y Bethel, Wallkill.

Pan oedd y Brawd Winder yn y Bethel, gweithiodd mewn llawer o adrannau gan gynnwys yr Adran Glanhau, yr Adran Ffermio, a Swyddfa’r Bethel. Priododd Angela ym 1997, ac maen nhw wedi bod yn gwasanaethu yn y Bethel gyda’i gilydd ers hynny. Yn 2014, symudon nhw i Warwick, lle gwnaeth y Brawd Winder helpu gydag adeiladu’r pencadlys. Yn 2016, symudon nhw i Ganolfan Addysg y Watchtower yn Patterson, lle gweithiodd y Brawd Winder yn yr Adran Sain a Fideo. Pedair blynedd yn ddiweddarach, gwnaethon nhw symud yn ôl i Warwick, a derbyniodd y Brawd Winder aseiniad i weithio yn y Swyddfa Pwyllgor Personél. Ym Mawrth 2022, cafodd ei benodi fel helpwr i Bwyllgor Personél y Corff Llywodraethol.

Rydyn ni’n gweddïo bydd Jehofa’n bendithio’r dynion hyn sy’n “rhoddion,” i’w helpu nhw i barhau i weithio’n galed ar gyfer y Deyrnas.—Eff. 4:8.