Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 24

CÂN 24 Dewch i Fynydd Jehofa

Arhosa ym Mhabell Jehofa am Byth!

Arhosa ym Mhabell Jehofa am Byth!

“ARGLWYDD, pwy sy’n cael aros yn dy babell di?”SALM 15:1.

PWRPAS

I ddeall beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn aros yn ffrindiau â Jehofa, ac i ddysgu sut mae’n disgwyl inni drin ei ffrindiau.

1. Pam byddai’n dda inni ystyried Salm 15:​1-5?

 YN YR erthygl flaenorol, dysgon ni fod y rhai sy’n cysegru eu bywydau i Jehofa ac sy’n cadw perthynas agos ag ef yn gallu aros yn ei babell. Ond sut gallwn ni fod yn gymwys i dderbyn y gwahoddiad? Mae gan Salm 15 lawer i’w ddweud am y pwnc. (Darllen Salm 15:​1-5.) Mae’r Salm yn cynnwys gwersi ymarferol a all ein helpu ni i agosáu at Dduw.

2. Pam efallai gwnaeth y salmydd Dafydd sôn am babell Jehofa?

2 Mae geiriau agoriadol Salm 15 yn dweud: “ARGLWYDD, pwy sy’n cael aros yn dy babell di? Pwy sy’n cael byw ar dy fynydd cysegredig?” (Salm 15:1) Wrth sôn am “babell” Jehofa, efallai roedd Dafydd yn meddwl am y tabernacl a oedd yn Gibeon am ychydig. Mae Dafydd hefyd yn sôn am “fynydd cysegredig” Duw, efallai yn cyfeirio at Seion yn Jerwsalem. Yno, sawl milltir i’r de o Gibeon, gosododd Dafydd babell dros dro ar gyfer arch y cyfamod nes i’r deml gael ei hadeiladu.—2 Sam. 6:17.

3. Pam dylai Salm 15 fod o ddiddordeb inni? (Gweler hefyd y llun.)

3 Wrth gwrs, doedd y rhan fwyaf o’r Israeliaid ddim yn gwasanaethu yn y tabernacl, a dim ond ychydig iawn oedd yn cael mynd i mewn i’r babell lle roedd arch y cyfamod. Ond roedd holl weision ffyddlon Jehofa yn gallu mynd i mewn i’w babell ffigurol drwy fod yn ffrindiau ag ef. Rydyn ni i gyd eisiau gwneud hynny. Mae Salm 15 yn trafod rhai rhinweddau mae’n rhaid inni eu meithrin er mwyn bod yn ffrindiau, ac aros yn ffrindiau, â Jehofa.

Byddai’r Israeliaid yn adeg Dafydd wedi gallu dychmygu beth roedd yn ei olygu i gael eu gwahodd i babell Jehofa (Gweler paragraff 3)


BYW BYWYD DI-FAI A GWNEUD BETH SY’N IAWN

4. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa’n disgwyl mwy gynnon ni na bedydd yn unig? (Eseia 48:1)

4 Yn ôl Salm 15:​2, mae’n rhaid i ffrindiau Duw barhau i ‘fyw bywyd di-fai’ a “gwneud beth sy’n iawn.” Ond a ydy bod yn ddi-fai yn bosib inni? Ydy. Does neb ohonon ni’n berffaith, ond bydd Jehofa yn ein gweld ni’n ddi-fai os ydyn ni’n gwneud ein gorau i fod yn ufudd iddo. Yn adeg y Beibl, doedd bod yn rhan o genedl Israel yn unig ddim yn golygu bod rhywun yn gymwys i fod yn un o westeion Jehofa. Roedd rhai yn galw arno ond “heb fod yn ddidwyll,” hynny yw, doedden nhw ddim yn galw arno mewn gwirionedd nac mewn cyfiawnder. (Darllen Eseia 48:1.) Roedd rhaid i Israeliaid diffuant ddysgu am safonau Jehofa a’u dilyn nhw. Mewn ffordd debyg, pan ydyn ni’n cysegru ein hunain i Dduw a chael ein bedyddio, rydyn ni’n dechrau ar ein taith gyda Duw. Ond er mwyn derbyn ei gymeradwyaeth, mae’n rhaid inni wneud mwy na chael ein bedyddio a bod yn rhan o’i gynulleidfa Gristnogol. Mae’n rhaid inni barhau i ‘wneud beth sy’n iawn.’ Beth mae hynny’n ei olygu?

5. Beth mae’n ei olygu i fod yn ufudd i Jehofa ym mhob rhan o’n bywydau?

5 I Jehofa, mae “byw bywyd di-fai” a “gwneud beth sy’n iawn” yn golygu mwy na dangos dy wyneb yn y cyfarfodydd. (1 Sam. 15:22) Mae’n rhaid inni fod yn ufudd i Dduw ym mhob rhan o’n bywydau. Mae’n hynny’n cynnwys y pethau bach a hefyd pan ydyn ni ar ein pennau ein hunain. (Diar. 3:6; Preg. 12:​13, 14) Bydd hynny’n dangos ein bod ni’n wir yn caru Duw, a bydd ef o ganlyniad yn ein caru ni yn fwy.—Ioan 14:23; 1 Ioan 5:3.

6. Yn ôl Hebreaid 6:​10-12, beth sy’n bwysicach na’r pethau da rydyn ni wedi eu gwneud yn y gorffennol?

6 Mae Jehofa’n gwerthfawrogi popeth rydyn ni wedi ei wneud drosto yn y gorffennol. Ond mae’r Beibl yn ei gwneud hi’n glir dydy’r pethau hynny ar eu pennau eu hunain ddim yn golygu ein bod ni’n gymwys i aros ym mhabell Jehofa. (Darllen Hebreaid 6:​10-12.) Dydy Jehofa ddim yn anghofio’r da rydyn ni wedi ei wneud. Ond mae ef eisiau inni ddal ati i’w wasanaethu gyda’n holl galon “hyd at y diwedd.” Mae’n addo bod yn ffrind i ni am byth “os nad ydyn ni’n blino’n lân.”—Gal. 6:9.

DWEUD Y GWIR BOB AMSER

7. Beth mae’n ei olygu i ‘ddweud y gwir bob amser’?

7 Mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau bod yn gymwys i aros ym mhabell Jehofa ‘ddweud y gwir bob amser.’ (Salm 15:2) Mae hyn yn golygu mwy na pheidio â dweud celwydd. Mae Jehofa eisiau inni fod yn onest ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. (Heb. 13:18) Mae hyn yn bwysig, oherwydd “mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy’n twyllo, ond mae ganddo berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.”—Diar. 3:32.

8. Pa ymddygiad y dylen ni ei osgoi?

8 Dydy person sy’n “dweud y gwir bob amser” ddim yn gwneud sioe o fod yn ufudd ond yna’n torri cyfreithiau Duw pan mae ar ei ben ei hun. (Esei. 29:13) Mae’n osgoi ymddwyn mewn ffordd dwyllodrus. Gall person twyllodrus ddechrau amau doethineb safonau Jehofa. (Iago 1:​5-8) Efallai bydd person felly yn gwrthod dilyn cyfarwyddiadau Jehofa pan fyddan nhw’n ymweld yn ddibwys iddo. Os nad oes ’na ganlyniadau drwg i’w gweld yn syth ar ôl iddo anufuddhau, efallai bydd yn mynd ymhellach, a gall ei addoliad droi’n rhagrithiol. (Preg. 8:11) Ond rydyn ni eisiau bod yn onest ym mhopeth.

9. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r tro cyntaf i Iesu gyfarfod Nathanael? (Gweler hefyd y llun.)

9 Mae’n bwysig iawn inni ddweud y gwir bob amser. Mae hyn yn glir o beth ddigwyddodd pan ddaeth Philip a’i ffrind Nathanael i gwrdd â Iesu. Doedd Iesu ddim wedi cwrdd â Nathanael o’r blaen, ond dywedodd: “Dyma Israeliad sydd yn wir heb unrhyw dwyll ynddo.” (Ioan 1:47) Mae’n rhaid bod disgyblion eraill Iesu yn onest hefyd, ond yn Nathanael, gwelodd Iesu ddyn a oedd yn hynod o onest. Roedd Nathanael yn amherffaith, ond doedd ’na ddim byd ffug neu’n rhagrithiol amdano. Roedd Iesu yn edmygu hynny, a rhoddodd canmoliaeth iddo. Sut byddet ti’n teimlo petai Iesu’n dweud hynny amdanat ti?

Gwnaeth Philip gyflwyno i Iesu ei ffrind Nathanael, dyn heb unrhyw dwyll ynddo. A allai hynny gael ei ddweud amdanon ni? (Gweler paragraff 9)


10. Pam dylen ni fod yn ofalus am yr hyn rydyn ni’n ei ddweud? (Iago 1:26)

10 Mae’r rhan fwyaf o Salm 15 yn sôn am y ffordd rydyn ni’n trin eraill. Mae Salm 15:3 yn dweud nad ydy rhywun ym mhabell Jehofa yn “defnyddio’i dafod i wneud drwg, i wneud niwed i neb, na gwneud hwyl ar ben pobl eraill.” Byddai camddefnyddio ein tafod yn gallu achosi niwed difrifol i eraill, ac o ganlyniad fyddwn ni ddim yn gallu aros ym mhabell Dduw.—Darllen Iago 1:26.

11. Beth ydy enllib, a sut bydd enllibwyr bwriadol yn cael eu cosbi?

11 Mae’r salmydd yn sôn yn benodol am rai sy’n defnyddio eu tafod i wneud drwg. Gall hyn gynnwys enllibio neu bardduo enw da rhywun. Mae pobl sy’n gwneud hynny’n fwriadol yn cael eu gwahardd rhag y gynulleidfa Gristnogol.—Jer. 17:10.

12-13. Ym mha sefyllfaoedd fyddai’n bosib inni siarad yn negyddol am bobl? (Gweler hefyd y llun.)

12 Mae Salm 15:3 hefyd yn atgoffa gwesteion Jehofa i beidio â gwneud niwed i neb na gwneud hwyl ar eu pennau. Beth gallai hynny ei gynnwys?

13 Fyddwn ni byth eisiau gwneud hwyl ar ben pobl eraill drwy ddweud pethau negyddol amdanyn nhw. Er enghraifft: (1) petai chwaer yn stopio arloesi, (2) petai cwpl priod yn stopio gwasanaethu yn y Bethel, neu (3) petai brawd yn stopio gwasanaethu fel henuriad neu was y gynulleidfa. A fyddai’n addas i geisio dyfalu beth sydd wedi achosi’r newid ac yna sôn amdano i eraill? Efallai fod ’na resymau dydyn ni ddim yn gwybod amdanyn nhw. Yn bendant, fyddai rhywun ym mhabell Dduw byth eisiau ‘gwneud niwed i neb, na gwneud hwyl ar ben pobl eraill.’

Mae’n ddigon hawdd dweud pethau negyddol am eraill, ond gall hynny droi’n enllibus (Gweler paragraffau 12-13)


ANRHYDEDDU’R RHAI SY’N PARCHU JEHOFA

14. Esbonia sut gall gwesteion Jehofa wrthod y “rhai mae Duw’n eu gwrthod.”

14 Mae Salm 15:4 yn dweud bod ffrindiau Jehofa yn “ffieiddio’r rhai mae Duw’n eu gwrthod.” Sut gallwn ni wneud hynny? Dydyn ni, fel pobl amherffaith, ddim yn gallu barnu os ydy rhywun yn ffiaidd neu ddim. Pam? Oherwydd rydyn ni’n cael ein denu at rai pobl yn naturiol, ond mae eraill yn mynd ar ein nerfau. Felly dylen ni ond gwrthod y rhai mae Jehofa yn eu gwrthod. (1 Cor. 5:11) Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n gwneud beth sy’n ddrwg yn fwriadol, sy’n amharchu ein ffydd a’n daliadau, neu sy’n ceisio tanseilio ein hysbrydolrwydd.—Diar. 13:20.

15. Beth yw un ffordd y gallwn ni ‘anrhydeddu’r rhai sy’n parchu Jehofa’?

15 Mae Salm 15:4 yn ein hannog ni i ‘anrhydeddu’r rhai sy’n parchu Jehofa.’ Felly rydyn ni’n edrych am ffyrdd i ddangos parch a charedigrwydd tuag at ffrindiau Jehofa. (Rhuf. 12:10) Sut? Yn ôl Salm 15:​4, mae rhywun ym mhabell Dduw yn “cadw ei air hyd yn oed pan mae hynny’n gostus iddo.” Byddai torri addewid yn brifo eraill. (Math. 5:37) Er enghraifft, mae Jehofa yn disgwyl inni gadw at ein hadduned priodas. Mae ef hefyd yn hapus iawn pan mae rhieni yn gwneud eu gorau glas i gadw’r addewidion maen nhw wedi eu gwneud i’w plant. Mae ein cariad at Dduw a’n cymydog yn ein cymell ni i gadw ein gair gorau ag y medrwn ni.

16. Beth yw un ffordd arall o anrhydeddu Jehofa?

16 Gallwn ni hefyd anrhydeddu ffrindiau Duw drwy fod yn hael a dangos lletygarwch. (Rhuf. 12:13) Drwy dreulio amser yn ymlacio gyda’n brodyr a’n chwiorydd, byddwn ni’n cryfhau ein perthynas â nhw a’n perthynas â Jehofa. Ar ben hynny, drwy fod yn lletygar, rydyn ni’n efelychu Jehofa.

PAID Â CHARU ARIAN

17. Pam mae Salm 15 yn sôn am arian?

17 Yn Salm 15:​5, rydyn ni’n darllen nad ydy gwesteion Jehofa “ddim yn ceisio gwneud elw wrth fenthyg arian, na derbyn breib i gondemnio’r dieuog.” Pam mae’r salm fer hon yn sôn am arian? Oherwydd gall agwedd anghytbwys tuag at arian niweidio neu frifo eraill a difetha ein perthynas â Duw. (1 Tim. 6:10) Yn adeg y Beibl, roedd rhai yn cymryd mantais o’u brodyr tlawd drwy godi llog ar yr arian roedden nhw wedi ei fenthyg iddyn nhw. Ar ben hynny, roedd rhai barnwyr yn derbyn breibiau ac yna’n barnu pobl ddieuog yn annheg. Roedd ymddygiad o’r fath yn ffiaidd i Jehofa.—Esec. 22:12.

18. Pa gwestiynau a all ein helpu ni i feddwl am ein hagwedd tuag at arian? (Hebreaid 13:5)

18 Mae’n beth da inni feddwl am ein hagwedd tuag at arian. Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n meddwl yn aml am arian a’r pethau hoffwn i eu prynu? Ydw i’n oedi cyn talu yn ôl arian rydw i wedi ei fenthyg, gan feddwl dydy’r person arall ddim yn ei angen? Ydy arian yn gwneud imi deimlo’n bwysig, ond yn ei gwneud hi’n anodd imi fod yn hael? Ydw i’n dod i’r casgliad bod fy mrodyr a fy chwiorydd yn caru arian oherwydd eu bod nhw’n gyfoethog? Ydw i’n ceisio bod yn ffrindiau â phobl gyfoethog yn unig ac yn anwybyddu’r rhai tlawd?’ Mae gynnon ni’r fraint anhygoel o fod yn westeion i Jehofa. Gallwn ni amddiffyn y fraint honno drwy beidio â charu arian. Os ydyn ni’n gwneud hynny, fydd Jehofa byth yn cefnu arnon ni!—Darllen Hebreaid 13:5.

MAE JEHOFA’N CARU EI FFRINDIAU

19. Beth ydy’r prif fwriad y tu ôl i ofynion Jehofa?

19 Mae Salm 15 yn gorffen gyda’r addewid: “Fydd yr un sy’n byw felly byth yn cael ei ysgwyd.” (Salm 15:5) Yn yr adnod hon mae’r salmydd yn datgelu’r bwriad y tu ôl i ofynion Duw. Mae Jehofa eisiau inni fod yn hapus. Felly mae’n rhoi arweiniad a fydd yn dod â bendithion a diogelwch.—Esei. 48:17.

20. Beth gall gwesteion Jehofa edrych ymlaen ato?

20 Gall gwesteion Jehofa edrych ymlaen at ddyfodol disglair. Mae Iesu wedi paratoi ‘llawer o lefydd i aros’ yn y nefoedd ar gyfer yr eneiniog ffyddlon. (Ioan 14:2) Mae’r rhai sydd â’r gobaith daearol yn edrych ymlaen at gyflawniad yr addewid yn Datguddiad 21:3. Mae’n fraint anhygoel i gael ein gwahodd i babell Jehofa ac i aros yno am byth!

CÂN 39 Gwneud Enw Da Gyda Duw