Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 14

CÂN 56 Gwna i’r Gwir Wir Fyw!

‘Bwrw Ymlaen at Aeddfedrwydd’

‘Bwrw Ymlaen at Aeddfedrwydd’

“Gadewch inni fwrw ymlaen at aeddfedrwydd.”HEB. 6:1.

PWRPAS

Deall sut mae Cristion aeddfed yn meddwl ac yn ymddwyn yn unol ag ewyllys Duw ac yn gwneud penderfyniadau doeth.

1. Beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud?

 MAE’N dod â chymaint o hapusrwydd i gwpl priod pan maen nhw’n cael babi bach sy’n iach. Mae’r rhieni yn caru eu babi yn fawr iawn ac maen nhw eisiau iddo dyfu. Bydden nhw’n poeni os na fyddai ef yn tyfu. Mewn ffordd debyg, mae Jehofa’n hapus iawn pan ydyn ni’n cymryd ein camau cyntaf fel dilynwyr Iesu, ond dydy Ef ddim eisiau inni aros fel plant bach mewn ffordd ysbrydol. (1 Cor. 3:1) Yn hytrach, mae eisiau inni dyfu i fod yn ‘oedolion o ran ein dealltwriaeth’ ysbrydol.—1 Cor. 14:20.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Beth mae’n ei olygu i fod yn Gristion aeddfed? Sut gallwn ni aeddfedu fel Cristnogion? Sut gall bwyd ysbrydol solet ein helpu ni i dyfu? A pham dylen ni osgoi bod yn orhyderus? Byddwn ni’n trafod yr atebion i’r cwestiynau hyn yn yr erthygl hon.

BETH MAE’N EI OLYGU I DDOD YN GRISTION AEDDFED?

3. Beth mae’n ei olygu i ddod yn oedolion mewn ffordd ysbrydol?

3 Yn y Beibl, gall y gair Groeg sydd wedi cael ei gyfieithu “oedolion” hefyd olygu “aeddfed,” “perffaith,” neu “llawn.” a (1 Cor. 2:6) Yn union fel mae babi yn tyfu nes ei fod yn oedolyn, rydyn ni’n aeddfedu fel Cristnogion pan mae ein perthynas â Jehofa yn tyfu. Wrth gwrs, hyd yn oed os ydyn ni wedi cyrraedd y nod hwnnw, dylen ni geisio gwella o hyd. (1 Tim. 4:15) Gall pob un ohonon ni, hyd yn oed y rhai ifanc, fod yn aeddfed yn ysbrydol. Ond beth sy’n dangos bod Cristion wedi aeddfedu?

4. Sut byddi di’n disgrifio Cristion aeddfed?

4 Mae Cristion aeddfed yn byw’n unol â phob un o safonau Duw yn hytrach na dewis pa rai mae ef eisiau eu dilyn. Wrth gwrs, fel person amherffaith, bydd ef yn gwneud camgymeriadau. Ond ar y cyfan, bydd yn dangos ei fod yn gwneud ei orau glas i feddwl ac i ymddwyn yn y ffordd mae Jehofa eisiau. Mae wedi rhoi amdano’r bersonoliaeth newydd ac yn trio meddwl fel Jehofa bob dydd. (Eff. 4:​22-24) Mae wedi dysgu sut i wneud penderfyniadau doeth ar sail cyfreithiau ac egwyddorion Jehofa, felly does dim angen am restr hir o reolau. Ac unwaith iddo wneud penderfyniad, mae ganddo ddigon o hunanreolaeth i weithredu arno.—1 Cor. 9:​26, 27.

5. Beth all ddigwydd i Gristion sydd heb aeddfedu? (Effesiaid 4:​14, 15)

5 Ar y llaw arall, gall Cristion sydd heb aeddfedu gael ei dwyllo gan ‘gynllwynion cyfrwys,’ damcaniaethau am gynllwynion, a gwybodaeth wrthgiliol. b (Darllen Effesiaid 4:​14, 15.) Efallai bydd ganddo dueddiad i fod yn genfigennus, i gweryla, i wylltio, neu i ildio i demtasiwn.—1 Cor. 3:3.

6. Rho eglureb i ddisgrifio sut rydyn ni’n aeddfedu’n ysbrydol. (Gweler hefyd y llun.)

6 Fel rydyn ni wedi ei drafod, mae’r Beibl yn cymharu aeddfedu’n ysbrydol â’r broses o blentyn yn tyfu i fod yn oedolyn. Mae ’na lawer dydy plant ddim yn eu deall, felly mae’n rhaid i oedolion eu gwarchod a’u helpu nhw. Er enghraifft, efallai bydd mam yn gofyn i’w merch i ddal ei llaw wrth groesi’r ffordd. Wrth i’r ferch dyfu i fyny, efallai bydd y fam yn gadael i’w merch groesi’r ffordd ar ei phen ei hun, ond bydd hi’n dal i atgoffa ei merch i edrych i’r chwith ac i’r dde cyn croesi. Wrth i’r ferch droi’n oedolyn, mae hi’n osgoi peryglon o’r fath ar ei phen ei hun. Mewn ffordd debyg, mae Cristnogion anaeddfed angen help Cristnogion aeddfed er mwyn osgoi peryglon ysbrydol ac i wneud penderfyniadau doeth. Ar y llaw arall, wrth i Gristnogion aeddfed wneud penderfyniadau, maen nhw’n ceisio safbwynt Jehofa ar y mater drwy fyfyrio ar egwyddorion y Beibl a’u rhoi nhw ar waith.

Mae’n rhaid i Gristnogion anaeddfed ddysgu sut i resymu ar egwyddorion o’r Beibl i wneud penderfyniadau doeth (Gweler paragraff 6)


7. A oes angen help ar Gristnogion aeddfed?

7 Ydy hynny’n golygu fydd Cristion aeddfed byth angen help? Nac ydy. Mae’n rhaid iddyn nhw ofyn am help o bryd i’w gilydd hefyd. Ond efallai bydd rhywun sy’n dal i dyfu’n ysbrydol yn disgwyl i eraill ddweud wrtho beth i’w wneud neu i wneud penderfyniad drosto. Yn wahanol i hynny, bydd Cristion aeddfed yn gwerthfawrogi profiad a doethineb pobl eraill, ac ar yr un pryd cydnabod bod Jehofa yn disgwyl iddo ‘gario ei lwyth ei hun.’—Gal. 6:5.

8. Ym mha ffyrdd mae Cristnogion aeddfed yn wahanol?

8 Yn union fel gall pobl edrych yn wahanol i’w gilydd, gall Cristnogion aeddfed fod yn wahanol o ran eu rhinweddau gan gynnwys doethineb, dewrder, haelioni, ac empathi. Wrth i ddau Gristion wynebu’r un sefyllfa, gallen nhw wneud penderfyniadau gwahanol sy’n cytuno â’r Beibl. Gall hyn ddigwydd yn aml wrth wneud penderfyniadau ar sail y gydwybod. Felly, byddai’n dda inni osgoi barnu pobl eraill am wneud penderfyniadau gwahanol. Yn hytrach, dylen ni ganolbwyntio ar gadw ein hundod.—Rhuf. 14:10; 1 Cor. 1:10.

SUT GALLWN NI AEDDFEDU FEL CRISTNOGION?

9. A ydy tyfu’n ysbrydol yn rhywbeth sy’n digwydd yn naturiol? Esbonia.

9 Rydyn ni’n tyfu’n gorfforol yn naturiol dros amser, ond dydy tyfiant ysbrydol ddim yn digwydd ar ei ben ei hun. Er enghraifft, roedd y brodyr a’r chwiorydd yn Nghorinth wedi derbyn y newyddion da, cael eu bedyddio, derbyn yr ysbryd glân, a dysgu llawer gan yr apostol Paul. (Act. 18:​8-11) Ond, flynyddoedd ar ôl iddyn nhw gael eu bedyddio, doedd llawer ohonyn nhw ddim eto wedi aeddfedu’n ysbrydol. (1 Cor. 3:2) Sut gallwn ni wneud yn siŵr dydy hynny ddim yn digwydd inni?

10. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i gyrraedd aeddfedrwydd? (Jwdas 20)

10 Er mwyn cyrraedd aeddfedrwydd, mae’n rhaid meithrin yr awydd i wneud hynny. Os ydyn ni’n “mwynhau anwybodaeth,” ac yn hapus i aros fel plant mewn ffordd ysbrydol, fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw gynnydd. (Diar. 1:22) Dydyn ni ddim eisiau bod fel oedolyn sy’n dal i ddibynnu ar ei rieni i wneud penderfyniadau drosto. Rydyn ni eisiau bod yn gyfrifol am dyfiant ysbrydol ni’n hunain. (Darllen Jwdas 20.) Os wyt ti’n dal i dyfu’n ysbrydol, gweddïa ar Jehofa am iddo roi iti’r “dymuniad a’r grym i weithredu.”—Phil. 2:13.

11. Sut mae Jehofa yn ein helpu ni i aeddfedu? (Effesiaid 4:​11-13)

11 Dydy Jehofa ddim yn disgwyl inni dyfu i aeddfedrwydd ar ein pennau ein hunain. Mae’r rhai sy’n bugeilio ac yn dysgu yn y gynulleidfa Gristnogol yn barod i’n helpu ni i ddod yn oedolion mewn ffordd ysbrydol, “yn hollol aeddfed fel Crist.” (Darllen Effesiaid 4:​11-13.) Mae Jehofa hefyd yn rhoi ei ysbryd glân i’n helpu ni i gael “meddwl Crist.” (1 Cor. 2:​14-16) Ar ben hynny, rhoddodd Duw yr Efengylau inni er mwyn dangos sut roedd Iesu yn meddwl, yn siarad, ac yn ymddwyn tra oedd ar y ddaear. Drwy efelychu Iesu, gelli di gyrraedd dy nod o aeddfedu’n ysbrydol.

SUT MAE BWYD YSBRYDOL SOLET YN EIN HELPU NI

12. Beth yw’r “ddysgeidiaeth sylfaenol am y Crist”?

12 Er mwyn aeddfedu’n ysbrydol, mae’n rhaid inni “symud ymlaen o’r ddysgeidiaeth sylfaenol am y Crist.” (Heb. 6:​1, 2) Mae hyn yn cynnwys dysgeidiaethau am edifeirwch, ffydd, bedydd, a’r atgyfodiad, sy’n gosod sylfaen i Gristnogaeth. Dyna pam gwnaeth yr apostol Pedr sôn amdanyn nhw wrth bregethu i’r dyrfa ym Mhentecost. (Act. 2:​32-35, 38) Mae’n rhaid inni dderbyn y prif ddysgeidiaethau hyn er mwyn bod yn ddisgyblion i Grist. Er enghraifft, gwnaeth Paul rybuddio os nad oedd rhywun yn credu yn yr atgyfodiad, roedd ei ffydd yn ofer. (1 Cor. 15:​12-14) Ond, ddylen ni ddim bodloni ar ddysgu pethau sylfaenol y gwir yn unig.

13. Beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn elwa o’r bwyd ysbrydol solet sy’n cael ei sôn amdano yn Hebreaid 5:14? (Gweler hefyd y llun.)

13 Yn wahanol i ddysgeidiaethau sylfaenol, mae bwyd ysbrydol solet yn cynnwys, nid yn unig cyfreithiau Jehofa, ond hefyd ei egwyddorion sy’n ein helpu ni i ddeall ei ffordd o feddwl. Mae’n rhaid inni astudio Gair Duw, meddwl yn ddwfn amdano, a’i roi ar waith er mwyn elwa o’r bwyd hwn. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n hyfforddi ein hunain i wneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa. cDarllen Hebreaid 5:14.

Gallwn ni ddysgu sut i wneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa drwy gymryd bwyd ysbrydol solet i mewn (Gweler paragraff 13) d


14. Sut gwnaeth Paul helpu’r Corinthiaid i aeddfedu’n ysbrydol?

14 Yn aml iawn, gall Cristnogion anaeddfed stryglo wrth wynebu sefyllfaoedd sy’n gofyn iddyn nhw resymu ar egwyddorion Beiblaidd a’u rhoi nhw ar waith. Mae rhai yn meddwl eu bod nhw’n gallu gwneud beth bynnag maen nhw eisiau os nad oes rheol yn y Beibl. Ac efallai bydd eraill yn gofyn am reol pan nad oes angen un. Er enghraifft, mae’n ymddangos bod y Cristnogion yng Nghorinth wedi gofyn i’r apostol Paul am reol ynglŷn â bwyta bwyd a oedd wedi cael ei offrymu i eilunod. Yn hytrach na dweud wrthyn nhw beth i’w wneud, gwnaeth Paul ddangos sut mae’r gydwybod yn gweithio a dweud bod gan bawb yr “hawl i ddewis.” Gwnaeth ef resymu ar egwyddorion a fyddai’n helpu pob unigolyn i fod mewn heddwch a’i gydwybod, heb bechu eraill. (1 Cor. 8:​4, 7-9) Drwy wneud hynny, roedd Paul yn helpu’r Corinthiaid i dyfu’n ysbrydol er mwyn iddyn nhw ddefnyddio eu gallu meddyliol yn hytrach na dibynnu ar rywun arall, neu edrych am reolau.

15. Sut helpodd Paul y Cristnogion Hebreig i dyfu’n ysbrydol?

15 Gallwn ni ddysgu gwersi pwysig o beth ysgrifennodd Paul i’r Cristnogion Hebreig. Roedd rhai wedi stopio tyfu’n ysbrydol ac “wedi mynd yn ôl i fod angen llaeth, nid bwyd [ysbrydol] solet.” (Heb. 5:12) Doedden nhw ddim wedi dysgu na derbyn y pethau newydd roedd Jehofa wedi eu datgelu iddyn nhw drwy’r gynulleidfa. (Diar. 4:18) Er enghraifft, roedd llawer o’r Cristnogion Iddewig yn dal i hybu Cyfraith Moses, er bod aberth Iesu wedi dod â’r Gyfraith honno i ben tua 30 mlynedd ynghynt. (Rhuf. 10:4; Titus 1:10) Yn wir, roedd 30 mlynedd yn hen ddigon o amser iddyn nhw newid eu ffordd o feddwl! Yn bendant, roedd llythyr Paul i’r Hebreaid yn llawn bwyd ysbrydol solet. Dyna’n union roedd ei angen arnyn nhw i weld bod ffordd newydd Jehofa o addoli gymaint yn well. Byddai hefyd wedi rhoi hyder iddyn nhw i ddal ati i bregethu er gwaethaf gwrthwynebiad gan yr Iddewon.—Heb. 10:​19-23.

OSGOI BOD YN ORHYDERUS

16. Yn ogystal â gweithio’n galed i aeddfedu, beth mae’n rhaid inni wneud?

16 Mae’n rhaid inni weithio’n galed i gyrraedd aeddfedrwydd ond hefyd i aros yn aeddfed. Mae’n rhaid inni felly beidio â bod yn orhyderus. (1 Cor. 10:12) Dylen ni ddal ati i “brofi pa fath o berson” ydyn ni er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n dal i wneud cynnydd.—2 Cor. 13:5.

17. Sut mae llythyr Paul i’r Colosiaid yn dangos y pwysigrwydd o aros yn aeddfed?

17 Yn ei lythyr at y Colosiaid, gwnaeth Paul eto bwysleisio’r angen i aros yn aeddfed. Er bod y Colosiaid wedi aeddfedu’n barod, dywedodd Paul wrthyn nhw am fod yn ofalus i beidio â chael eu twyllo gan syniadau’r byd. (Col. 2:​6-10) Ac roedd Epaffras, a oedd yn amlwg yn adnabod y rhai yn y gynulleidfa’n dda, yn gweddïo’n ddi-baid er mwyn iddyn nhw allu parhau “i fod yn aeddfed.” (Col. 4:12) Beth ydy’r wers? Roedd Paul ac Epaffras yn deall bod aros yn aeddfed yn gofyn am ymdrech ar ein rhan ni ac am gefnogaeth gan Dduw. Roedden nhw eisiau i’r Colosiaid aros yn aeddfed, fel oedolion mewn ffordd ysbrydol, er gwaethaf unrhyw heriau roedden nhw’n eu hwynebu.

18. Beth gall ddigwydd i Gristion aeddfed? (Gweler hefyd y llun.)

18 Gwnaeth Paul rybuddio’r Hebreaid bod Cristion aeddfed yn gallu colli ffafr Duw unwaith ac am byth. Petai rhywun yn gwrthod gwrando ar Jehofa, byddai’n bosib i’w galon galedu cymaint nes iddo golli’r gallu i edifarhau a chael maddeuant Jehofa. Diolch byth, doedd yr Hebreaid ddim wedi mynd mor bell â hynny. (Heb. 6:​4-9) Beth am y rhai heddiw sy’n anweithredol neu wedi cael eu diarddel, ond sydd wedyn yn edifarhau? Mae’r ffaith eu bod nhw’n edifarhau yn ostyngedig yn dangos eu bod nhw’n wahanol iawn i’r rhai roedd Paul yn sôn amdanyn nhw. Ond, pan maen nhw’n troi yn ôl at Jehofa, maen nhw angen ei help. (Esec. 34:​15, 16) Efallai bydd yr henuriaid yn trefnu i Dyst profiadol helpu unigolyn i godi ar ei draed mewn ffordd ysbrydol eto.

Mae Jehofa’n helpu’r rhai sydd angen cael eu cryfhau yn ysbrydol (Gweler paragraff 18)


19. Beth dylen ni geisio ei wneud?

19 Os wyt ti’n ceisio aeddfedu fel Cristion, gelli di lwyddo! Dal ati i elwa’n llawn o fwyd ysbrydol solet ac i feddwl yn fwy fel Jehofa. Ac os wyt ti wedi aeddfedu’n barod, bydda’n benderfynol o aros yn aeddfed am byth.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Beth mae’n ei olygu i ddod yn Gristion aeddfed?

  • Sut gallwn ni dyfu i fod yn Gristion aeddfed?

  • Pam dylen ni osgoi bod yn orhyderus?

CÂN 65 Bwria Ymlaen!

a Er nad yw’r Ysgrythurau Hebraeg yn defnyddio’r geiriau “aeddfed” ac “anaeddfed,” maen nhw’n cynnwys yr un syniad â’r termau hyn. Er enghraifft, mae llyfr Diarhebion yn cyferbynnu pobl ifanc ddibrofiad â phobl ddoeth a chall.—Diar. 1:​4, 5.

b Gweler yr erthygl “Amddiffynnwch Eich Hunan Rhag Camwybodaeth” yn y gyfres erthyglau “Pynciau Eraill” ar jw.org neu ar JW Library.®

c Gweler yr erthygl “Prosiect Astudio” yn y rhifyn hwn.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd yn rhoi egwyddorion o’r Beibl ar waith wrth ddewis adloniant.