Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 26

CÂN 8 Jehofa Yw Ein Noddfa

Gwna Jehofa’n Graig Iti

Gwna Jehofa’n Graig Iti

“Does neb tebyg i ti; neb sy’n graig fel ein Duw ni.”1 SAM. 2:2.

PWRPAS

Dysga pam mae Jehofa’n cael ei alw’n graig a sut gallwn ni ei efelychu.

1. Sut mae Dafydd yn cyfeirio at Jehofa yn Salm 18:46?

 YN Y byd hwn, gall heriau annisgwyl wneud ein bywydau’n anodd neu hyd yn oed newid ein bywydau yn gyfan gwbl. Felly, rydyn ni mor ddiolchgar ein bod ni’n gallu troi at Jehofa Dduw am help. Yn yr erthygl flaenorol, cawson ni ein hatgoffa mai Jehofa ydy’r Duw byw, ac mae ef yn wastad yn barod i’n helpu ni. Mae profi ei gefnogaeth yn gwneud inni deimlo’n hyderus bod Jehofa “yn fyw!” (Darllen Salm 18:46.) Ond yn syth ar ôl i Dafydd ddweud hynny, galwodd Dduw “y graig.” Pam byddai Dafydd yn cymharu Jehofa, y Duw byw, â rhywbeth di-fywyd fel craig?

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam mae Jehofa yn cael ei alw’n graig a beth mae’r disgrifiad hwn yn ei ddysgu inni. Byddwn ni hefyd yn dysgu sut gallwn ni ddod i ystyried Jehofa yn graig i ni. Ac yn olaf, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni efelychu rhinweddau Jehofa.

SUT MAE JEHOFA YN DEBYG I GRAIG

3. Sut mae’r Beibl yn aml yn defnyddio’r gair “craig”? (Gweler y llun .)

3 Yn y Beibl, roedd gweision ffyddlon Jehofa yn defnyddio’r gair “craig” i ddisgrifio rhinweddau rhyfeddol Jehofa. Mae Deuteronomium 32:4 yn cynnwys y tro cyntaf i Jehofa gael ei alw’n graig yn y Beibl. Dywedodd Hanna mewn gweddi: “Does neb . . . sy’n graig fel ein Duw ni.” (1 Sam. 2:2) Gwnaeth Habacuc hefyd alw Jehofa yn graig iddo. (Hab. 1:12) Gwnaeth ysgrifennydd Salm 73 hefyd alw Duw yn “graig ddiogel.” (Salm 73:26) A gwnaeth Jehofa hyd yn oed alw ei hun yn graig. (Esei. 44:8) Gad inni drafod tair rhinwedd sy’n gwneud Jehofa yn debyg i graig a sut gallwn ni ddibynnu arno fel “ein Craig ni.”Deut. 32:31.

Mae pobl Dduw yn ystyried Jehofa yn graig gadarn (Gweler paragraff 3)


4. Ym mha ystyr mae Jehofa yn gaer? (Salm 94:22)

4 Mae Jehofa yn gaer. Yn union fel gall craig enfawr fod yn lloches i rywun yn ystod storm, mae Jehofa yn ein llochesu ni pan ydyn ni’n wynebu sefyllfaoedd anodd. (Darllen Salm 94:22.) Mae’n ein cadw’n ni’n saff ac yn ein stopio ni rhag profi niwed parhaol. Ar ben hynny, mae’n addo cael gwared ar unrhyw beth sy’n achosi pryder neu ddioddefaint inni.—Esec. 34:​25, 26.

5. Sut gall Jehofa fod yn graig ddiogel inni?

5 Gall Jehofa fod yn graig ddiogel inni pan ydyn ni’n gweddïo arno. Wrth inni weddïo, mae Jehofa yn rhoi “heddwch Duw” inni sy’n ‘gwarchod ein calonnau a’n meddyliau.’ (Phil. 4:​6, 7) Ystyria brofiad Artem, brawd a gafodd ei garcharu am ei ffydd. Gwnaeth swyddog cas ei gwestiynu dro ar ôl tro, ei drin yn ddrwg, a cheisio codi ofn arno. “O’n i’n teimlo’n hynod o bryderus bob tro roedd y swyddog yn fy ngalw i i gael fy nghwestiynu. . . . O’n i’n gweddïo ar Jehofa o hyd. Gofynnais am heddwch a doethineb,” meddai Artem. “Doedd triciau’r swyddog ddim yn gweithio arna i. Gyda help Jehofa, roedd fel petaswn i’n sefyll y tu ôl i wal cerrig.”

6. Pam gallwn ni ddibynnu ar Jehofa bob tro? (Eseia 26:​3, 4)

6 Mae Jehofa’n ddibynadwy. Fel craig gadarn, bydd Jehofa o hyd yno inni. Gallwn ni ei drystio, gan ei fod yn “graig am byth.” (Darllen Eseia 26:​3, 4.) Bydd yn wastad yn cadw ei addewidion, yn gwrando ar ein gweddïau, ac yn rhoi cefnogaeth angenrheidiol inni. Gallwn ni hefyd ddibynnu ar Jehofa gan ei fod yn ffyddlon i’r rhai sy’n ei wasanaethu. (2 Sam. 22:26) Fydd ef byth yn anghofio’r hyn rydyn ni’n ei wneud a bydd yn wastad yn ein gwobrwyo ni.—Heb. 6:10; 11:6.

7. Beth byddwn ni’n ei brofi pan ydyn ni’n dibynnu ar Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)

7 Gall Jehofa fod yn graig inni os ydyn ni’n dibynnu arno’n llwyr. Rydyn ni’n trystio bydd ufuddhau iddo o les inni, hyd yn oed yn ystod adegau anodd. (Esei. 48:​17, 18) Wrth inni brofi ei gefnogaeth, bydd ein hyder ynddo yn tyfu a byddwn ni’n barod i wynebu heriau gallwn ni ond eu trechu gyda help Jehofa. Yn aml, pan ydyn ni’n wynebu sefyllfaoedd lle rydyn ni ar ein pennau ein hunain, rydyn ni’n sylweddoli pa mor ddibynadwy ydy Jehofa. Dywedodd brawd o’r enw Vladimir: “Roedd fy mherthynas â Jehofa yn gryfach nag erioed pan oeddwn i yn y ganolfan gadw. Gwnes i ddysgu i drystio Jehofa’n fwy oherwydd bod ar fy mhen fy hun heb reolaeth dros y sefyllfa.”

Bydd Jehofa yn graig inni pan ydyn ni’n dibynnu’n llwyr arno (Gweler paragraff 7)


8. (a) Pam gallwn ni ddweud bod Jehofa’n gyson? (b) Sut rydyn ni’n elwa pan fydd Duw yn Graig inni? (Salm 62:​6, 7)

8 Mae Jehofa’n gyson. Yn debyg i graig enfawr, mae Jehofa yn gadarn a dydy ei bersonoliaeth na’i bwrpas byth yn newid. (Mal. 3:6) Pan wrthryfelodd Adda ac Efa yng ngardd Eden, wnaeth Jehofa ddim newid ei bwrpas. Fel ysgrifennodd yr apostol Paul, dydy Jehofa “ddim yn gallu ei wadu ei hun.” (2 Tim. 2:13) Ni waeth beth sy’n digwydd neu beth mae eraill yn ei wneud, bydd rhinweddau, pwrpas, a safonau Jehofa yn wastad yn gyson. Gyda hyder yn ein Duw cyson, gallwn ni droi ato i’n hachub ni ac i’n helpu i ymdopi yn ystod adegau anodd.—Darllen Salm 62:​6, 7.

9. Beth mae profiad Tatyana yn ei ddysgu inni?

9 Mae Jehofa yn graig inni pan ydyn ni’n myfyrio ar ei rinweddau ac ar ei bwrpas. Gall hyn ein helpu ni i gadw cydbwysedd emosiynol wrth inni wynebu treialon. (Salm 16:8) Roedd hynny’n wir yn achos chwaer o’r enw Tatyana a gafodd ei charcharu yn ei thŷ. “O’n i wir ar fy mhen fy hun,” meddai. “Ac roedd hynny’n her ar y cychwyn. O’n i’n digalonni’n aml.” Ond, pan welodd hi’r cysylltiad rhwng ei threial hi a Jehofa a’i bwrpas, cafodd hi ei chryfhau i ddal ati’n ffyddlon. Dywedodd hi: “Roedd deall pam roedd hyn yn digwydd yn fy helpu i gofio fy mod i’n wynebu’r sefyllfa hon oherwydd fy nghariad tuag at Jehofa. Roedd hynny’n fy helpu i stopio canolbwyntio arna i fy hun.”

10. Sut gall Jehofa fod yn Graig inni nawr?

10 Yn y dyfodol agos, byddwn ni’n wynebu treialon a fydd yn gofyn inni ddibynnu ar Jehofa yn fwy nag erioed o’r blaen. Er mwyn aros yn ffyddlon bryd hynny, mae’n rhaid inni gymryd yr amser nawr i feithrin ein hyder yn Jehofa. Sut gallwn ni wneud hynny? Trwy ddarllen hanesion o’r Beibl a phrofiadau Tystion yr oes fodern. Sylwa ar sut mae Jehofa wedi bod fel craig i’w weision. Trwy feddwl yn ddwfn am yr hanesion hynny, byddi di’n gwneud Jehofa yn Graig i ti.

EFELYCHA RINWEDDAU JEHOFA

11. Pam rwyt ti eisiau efelychu rhinweddau Jehofa? (Gweler hefyd y blwch “ Nod i Frodyr Ifanc.”)

11 Rydyn ni wedi trafod sut mae Jehofa’n debyg i graig. Nawr, ystyria sut gallwn ni efelychu ei rinweddau. Bydd gwneud hynny’n ein helpu ni i gryfhau ein brodyr a’n chwiorydd. Er enghraifft, rhoddodd Iesu’r enw Ceffas (sy’n cael ei gyfieithu “Pedr”) i Simon, sy’n golygu “Darn o Graig.” (Ioan 1:42) Roedd Iesu’n dweud y byddai Pedr yn cysuro a chryfhau eraill yn y gynulleidfa. Mae’r Beibl yn dweud bod henuriaid yn “gysgod craig enfawr,” sy’n ddisgrifiad da o’r ffordd maen nhw’n amddiffyn eraill yn y gynulleidfa. (Esei. 32:2) Wrth gwrs, mae pawb yn y gynulleidfa yn elwa pan mae’r brodyr a’r chwiorydd i gyd yn efelychu rhinweddau Jehofa.—Eff. 5:1.

12. Esbonia sut gallwn ni fod yn gaer ddiogel i eraill.

12 Bydda’n gaer ddiogel. Ar adegau, mae ein brodyr a’n chwiorydd yn gorfod ffoi oherwydd trychinebau naturiol, aflonyddwch sifil, neu ryfel, ac rydyn ni’n agor ein tai iddyn nhw. Wrth i’r sefyllfa waethygu yn ystod y “dyddiau olaf” hyn, yn bendant bydd gynnon ni fwy o gyfle i’w helpu nhw mewn ffyrdd ymarferol. (2 Tim. 3:1) Gallwn ni hefyd fod yn noddfa ysbrydol ac emosiynol i’n brodyr a’n chwiorydd. Un ffordd gallwn ni wneud hyn yw trwy gyfrannu at awyrgylch cynnes y gynulleidfa, a gwneud i bawb deimlo’n gartrefol. Mae ’na awyrgylch oer a chreulon yn y byd o’n cwmpas ni. Felly, wrth i’n brodyr a’n chwiorydd fynychu’r cyfarfodydd, rydyn ni eisiau gwneud ein gorau glas i’w helpu nhw i deimlo ein cariad ac i deimlo’n ddiogel.

13. Sut gall henuriaid fod yn gaer i eraill? (Gweler hefyd y llun.)

13 Gall henuriaid fod yn gaer i eraill yn y gynulleidfa sy’n wynebu stormydd llythrennol neu ffigurol. Yn ystod trychineb neu argyfwng meddygol, mae henuriaid yn cymryd y cam cyntaf i drefnu help ymarferol ac ysbrydol. Bydd brodyr a chwiorydd yn teimlo’n hapus i fynd at henuriad os ydy ef yn garedig, yn dangos empathi, ac yn barod i wrando. Pan fydd rhywun yn teimlo bod henuriad yn wir yn ei garu, bydd hi’n llawer haws rhoi ar waith unrhyw gyngor Beiblaidd mae’r henuriad yn ei roi.—1 Thes. 2:​7, 8, 11.

Mae’r henuriaid yn gaer i’r rhai yn y gynulleidfa sy’n cael eu heffeithio gan stormydd llythrennol a ffigurol (Gweler paragraff 13) a


14. Sut gallwn ni fod yn ddibynadwy?

14 Bydda’n ddibynadwy. Byddwn ni eisiau i eraill deimlo fel eu bod nhw’n gallu dibynnu arnon ni, yn enwedig yn ystod adegau anodd. (Diar. 17:17) Sut gallwn ni gael ein hadnabod fel person dibynadwy? Drwy geisio dangos rhinweddau duwiol drwy’r adeg, fel cadw ein haddewidion neu drwy wneud ein gorau glas i fod ar amser. (Math. 5:37) Gallwn ni hefyd gynnig help ymarferol pan fydd angen. Ar ben hynny, gallwn ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cwblhau ein haseiniadau yn ôl y cyfarwyddiadau rydyn ni’n eu cael.

15. Sut gall henuriaid dibynadwy helpu’r gynulleidfa?

15 Mae henuriaid dibynadwy yn rhodd i’r gynulleidfa. Sut? Mae cyhoeddwyr yn teimlo’n llai pryderus pan maen nhw’n gwybod eu bod nhw’n gallu mynd at yr henuriaid bryd bynnag maen nhw angen help. Bydd yn haws trystio’r henuriaid pan fyddan nhw’n seilio eu cyngor ar y Beibl ac ar gyhoeddiadau’r gwas ffyddlon, yn hytrach nag ar eu syniadau eu hunain. Gall henuriaid hefyd helpu’r gynulleidfa i gael hyder ynddyn nhw pan maen nhw’n cadw pethau preifat yn gyfrinachol ac yn cadw at eu gair.

16. Sut mae bod yn gyson yn ein helpu ni ac eraill?

16 Bydda’n gyson. Gallwn ni fod yn ddylanwad da ar eraill os ydyn ni’n cadw at beth sy’n iawn ac yn gwneud penderfyniadau ar sail egwyddorion y Beibl. Wrth inni ddod i wybodaeth gywir a chryfhau ein ffydd, byddwn ni’n glynu wrth Jehofa a’i safonau’n fwy. Fyddwn ni ddim yn cael ein dylanwadu gan gau ddysgeidiaethau a meddylfryd y byd oherwydd byddan nhw’n amlwg inni. (Eff. 4:14; Iago 1:​6-8) Mae ein ffydd yn Jehofa a’i addewidion yn ein helpu ni i beidio â cholli ein cydbwysedd wrth inni glywed newyddion drwg. (Salm 112:​7, 8) Gallwn ni hefyd helpu eraill sy’n wynebu treialon.—1 Thes. 3:​2, 3.

17. Beth sy’n helpu’r henuriaid i sefydlogi’r gynulleidfa?

17 Dylai henuriaid ymddwyn mewn ffordd gytbwys a bod yn synhwyrol, yn drefnus, ac yn rhesymol. Maen nhw’n cryfhau ac yn sefydlogi’r gynulleidfa drwy “afael yn dynn yn y gair ffyddlon.” (Titus 1:9; 1 Tim. 3:​1-3) Trwy osod esiampl dda a bugeilio, mae henuriaid yn helpu eraill yn y gynulleidfa i fynychu cyfarfodydd, i fynd ar y weinidogaeth, ac i astudio’n rheolaidd. Wrth i frodyr a chwiorydd wynebu problemau, mae’r henuriaid yn eu helpu nhw i ddibynnu ar Jehofa ac i ganolbwyntio ar Ei addewidion.

18. Pam rydyn ni eisiau moli Jehofa ac agosáu ato? (Gweler hefyd y blwch “ Sut i Nesáu at Jehofa.”)

18 Ar ôl trafod rhinweddau anhygoel Jehofa, gallwn ni ddweud yr un peth â’r Brenin Dafydd: “Bendith ar yr ARGLWYDD, fy nghraig i!” (Salm 144:1) Gallwn ni wastad ddibynnu ar Jehofa i’n helpu ni i ffynnu’n ysbrydol. Drwy gydol ein bywydau, bydd pob un ohonon ni’n gallu dweud yn hyderus am Jehofa: “Mae e’n graig saff i mi.”Salm 92:​14, 15.

CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth

a DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â dau henuriad mewn Neuadd y Deyrnas.