Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Pam roedd byddin y Brenin Dafydd yn cynnwys pobl nad oedd yn Israeliaid?

ROEDD ’na bobl fel Selec o Ammon, Ureia yr Hethiad, ac Ithma o Moab yn rhan o fyddin Dafydd. a (1 Cron. 11:​39, 41, 46) Roedd byddin Dafydd hefyd yn cynnwys Cerethiaid, Pelethiaid, a phobl o Gath. (2 Sam. 15:18) Roedd pobl Gath yn Philistiaid, ac mae’n ymddangos bod y Cerethiaid a’r Pelethiaid hefyd yn perthyn yn agos i’r Philistiaid.—Jos. 13:​2, 3; 1 Sam. 6:​17, 18, Esec. 25:16.

Pam roedd Dafydd yn caniatáu iddyn nhw fod yn rhan o’i fyddin? Roedd yn hyderus y bydden nhw’n ffyddlon iddo ef ac i Jehofa. Er enghraifft, mae’r New Interpreter’s Dictionary of the Bible yn dweud am y Cerethiaid a’r Pelethiaid: “Arhoson nhw’n ffyddlon i Dafydd yn ystod adegau anoddaf ei deyrnasiad.” Ym mha ffordd? Pan wnaeth ‘dynion Israel i gyd adael Dafydd’ ac ymuno â gwrthryfel dyn drwg o’r enw Sheba, arhosodd y Cerethiaid a’r Pelethiaid yn ufudd i Dafydd. (2 Sam. 20:​1, 2, 7) Ar achlysur arall, pan wnaeth mab Dafydd, Adoneia, geisio cipio’r orsedd, glynodd y Cerethiaid a’r Pelethiaid wrth Dafydd a’i helpu i osod Solomon ar yr orsedd, fel roedd Jehofa wedi ei ddweud.—1 Bren. 1:​24-27, 38, 39.

Roedd Itai o Gath hefyd yn hynod o ffyddlon i Dafydd. Gwnaeth Itai a’i 600 o filwyr gefnogi Dafydd pan wnaeth Absalom wrthryfela a throi dynion Israel yn erbyn Dafydd. Ar y cychwyn, awgrymodd Dafydd doedd dim rhaid i Itai ymladd gan ei fod yn dod o wlad arall. Ond atebodd Itai: “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a’m meistr y brenin yn fyw, bydda i’n mynd ble bynnag fyddi di’n mynd—hyd yn oed os fydd hynny’n golygu marw gyda ti.”—2 Sam. 15:​6, 18-21.

Roedd Itai yn ffyddlon i Dafydd, brenin eneiniog Duw

Er bod y Cerethiaid, y Pelethiaid, a phobl Gath yn dod o wledydd eraill, roedden nhw’n cydnabod mai Jehofa oedd y gwir Dduw a’i fod wedi eneinio Dafydd yn frenin. Mae’n rhaid bod Dafydd wedi bod yn ddiolchgar iawn i gael dynion mor ffyddlon wrth ei ochr!

a Roedd cyfraith Duw yn Deuteronomium 23:​3-6 yn gwahardd pobl Ammon a phobl Moab rhag bod yn rhan o gynulleidfa Israel. Ond mae’n ymddangos bod hyn yn cyfeirio at aelodaeth gyfreithiol i’r genedl, a doedd ddim yn stopio pobl o wledydd eraill rhag cymdeithasu neu fyw ymysg pobl Dduw. Gweler Insight on the Scriptures, Cyfrol 1, t. 95.