Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AWGRYMIAD AR GYFER ASTUDIO

Dod o Hyd i Drysorau Ysbrydol er Mwyn Eu Rhoi ar Waith

Dod o Hyd i Drysorau Ysbrydol er Mwyn Eu Rhoi ar Waith

Wrth ddarllen y Beibl, rydyn ni’n gallu dod o hyd i drysorau ysbrydol drwy wneud ymchwil. Ond sut gallwn ni elwa’n fwy o hynny?

Tala sylw i’r manylion am hanesion y Beibl. Er enghraifft, pwy ysgrifennodd yr hanes, i bwy gafodd ei ysgrifennu, a phryd? Beth oedd yr amgylchiadau, beth ddigwyddodd yn gynharach, a beth ddigwyddodd wedyn?

Ceisia ddeall y wers drwy ymchwilio cwestiynau fel: ‘Sut roedd y bobl hynny’n teimlo? Pa agweddau roedden nhw’n eu dangos? Pam y dylen ni un ai efelychu’r agweddau hynny neu eu hosgoi nhw?’

Rho ar waith y gwersi rwyt ti’n eu dysgu, efallai yn y weinidogaeth neu wrth drin pobl eraill. Wrth wneud hyn, rwyt ti’n dangos doethineb duwiol, fel mae’r Beibl yn ei ddweud: “Dylai’r rhai sy’n ddoeth gymryd sylw o’r pethau hyn.”—Salm 107:43.

  • Tria hyn: Sylwa ar sut mae’r wybodaeth sydd yn y rhan Trysorau O Air Duw yn y cyfarfod canol wythnos yn ein helpu ni i roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu. Mae’r rhan hon yn aml yn cynnwys cwestiynau y gallwn ni eu gofyn i ni’n hunain, pwyntiau y gallwn ni fyfyrio arnyn nhw, a lluniau y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw.