Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 15

CÂN 124 Bythol Ffyddlon

Cryfha Dy Hyder yng Nghyfundrefn Jehofa

Cryfha Dy Hyder yng Nghyfundrefn Jehofa

“Cofiwch am y rhai sy’n eich arwain chi, sydd wedi dysgu gair Duw ichi.”HEB. 13:7.

PWRPAS

Sut i drystio a pharchu cyfundrefn Jehofa yn fwy.

1. Sut cafodd pobl Jehofa eu trefnu yn y ganrif gyntaf?

 BRYD bynnag mae Jehofa’n rhoi aseiniad i’w bobl, mae’n disgwyl iddyn nhw ei gyflawni yn drefnus. (1 Cor. 14:33) Er enghraifft, mae Jehofa eisiau i’r newyddion da gael ei bregethu drwy’r byd i gyd. (Math. 24:14) Mae Jehofa wedi penodi Iesu i drefnu’r gwaith hwnnw, ac mae Iesu wedi cyflawni ei aseiniad. Yn y ganrif gyntaf, roedd grŵp o henuriaid yn Jerwsalem yn gwneud penderfyniadau ar gyfer yr holl gynulleidfaoedd. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys rhai o’r apostolion a dynion profiadol eraill. (Act. 15:2; 16:4) Wrth i gynulleidfaoedd gael eu sefydlu mewn gwahanol lefydd, cafodd henuriaid eu penodi ym mhob cynulleidfa i roi gwybod i’r brodyr a’r chwiorydd am y penderfyniadau. (Act. 14:23) Oherwydd eu hufudd-dod i’r cyfarwyddiadau hynny, “roedd y cynulleidfaoedd yn parhau i ddod yn gadarn yn y ffydd ac i gynyddu mewn rhif o ddydd i ddydd.”—Act. 16:5.

2. Sut mae Jehofa wedi rhoi arweiniad a bwyd ysbrydol ers 1919?

2 Mae Jehofa yn dal i drefnu ei bobl hyd heddiw. Ers 1919, mae Iesu wedi defnyddio grŵp bach o ddynion eneiniog i drefnu’r gwaith pregethu ac i roi bwyd ysbrydol i’w ddilynwyr. a (Luc 12:42) Mae’n amlwg bod Jehofa’n bendithio gwaith y grŵp hwnnw.—Esei. 60:22; 65:​13, 14.

3-4. (a) Eglura sut rydyn ni’n elwa o fod yn drefnus. (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Os nad oedd pethau’n drefnus, fydden ni ddim yn gallu cyflawni’r gwaith mae Iesu wedi ei roi inni. (Math. 28:​19, 20) Er enghraifft, petai neb yn trefnu tiriogaeth, byddai rhai ardaloedd yn cael eu gweithio drosodd a throsodd gan wahanol gyhoeddwyr, ac ardaloedd eraill yn cael eu hanwybyddu yn gyfan gwbl. A wyt ti’n gallu meddwl am ffyrdd eraill rydyn ni’n elwa o gadw trefn?

4 Tra oedd ar y ddaear, dangosodd Iesu sut y byddai’n trefnu pobl Dduw heddiw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried esiampl Iesu a gweld sut mae ein cyfundrefn yn dilyn yr esiampl honno. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni ddangos ein hyder yng nghyfundrefn Jehofa.

MAE EIN CYFUNDREFN YN DILYN ESIAMPL IESU

5. Beth ydy un ffordd o ddilyn esiampl Iesu? (Ioan 8:28)

5 Dysgodd Iesu beth i’w wneud a beth i’w ddweud gan ei Dad nefol. Mae cyfundrefn Jehofa yn dilyn esiampl Iesu gan ddefnyddio Gair Duw i’n helpu ni i wybod beth sy’n gywir, beth sy’n anghywir, ac i roi arweiniad inni. (Darllen Ioan 8:28; 2 Tim. 3:​16, 17) Rydyn ni’n cael ein hatgoffa yn aml i ddarllen Gair Duw a’i roi ar waith. Sut rydyn ni’n elwa o ddilyn y cyngor hwn?

6. Ym mha ffordd bwysig ydyn ni’n elwa o astudio’r Beibl?

6 Rydyn ni ar ein hennill pan ydyn ni’n astudio’r Beibl gan ddefnyddio ein cyhoeddiadau. Er enghraifft, gallwn ni gymharu’r arweiniad rydyn ni’n ei gael gan y gyfundrefn yn erbyn dysgeidiaethau’r Beibl. Pan ydyn ni’n gweld bod yr arweiniad yn seiliedig ar y Beibl, mae ein hyder yng nghyfundrefn Jehofa yn tyfu.—Rhuf. 12:2.

7. Pa neges gwnaeth Iesu ei phregethu, a sut mae cyfundrefn Jehofa yn dilyn ei esiampl?

7 Roedd Iesu yn pregethu’r “newyddion da am Deyrnas Dduw.” (Luc 4:​43, 44) Gwaeth Iesu hefyd orchymyn i’w ddisgyblion i bregethu am y Deyrnas. (Luc 9:​1, 2; 10:​8, 9) Heddiw mae pawb sy’n rhan o gyfundrefn Jehofa yn pregethu neges y Deyrnas dim ots lle maen nhw’n byw neu faint o gyfrifoldebau sydd ganddyn nhw yn y gynulleidfa.

8. Pa fraint sydd gynnon ni?

8 Mae’n fraint inni gael rhannu’r gwir am Deyrnas Dduw gydag eraill! Dydy’r fraint hon ddim ar gael i bawb. Er enghraifft, pan oedd Iesu ar y Ddaear, doedd ef ddim yn caniatáu i’r ysbrydion drwg roi dystiolaeth amdano. (Luc 4:41) Heddiw, cyn i rywun gymryd rhan yn y weinidogaeth gyda phobl Jehofa, mae’n rhaid iddo ddangos ei fod yn gymwys. Rydyn ni’n dangos pa mor bwysig ydy’r gwaith hwn inni drwy roi tystiolaeth ble bynnag ac i bwy bynnag a allwn ni. Fel Iesu, ein nod ydy plannu a dyfrio hadau’r gwir yng nghalonnau pobl.—Math. 13:​3, 23; 1 Cor. 3:6.

9. Sut mae’r gyfundrefn yn helpu pobl i ddysgu enw Duw?

9 Gwnaeth Iesu gyhoeddi enw Duw. Mewn gweddi i’w Dad nefol, dywedodd Iesu: “Rydw i wedi rhoi gwybod iddyn nhw am dy enw di.” (Ioan 17:26) Yn unol ag esiampl Iesu, mae cyfundrefn Jehofa yn gwneud popeth posib i helpu pobl i ddod i adnabod enw Duw. Mae Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Beibl wedi bod yn allweddol yn adfer enw Duw i’w le priodol. Mae’r cyfieithiad hwn o’r Beibl nawr ar gael yn gyfan neu’n rhannol mewn dros 270 o ieithoedd. Gelli di ddysgu mwy am pam a sut cafodd enw Duw ei roi yn ôl yn y Beibl yn rhan 1 a 2 o’r llyfryn Cymorth i Astudio Gair Duw. Mae Atodiad C yn y Beibl Astudio Saesneg yn rhoi llawer o dystiolaeth i ddangos pam dylai enw Duw ymddangos yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol 237 o weithiau.

10. Beth rwyt ti’n ei ddysgu gan sylwadau dynes o Myanmar?

10 Fel Iesu, rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib ddod i adnabod enw Duw. Pan ddysgodd dynes 67 mlwydd oed ym Myanmar enw Duw, cafodd hi ei symud i ddagrau, a dywedodd: “Dyma’r tro cyntaf yn fy mywyd imi glywed mai enw Duw ydy Jehofa. . . . Rwyt ti wedi dysgu’r peth pwysicaf oll imi.” Mae’r profiad hwn yn dangos bod dysgu enw Duw yn gallu newid bywydau pobl.

DAL ATI I DDANGOS HYDER YN Y GYFUNDREFN

11. Sut gall henuriaid ddangos eu bod nhw’n trystio cyfundrefn Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)

11 Sut gall henuriaid ddangos eu bod nhw’n trystio cyfundrefn Jehofa? Trwy ddarllen cyfarwyddiadau yn ofalus ac yn brydlon a gwneud eu gorau i’w rhoi nhw ar waith. Er enghraifft, maen nhw’n derbyn cyfarwyddiadau ar sut i ofalu am rannau yn y cyfarfodydd, sut i weddïo’n gyhoeddus, a sut i ofalu am ddefaid Crist. Pan mae henuriaid yn dilyn yr holl gyfarwyddiadau sy’n dod o’r gyfundrefn, mae’r brodyr a’r chwiorydd yn teimlo cariad a gofal Jehofa.

Mae henuriaid yn ein helpu ni i drystio arweiniad cyfundrefn Jehofa (Gweler paragraff 11) b


12. (a) Pam dylen ni wrando ar y rhai sy’n cymryd y blaen? (Hebreaid 13:​7, 17) (b) Pam dylen ni ganolbwyntio ar rinweddau da’r rhai sy’n cymryd y blaen?

12 Dylen ni fod yn barod i dderbyn arweiniad gan henuriaid. Trwy wneud hynny, byddwn ni’n gwneud eu gwaith yn haws. Mae’r Beibl yn ein hannog ni i fod yn ufudd i’r rhai syn cymryd y blaen a’u parchu nhw. (Darllen Hebreaid 13:​7, 17.) Gall hynny fod yn anodd ar adegau oherwydd bod y dynion hyn yn amherffaith. Petasen ni’n canolbwyntio ar eu nodweddion negyddol yn hytrach nag ar eu rhinweddau, bydden ni’n helpu ein gelynion. Sut? Byddai gwneud hynny yn tanseilio ein hyder yng nghyfundrefn Duw, sydd yn union beth mae ein gelynion eisiau ei wneud inni. Sut gallwn ni wybod os ydy rhywbeth yn gelwydd gan ein gelynion neu ddim? Ac yna, sut gallwn ni ei wrthod?

PAID Â GADAEL I ERAILL WANHAU DY HYDER YN Y GYFUNDREFN

13. Sut mae gelynion Duw wedi ceisio pardduo enw da cyfundrefn Jehofa?

13 Mae gelynion Duw yn ceisio gwneud inni weld pethau da’r gyfundrefn mewn golau negyddol. Er enghraifft, rydyn ni wedi dysgu o’r Beibl bod Jehofa’n disgwyl i’w addolwyr fod yn lân yn gorfforol, yn foesol, ac yn ysbrydol. Os ydy rhywun yn byw bywyd aflan yn ddiedifar, dydy Duw ddim yn caniatáu iddo aros yn rhan o’r gynulleidfa. (1 Cor. 5:​11-13; 6:​9, 10) Rydyn ni’n ufudd i’r safon Ysgrythurol honno. Ond mae ein gelynion yn ein cyhuddo ni o fod yn bobl gul, yn feirniadol, a heb unrhyw gariad.

14. Pwy sydd y tu ôl i storïau ffug am y gyfundrefn?

14 Deall pwy sydd y tu ôl i’r ymosodiadau. Satan y Diafol sydd ar fai. Mae ef yn “dad i gelwydd.” (Ioan 8:44; Gen. 3:​1-5) Felly, dylen ni ddisgwyl i Satan ddefnyddio ei gefnogwyr i ledaenu camwybodaeth am gyfundrefn Jehofa. Roedd hyn yn amlwg yn y ganrif gyntaf.

15. Beth a wnaeth arweinwyr crefyddol i Iesu a’i ddilynwyr?

15 Yn y ganrif gyntaf, roedd cefnogwyr Satan yn rhaffu celwyddau am Fab perffaith Duw a oedd wedi gwneud llawer o wyrthiau rhyfeddol. Er enghraifft, dywedodd yr arweinwyr crefyddol wrth y bobl bod Iesu yn “bwrw cythreuliaid allan drwy gyfrwng rheolwr y cythreuliaid.” (Marc 3:22) Pan oedd Iesu ar dreial, gwnaeth yr arweinwyr crefyddol ei gyhuddo o gablu a pherswadio’r bobl i’w roi i farwolaeth. (Math. 27:20) Yn nes ymlaen, pan oedd dilynwyr Crist yn pregethu’r newyddion da, gwnaeth eu gwrthwynebwyr “achosi i bobl y cenhedloedd deimlo’n ddig a’u troi nhw yn erbyn y brodyr.” (Act. 14:​2, 19) Wrth sôn am Actau 14:​2, gwnaeth rhifyn Rhagfyr 1, 1998, o’r Tŵr Gwylio esbonio: “Doedd gwrthod y neges ddim yn ddigon i’r gwrthwynebwyr Iddewig. Felly aethon nhw ati i ddweud pethau ofnadwy am y Cristnogion, a pherswadio pobl y cenhedloedd i beidio â gwrando arnyn nhw ac i’w barnu nhw.”

16. Beth dylen ni ei gofio pan ydyn i’n clywed storïau ffug?

16 Mae Satan yn dal i ddweud celwydd hyd heddiw, ac yn “camarwain yr holl ddaear.” (Dat. 12:9) Felly, os wyt ti’n clywed storïau negyddol am y gyfundrefn neu am y brodyr sy’n cymryd y blaen, cofia sut gwnaeth gelynion Duw drin Iesu a’r Cristnogion yn y ganrif gyntaf. Heddiw, mae eraill yn lladd ar Dystion Jehofa ac yn eu herlid nhw, yn union fel cafodd ei ragfynegi yn y Beibl. (Math. 5:​11, 12) Fydd camwybodaeth ddim yn ein camarwain os ydyn ni’n deall o le mae’n dod ac yn cymryd camau i’n hamddiffyn ein hunain yn syth. Beth mae’n rhaid inni ei wneud?

17. Sut gallwn ni osgoi cael ein niweidio gan storïau ffug? (2 Timotheus 1:13) (Gweler hefyd y blwch “ Sut i Wrthod Storïau Ffug.”)

17 Gwrthoda storïau ffug. Rhoddodd yr apostol Paul arweiniad clir ar beth i’w wneud os ydyn ni’n dod ar draws storïau ffug. Dywedodd wrth Timotheus am iddo ‘orchymyn i rai beidio â thalu sylw i storïau ffug’ ac i wrthod “storïau ffug sy’n gableddus.” (1 Tim. 1:​3, 4; 4:7) Efallai byddai plentyn bach yn pigo rhywbeth i fyny o’r llawr a’i roi yn ei geg, ond byddai person aeddfed yn deall bod hynny’n beryglus a byth yn ei wneud. Rydyn ni’n gwrthod storïau ffug oherwydd rydyn ni’n gwybod o le man nhw’n dod. Rydyn ni’n glynu wrth “eiriau buddiol” y gwir.—Darllen 2 Timotheus 1:13.

18. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trystio cyfundrefn Duw?

18 Rydyn ni wedi ystyried tair ffordd mae cyfundrefn Duw yn efelychu Iesu. Wrth iti astudio’r Beibl, sylwa ar ffyrdd eraill mae ein cyfundrefn yn dilyn esiampl Iesu. Helpa eraill yn dy gynulleidfa i gael hyder yn y gyfundrefn, a dal ati i ddangos dy fod ti’n trystio Jehofa drwy ei wasanaethu’n ffyddlon. Dylen ni hefyd glynu wrth y gyfundrefn mae’n ei ddefnyddio i gyflawni ei ewyllys. (Salm 37:28) Rydyn ni eisiau trysori’r fraint sydd gynnon ni o fod yn rhan o bobl ffyddlon a chariadus Jehofa.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Ym mha ffyrdd y mae pobl Dduw yn efelychu Iesu?

  • Sut gallwn ni barhau i ddangos ein bod ni’n trystio cyfundrefn Jehofa?

  • Beth dylen ni ei wneud os ydyn ni’n clywed storïau ffug?

CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion

a Gweler y blwch “Why 1919?” o’r llyfr Pure Worship of Jehovah—Restored At Last! tt. 102-103.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl i’r henuriaid drafod trefniadau tystiolaethu cyhoeddus, mae arolygwr grŵp yn arwain cyhoeddwyr i sefyll gyda’u cefnau at y wal.