Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 23

CÂN 28 Dod yn Ffrind i Jehofa

Gwahoddiad Jehofa i Fynd i’w Babell

Gwahoddiad Jehofa i Fynd i’w Babell

“Bydd fy mhabell gyda nhw, bydda i’n Dduw iddyn nhw.”ESEC. 37:​27, NWT.

PWRPAS

I’n helpu ni i ddeall yn well gwahoddiad Jehofa i fynd i’w babell ffigurol a’r ffordd y mae’n edrych ar ein holau ni.

1-2. Pa wahoddiad mae Jehofa’n ei estyn i’w addolwyr ffyddlon?

 SUT byddet ti’n disgrifio dy berthynas â Jehofa? Efallai byddi di’n dweud, ‘Jehofa yw fy Nhad, fy Nuw, a fy Ffrind.’ Ond, a wyt ti’n gweld dy hun fel gwestai yn ei babell?

2 Gwnaeth y Brenin Dafydd gymharu’r berthynas rhwng Jehofa a’i addolwyr ffyddlon â rhywun yn gwahodd gwesteion i’w babell. Gofynnodd: “ARGLWYDD, pwy sy’n cael aros yn dy babell di? Pwy sy’n cael byw ar dy fynydd cysegredig?” (Salm 15:1) Mae’r geiriau hyn yn dangos ein bod ni’n gallu bod yn westeion Jehofa, neu yn ffrindiau iddo. Onid ydy hynny’n wahoddiad hyfryd gan Dduw?

MAE JEHOFA EISIAU INNI DDERBYN EI WAHODDIAD

3. Pwy oedd gwestai cyntaf Jehofa, a sut roedden nhw’n teimlo am ei gilydd?

3 Roedd Jehofa ar ei ben ei hun cyn iddo greu unrhyw beth. Ond yna, gwnaeth greu ei fab cyntaf-anedig ac roedd yn hapus iawn i’w wahodd i’w babell ffigurol. Mae’r Beibl yn dangos inni fod Jehofa wrth ei fodd gyda’i fab, ac roedd ei westai cyntaf yn “ymlawenhau ger ei fron ef bob amser.”—Diar. 8:​30, BC.

4. Pwy arall cafodd eu gwahodd i babell Jehofa?

4 Yna, gwnaeth Jehofa greu ysbryd greaduriaid eraill a’u gwahodd nhw i fod yn westeion hefyd. Mae’r Beibl yn dangos bod yr angylion yn hapus i gadw cwmni â Jehofa. (Job 38:7; Dan. 7:10) Am beth amser, dim ond Jehofa a’r ysbryd greaduriaid oedd yn bodoli. Ond yn nes ymlaen, gwnaeth Duw greu bodau dynol a’u gwahodd nhw i’w babell. Ymysg y rhain oedd rhai ffyddlon fel Enoch, Noa, Abraham, a Job. Mae’r Beibl yn disgrifio’r rhain fel ffrindiau i Dduw, neu fel rhai a oedd yn ‘cerdded gyda’r gwir Dduw.’—Gen. 5:24; 6:9; Job 29:4; Esei. 41:8.

5. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r broffwydoliaeth yn Eseciel 37:​26, 27?

5 Dros y canrifoedd, mae Jehofa wedi parhau i wahodd ei ffrindiau i’w babell. (Darllen Eseciel 37:​26, 27 o’r troednodyn. a) Mae proffwydoliaeth Eseciel yn dangos bod Duw eisiau i’w addolwyr ffyddlon gael perthynas agos ag Ef. Mae’n addo gwneud “cyfamod o heddwch â nhw.” Mae’r broffwydoliaeth honno’n sôn am amser pan fydd pawb sydd â’r gobaith daearol a’r gobaith nefol yn unedig yn ei babell, “yn un praidd.” (Ioan 10:16) Nawr yw’r amser hwnnw!

MAE DUW YN GOFALU AMDANON NI BLE BYNNAG RYDYN NI

6. Sut gall rhywun ddod yn un o westeion Jehofa, a ble mae ei babell?

6 Yn adeg y Beibl, roedd pabell yn noddfa ac yn lle i orffwys. Byddai gwestai ym mhabell rhywun yn disgwyl i’w letywr edrych ar ei ôl. Pan ydyn ni’n cysegru ein bywydau i Jehofa, rydyn ni’n dod, fel petai, yn westeion yn ei babell ef. (Salm 61:4) Rydyn ni’n mwynhau cymdeithasu ag eraill sydd wedi cael eu gwahodd i’r babell a chael ein bwydo’n ysbrydol. Dydy pabell Jehofa ddim wedi ei chyfyngu i unrhyw ardal benodol. Efallai eich bod chi wedi teithio i wlad arall a mynychu cynhadledd yno, ac wedi cyfarfod eraill sydd ym mhabell Duw. Ble bynnag y mae gweision ffyddlon Duw, dyna hefyd lle mae ei babell.—Dat. 21:3.

7. Pam gallwn ni ddweud bod rhai ffyddlon sydd wedi marw yn dal yn westeion ym mhabell Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)

7 Beth am rai ffyddlon sydd wedi marw? A ydyn ni’n gallu dweud eu bod nhw’n dal yn westeion ym mhabell Jehofa? Ydyn! Pam gallwn ni ddweud hynny? Oherwydd bod rhai felly yn dal yn fyw yng nghof Jehofa. Esboniodd Iesu: “Gwnaeth hyd yn oed Moses ddatgelu yn yr hanes am y berth ddrain fod y meirw yn cael eu codi, pan wnaeth Moses alw Jehofa ‘yn Dduw Abraham ac yn Dduw Isaac ac yn Dduw Jacob.’ Nid Duw’r meirw ydy ef, ond y rhai byw, oherwydd eu bod nhw i gyd yn fyw iddo ef.”—Luc 20:​37, 38.

Gallwn ni ystyried rhai ffyddlon sydd wedi marw fel eu bod nhw’n dal ym mhabell Duw (Gweler paragraff 7)


BENDITHION A CHYFRIFOLDEBAU

8. Pa fendithion sy’n dod o fod ym mhabell Jehofa?

8 Yn union fel mae rhywun yn gallu llochesu mewn pabell lythrennol, mae pabell Jehofa yn noddfa rhag niwed ysbrydol ac anobaith. Tra ein bod ni’n aros yn agos at Jehofa, ni all Satan wneud unrhyw niwed parhaol inni. (Salm 31:23; 1 Ioan 3:8) Yn y byd newydd, bydd Jehofa yn parhau i amddiffyn ei ffrindiau ffyddlon, nid yn unig rhag niwed ysbrydol, ond hefyd rhag marwolaeth.—Dat. 21:4.

9. Sut mae Jehofa’n disgwyl i’w westeion ymddwyn?

9 Mae’n anrhydedd mawr i gael ein gwahodd i babell Jehofa ac i fod yn ffrindiau iddo. Sut dylen ni ymddwyn os ydyn ni eisiau aros yn ei babell? Petaset ti’n cael dy wahodd i dŷ rhywun, byddet ti eisiau dilyn ei reolau. Er enghraifft, petasai ef yn disgwyl iti dynnu dy esgidiau cyn iti ddod i mewn, byddet ti’n ddigon hapus i wneud hynny. Mewn ffordd debyg, rydyn ni eisiau gwybod beth mae Jehofa’n ei ddisgwyl gan y rhai y mae’n eu gwahodd i’w babell. Mae ein cariad at Jehofa yn ein cymell ni i wneud ein gorau i’w “blesio’n llawn.” (Col. 1:10) Ac er ein bod ni’n gweld Jehofa yn ffrind inni, rydyn ni hefyd yn cydnabod ei fod yn dad ac yn Dduw sy’n haeddu ein parch. Bydd cofio hynny yn ein helpu ni i gael parch dwfn tuag ato a’n helpu ni i beidio â gwneud unrhyw beth a fyddai’n ei frifo. Yn bendant, rydyn ni eisiau bod yn “wylaidd” o flaen Duw.—Mich. 6:8.

DOEDD JEHOFA DDIM YN DANGOS FFAFRIAETH

10-11. Sut dangosodd Jehofa degwch yn y ffordd roedd yn trin yr Israeliaid yn anialwch Sinai?

10 Mae Jehofa yn trin ei westeion heb ffafriaeth. (Rhuf. 2:11) Gallwn ni ddysgu am degwch Jehofa yn y ffordd y gwnaeth ef drin yr Israeliaid yn anialwch Sinai.

11 Penododd Jehofa offeiriaid i wasanaethu yn y tabernacl ar ôl iddo achub ei bobl o’r Aifft. Cafodd Lefiaid eu haseinio i wneud gwaith arall o gwmpas y tabernacl. A oedd Jehofa’n gofalu am y rhai oedd yn gwasanaethu neu’n byw’n agos at y tabernacl yn fwy nag eraill? Nag oedd! Dydy Jehofa ddim yn dangos ffafriaeth.

12. Sut roedd ffordd Jehofa o drin yr Israeliaid yn dangos ei degwch? (Exodus 40:38) (Gweler hefyd y llun.)

12 Roedd gan bawb yn y genedl yr un cyfle i gael perthynas â Jehofa ni waeth beth oedd eu haseiniad neu ble roedden nhw’n byw. Er enghraifft, gwnaeth Jehofa sicrhau byddai’r genedl gyfan yn gallu gweld y golofn o gwmwl neu o dân a oedd yn codi uwchben y tabernacl. (Darllen Exodus 40:38.) Pan oedd y cwmwl yn dechrau symud i gyfeiriad newydd, roedd pawb yn gallu ei weld a dechrau casglu eu pethau at ei gilydd, tynnu eu pebyll i lawr, a gadael gyda phawb arall. (Num. 9:​15-23) Roedd pawb yn gallu clywed sŵn dau utgorn arian a oedd yn rhoi arwydd i adael. (Num. 10:2) Yn amlwg, doedd byw yn agos at y tabernacl ddim yn dangos bod gan rywun berthynas agosach â Jehofa. Yn hytrach, roedd pob un Israeliad yn gallu bod yn westai ym mhabell Jehofa gan wybod y byddai Jehofa’n edrych ar ei ôl. Mewn ffordd debyg, gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa yn edrych ar ein holau ni, ni waeth lle ar y ddaear rydyn ni’n byw.

Roedd trefniant Duw o’r tabernacl yn dangos ei degwch (Gweler paragraff 12)


DYDY DUW DDIM YN DANGOS FFAFRIAETH HEDDIW

13. Sut mae Jehofa’n dangos tegwch heddiw?

13 Mae rhai ymysg pobl Dduw heddiw yn byw yn agos i’r pencadlys neu un i o ganghennau Tystion Jehofa. Mae rhai yn gwasanaethu yn y Bethel. O ganlyniad, maen nhw’n cael y cyfle i gymdeithasu â’r rhai sy’n cymryd y blaen. Mae eraill yn gwasanaethu fel arolygwyr teithiol neu mewn ffurf arall o wasanaeth llawn-amser arbennig. Os nad wyt ti mewn sefyllfa debyg, cofia fod Jehofa’n caru pawb y mae wedi eu croesawu i’w babell. Mae’n addo edrych ar eu holau nhw. (1 Pedr 5:7) Mae pob un o weision Duw yn cael eu bwydo’n ysbrydol, eu harwain, a’u hamddiffyn.

14. Beth arall sy’n profi nad ydy Jehofa’n dangos ffafriaeth?

14 Esiampl arall o degwch Jehofa ydy’r ffaith ei fod yn gwneud y Beibl ar gael i bobl ar draws y byd. Cafodd yr Ysgrythurau Sanctaidd eu hysgrifennu’n wreiddiol mewn tair iaith: Hebraeg, Aramaeg, a Groeg. Ydy’r rhai sy’n deall yr ieithoedd gwreiddiol yn mwynhau perthynas agosach â Jehofa na’r rhai sydd ddim? Nac ydyn.—Math. 11:25.

15. Beth sy’n rhoi tystiolaeth bod Jehofa’n deg? (Gweler hefyd y llun.)

15 Dydy cymeradwyaeth Jehofa ddim yn dibynnu ar ein haddysg neu ar ein gallu i siarad ieithoedd gwahanol. Yn hytrach na gwneud ei ddoethineb ar gael i’r addysgedig yn unig, mae Jehofa wedi ei roi i bob math o bobl o gwmpas y ddaear ni waeth eu haddysg. Mae ei Air, y Beibl, wedi cael ei gyfieithu i filoedd o ieithoedd. O ganlyniad, mae pobl o bob cwr o’r byd yn gallu elwa o’i ddysgeidiaeth a dysgu sut i fod yn ffrindiau i Dduw.—2 Tim. 3:​16, 17.

Pam mae’r ffaith bod y Beibl ar gael i gymaint o bobl yn arwydd o degwch Duw? (Gweler paragraff 15)


BYDDA’N “DDERBYNIOL” I JEHOFA

16. Yn ôl Actau 10:​34, 35, sut gallwn ni fod yn dderbyniol i Jehofa?

16 Mae’n fraint fawr i gael ein croesawu i babell ffigurol Jehofa. Does neb yn fwy caredig, cariadus, na lletygar na Jehofa. Hefyd, dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth. Mae’n ein croesawu ni i gyd, ni waeth lle rydyn ni’n byw, ein cefndir, ein haddysg, ein hil, ein diwylliant, ein hoed, neu ein rhyw. Ond, dim ond y rhai sy’n cwrdd â’i safonau sy’n cael aros yn ei babell.—Darllen Actau 10:​34, 35.

17. Ble gallwn ni ffeindio mwy o wybodaeth am aros ym mhabell Jehofa?

17 Gofynnodd Dafydd yn Salm 15:​1, “ARGLWYDD, pwy sy’n cael aros yn dy babell di? Pwy sy’n cael byw ar dy fynydd cysegredig?” Cafodd y salmydd ei ysbrydoli i ateb y cwestiynau hynny. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod rhai gofynion penodol y mae’n rhaid inni gwrdd â nhw er mwyn aros yn dderbyniol i Jehofa.

CÂN 32 Saf o Blaid Jehofa!

a Eseciel 37:​26, 27, NWT: “Bydda i’n gwneud cyfamod o heddwch â nhw; fe fydd yn gyfamod tragwyddol. Bydda i’n eu sefydlu nhw a’u lluosogi nhw a gosod fy nghysegr yn eu mysg nhw am byth. Bydd fy mhabell gyda nhw, bydda i’n Dduw iddyn nhw, a nhw fydd fy mhobl.”