Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 18

CÂN 1 Rhinweddau Jehofa

Trystia Farnwr Trugarog yr Holl Ddaear!

Trystia Farnwr Trugarog yr Holl Ddaear!

“Oni fydd Barnwr yr holl ddaear yn gwneud beth sy’n iawn?”GEN. 18:25.

PWRPAS

I ddeall yn well drugaredd a chyfiawnder Jehofa ynglŷn ag atgyfodiad y rhai anghyfiawn.

1. Pa wers gysurus gwnaeth Jehofa ei dysgu i Abraham?

 AMSER maith yn ôl, defnyddiodd Jehofa angel i ddweud wrth ei ffrind Abraham Ei fod yn mynd i ddinistrio’r dinasoedd Sodom a Gomorra. Er bod gan Abraham ffydd gref, roedd hyn yn anodd iawn iddo ddeall. Gofynnodd: “A fyddi di’n wir yn cael gwared ar y cyfiawn ynghyd â’r drygionus? . . . Oni fydd Barnwr yr holl ddaear yn gwneud beth sy’n iawn?” Yn amyneddgar, gwnaeth Jehofa helpu ei ffrind annwyl i ddysgu gwers bwysig sy’n rhoi help a chysur inni heddiw: Fydd Jehofa byth yn dinistrio pobl gyfiawn.—Gen. 18:​23-33.

2. Beth sy’n ein gwneud ni’n hyderus bod Jehofa bob tro yn barnu mewn ffordd gyfiawn a thrugarog?

2 Pam gallwn ni drystio bod Jehofa bob tro yn barnu mewn ffordd gyfiawn a thrugarog? Oherwydd bod Jehofa’n gweld “sut berson ydy rhywun go iawn” ac yn “gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.” (1 Sam. 16:7; 1 Bren. 8:39; 1 Cron. 28:9) Mae hynny’n anhygoel! Mae barnedigaethau Jehofa y tu hwnt i’n deall ni. Dyna pam dywedodd yr apostol Paul am Jehofa: “Does neb yn gallu deall y ffordd mae ef yn barnu.”—Rhuf. 11:33.

3-4. Pa gwestiynau all godi ar adegau, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon? (Ioan 5:​28, 29)

3 Ond, er ein bod ni’n trystio cyfiawnder Jehofa, efallai bydd gynnon ni gwestiynau fel rhai Abraham. Efallai byddwn ni’n gofyn: ‘Oes ’na obaith i’r rhai a gafodd eu barnu yn Sodom a Gomorra? A fyddan nhw ymysg y rhai “anghyfiawn” a fydd yn cael eu hatgyfodi yn y dyfodol?’—Act. 24:15.

4 Gad inni adolygu beth rydyn ni’n ei ddeall am yr atgyfodiad. Yn ddiweddar, derbynion ni ddealltwriaeth newydd ynglŷn â’r rhai a fydd “yn cael eu hatgyfodi i fywyd” a’r rhai a fydd “yn cael eu hatgyfodi i gael eu barnu.” a (Darllen Ioan 5:​28, 29.) Mae hynny wedi arwain at fwy o newidiadau yn ein dealltwriaeth. Byddwn ni’n trafod y newidiadau hynny yn yr erthygl hon a’r un sy’n dilyn. Yn gyntaf, byddwn ni’n ystyried beth dydyn ni ddim yn ei wybod am farnedigaethau cyfiawn Jehofa, ac yna, beth rydyn ni’n ei wybod.

BETH DYDYN NI DDIM YN EI WYBOD

5. Beth mae ein cyhoeddiadau yn y gorffennol wedi ei awgrymu ynglŷn â phobl Sodom a Gomorra?

5 Mae ein cyhoeddiadau yn y gorffennol wedi trafod beth fydd yn digwydd i’r rhai mae Jehofa wedi eu barnu’n anghyfiawn. Rydyn ni wedi dweud fydd Jehofa ddim yn atgyfodi’r rhai mae wedi eu dinistrio, gan gynnwys pobl Sodom a Gomorra. Ond, mae astudiaeth ddwfn a llawer o weddi wedi codi’r cwestiwn: A ydyn ni’n wir yn gallu dweud hynny gyda sicrwydd?

6. Pa esiamplau sydd ’na o farnedigaethau Jehofa ar bobl anghyfiawn, a beth dydyn ni ddim yn ei wybod?

6 Ystyria hyn. Mae ’na lawer o hanesion yn y Beibl sy’n sôn am farnedigaethau Jehofa ar bobl anghyfiawn. Er enghraifft, gwnaeth nifer di-rif farw yn y Dilyw. Defnyddiodd Jehofa’r Israeliaid i ddinistrio’r saith cenedl a oedd yn byw yng Ngwlad yr Addewid. Hefyd, defnyddiodd un angel i ladd 185,000 o filwyr Asyria mewn un noson. (Gen. 7:23; Deut. 7:​1-3; Esei. 37:​36, 37) Yn yr achosion hyn, a ydy’r Beibl yn dweud bod Jehofa wedi penderfynu fyddai’r unigolion hynny byth yn cael eu hatgyfodi? Nac ydy. Pam gallwn ni ddweud hynny?

7. Beth dydyn ni ddim yn ei wybod am y rhai a fu farw yn y Dilyw neu yn ystod gorchfygiad Canaan? (Gweler y llun .)

7 Dydyn ni ddim yn gwybod os cafodd pob unigolyn y cyfle i ddysgu am Jehofa ac edifarhau, na sut gwnaeth Jehofa eu barnu nhw. Wrth sôn am adeg y Dilyw, mae’r Beibl yn disgrifio Noa fel “pregethwr cyfiawnder.” (2 Pedr 2:5) Ond roedd gan Noa yr aseiniad anferth o adeiladu’r Arch, a dydy’r Beibl ddim yn dweud ei fod wedi ceisio siarad â phob person ar y ddaear yn ogystal ag adeiladu. Mewn ffordd debyg, dydyn ni ddim yn gwybod os cafodd cenhedloedd Canaan y cyfle i ddysgu am Jehofa a newid eu ffyrdd.

Noa a’i deulu yn adeiladu’r arch anferth. Dydyn ni ddim yn gwybod os gwnaeth Noa drefnu i bregethu i bawb ar y ddaear cyn y Dilyw (Gweler paragraff 7)


8. Beth dydyn ni ddim yn ei wybod am bobl Sodom a Gomorra?

8 Beth am bobl Sodom a Gomorra? Roedd Duw yn iawn i’w cosbi nhw am eu gweithredoedd drwg. Doedd ’na ddim hyd yn oed deg unigolyn cyfiawn yn y ddinas! (Gen. 18:32) Ond a allwn ni ddweud yn sicr fydd dim un ohonyn nhw’n dod yn ôl pan fydd Jehofa’n “atgyfodi’r . . . rhai anghyfiawn”? Na allwn. Pam? Roedd y dyn cyfiawn, Lot, yn byw yn eu plith, ond dydyn ni ddim yn gwybod os cafodd ef y cyfle i bregethu iddyn nhw i gyd. Roedden nhw’n bobl ddrwg, ond efallai doedden nhw ddim yn gwybod yn well oherwydd y fath le oedd y ddinas. Mae’r Beibl yn dweud bod tyrfa fawr o ddynion, “hen ac ifanc,” wedi ceisio treisio ymwelwyr Lot. (Gen. 19:4; 2 Pedr 2:7) Yn ôl pob tebyg, cawson nhw i gyd eu magu mewn awyrgylch anfoesol iawn heb y cyfle i ddysgu am safonau Duw o beth sy’n dda a drwg.

9. Beth dydyn ni ddim yn ei wybod am Solomon?

9 Ar y llaw arall, mae’r Beibl hefyd yn cynnwys hanesion pobl gyfiawn a wnaeth droi’n anghyfiawn. Meddylia am esiampl y Brenin Solomon. Roedd yn adnabod Jehofa ac yn gwybod sut i’w addoli a gwnaeth Jehofa ei fendithio’n fawr. Ond yn nes ymlaen, dechreuodd Solomon addoli gau dduwiau. Gwnaeth hyn wylltio Jehofa yn fawr iawn, a gwnaeth cenedl Israel ddioddef am ganrifoedd oherwydd pechodau Solomon. Mae’n wir bod yr Ysgrythurau’n dweud: “Cafodd [Solomon] ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad,” gyda’i gyndadau a oedd yn ffyddlon i Jehofa. (1 Bren. 11:​5-9, 43; 2 Bren. 23:13) Ond a ydy’r ffordd gafodd Solomon ei gladdu yn cadarnhau y bydd Jehofa’n ei atgyfodi? Dydy’r Beibl ddim yn dweud. Efallai bydd rhai’n rhesymu bod “pechod rhywun sydd wedi marw wedi cael ei faddau.” (Rhuf. 6:7) Mae hynny’n wir, ond dydy hynny ddim yn golygu y bydd pawb sydd wedi marw yn cael eu hatgyfodi. Dydy’r atgyfodiad ddim yn rhywbeth mae rhywun yn ei haeddu o ganlyniad i farw, mae’n rhodd anhygoel oddi wrth ein Duw cariadus. Bydd Jehofa’n atgyfodi’r rhai y mae eisiau roi’r cyfle iddyn nhw ei addoli am byth. (Job 14:​13, 14; Ioan 6:44) A fydd hynny’n cynnwys y Brenin Solomon? Mae Jehofa yn gwybod yr ateb, ond dydyn ni ddim. Un peth gallwn ni fod yn sicr ohono ydy’r ffaith bydd Jehofa’n gwneud beth sy’n iawn.

BETH RYDYN NI’N EI WYBOD

10. Sut mae Jehofa’n teimlo am ddinistrio pobl? (Eseciel 33:11) (Gweler hefyd y llun.)

10 Sut mae Jehofa’n teimlo wrth iddo farnu pobl? Mae’n dweud wrthon ni yn Eseciel 33:11. (Darllen.) Cafodd yr apostol Pedr ei ysbrydoli i ddweud rhywbeth tebyg i’r hyn a ysgrifennodd y proffwyd Eseciel, drwy ddweud: “Dydy Jehofa ddim yn . . . dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio.” (2 Pedr 3:9) Am wirionedd cysurus! Rydyn ni’n gwybod dydy Jehofa ddim yn brysio i ddinistrio pobl unwaith ac am byth. Mae’n llawn trugaredd, ac mae’n cymryd pob cyfle i ddangos hynny.

Yn atgyfodiad yr anghyfiawn, bydd gan bob math o bobl y cyfle i ddysgu am Jehofa (Gweler paragraff 10)


11. Pwy fydd ddim yn cael eu hatgyfodi, a sut rydyn ni’n gwybod hynny?

11 Beth rydyn ni’n ei wybod am y rhai fydd ddim yn cael eu hatgyfodi? Mae’r Beibl ond yn rhoi ychydig o enghreifftiau inni. b Awgrymodd Iesu fydd Jwdas Iscariot ddim yn cael ei atgyfodi. (Marc 14:21; gweler hefyd Ioan 17:12 a’r nodyn astudio.) Roedd ef yn gweithio yn erbyn Jehofa a’i Fab Iesu, yn gwbl ymwybodol o beth roedd yn ei wneud. (Gweler Marc 3:29 a’r nodiadau astudio.) Mewn ffordd debyg, dywedodd Iesu y byddai rhai o’r arweinwyr crefyddol a wnaeth ei wrthwynebu yn marw heb unrhyw obaith o gael eu hatgyfodi. (Math. 23:33; gweler Ioan 19:11 a’r nodyn astudio “the man.”) Gwnaeth yr apostol Paul hefyd rhybuddio fyddai gwrthgiliwr di-edifar ddim yn cael eu hatgyfodi chwaith.—Heb. 6:​4-8; 10:29.

12. Beth rydyn ni’n ei wybod am drugaredd Jehofa? Rho esiamplau.

12 Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod Jehofa yn llawn trugaredd a dydy ef ddim yn “dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio.” Ystyria sut gwnaeth Jehofa ddangos trugaredd tuag at rai a wnaeth bechu’n ddifrifol. Roedd y Brenin Dafydd yn euog o lawer o bethau; roedd wedi godinebu a llofruddio. Ond roedd Dafydd yn edifar, felly gwnaeth Jehofa faddau iddo yn drugarog. (2 Sam. 12:​1-13) Roedd y Brenin Manasse yn euog o wneud llawer o bethau ofnadwy am y rhan fwyaf o’i fywyd. Ond hyd yn oed yn ei achos ef, gwnaeth Jehofa ymateb i’w edifeirwch, a dangosodd drugaredd drwy faddau i Manasse. (2 Cron. 33:​9-16) Bydd pobl o’r fath a wnaeth bechu’n ddifrifol ond yna sylweddoli beth roedden nhw wedi ei wneud ac edifarhau yn cael eu hatgyfodi. Mae’r esiamplau hyn yn ein hatgoffa ni fod Jehofa yn dangos trugaredd bryd bynnag mae’n gweld sail dros wneud hynny.

13. (a) Pam dangosodd Jehofa drugaredd tuag at bobl Ninefe? (b) Beth ddywedodd Iesu am bobl Ninefe?

13 Dangosodd Jehofa drugaredd tuag at bobl Ninefe hefyd. Dywedodd Duw wrth Jona: “Dw i wedi gweld yr holl bethau drwg maen nhw’n wneud.” (Jona 1:​1, 2) Ond, wrth iddyn nhw edifarhau, gwnaeth Jehofa faddau iddyn nhw. Roedd Ef yn llawer iawn mwy trugarog na Jona. Roedd rhaid i Dduw atgoffa ei broffwyd dig doedd pobl Ninefe ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg. (Jona 3:10; 4:​9-11, BCND) Yn nes ymlaen, defnyddiodd Iesu esiampl pobl Ninefe i ddysgu eraill am gyfiawnder a thrugaredd Jehofa. Dywedodd y byddai pobl edifar Ninefe “yn cael eu hatgyfodi yn ystod y farn.”—Math. 12:41.

14. Beth bydd yr atgyfodiad “i gael eu barnu” yn ei olygu i bobl Ninefe?

14 Beth mae “cael eu hatgyfodi yn ystod y farn” yn ei olygu? Dywedodd Iesu “bydd y rhai a wnaeth bethau ffiaidd yn cael eu hatgyfodi i gael eu barnu.” (Ioan 5:29) Roedd yn cyfeirio at ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd, pan fydd Duw yn “atgyfodi’r rhai cyfiawn a’r rhai anghyfiawn.” (Act. 24:15) Bydd Jehofa ac Iesu yn barnu’r rhai anghyfiawn sy’n cael eu hatgyfodi drwy edrych ar eu hymddygiad a’u hymateb i’r hyn maen nhw’n ei ddysgu. Os bydd rhywun o Ninefe yn cael ei atgyfodi ac yna’n gwrthod ymuno ag addoliad pur, fydd Jehofa ddim yn caniatáu iddo aros yn fyw. (Esei. 65:20) Ond, bydd pob unigolyn sy’n gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon yn cael y cyfle i fyw am byth!—Dan. 12:2.

15. (a) Pam allwn ni ddim dweud fydd neb o Sodom o Gomorra yn cael eu hatgyfodi? (b) Beth efallai mae geiriau Jwdas 7 yn ei olygu? (Gweler y blwch “ Beth Roedd Jwdas yn Ei Olygu?”)

15 Dywedodd Iesu y byddai pobl Sodom a Gomorra yn gwneud yn well ar “Ddydd y Farn” na’r rhai a oedd yn ei wrthod ef a’i ddysgeidiaethau. (Math. 10:​14, 15; 11:​23, 24; Luc 10:12) Beth roedd Iesu’n ei olygu? Efallai bydd rhai yn dweud bod Iesu’n defnyddio iaith ffigurol yn yr achos hwn er mwyn pwysleisio bod pobl bryd hynny yn waeth na phobl Sodom a Gomorra gynt. Ond yn ôl pob golwg, gallwn ni gymryd beth ddywedodd Iesu yn llythrennol, fel yn achos pobl Ninefe. Yn amlwg, roedd Iesu’n cyfeirio at yr un ‘Dydd y Farn’ yn y ddau achos. Cofia, dywedodd Iesu byddai’r rhai a fydd yn cael eu hatgyfodi yn cynnwys “rhai a wnaeth bethau ffiaidd.” (Ioan 5:29) Fel pobl Ninefe, gwnaeth pobl Sodom a Gomorra bethau ofnadwy. Ond, cafodd pobl Ninefe y cyfle i edifarhau. Felly, mae’n ymweld bod ’na rywfaint o obaith i bobl Sodom a Gomorra. Mae’n bosib bydd o leiaf rhai ohonyn nhw’n cael eu hatgyfodi, ac efallai bydd gynnon ni’r cyfle i’w helpu nhw i ddysgu am Jehofa Dduw ac Iesu Grist.

16. Beth rydyn ni’n ei wybod ynglŷn â sut bydd Jehofa yn penderfynu pwy fydd yn cael eu hatgyfodi? (Jeremeia 17:10)

16 Darllen Jeremeia 17:10. Mae’r adnod hon yn ein helpu ni i grynhoi beth rydyn ni’n ei wybod. Mae Jehofa bob tro yn “chwilio’r galon ac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl.” Yn yr atgyfodiad yn y dyfodol, bydd Jehofa yn “rhoi i bawb beth maen nhw’n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.” Bydd Jehofa’n gadarn wrth gadw ei safonau cyfiawn ond ar yr un pryd bydd yn dangos trugaredd pan fydd yn bosib. Felly, oni bai bod y Beibl yn dweud yn glir na fydd unigolyn yn cael ei atgyfodi, allwn ni ddim bod yn sicr!

BYDD “BARNWR YR HOLL DDAEAR YN GWNEUD BETH SY’N IAWN”

17. Pa obaith sydd ’na i’r meirw?

17 Mae biliynau o bobl wedi marw ers i Adda ac Efa ymuno â Satan drwy wrthryfela yn erbyn Jehofa. Yn bendant, mae marwolaeth yn elyn ofnadwy! (1 Cor. 15:26) Beth fydd yn digwydd i bawb fydd wedi marw? Bydd cyfanswm o 144,000 yn cael eu hatgyfodi i fywyd anfarwol yn y nefoedd. (Dat. 14:1) Ar y ddaear, bydd atgyfodiad y “rhai cyfiawn” yn cynnwys nifer fawr o ddynion a merched ffyddlon a oedd yn caru Jehofa. Os byddan nhw’n aros yn ffyddlon yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Crist a’r prawf olaf, byddan nhw’n byw am byth. (Dan. 12:13; Heb. 12:1) Hefyd yn ystod y Mil Blynyddoedd, bydd y “rhai anghyfiawn” yn cael eu hatgyfodi i’r ddaear. Bydd y rhain yn cynnwys rhai doedd ddim wedi gwasanaethu Jehofa a hyd yn oed “rhai a wnaeth bethau ffiaidd.” Byddan nhw’n cael y cyfle i newid eu ffyrdd a dod yn weision ffyddlon i Jehofa. (Luc 23:​42, 43) Ond, roedd rhai pobl mor ddrwg ac mor benderfynol o wrthryfela yn erbyn Jehofa a’i bwrpas nes bod Jehofa wedi penderfynu fyddan nhw ddim yn cael eu hatgyfodi o gwbl.—Luc 12:​4, 5.

18-19. (a) Pam gallwn ni drystio barnedigaethau Jehofa ynglŷn â’r meirw? (Eseia 55:​8, 9) (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

18 A allwn ni fod yn hollol sicr bod barnedigaethau Jehofa’n wastad yn gyfiawn? Wrth gwrs! Roedd Abraham yn deall mai Jehofa ydy’r Barnwr perffaith, doeth, a thrugarog dros “yr holl ddaear.” Mae wedi hyfforddi Ei Fab a rhoi’r cyfrifoldeb iddo i farnu. (Ioan 5:22) Gall Jehofa ac Iesu ddarllen beth sydd yng nghalon pob person ar y ddaear. (Math. 9:4) Byddan nhw’n wastad “yn gwneud beth sy’n iawn”!

19 Mae Jehofa yn gwybod yn well na ni. Rydyn ni’n gwybod dydyn ni ddim yn gymwys i farnu—ond mae Jehofa’n gymwys! (Darllen Eseia 55:​8, 9.) Felly, yn llawn hyder, gad inni adael y barnu i Jehofa a’i Fab, sy’n adlewyrchu cyfiawnder a thrugaredd ei Dad yn berffaith. (Esei. 11:​3, 4) Ond beth am farnedigaethau Jehofa yn ystod y trychineb mawr? Beth dydyn ni ddim yn ei wybod? A beth rydyn ni’n ei wybod? Bydd yr erthygl nesaf yn trafod y cwestiynau hynny.

CÂN 57 Pregethu i Bob Math o Bobl