Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 19

CÂN 22 Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu—Gad Iddi Ddod!

Beth Rydyn Ni’n Ei Wybod am Farnedigaethau Jehofa yn y Dyfodol

Beth Rydyn Ni’n Ei Wybod am Farnedigaethau Jehofa yn y Dyfodol

“Dydy Jehofa ddim yn . . . dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio.”2 PEDR 3:9.

PWRPAS

Gallwn ni fod yn sicr bydd barnedigaethau Jehofa yn y dyfodol yn gyfiawn.

1. Pam gallwn ni ddweud ein bod ni’n byw mewn adeg gyffrous?

 RYDYN ni’n byw mewn adeg gyffrous! Gallwn ni weld proffwydoliaethau’r Beibl yn cael eu cyflawni bob diwrnod. Er enghraifft, rydyn ni’n gweld “brenin y gogledd” a “brenin y de” yn brwydro yn erbyn ei gilydd am reolaeth dros y byd. (Dan. 11:40) Rydyn ni’n gweld y newyddion da am Deyrnas Dduw yn cael ei bregethu drwy’r byd i gyd, gyda miliynau yn penderfynu gwasanaethu Jehofa. (Esei. 60:22; Math. 24:14) Ac rydyn ni’n derbyn gwledd o fwyd ysbrydol “ar yr amser iawn.”—Math. 24:​45-47.

2. Beth gallwn ni fod yn hyderus ohono, ond beth sy’n rhaid inni gydnabod?

2 Mae Jehofa’n parhau i’n helpu ni i ddeall yn glir y digwyddiadau pwysig sydd o’n blaenau ni. (Diar. 4:18; Dan. 2:28) Erbyn i’r trychineb mawr ddechrau, byddwn ni’n gwybod popeth fydd ei angen arnon ni i aros yn ffyddlon a hyd yn oed ffynnu yn ystod yr adeg anodd honno. Ond, mae’n rhaid inni gydnabod bod ’na rai pethau dydyn ni ddim yn eu gwybod am y dyfodol agos. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod yn gyntaf pam rydyn ni wedi ailystyried rhai o’r pethau rydyn ni wedi eu dweud yn y gorffennol. Yna, byddwn ni’n adolygu rhai o’r pethau rydyn ni’n eu gwybod am y dyfodol a’r ffordd bydd Jehofa’n gweithredu.

BETH DYDYN NI DDIM YN EI WYBOD

3. Beth rydyn ni wedi ei ddweud yn y gorffennol ynglŷn â phryd bydd Jehofa’n stopio rhoi cyfle i bobl ymuno â ni, a pham?

3 Yn y gorffennol, dywedon ni y bydd hi’n amhosib i anghredinwyr ochri gyda Jehofa a goroesi Armagedon unwaith i’r trychineb mawr ddechrau. Daethon ni i’r casgliad hwn oherwydd meddwl bod hanes y Dilyw yn rhaglun proffwydol ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, gwnaethon ni resymu y bydd Jehofa’n “cau’r drws” ar system Satan ar ddechrau’r trychineb mawr a stopio unrhyw un arall rhag cael ei achub, yn union fel gwnaeth ef gau drws yr arch cyn i’r Dilyw ddechrau.—Math. 24:​37-39.

4. Ydyn ni’n dal yn meddwl bod hanes y Dilyw yn rhaglun proffwydol? Esbonia.

4 A ddylen ni ystyried y Dilyw fel rhaglun proffwydol? Na ddylen. Pam? Oherwydd does ’na ddim sail Ysgrythurol glir dros wneud hynny. a Er bod Iesu wedi cymharu dyddiau Noa ag adeg ei bresenoldeb, ni wnaeth ef awgrymu bod pob manylyn, fel cau drws yr arch, yn cynrychioli rhywbeth a fydd yn cael ei gyflawni yn y dyfodol. Ond, dydy hynny ddim yn golygu allwn ni ddim dysgu rhywbeth gan hanes Noa a’r Dilyw.

5. (a) Beth wnaeth Noa cyn y Dilyw? (Hebreaid 11:7; 1 Pedr 3:20) (b) Sut mae ein gwaith o bregethu heddiw yn debyg i adeg Noa?

5 Dangosodd Noa ffydd drwy adeiladu’r arch ar ôl clywed rhybuddion Jehofa. (Darllen Hebreaid 11:7; 1 Pedr 3:20.) Mewn ffordd debyg, mae’n rhaid i bobl heddiw sy’n clywed y newyddion da am Deyrnas Dduw weithredu ar beth maen nhw’n ei ddysgu. (Act. 3:​17-20) Gwnaeth Pedr ddisgrifio Noa fel “pregethwr cyfiawnder.” (2 Pedr 2:5) Ond, fel gwnaethon ni ei drafod yn yr erthygl flaenorol, dydyn ni ddim yn gwybod os oedd Noa yn ceisio siarad â phawb a oedd yn byw ar y ddaear cyn y Dilyw. Rydyn ni heddiw yn rhan o ymgyrch arbennig ac yn gwneud ein gorau glas i gael rhan selog yn y gwaith o bregethu. Ond, er gwaethaf ein holl ymdrechion, mae’n amhosib inni siarad â phawb ar y ddaear am y newyddion da cyn i’r diwedd ddod. Pam?

6-7. Pam gallwn ni ddod i’r casgliad fyddwn ni ddim yn siarad â phob person ar y ddaear cyn i’r diwedd ddod? Esbonia.

6 Ystyria beth ddywedodd Iesu ynglŷn â’n gwaith o bregethu: “Bydd y newyddion da hyn am y Deyrnas yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd.” (Math. 24:14) Mae’r broffwydoliaeth honno yn cael ei chyflawni nawr yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae neges y Deyrnas yn cael ei chyhoeddi mewn dros 1,000 o ieithoedd, ac mae ar gael ar jw.org i’r rhan fwyaf o bobl y byd.

7 Ond, dywedodd Iesu hefyd i’w ddisgyblion fyddan nhw ddim yn “gorffen teithio drwy ddinasoedd Israel,” neu’n pregethu i bawb, cyn iddo ddod. (Math. 10:23; 25:​31-33) Bydd geiriau Iesu yn dod yn wir yn ein dyddiau ni hefyd. Mae miliynau o bobl yn byw lle mae’r gwaith pregethu o dan waharddiad llym. Ar ben hynny, mae cannoedd o fabanod yn cael eu geni bob munud. Rydyn ni’n trio ein gorau glas i siarad â phobl o “bob cenedl a llwyth ac iaith.” (Dat. 14:6) Ond, y gwir amdani yw, bydd hi’n amhosib inni rannu’r newyddion da gyda phob unigolyn ar y ddaear cyn i’r diwedd ddod.

8. Beth gallwn ni ei ofyn am y ffordd y bydd Jehofa’n barnu yn y dyfodol? (Gweler hefyd y lluniau.)

8 Felly, gallwn ni ofyn: Beth am y rhai fydd ddim yn cael y cyfle i glywed y newyddion da cyn i’r trychineb mawr daro? Sut bydd Jehofa ac Iesu’n eu barnu nhw? (Ioan 5:​19, 22, 27; Act. 17:31) Yn ôl prif adnod yr erthygl hon, “dydy Jehofa ddim yn . . . dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio.” I’r gwrthwyneb, mae ef eisiau “i bawb gael y cyfle i edifarhau.” (2 Pedr 3:9; 1 Tim. 2:4) Gan ddweud hynny, dydyn ni ddim eto’n gwybod yn union sut bydd Jehofa’n barnu pobl, a dydy ef ddim o dan unrhyw ddyletswydd i ddweud wrthon ni beth sydd ganddo ar y gweill ynglŷn â hyn chwaith.

Sut bydd Jehofa’n barnu’r rhai sydd ddim yn cael y cyfle i glywed y newyddion da cyn i’r diwedd ddod? (Gweler paragraff 8) c


9. Beth mae Jehofa wedi ei ddatgelu inni yn y Beibl?

9 Mae Jehofa wedi datgelu inni yn ei Air rai o’r pethau bydd ef yn eu gwneud. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud wrthon ni y bydd Jehofa’n atgyfodi’r rhai “anghyfiawn” sydd heb gael y cyfle i ddysgu am y newyddion da a newid eu ffyrdd. (Act. 24:15; Luc 23:​42, 43) Mae hynny’n codi cwestiynau pwysig eraill.

10. Pa gwestiynau eraill sy’n codi?

10 A fydd pawb a fydd yn marw yn ystod digwyddiadau’r trychineb mawr yn cael eu dinistrio am byth, heb obaith o gael eu hatgyfodi? Mae’r Ysgrythurau’n dweud yn glir fydd ’na ddim atgyfodiad i’r rhai sy’n gwrthwynebu Jehofa yn fwriadol ac sy’n cael eu dinistrio gan Dduw a’i fyddinoedd yn ystod Armagedon. (2 Thes. 1:6-10) Ond beth am bobl eraill, fel y rhai sy’n marw o ganlyniad i resymau naturiol, damweiniau, neu weithredoedd pobl eraill? (Preg. 9:11; Sech. 14:13) A fydd rhai ohonyn nhw ymhlith y rhai “anghyfiawn” fydd yn cael eu hatgyfodi yn y byd newydd? Dydyn ni ddim yn gwybod.

BETH RYDYN NI’N EI WYBOD

11. Ar ba sail bydd pobl yn cael eu barnu yn ystod Armagedon?

11 Rydyn ni’n gwybod sawl peth am ddigwyddiadau’r dyfodol. Er enghraifft, rydyn ni’n gwybod bydd pobl yn cael eu barnu yn ystod Armagedon ar sail y ffordd maen nhw wedi trin brodyr Crist. (Math. 25:40) Bydd y rhai sy’n dangos eu bod nhw’n cefnogi’r eneiniog ac Iesu yn cael eu barnu’n ddefaid. Rydyn ni hefyd yn gwybod bydd rhai o frodyr Crist yn dal ar ôl ar y ddaear wrth i’r trychineb mawr daro. Fyddan nhw ddim yn cael eu cymryd i’r nef tan ychydig cyn i ryfel Armagedon ddechrau. Tra bod brodyr Crist ar y ddaear, efallai bydd ’na gyfle i bobl eu cefnogi nhw a’r gwaith maen nhw’n ei wneud. (Math. 25:​31, 32; Dat. 12:17) Pam mae’r ffeithiau hyn yn bwysig?

12-13. Sut bydd rhai efallai yn ymateb ar ôl gweld dinistr “Babilon Fawr”? (Gweler hefyd y lluniau.)

12 Hyd yn oed ar ôl i’r trychineb mawr ddechrau, mae’n bosib bydd rhai sy’n gweld dinistr “Babilon Fawr” yn cofio bod Tystion Jehofa wedi bod yn sôn am hyn am amser hir iawn. A fydd rhai sy’n gweld y digwyddiadau hyn yn newid eu meddyliau?—Dat. 17:5; Esec. 33:33.

13 Byddai rhywbeth o’r fath yn debyg iawn i beth ddigwyddodd yn nyddiau Moses. Cofia, gwnaeth “tyrfa gymysg o bobl” ymuno ag Israel wrth iddyn nhw adael yr Aifft. Efallai dechreuodd rhai feithrin ffydd ar ôl iddyn nhw weld rhybuddion Moses am y Deg Pla yn dod yn wir. (Ex. 12:38) Os byddai rhywbeth tebyg yn digwydd ar ôl dinistr Babilon Fawr, a fyddwn ni’n teimlo’n siomedig bod gan bobl y cyfle i ymuno â ni cyn i’r diwedd ddod? Na fyddwn siŵr! Rydyn ni eisiau adlewyrchu personoliaeth ein Duw “caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel!” bEx. 34:6.

Bydd rhai sy’n gweld dinistr “Babilon Fawr” yn cofio beth ddywedodd Tystion Jehofa (Gweler paragraffau 12-13) d


14-15. Ydy dyfodol tragwyddol person yn dibynnu ar bryd maen nhw’n marw neu ar le maen nhw’n byw? Esbonia. (Salm 33:​4, 5)

14 Weithiau rydyn ni’n clywed rhywun yn dweud am aelod o’i deulu, “Byddai’n well petasai’n marw cyn i’r trychineb mawr ddechrau, fel bod ’na obaith iddo gael ei atgyfodi.” Mae’n siŵr bod rhai yn dweud hyn gyda chymhellion da. Ond, dydy dyfodol tragwyddol person ddim yn dibynnu ar bryd maen nhw’n marw. Jehofa ydy’r Barnwr perffaith, ac mae ef yn wastad yn gwneud penderfyniadau cyfiawn. (Darllen Salm 33:​4, 5.) Gallwn ni fod yn hyderus bydd “Barnwr yr holl ddaear yn gwneud beth sy’n iawn.”—Gen. 18:25.

15 Mae hefyd yn rhesymol inni ddod i’r casgliad canlynol: Dydy dyfodol tragwyddol person ddim yn dibynnu ar le maen nhw’n byw. Mae’n amhosib meddwl y bydd Jehofa’n barnu miliynau o bobl yn eifr am eu bod nhw’n byw rhywle lle doedd hi ddim yn bosib iddyn nhw ddysgu’r gwir. (Math. 25:46) Mae Barnwr cyfiawn y ddaear yn caru’r bobl hyn yn fwy nag ydyn ni. Dydyn ni ddim yn gwybod sut bydd Jehofa’n gweithredu yn ystod y trychineb mawr. Efallai bydd gan rai o’r bobl hyn y cyfle i ddysgu am Jehofa, rhoi ffydd ynddo, a gwneud safiad ar ei ochr pan mae Duw yn sancteiddio ei hun o flaen y cenhedloedd.—Esec. 38:​16, BCND.

Ar ôl i’r trychineb mawr ddechrau, . . . a fydd rhai sy’n gweld y digwyddiadau hyn yn newid eu meddyliau?

16. Beth rydyn ni wedi dod i’w ddeall am Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)

16 Wrth inni astudio’r Beibl, rydyn ni wedi dod i ddeall cymaint y mae Jehofa’n trysori bywydau pobl ar y ddaear. Rhoddodd ei Fab i farw droston ni, fel bod gan bob un ohonon ni’r cyfle i fyw am byth. (Ioan 3:16) Rydyn ni i gyd wedi teimlo cariad Jehofa. (Esei. 49:15) Mae’n ein hadnabod ni’n dda ac yn gwybod enw pob un ohonon ni. Ar ben hynny, mae’n cofio pob un o’n hatgofion a phopeth sy’n ein gwneud ni’n unigryw. Felly, petasen ni’n marw, byddai Jehofa’n gallu ein hatgyfodi ni i’r manylyn lleiaf! (Math. 10:​29-31) Yn bendant, mae gynnon ni resymau da dros fod yn hyderus y bydd ein Tad nefol cariadus yn barnu pob unigolyn mewn ffordd sy’n berffaith gytbwys, cyfiawn, a thrugarog.—Iago 2:13.

Gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa’n barnu pob unigolyn mewn ffordd gytbwys, cyfiawn, a thrugarog (Gweler paragraff 16)


17. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

17 Mae’r newidiadau hyn yn ein dealltwriaeth yn gwneud ein gwaith o bregethu yn fwy pwysig nag erioed o’r blaen. Pam gallwn ni ddweud hyn? Beth sy’n ein cymell ni i bregethu’r newyddion da heb stopio? Byddwn ni’n trafod y cwestiynau hyn yn yr erthygl nesaf.

CÂN 76 Pa Fath o Deimlad Yw?

a I ddeall pam cafodd hyn ei newid, gweler yr erthygl “This Is the Way You Approved,” yn rhifyn Mawrth 15, 2015, o’r Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 7-11.

b Ar ôl i Fabilon Fawr gael ei dinistrio, bydd gweision Jehofa yn cael eu profi yn ystod ymosodiad Gog o dir Magog. Bydd unrhyw un sy’n ochri gyda Jehofa ar ôl dinistr Babilon Fawr hefyd yn cael ei brofi.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Tri llun sy’n dangos sefyllfaoedd a all rwystro rhai rhag clywed neges y Deyrnas: (1) Mae dynes yn byw lle mae pregethu yn beryglus oherwydd prif grefydd y wlad, (2) mae cwpl yn byw mewn gwlad lle mae pregethu yn beryglus oherwydd y llywodraeth, (3) mae dyn yn byw lle mae’r dirwedd yn ei gwneud hi’n anodd iawn i deithio o gwmpas.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Dynes ifanc a wnaeth adael y gwir yn cofio beth gwnaeth hi ei ddysgu am ddinistr “Babilon Fawr.” Mae hi’n newid ei meddwl ac yn mynd yn ôl i’w rhieni Cristnogol. Os ydy rhywbeth tebyg yn digwydd yn y dyfodol, rydyn ni eisiau adlewyrchu personoliaeth ein Tad nefol trugarog, a llawenhau i weld bod pechadur wedi dod yn ôl.