Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae’r Ysbryd yn Cyd-dystiolaethu â’n Hysbryd Ni

Mae’r Ysbryd yn Cyd-dystiolaethu â’n Hysbryd Ni

“Y mae’r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw.”​—RHUFEINIAID 8:16.

CANEUON: 109, 108

1-3. Beth oedd yn gwneud Pentecost yn ddiwrnod arbennig, a sut roedd hynny’n cyflawni’r hyn a broffwydwyd yn yr Ysgrythurau? (Gweler y llun agoriadol.)

ROEDD hi’n fore dydd Sul yn Jerwsalem. Diwrnod arbennig a chyffrous oedd hwn. Roedd pobl yn dathlu dydd y Pentecost, sef gŵyl gysegredig ar ddechrau’r cynhaeaf gwenith. Y bore hwnnw yn y deml, roedd yr archoffeiriad yn offrymu’r aberthau arferol. Yna, tua naw o’r gloch, fe offrymodd ddwy dorth wedi eu pobi â lefain o flaenffrwyth y cynhaeaf. Chwifiodd yr archoffeiriad y ddwy dorth yn offrwm o flaen Jehofa, sef yr offrwm cyhwfan. Dyma ddydd y Pentecost yn y flwyddyn 33.​—Lefiticus 23:15-20.

2 Bob blwyddyn, ers canrifoedd, roedd yr archoffeiriad yn cynnig yr offrwm hwn. Roedd yr offrwm yn gysylltiedig iawn i rywbeth pwysig a oedd yn mynd i ddigwydd adeg Pentecost 33 OG. Digwyddodd pan oedd 120 o ddisgyblion Iesu yn gweddïo mewn goruwchystafell yn Jerwsalem. (Actau 1:13-15) Wyth can mlynedd yn gynharach, ysgrifennodd y proffwyd Joel am y digwyddiad hwn. (Joel 2:28-32; Actau 2:16-21) Beth oedd mor bwysig am y digwyddiad?

3 Darllenwch Actau 2:2-4. Ar ddiwrnod Pentecost y flwyddyn 33 OG, rhoddodd Duw ei ysbryd glân i’r Cristnogion hynny, ac fe gawson nhw eu heneinio. (Actau 1:8) Yna, fe wnaeth tyrfa o bobl gasglu o’u cwmpas, a dyma’r disgyblion yn dechrau siarad am y pethau rhyfeddol yr oedden nhw newydd eu gweld a’u clywed. Esboniodd yr apostol Pedr arwyddocâd yr hyn oedd newydd ddigwydd. Yna, fe ddywedodd wrth y dyrfa: “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd.” Y diwrnod hwnnw, bedyddiwyd 3,000 o bobl, a derbyniodd hwythau hefyd yr ysbryd glân.​—Actau 2:37, 38, 41.

4. (a) Pam dylai’r hyn a ddigwyddodd adeg Pentecost fod o ddiddordeb inni? (b) Pa achlysur arall a ddigwyddodd ar yr un diwrnod efallai lawer o flynyddoedd yn gynharach? (Gweler yr ôl-nodyn.)

4 Beth a gynrychiolir gan yr archoffeiriad a’r offrwm ar adeg Pentecost? Roedd yr archoffeiriad yn cynrychioli Iesu, a’r ddwy dorth yn cynrychioli disgyblion eneiniog Iesu. Roedd y disgyblion hynny a elwir yn “flaenffrwyth” wedi eu dewis o blith pobl bechadurus. (Iago 1:18) Mae Duw wedi mabwysiadu’r rhai hyn yn feibion iddo ac wedi eu dewis i reoli fel brenhinoedd gyda Iesu yn y nefoedd fel rhan o Deyrnas Dduw. (1 Pedr 2:9) Bydd Jehofa yn defnyddio’r Deyrnas i fendithio pawb sy’n ufudd. Felly, p’un ai yn y nefoedd gyda Iesu fydd ein cartref, neu ym Mharadwys ar y ddaear, mae Pentecost y flwyddyn 33 yn arwyddocaol iawn inni. [1]—Gweler yr ôl-nodyn.

SUT MAE JEHOFA YN ENEINIO RHYWUN?

5. Sut rydyn ni’n gwybod nad yw pawb sy’n eneiniog yn cael eu heneinio yn union yr un ffordd?

5 Ni fyddai’r disgyblion yn yr oruwchystafell byth yn anghofio’r diwrnod hwnnw. Roedd gan bob un ohonyn nhw rywbeth a oedd yn edrych yn debyg i fflam ar eu pennau. Rhoddodd Jehofa iddyn nhw’r gallu i siarad mewn ieithoedd estron. Roedden nhw’n gwbl sicr eu bod nhw wedi eu heneinio gan yr ysbryd glân. (Actau 2:6-12) Ond nid yw’r pethau rhyfeddol hyn yn digwydd i bob Cristion ar adeg ei eneinio. Nid yw’r Beibl yn dweud dim am dafodau fel o dân ar bennau’r miloedd yn Jerwsalem a gafodd eu heneinio yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Cawson nhw eu heneinio ar adeg eu bedydd. (Actau 2:38) Yn ogystal, nid yw pob Cristion yn cael ei eneinio ar adeg ei fedydd. Eneiniwyd y Samariaid ryw dro ar ôl eu bedydd. (Actau 8:14-17) Ac eneiniwyd Cornelius a’i deulu cyn iddyn nhw gael eu bedyddio.​—Actau 10:44-48.

6. Beth mae pob un eneiniog yn ei dderbyn, a sut mae hyn yn effeithio arnyn nhw?

6 Yn wir, mae Cristnogion yn sylweddoli mewn gwahanol ffyrdd eu bod nhw wedi cael eu heneinio. Mae rhai yn sylweddoli yn syth ac eraill yn sylweddoli dros gyfnod o amser. Fodd bynnag, mae’r apostol Paul yn dweud beth sy’n digwydd i bob un: “Ac wedi ichwi gredu ynddo, gosodwyd arnoch yng Nghrist sêl yr Ysbryd Glân, yr hwn oedd wedi ei addo. Yr Ysbryd hwn yw’r ernes o’n hetifeddiaeth.” (Effesiaid 1:13, 14) Felly, mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân i roi gwybod i’r Cristnogion hyn mewn ffordd hollol glir ei fod wedi eu dewis nhw i fynd i’r nefoedd. Yn hyn o beth, mae’r ysbryd glân yn “ernes,” neu’n flaendal, sy’n cadarnhau i’r eneiniog y byddan nhw’n byw am byth yn y nefoedd ac nid ar y ddaear.​—Darllenwch 2 Corinthiaid 1:21, 22; 5:5.

Ni ddylai Cristion eneiniog adael i unrhyw beth ei rwystro rhag gwasanaethu Jehofa

7. Er mwyn derbyn ei wobr, beth y dylai pob Cristion eneiniog ei wneud?

7 Pan fo Cristion yn eneiniog, a yw hyn yn golygu y bydd yn bendant yn derbyn ei wobr? Nac ydy. Mae’n gwbl sicr ei fod wedi ei wahodd i’r nefoedd ond, os na fydd yn aros yn ffyddlon i Jehofa, ni fydd yn derbyn ei wobr. Dyma sut yr esboniodd Pedr y mater: “Dyna pam, gyfeillion, y dylech ymdrechu’n fwy byth i wneud eich galwad a’ch etholedigaeth yn sicr. Oherwydd os gwnewch hyn, ni lithrwch byth. Felly y rhydd Duw ichwi, o’i haelioni, fynediad i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist.” (2 Pedr 1:10, 11) Felly, ni ddylai Cristion eneiniog adael i unrhyw beth ei rwystro rhag gwasanaethu Jehofa. Er ei fod wedi ei alw i fynd i’r nefoedd, os nad yw’r Cristion yn aros yn ffyddlon, ni fydd yn derbyn ei wobr.​—Hebreaid 3:1; Datguddiad 2:10.

SUT MAE RHYWUN YN GWYBOD?

8, 9. (a) Pam y mae’n anodd i’r rhan fwyaf o bobl ddeall y broses eneinio? (b) Sut mae rhywun yn gwybod ei fod wedi derbyn gwahoddiad i fynd i’r nefoedd?

8 Mae deall y broses eneinio yn anodd iawn i’r rhan fwyaf o weision Duw. Nid yw hyn yn syndod oherwydd nid ydyn nhw eu hunain wedi cael eu heneinio. Fe grëwyd pobl i fyw am byth ar y ddaear, nid yn y nefoedd. (Genesis 1:28; Salm 37:29) Ond dewisodd Jehofa rai i fod yn frenhinoedd ac offeiriaid yn y nef. Mae eu gobaith a’u ffordd o feddwl yn newid, fel eu bod nhw’n edrych ymlaen at fywyd yn y nefoedd.—Darllenwch Effesiaid 1:18.

9 Ond sut mae person yn gwybod a yw wedi derbyn gwahoddiad i fynd i’r nefoedd? Sylwa ar beth ddywedodd Paul wrth y brodyr eneiniog yn Rhufain, a gafodd eu galw gan Dduw i fod yn “saint.” Meddai wrthyn nhw: “Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto’n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, ‘Abba! Dad!’ Y mae’r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw.” (Rhufeiniaid 1:7; 8:15, 16) Trwy ei ysbryd glân, mae Duw yn rhoi gwybod yn bendant i rywun ei fod wedi derbyn gwahoddiad i reoli fel brenin yn y nefoedd gyda Iesu.—1 Thesaloniaid 2:12.

10. Pam mae 1 Ioan 2:27 yn dweud nad oes angen ar yr eneiniog neb i’w dysgu?

10 Nid yw’r rhai sy’n derbyn y gwahoddiad hwn gan Dduw yn gorfod dibynnu ar eraill i gadarnhau eu heneinio. Jehofa sy’n eu hargyhoeddi o hyn. Mae’r apostol Ioan yn dweud wrth Gristnogion eneiniog: “Ond amdanoch chwi, y mae gennych eneiniad oddi wrth yr Un Sanctaidd, ac yr ydych bawb yn gwybod.” Ac meddai hefyd: “A chwithau, y mae’r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i’ch dysgu; ond y mae’r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw, nid celwydd. Fel y dysgodd ef chwi, arhoswch ynddo ef.” (1 Ioan 2:20, 27) Mae’n rhaid i Gristnogion eneiniog gael eu dysgu gan Jehofa yn union fel pawb arall. Ond nid ydyn nhw’n gorfod cael unrhyw un arall i gadarnhau a ydyn nhw’n eneiniog neu beidio. Mae Jehofa wedi defnyddio’r grym mwyaf sydd, ei ysbryd glân, i ddatgelu hynny iddyn nhw!

WEDI EU ‘GENI O’R NEWYDD’

11, 12. Beth all fynd trwy feddwl Cristion eneiniog, ond beth nad yw ef byth yn ei amau?

11 Mae’r newid y mae Cristnogion eneiniog yn ei brofi yn fawr. Yn wir, dywedodd Iesu eu bod nhw wedi ‘eu geni o’r newydd,’ neu wedi eu ‘geni oddi uchod.’ (Ioan 3:3, 5, troednodyn) Esboniodd: “Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae’n rhaid eich geni chwi o’r newydd.’ Y mae’r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae’n dod nac i ble y mae’n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o’r Ysbryd.” (Ioan 3:7, 8) Yn amlwg felly, mae’n amhosibl esbonio’n union sut mae’n teimlo i fod yn eneiniog i rywun nad yw’n eneiniog. [2]​—Gweler yr ôl-nodyn.

Nid yw unigolyn sydd wedi ei eneinio yn amau nad yw Jehofa wedi ei ddewis

12 Gall rhywun eneiniog feddwl, ‘Pam mae Jehofa wedi fy newis i ac nid rhywun arall?’ Gall ofyn hefyd, ‘Ydw i’n ddigon da i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn?’ Ond nid yw’n amau nad yw Jehofa wedi ei ddewis. Yn hytrach, mae’n teimlo’n falch o dderbyn anrheg o’r fath. Mae’r rhai eneiniog yn teimlo’r un ffordd â Pedr pan ddywedodd: “Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O’i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o’r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, i etifeddiaeth na ellir na’i difrodi, na’i difwyno, na’i difa. Saif hon ynghadw yn y nefoedd i chwi.” (1 Pedr 1:3, 4) Pan fydd rhai sydd wedi eu heneinio’n darllen y geiriau hyn, maen nhw’n gwybod heb unrhyw amheuaeth fod eu Tad nefol yn siarad â nhw’n bersonol.

13. Sut mae’r ffordd y mae person yn meddwl yn newid ar ôl iddo gael ei eneinio gan yr ysbryd glân, a beth sy’n achosi’r newid hwn?

13 Cyn i Jehofa alw’r Cristnogion hyn, eu gobaith oedd byw am byth ar ddaear o baradwys heb ddrygioni. Efallai yr oedden nhw’n dychmygu croesawu yn ôl berthnasau neu ffrindiau annwyl a fydd yn cael eu hatgyfodi. Ac roedden nhw’n edrych ymlaen efallai at adeiladu tai braf a chael byw ynddyn nhw neu at blannu coed a bwyta eu ffrwyth. (Eseia 65:21-23) Pam y gwnaethon nhw ddechrau meddwl yn wahanol? Ai oherwydd eu bod nhw wedi teimlo’n isel eu hysbryd neu oherwydd eu bod nhw wedi dioddef cryn dipyn yn eu bywydau? A wnaethon nhw, yn fwyaf sydyn, golli diddordeb mewn byw am byth ar y ddaear? Neu a oedden nhw eisiau profi cael byw yn y nefoedd? Nac oedden nhw. Yn hytrach, Duw a benderfynodd hyn drostyn nhw. Pan roddodd Duw’r gwahoddiad iddyn nhw, defnyddiodd ei ysbryd glân i newid y ffordd roedden nhw’n meddwl yn ogystal â’r gobaith roedden nhw’n dyheu amdano.

14. Sut mae’r eneiniog yn teimlo am eu bywyd yma ar y ddaear?

14 Ydy hyn yn golygu bod y rhai eneiniog eisiau marw? Disgrifiodd Paul sut roedd yr eneiniog yn teimlo. Cymharodd eu cyrff dynol â ‘phabell’ gan ddweud: “Oherwydd yr ydym ni sydd yn y babell hon yn ochneidio dan ein baich; nid ein bod am ymddiosg ond yn hytrach ein harwisgo, er mwyn i’r hyn sydd farwol gael ei lyncu gan fywyd.” (2 Corinthiaid 5:4) Dydy’r Cristnogion hyn ddim eisiau marw. Maen nhw’n mwynhau bywyd ac eisiau defnyddio pob diwrnod ar gyfer gwasanaethu Jehofa gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau. Ond, beth bynnag y maen nhw yn ei wneud, maen nhw’n cofio’r hyn y mae Duw wedi ei addo iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.—1 Corinthiaid 15:53; 2 Pedr 1:4; 1 Ioan 3:2, 3; Datguddiad 20:6.

YDY JEHOFA WEDI DY WAHODD DI?

15. Beth nad yw’n dangos bod unigolyn wedi ei eneinio gan yr ysbryd glân?

15 Efallai rwyt ti’n gofyn: “Ydy Duw wedi fy ngwahodd i i fynd i’r nefoedd?” Os felly, meddylia am y cwestiynau pwysig hyn: Wyt ti’n teimlo dy fod ti’n selog iawn yn y gwaith pregethu? Wyt ti’n mwynhau’n fawr iawn astudio’r Beibl a dysgu am “ddyfnderoedd Duw”? (1 Corinthiaid 2:10) Wyt ti’n teimlo bod Duw wedi bendithio’n hael iawn dy waith pregethu? Wyt ti eisiau gwneud ewyllys Jehofa yn fwy na dim byd arall? A oes gennyt ti gariad dwfn tuag at eraill ac yn teimlo cyfrifoldeb mawr i’w helpu nhw i wasanaethu Jehofa? Wyt ti wedi gweld llaw Jehofa yn dy helpu di mewn gwahanol ffyrdd yn dy fywyd? Os wyt ti’n ateb yn gadarnhaol i’r cwestiynau uchod, a yw hyn yn golygu dy fod ti wedi derbyn gwahoddiad i fynd i’r nefoedd? Nac ydy. Pam felly? Oherwydd bod gweision Duw i gyd yn gallu teimlo fel hyn, boed nhw’n eneiniog neu beidio. Trwy gyfrwng ei ysbryd glân, gall Jehofa roi yr un grym i bob un o’i weision, beth bynnag yw eu gobaith. Yn wir, os wyt ti’n pendroni dros y cwestiwn hwn, mae’n golygu nad wyt ti wedi derbyn gwahoddiad. Dydy’r rhai sydd wedi cael eu gwahodd gan Jehofa ddim yn pendroni dros hyn o gwbl! Maen nhw’n gwybod!

16. Sut rydyn ni’n gwybod na fydd pawb sy’n derbyn ysbryd glân Duw yn cael eu gwahodd i fynd i’r nefoedd?

16 Yn y Beibl, ceir llawer o esiamplau o rai ffyddlon sydd wedi derbyn ysbryd glân Jehofa, ond ni wnaethon nhw fynd i’r nefoedd. Un enghraifft yw Ioan Fedyddiwr. Dywedodd Iesu nad oedd neb o blith dynion yn fwy na Ioan, ond, er hynny, na fyddai Ioan yn frenin yn y nef. (Mathew 11:10, 11) Fe arweiniwyd y brenin Dafydd gan yr ysbryd glân. (1 Samuel 16:13) Cafodd ei helpu gan yr ysbryd glân i ddeall pethau dwfn am Jehofa yn ogystal â’i ysbrydoli i ysgrifennu rhannau o’r Beibl. (Marc 12:36) Er hynny, dywedodd yr apostol Pedr ‘nad oedd Dafydd wedi esgyn i’r nefoedd.’ (Actau 2:34) Defnyddiodd Jehofa ei ysbryd glân i helpu’r rhai hyn i gyflawni pethau rhyfeddol, ond ni wnaeth Duw ddefnyddio ei ysbryd i’w gwahodd nhw i fyw yn y nefoedd. Ydy hynny’n golygu nad oedden nhw’n ddigon ffyddlon neu’n ddigon cymwys i reoli yn y nef? Nac ydy. Mae’n golygu bydd Jehofa yn eu hatgyfodi i fyw ym Mharadwys ar y ddaear.—Ioan 5:28, 29; Actau 24:15.

17, 18. (a) Pa wobr y mae’r rhan fwyaf o weision Duw yn edrych ymlaen ati heddiw? (b) Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl nesaf?

17 Ni fydd y rhan fwyaf o bobl Dduw heddiw yn mynd i’r nefoedd. Fel Abraham, Dafydd, Ioan Fedyddiwr, a llawer mwy o gymeriadau’r Beibl, maen nhw’n edrych ymlaen at fyw ar y ddaear o dan lywodraeth Duw. (Hebreaid 11:10) Yn y pen draw, bydd 144,000 yn rheoli gyda Iesu yn y nefoedd. Ond mae’r Beibl yn dweud bod rhai ohonyn nhw, y ‘gweddill,’ yn dal yn byw ar y ddaear yn ystod y dyddiau diwethaf. (Datguddiad 12:17) Felly, mae’r rhan fwyaf o’r 144,000 eisoes wedi marw ac yn y nef.

18 Ond, os yw rhywun yn dweud ei fod yn un o’r eneiniog, sut dylai’r rhai sydd â’r gobaith daearol ymateb i hynny? Os yw rhywun yn dy gynulleidfa di yn dechrau bwyta’r bara ac yfed y gwin yn ystod y Goffadwriaeth, sut y dylet ti ei drin? A beth os yw nifer y rhai sy’n dweud eu bod nhw’n eneiniog yn cynyddu? A ddylet ti boeni? Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu hateb yn yr erthygl nesaf.

^ [1] (paragraff 4) Mae’n bosibl fod Gŵyl y Pentecost wedi ei dathlu ar yr un adeg o’r flwyddyn y rhoddwyd y Gyfraith i Moses yn Sinai. (Exodus 19:1) Mae’n bosibl y daeth Moses â chenedl Israel yn rhan o gyfamod y Gyfraith ar yr un diwrnod o’r flwyddyn y daeth Iesu â’r rhai eneiniog yn rhan o’r cyfamod newydd.

^ [2] (paragraff 11) Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ystyr cael eich geni o’r newydd, gweler y Watchtower, 1 Ebrill 2009, tudalennau 3-11.