Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Mae Fy Ngwendidau Wedi Amlygu Nerth Duw

Mae Fy Ngwendidau Wedi Amlygu Nerth Duw

PAN symudodd fy ngwraig a minnau i Colombia ym 1985, roedd y wlad yn lle hynod o beryglus. Roedd y llywodraeth yn brwydro yn erbyn cartelau cyffuriau yn y dinasoedd, a milwyr gerila yn y mynyddoedd. Yn ardal Medellín, lle roedden ni’n gwasanaethu yn nes ymlaen, roedd gangiau o bobl ifanc gydag arfau yn rheoli’r strydoedd. Roedden nhw’n gwerthu cyffuriau anghyfreithlon, yn gwneud i bobl dalu arian iddyn nhw i beidio â brifo nhw, ac yn llofruddio pobl am arian. Doedd yr un ohonyn nhw’n byw yn hir iawn. Roedden ni’n teimlo fel ein bod ni mewn byd gwahanol.

Beth roedd dau berson cyffredin o’r Ffindir, un o wledydd mwyaf gogleddol y byd, yn ei wneud yn Ne America? A pha wersi rydw i wedi eu dysgu dros y blynyddoedd?

FY MYWYD YN Y FFINDIR

Ces i fy ngeni ym 1955, yr ieuengaf o dri bachgen. Ces i fy magu ar arfordir deheuol y Ffindir, mewn ardal sy’n cael ei galw nawr y ddinas o Vantaa.

Cafodd fy mam ei bedyddio fel un o Dystion Jehofa ychydig o flynyddoedd cyn imi gael fy ngeni. Ond, roedd fy nhad yn gwrthwynebu’r gwir a doedd ddim yn caniatáu i fy mam astudio gyda ni nac ein cymryd ni i’r cyfarfodydd. Felly, gwnaeth fy mam ddysgu gwirioneddau sylfaenol y Beibl inni pan doedd fy nhad ddim o gwmpas.

Gwnes i ochri gyda Jehofa pan oeddwn i’n saith mlwydd oed

Ers adeg fy mhlentyndod, rydw i wedi ochri gyda Jehofa. Er enghraifft, unwaith pan oeddwn i’n saith, gwnaeth fy athrawes wylltio gyda fi oherwydd doeddwn i ddim am fwyta verilättyjä (crempog o’r Ffindir wedi ei gwneud â gwaed). Gwnaeth hi geisio agor fy ngheg ag un llaw, a gyda’r llall, trio gwthio fforc gyda darn o’r grempog i mewn i fy ngheg. Llwyddais i gnocio’r fforc o’i llaw.

Pan oeddwn i’n 12 oed, bu farw fy nhad. Ar ôl hynny, roeddwn i’n gallu mynd i’r cyfarfodydd. Roedd y brodyr yn y gynulleidfa yn garedig a dangoson nhw ddiddordeb yno i. Gwnaeth hynny fy helpu i wneud cynnydd ysbrydol. Dechreuais ddarllen y Beibl bob dydd ac astudio ein cyhoeddiadau Cristnogol o ddifri. Roedd yr arferion astudio hyn yn allweddol imi gael fy medyddio pan oeddwn i’n 14 oed, ar Awst 8, 1969.

Yn fuan ar ôl imi adael yr ysgol, dechreuais arloesi. O fewn ychydig o wythnosau, symudais i Pielavesi, yng nghanol y Ffindir, i wasanaethu lle roedd mwy o angen.

Yn Pielavesi, wnes i gyfarfod Sirkka, a ddaeth i fod yn wraig annwyl imi. Roedd ei gwyleidd-dra a’i hysbrydolrwydd yn fy nenu i ati. Doedd hi ddim yn edrych am fywyd moethus na phwysigrwydd. Roedd y ddau ohonon ni eisiau gwneud ein gorau glas i wasanaethu Jehofa, ac roedden ni’n barod i wneud unrhyw aseiniad. Gwnaethon ni briodi ar Fawrth 23, 1974. Yn lle mynd ar fis mêl, gadawon ni i wasanaethu yn Karttula, lle roedd ’na hyd yn oed fwy o angen am bregethwyr.

Y tŷ roedden ni’n ei rentu yn Karttula, y Ffindir

GWNAETH JEHOFA EDRYCH AR EIN HOLAU NI

Y car a roddodd fy mrawd inni

O adeg ein priodas ymlaen, mae Jehofa wedi dangos y byddai’n gofalu am ein hanghenion materol os ydyn ni’n ceisio yn gyntaf ei Deyrnas. (Math. 6:33) Er enghraifft, pan oedden ni yn Karttula, roedden ni’n teithio o gwmpas ar feic. Ond yn y gaeaf, roedd y tymheredd yn disgyn o dan y pwynt rhewi. Er mwyn pregethu i’n tiriogaeth fawr, roedd yn rhaid inni gael car. Ond, doedden ni ddim yn gallu fforddio un.

Yn annisgwyl, daeth fy mrawd hŷn i’n gweld ni, a chynigiodd roi ei gar inni. Roedd wedi talu am yr yswiriant yn barod. Y cwbl roedd rhaid inni ei wneud oedd prynu tanwydd. Ar ôl hynny, roedd gynnon ni’r car roedd ei angen arnon ni.

Roedd Jehofa wedi dangos inni ei fod yn gofalu am ein hanghenion materol. Beth roedd rhaid inni ei wneud oedd blaenoriaethu gwaith y Deyrnas.

YSGOL GILEAD

Ein dosbarth Ysgol Arloesi ym 1978

Pan oedden ni’n mynychu Ysgol Arloesi ym 1978, gwnaeth Raimo Kuokkanen, a un o’n hyfforddwyr, ein hannog ni i roi cais i mewn am Ysgol Gilead. Felly, dechreuon ni ddysgu Saesneg i fod yn gymwys i fynychu. Ond ym 1980, cyn inni gael cyfle i roi cais i mewn, cawson ni wahoddiad i wasanaethu yn y gangen yn y Ffindir. Bryd hynny, doedd aelodau’r Bethel ddim yn gallu rhoi cais i mewn i fynd i Gilead. Ond, roedden ni eisiau i Jehofa ddewis lle dylen ni wasanaethu, yn hytrach na mynd lle roedden ni eisiau bod. Felly derbynion ni’r gwahoddiad. Er hynny, dalion ni ati i ddysgu Saesneg, rhag ofn bod y cyfle i fynd i Gilead yn codi yn y dyfodol.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, caniataodd y Corff Llywodraethol i aelodau Bethel roi ceisiadau i mewn ar gyfer Gilead. Gwnaethon ni lenwi ein ffurflenni yn syth, ond nid oherwydd ein bod ni’n anhapus yn y Bethel. I’r gwrthwyneb! Roedden ni eisiau bod ar gael i wasanaethu lle roedd ’na fwy o angen, os oedden ni’n gymwys. Cawson ni ein gwahodd i Gilead, a gwnaethon ni raddio o ddosbarth 79 ym mis Medi 1985. Ein haseiniad oedd Colombia.

EIN HASEINIAD CYNTAF FEL CENHADON

Yn Colombia, ein haseiniad cyntaf oedd i’r swyddfa gangen. Gwnes i drio fy ngorau yn fy aseiniad, ond ar ôl blwyddyn yn y gangen, teimlais fod angen newid arnon ni. Am y tro cyntaf a’r unig dro yn fy mywyd, gofynnais am aseiniad newydd. Yna, cawson ni ein haseinio fel cenhadon maes i ddinas Neiva, yn ardal Huila.

Rydw i o hyd wedi mwynhau’r weinidogaeth. Fel arloeswr ifanc yn y Ffindir, roeddwn i weithiau yn pregethu o gynnar yn y bore tan hwyr yn y nos. Ac ar ôl i Sirkka a minnau briodi, roedden ni’n treulio dyddiau llawn yn y weinidogaeth. Pan oedden ni’n gweithio tiriogaethau oedd yn bell i ffwrdd, roedden ni’n cysgu yn y car. Roedd hyn yn ein helpu ni i beidio â gwastraffu amser yn teithio, ac yn ein helpu ni i ddechrau’n gynnar y bore wedyn.

Fel cenhadon maes, roedden ni unwaith eto’n teimlo’n selog iawn am y weinidogaeth. Roedd y gynulleidfa’n tyfu, ac roedd ein brodyr a’n chwiorydd yn Colombia mor hapus, caredig, a diolchgar.

GRYM GWEDDI

Yn agos i’n haseiniad yn Neiva, roedd ’na drefi heb unrhyw Dystion ynddyn nhw. Roedden ni’n poeni am sut byddai’r newyddion da yn cyrraedd yr ardaloedd hynny. Ond oherwydd rhyfeloedd gerila, doedd hi ddim yn saff i bobl tramor fynd yno. Gweddïais am i rywun o’r trefi hynny ddod yn Dyst, ond roeddwn i’n meddwl y byddai’n rhaid iddo fyw yn Neiva i ddysgu’r gwir. Gweddïais hefyd y byddai person felly yn aeddfedu’n ysbrydol ar ôl bedydd ac yna’n mynd yn ôl i’w dref i bregethu. Dylwn i fod wedi sylweddoli bod Jehofa yn gwybod sut i ddatrys y broblem yn well na fi.

Yn fuan wedyn, dechreuais astudiaeth gyda dyn ifanc o’r enw Fernando González. Roedd yn byw yn Algeciras, un o’r trefi lle nad oedd unrhyw Dystion. Roedd Fernando yn teithio dros 30 milltir (50 km) ar gyfer gwaith. Roedd yn paratoi’n dda ar gyfer pob astudiaeth, a dechreuodd ddod i’r cyfarfodydd yn syth. O wythnos gyntaf ei astudiaeth ymlaen, roedd Fernando yn cael pobl eraill o’i dref at ei gilydd a rhannu â nhw beth roedd yn ei ddysgu ar ei astudiaeth Feiblaidd.

Gyda Fernando ym 1993

Cafodd Fernando ei fedyddio yn Ionawr 1990, chwe mis ar ôl iddo ddechrau astudio. Yna, dechreuodd arloesi’n llawn amser. Gydag un Tyst lleol yn Algeciras, roedd hi’n ddigon saff i’r swyddfa gangen aseinio arloeswyr arbennig i’r ardal. Yn Chwefror 1992, cafodd cynulleidfa ei ffurfio yn y dref honno.

A wnaeth Fernando gyfyngu ei weinidogaeth i’w filltir sgwâr? Naddo! Ar ôl iddo briodi, gwnaeth Fernando a’i wraig symud i San Vicente del Caguán, tref arall lle doedd ’na ddim Tystion. Yna, gwnaethon nhw helpu i sefydlu cynulleidfa newydd. Yn 2002, cafodd Fernando ei benodi’n arolygwr cylchdaith, ac mae ef a’i wraig Olga yn dal i wneud gwaith cylch hyd heddiw.

Gwnaeth y profiad hwn ddysgu imi’r pwysigrwydd o fod yn benodol yn fy ngweddïau am bethau sy’n ymwneud â fy aseiniad. Mae Jehofa’n gwneud pethau sydd y tu hwnt i’n gallu ni. Wedi’r cyfan, ei gynhaeaf ef ydy hwn, nid ein un ni.—Math. 9:38.

MAE JEHOFA YN RHOI INNI’R “DYMUNIAD A’R GRYM I WEITHREDU”

Ym 1990 cawson ni ein haseinio i’r gwaith teithio. Roedd ein haseiniad cyntaf yn Bogotá, y brif ddinas. Roedden ni’n poeni rhywfaint am yr aseiniad. Mae fy ngwraig a minnau yn bobl gyffredin, heb unrhyw dalentau arbennig. A doedden ni ddim wedi arfer byw mewn dinas fawr. Ond, gwnaeth Jehofa gyflawni ei addewid sydd yn Philipiaid 2:13: “Duw yw’r un sy’n rhoi egni ichi yn ogystal â’r dymuniad a’r grym i weithredu, am ei fod yn dymuno gwneud hynny.”

Yn nes ymlaen, cawson ni ein haseinio i gylchdaith yn ardal Medellín, y ddinas soniais amdani ar y dechrau. Roedd trais ar y strydoedd wedi dod mor gyffredin, doedd ddim yn codi ofn ar bobl bellach. Un tro, pan oeddwn i’n cynnal astudiaeth Feiblaidd yn nhŷ rhywun, dechreuodd pobl saethu ar y stryd. Roeddwn i’n barod i syrthio i’r llawr, ond gwnaeth y myfyriwr ddal ati i ddarllen y paragraff, heb gynhyrfu dim. Ar ôl gorffen darllen, esgusododd ei hun ac aeth y tu allan. Ar ôl tipyn, daeth yn ôl gyda dau blentyn bach a dweud: “Mae’n ddrwg gen i, ond roedd rhaid imi nôl fy mhlant.”

Roedd ’na amserau eraill pan oedden ni mewn peryg. Ar un achlysur, pan oedden ni’n mynd o ddrws i ddrws, rhedodd fy ngwraig ata i yn llawn ofn. Dywedodd hi fod rhywun wedi saethu ati. Gwnaeth hynny fy nychryn i. Ond yn nes ymlaen, sylweddolon ni bod y saethwr wedi bod yn anelu at ddyn oedd yn pasio heibio Sirkka.

Mewn amser, dysgon ni sut i ddelio â’r holl drais. Roedd y Tystion lleol wedi arfer wynebu sefyllfaoedd fel hyn a rhai llawer gwaeth, ac roedd eu dyfalbarhad nhw yn ein calonogi ni. Daethon ni i’r casgliad, os oedd Jehofa yn eu helpu nhw, byddai ef yn ein helpu ni hefyd. Roedden ni’n wastad yn gwrando ar gyngor yr henuriaid lleol, yn cymryd camau ymarferol i ddiogelu ein hunain, a gadael y gweddill yn nwylo Jehofa.

Wrth gwrs, doedd rhai sefyllfaoedd ddim mor beryglus â hynny. Er enghraifft, pan oeddwn i ar un alwad, clywais beth oedd yn swnio fel dwy ddynes yn sgrechian ar ei gilydd y tu allan i’r tŷ. Doeddwn i ddim eisiau gweld y ddadl, ond gwnaeth y deiliad fy mherswadio i fynd draw i’r patio. Yna, gwelais fod y “ffrae” ond yn ddau barot a oedd yn dynwared y cymdogion.

BREINTIAU A HERIAU YCHWANEGOL

Ym 1997, ces i fy mhenodi yn athro ar gyfer yr Ysgol Hyfforddi Gweinidogaethol. b Roeddwn i’n wastad yn mwynhau mynychu ysgolion theocrataidd, ond doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i’n cael y fraint o fod yn athro ar un.

Yn nes ymlaen, roeddwn i’n gwasanaethu fel arolygwr rhanbarth. Pan ddaeth y rôl honno i ben, es i’n ôl i’r gwaith cylch. Felly, rydw i wedi mwynhau gweithio fel arolygwr teithiol a hyfforddwr am dros 30 o flynyddoedd. Mae’r aseiniadau hyn wedi dod â llawer o fendithion imi. Ond, dydy popeth ddim wedi bod yn hollol ddidrafferth. Gad imi egluro.

Mae gen i bersonoliaeth gref. Mae hyn wedi fy helpu i wynebu sefyllfaoedd anodd. Ond ar adegau, rydw i wedi bod yn rhy selog wrth geisio cywiro pethau yn y cynulleidfaoedd. Ar adegau, rydw i wedi annog pobl yn gryf i fod yn garedig ac yn rhesymol gydag eraill. Yn eironig ddigon, dyna oedd yr achlysuron pan oedd rhaid imi weithio ar y rhinweddau hynny.—Rhuf. 7:​21-23.

Rydw i wedi teimlo’n ddigalon ar adegau oherwydd fy methiannau. (Rhuf. 7:24) Dywedais wrth Jehofa unwaith mewn gweddi y byddai’n well imi adael fy aseiniad cenhadol a mynd yn ôl i’r Ffindir. Y noson honno, es i i’r cyfarfod. Roedd yr anogaeth ges i yn y cyfarfod hwnnw yn fy mherswadio i aros yn fy aseiniad, ac i ddal ati i weithio ar fy amherffeithion. Mae meddwl am y ffordd glir wnaeth Jehofa ateb y weddi honno yn dal i gyffwrdd fy nghalon hyd heddiw. Hefyd, rydw i’n ddiolchgar iawn ei fod wedi fy helpu yn garedig i ddod dros fy ngwendidau.

EDRYCH I’R DYFODOL Â HYDER

Mae Sirkka a minnau yn ddiolchgar iawn am y fraint o gael gwasanaethu Jehofa’n llawn amser am y rhan fwyaf o’n bywyd. Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn i Jehofa am roi gwraig mor gariadus a ffyddlon imi am yr holl flynyddoedd hyn.

Yn fuan bydda i’n troi’n 70 oed a bydd rhaid imi stopio gwasanaethu fel hyfforddwr ac arolygwr teithiol. Ond dydw i ddim yn teimlo’n ddigalon am hyn. Pam ddim? Oherwydd fy mod i’n sicr mai’r ffordd orau o anrhydeddu Jehofa yw drwy ei wasanaethu yn wylaidd a’i foli gyda chariad a diolchgarwch. (Mich. 6:8; Marc 12:​32-34) Does dim rhaid inni gael aseiniad pwysig i ddod â chlod i Jehofa.

Dydw i ddim yn well nag unrhyw un arall nac yn fwy galluog chwaith. Ddim o bell ffordd! Wrth edrych yn ôl, rydw i’n gweld bod Jehofa, allan o’i gariad rhyfeddol, wedi rhoi’r breintiau hyn imi er gwaethaf fy ngwendidau. Dwi’n gwybod, dim ond gyda help Jehofa rydw i wedi gallu cyflawni’r aseiniadau hyn. O ganlyniad, mae fy ngwendidau wedi amlygu nerth Duw.—2 Cor. 12:9.

a Cafodd hanes bywyd Raimo Kuokkanen, “Determined to Serve Jehovah,” ei gyhoeddi yn rhifyn Ebrill 1, 2006, o’r Tŵr Gwylio.

b Mae’r ysgol hon wedi ei disodli gan yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas.