Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Pam mae’r Beibl yn ailadrodd ei hun?

WEITHIAU roedd ysgrifenwyr y Beibl yn ailadrodd yr un brawddegau gair am air. Ystyria tri ffactor a allai esbonio pam gwnaeth yr ysgrifenwyr hyn:

Pan gafodd ei ysgrifennu. Yn Israel gynt, doedd gan y rhan fwyaf o’r bobl ddim copïau personol o’r gyfraith. Felly, roedden nhw ond yn clywed y gyfraith pan oedden nhw’n ymgasglu o flaen y Tabernacl. (Deut. 31:​10-12) Yn ôl pob tebyg, roedd llawer o bethau yn tynnu sylw y bobl wrth iddyn nhw sefyll am oriau mewn tyrfa fawr. (Neh. 8:​2, 3, 7) Ar adegau felly, roedd ailadrodd ymadroddion allweddol yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw gofio’r ysgrythurau a’u rhoi nhw ar waith. Byddai ailadrodd geiriau penodol wedi eu helpu nhw i gofio manylion pwysig fel cyfreithiau Duw.—Lef. 18:​4-22; Deut. 5:1.

Sut cafodd ei ysgrifennu. Caneuon yw tua 10% o’r Beibl—gan gynnwys y Salmau, Caniad Solomon, a Galarnad. Weithiau roedd caneuon yn ailadrodd geiriau penodol. Er enghraifft, sylwa ar eiriau Salm 115:​9-11: “Israel, cred di yn yr ARGLWYDD! Fe sy’n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di. Chi offeiriaid, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy’n eich helpu ac yn eich amddiffyn chi. Chi sy’n addoli’r ARGLWYDD, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy’n eich helpu chi ac yn eich amddiffyn chi.” Roedd ailadrodd geiriau yn pwysleisio thema’r gân, ac yn helpu’r gwrandawyr a’r cantorion i gofio’r geiriau ac i drysori gwirioneddau hyfryd.

Pam cafodd ei ysgrifennu. Weithiau roedd ysgrifenwyr y Beibl yn ailadrodd geiriau a brawddegau pwysig. Er enghraifft, roedd Moses yn ailadrodd y rheswm tu ôl i orchymyn Jehofa am beidio bwyta gwaed dro ar ôl tro. Roedd Jehofa eisiau pwysleisio i’r Israeliaid fod y bywyd yn y gwaed, ac mae gwaed felly yn cynrychioli bywyd. (Lef. 17:​11, 14) Yn nes ymlaen, wrth i’r apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem restru pa bethau i osgoi er mwyn plesio Jehofa, gwnaethon nhw bwysleisio eto yr angen i osgoi gwaed.—Act. 15:​20, 29.

Dydy Jehofa ddim eisiau inni ailadrodd ymadroddion o’r Beibl heb feddwl. Er enghraifft, dywedodd Iesu: “Wrth weddïo, peidiwch â dweud yr un pethau drosodd a throsodd.” (Math. 6:7) Yna, aeth ati i sôn am bynciau addas gallwn ni gynnwys yn ein gweddïau sy’n unol ag ewyllys Duw. (Math. 6:​9-13) Felly, er ein bod ni’n osgoi ailadrodd yr un geiriau drosodd a throsodd, mae ’na groeso inni sôn am yr un pynciau dro ar ôl tro.—Math. 7:​7-11.

Felly mae Gair Duw yn ailadrodd geiriau ac ymadroddion penodol am resymau da. Mae’n un o’r llawer o ffyrdd mae Jehofa, ein Haddysgwr Mawr, yn ei ddefnyddio i’n dysgu ni er ein lles.—Esei. 48:​17, 18.