Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Beth mae’r Beibl yn ei ddatgelu am allu Jehofa i ragfynegi’r dyfodol?

Mae’r Beibl yn dweud yn glir gall Jehofa ragfynegi’r dyfodol. (Esei. 45:21) Ond dydy’r Beibl ddim yn dweud wrthon ni yn union sut na phryd mae ef yn gwneud hynny, na faint mae’n penderfynu gwybod. Felly mae’n amhosib inni ddeall popeth am allu Jehofa i ragfynegi’r dyfodol. Er hynny, gad inni ystyried rhai o’r pethau rydyn ni yn eu deall.

Does gan Jehofa ddim cyfyngiadau heblaw am y rhai mae wedi eu gosod arno ef ei hun. Gall Jehofa ddefnyddio ei ddoethineb aruthrol i ragfynegi beth bynnag mae ef eisiau. (Rhuf. 11:33) Ond, oherwydd ei hunanreolaeth berffaith, weithiau mae’n penderfynu dal yn ôl rhag gwneud hynny.—Cymhara Eseia 42:14.

Mae Jehofa’n achosi i’w ewyllys ddigwydd. Mae Eseia 46:10 yn esbonio sut mae hynny’n berthnasol i’w allu i ragfynegi’r dyfodol. Mae’n dweud: “Dw i’n dweud o’r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i’n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; dw i’n cyflawni popeth dw i’n ei fwriadu.’”

Mae gan Jehofa y gallu i achosi i bethau ddigwydd, felly dyna un rheswm pam mae’n gallu rhagfynegi’r dyfodol. Dydy digwyddiadau’r dyfodol ddim wedi digwydd yn barod, a dydy Jehofa ddim yn neidio ymlaen i wylio’r digwyddiadau hynny o flaen llaw. Gall Jehofa benderfynu beth fydd yn digwydd, ac achosi i hynny ddigwydd ar yr amser mae ef wedi ei benodi.—Ex. 9:​5, 6; Math. 24:36; Act. 17:31.

Dyna pam mae’r Beibl yn defnyddio geiriau fel “trefnu,” ‘cynllunio,’ a ‘phwrpas’ i ddisgrifio beth mae Jehofa yn ei wneud ynglŷn â rhai digwyddiadau’r dyfodol. (2 Bren. 19:25; Esei. 46:11) Yn yr iaith wreiddiol, mae’r geiriau hyn yn perthyn i air sy’n golygu “crochenydd.” (Jer. 18:​3, 4) Gall Jehofa siapio digwyddiadau er mwyn cyflawni ei ewyllys, yn union fel gall crochenydd galluog greu llestr prydferth allan o lwmp o glai.—Eff. 1:11.

Mae Jehofa’n parchu ein hewyllys rhydd. Dydy Jehofa ddim yn gorfodi pob person i fyw mewn ffordd benodol nac yn achosi i bobl dda wneud rhywbeth a all arwain at farwolaeth. Mae’n dysgu i bawb y ffordd orau o fyw, ond mae’n rhaid iddyn nhw benderfynu dilyn ei arweiniad.

Ystyria ddwy esiampl. Yn gyntaf, pobl Ninefe. Gwnaeth Jehofa ragfynegi y byddai’r ddinas yn cael ei dinistrio oherwydd yr holl ddrygioni oedd yno. Ond pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw’n arfer eu gwneud, “wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny.” (Jona 3:​1-10) Defnyddiodd pobl Ninefe eu hewyllys rhydd i edifarhau ar ôl clywed rhybuddion Jehofa. Felly, newidiodd Jehofa ei feddwl.

Nesaf, gad inni ystyried y broffwydoliaeth am ddyn o’r enw Cyrus, a fyddai’n rhyddhau’r Iddewon ac yn gorchymyn i’r deml gael ei hailadeiladu. (Esei. 44:26–45:4) Gwnaeth y Brenin Cyrus o Persia gyflawni’r broffwydoliaeth hon. (Esra 1:​1-4) Ond doedd Cyrus ddim yn addoli’r gwir Dduw. Defnyddiodd Jehofa Cyrus i gyflawni proffwydoliaeth heb amharu ar ei hawl i ddewis pwy i’w addoli.—Diar. 21:1.

Wrth gwrs, rydyn ni dim ond wedi ystyried rhai o’r ffactorau. Mae’n amhosib inni ddeall popeth mae Jehofa yn ei ddweud ac yn ei wneud. (Esei. 55:​8, 9) Ond, mae’r hyn mae Jehofa wedi ei ddatgelu inni yn cryfhau ein ffydd fod Jehofa bob tro yn gwneud beth sy’n iawn—gan gynnwys pan mae’n rhagfynegi’r dyfodol.