Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Cydweithio â Duw Yn Dod â Llawenydd

Mae Cydweithio â Duw Yn Dod â Llawenydd

“Yr ydym ni, fel cydweithwyr, yn apelio atoch i beidio â gadael i’r gras a dderbyniasoch gan Dduw fynd yn ofer.”​—2 CORINTHIAID 6:1.

CANEUON: 75, 74

1. Er mai Jehofa yw’r Goruchaf, pa wahoddiad y mae ef wedi ei roi i bobl eraill?

JEHOFA yw’r Goruchaf a greodd bob peth ac mae ei ddoethineb a’i nerth yn ddi-ben-draw. Ar ôl iddo helpu Job i ddeall hyn, atebodd Job: “Gwn dy fod yn gallu gwneud popeth, ac nad oes dim yn amhosibl i ti.” (Job 42:2) Gall Jehofa wneud beth bynnag y mae’n ei ddymuno, heb gymorth unrhyw un arall. Ond mae’n dangos ei gariad drwy wahodd pobl eraill i weithio ochr yn ochr ag ef er mwyn cyflawni ei bwrpas.

2. Pa waith y rhoddodd Jehofa i Iesu ei wneud?

2 Creodd Duw ei Fab, Iesu, cyn iddo greu pawb a phopeth arall. Yna, roedd Jehofa yn caniatáu i’w Fab ei helpu i greu popeth arall. (Ioan 1:1-3, 18) Ysgrifennodd yr apostol Paul y geiriau hyn am Iesu: “Oherwydd ynddo ef y crëwyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.” (Colosiaid 1:15-17) Felly, rhoddodd Jehofa waith pwysig i’w Fab ac, ar ben hynny, fe soniodd wrth eraill am rôl bwysig Iesu. Am anrhydedd!

3. Beth gwnaeth Jehofa ofyn i Adda ei wneud, a pham?

3 Hefyd, gwnaeth Jehofa wahodd pobl ar y ddaear i weithio gydag ef. Er enghraifft, caniataodd i Adda enwi’r holl anifeiliaid. (Genesis 2:19, 20) Dychmyga lawenydd Adda wrth wneud y gwaith hwn! Roedd yn gwylio’n ofalus y ffordd roedd yr anifeiliaid yn edrych ac yn ymddwyn, ac yna dewisodd enw ar gyfer pob un ohonyn nhw. Jehofa a greodd yr holl anifeiliaid ac fe fyddai wedi gallu enwi’r anifeiliaid ei hun. Er hynny, dangosodd Jehofa gymaint yr oedd yn caru Adda drwy adael iddo enwi’r anifeiliaid. Aseiniad arall a roddwyd i Adda oedd troi’r ddaear yn baradwys. (Genesis 1:27, 28) Ond, yn y pen draw, penderfynodd Adda roi’r gorau i weithio gyda Duw, a’r canlyniad oedd dioddefaint mawr iddo ef a’i ddisgynyddion.—Genesis 3:17-19, 23.

4. Sut cydweithiodd pobl eraill â Duw er mwyn cyflawni ei ewyllys?

4 Yn nes ymlaen, gofynnodd Duw i bobl eraill gydweithio ag ef. Adeiladodd Noa arch a achubodd ef a’i deulu yn ystod y Dilyw. Rhyddhaodd Moses genedl Israel o’r Aifft. Arweiniodd Josua yr Israeliaid i mewn i Wlad yr Addewid. Adeiladodd Solomon deml yn Jerwsalem. A daeth Mair yn fam i Iesu. Cydweithiodd y bobl hyn, a llawer o bobl eraill, â Jehofa er mwyn cyflawni ei ewyllys.

5. Ym mha waith y gallwn ni gymryd rhan, ac a oedd rhaid i Jehofa roi’r fraint hon inni? (Gweler y llun agoriadol.)

5 Heddiw, mae Jehofa yn ein gwahodd i wneud cymaint ag y medrwn ni i gefnogi’r Deyrnas a hynny mewn sawl ffordd. Ac er na allwn ni i gyd wasanaethu Duw yn yr un ffordd, gall pob un ohonon ni bregethu’r newyddion da. Byddai Jehofa wedi gallu dewis gwneud y gwaith hwn ei hun. Byddai wedi gallu siarad â phobl ar y ddaear yn uniongyrchol o’r nef. Dywedodd Iesu y gallai Jehofa wneud i hyd yn oed y cerrig siarad ag eraill am Frenin y Deyrnas. (Luc 19:37-40) Ond mae Jehofa yn caniatáu inni fod yn gydweithwyr ag ef. (1 Corinthiaid 3:9) Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Yr ydym ni, fel cydweithwyr, yn apelio atoch i beidio â gadael i’r gras a dderbyniasoch gan Dduw fynd yn ofer.” (2 Corinthiaid 6:1) Anrhydedd mawr yw cael gwahoddiad i weithio gyda Duw. Gad inni ystyried pam mae hynny’n dod â chymaint o lawenydd.

MAE CYDWEITHIO Â DUW YN DOD Â LLAWENYDD

6. Sut roedd Mab cyntaf-anedig Duw yn disgrifio ei deimladau ynglŷn â gweithio wrth ochr ei Dad?

6 Mae gweithio gyda Jehofa yn wastad wedi gwneud i’w weision deimlo’n hapus. Cyn iddo ddod i’r ddaear, dywedodd Mab cyntaf-anedig Duw fod ei Dad nefol wedi ei lunio ar ddechrau Ei waith, gan ychwanegu: “Yna yr oeddwn i . . . yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser.” (Diarhebion 8:22, 30, Y Beibl Cysegr-lân) Pan oedd Iesu yn gweithio wrth ochr ei Dad, roedd yn llawen oherwydd iddo gyflawni llawer o bethau ac oherwydd iddo wybod bod Jehofa yn ei garu. Ond beth amdanon ni?

Pa waith sy’n gallu dod â mwy o bleser inni na dysgu’r gwirionedd i bobl? (Gweler paragraff 7)

7. Pam y mae’r gwaith pregethu yn dod â llawenydd inni?

7 Dywedodd Iesu fod rhoi a derbyn yn dod â hapusrwydd. (Actau 20:35) Roedden ni’n hapus o dderbyn y gwirionedd, ond pam mae rhannu’r gwirionedd ag eraill yn dod â llawenydd inni? Oherwydd rydyn ni’n eu gweld nhw’n dod yn wirioneddol hapus wrth iddyn nhw ddod i ddeall gwirioneddau’r Beibl a chael perthynas â Duw. Rydyn ni’n cael gwefr o’u gweld nhw’n newid eu ffordd o feddwl a’u ffordd o fyw. Y gwaith pregethu yw’r gwaith mwyaf pwysig sydd, a hwn yw’r gwaith sy’n rhoi’r pleser mwyaf inni. Mae’r gwaith pregethu yn ei gwneud hi’n bosibl i bob un sy’n dod yn ffrind i Dduw gael bywyd tragwyddol.—2 Corinthiaid 5:20.

8. Beth mae rhai pobl wedi ei ddweud am y llawenydd sy’n dod o weithio gyda Jehofa?

8 Wrth helpu pobl eraill i ddysgu am Dduw, gwyddon ni ein bod ni’n plesio Jehofa, a’i fod yn gwerthfawrogi ein hymdrechion. Mae gwybod hyn yn ein gwneud ni’n llawen. (Darllenwch 1 Corinthiaid 15:58.) Dywedodd Marco, o’r Eidal: “Mae’r llawenydd sy’n dod o wybod fy mod i’n gwneud fy ngorau i wasanaethu Jehofa yn amhrisiadwy; yn enwedig o gofio na fydd Jehofa yn anghofio’r hyn rydw i wedi ei wneud.” Dywedodd Franco, hefyd o’r Eidal, rywbeth tebyg: “Drwy ei Air a’i ddarpariaethau ysbrydol, mae Jehofa yn ein hatgoffa ni bob dydd o’i gariad tuag aton ni, a bod popeth rydyn ni’n ei wneud ar ei gyfer yn bwysig iddo, er inni weithiau deimlo nad yw ein hymdrechion yn ddigon da. Dyna pam mae cydweithio â Duw yn rhoi ystyr i’m bywyd.”

DOD YN AGOSACH AT DDUW AC ERAILL

9. Pa mor agos oedd y berthynas rhwng Jehofa a Iesu, a pham y gellir dweud hynny?

9 Drwy weithio gyda phobl rydyn ni’n eu caru, rydyn ni’n dod yn agosach atyn nhw. Dysgwn lawer am eu personoliaethau, eu rhinweddau, yr hyn y maen nhw’n anelu ato mewn bywyd, a sut maen nhw’n bwriadu cyrraedd y nod hwnnw. Gweithiodd Iesu wrth ochr Jehofa am amser maith, biliynau o flynyddoedd efallai. Roedd y cariad rhyngddyn nhw mor gryf fel na allai unrhyw beth ddifetha eu perthynas. Disgrifiodd Iesu pa mor agos oedd y berthynas honno drwy ddweud: “Myfi a’r Tad, un ydym.” (Ioan 10:30) Roedden nhw’n hollol gytûn wrth weithio gyda’i gilydd.

Mae’r gwaith pregethu yn cryfhau ein ffydd oherwydd ei fod yn ein hatgoffa o addewidion Duw a’i safonau cariadus

10. Pam mae’r gwaith pregethu yn dod â ni’n agosach at Dduw ac at bobl eraill?

10 Gofynnodd Iesu i Jehofa warchod ei ddisgyblion. Pam felly? Fe weddïodd: “Er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un.” (Ioan 17:11) Wrth fyw yn ôl safonau Duw a helpu yn y weinidogaeth, down i ddeall ei rinweddau hyfryd yn well. Dysgwn pam ei bod hi’n ddoeth i ymddiried ynddo a dilyn ei gyfarwyddyd. Ac wrth inni agosáu at Dduw, mae’n agosáu aton ninnau. (Darllenwch Iago 4:8.) Rydyn ni hefyd yn agosáu at ein cyd-Gristnogion oherwydd ein bod ni’n wynebu problemau tebyg, yn mwynhau bendithion tebyg, a hefyd mae gennyn ni amcanion tebyg. Dywedodd Octavia, o Brydain: “Mae gweithio gyda Jehofa yn dod â fi’n agosach at eraill.” Y rheswm dros hyn, meddai, yw oherwydd ei bod hi a’i ffrindiau “yn rhannu’r un nod mewn bywyd.” Yn sicr, rydyn ni’n teimlo’r un fath. Pan welwn ymdrechion ein brodyr i geisio plesio Jehofa, mae’n dod â ni yn agosach atyn nhw.

11. Pam y byddwn ni’n dod yn agosach fyth at Jehofa ac at ein gilydd yn y byd newydd?

11 Mae ein cariad tuag at Dduw a’n brodyr eisoes yn gryf, ond bydd yn gryfach fyth yn y byd newydd. Meddylia am yr holl waith cyffrous y byddwn ni’n ei wneud yn y dyfodol! Byddwn yn croesawu’r rhai sydd yn cael eu hatgyfodi a’u dysgu am Jehofa. Byddwn ni hefyd yn troi’r ddaear yn baradwys. Bryd hynny, cawn lawenydd o weithio gyda’n gilydd ac o ddod yn raddol berffaith o dan reolaeth Crist. Bydd pawb ar y ddaear yn agosáu at ei gilydd ac at Jehofa, a bydd Duw’n ‘diwallu popeth byw yn ôl ei ewyllys.’—Salm 145:16.

MAE CYDWEITHIO Â DUW YN EIN HAMDDIFFYN

12. Sut mae’r gwaith pregethu yn ein hamddiffyn?

12 Mae’n rhaid amddiffyn ein perthynas â Jehofa. Rydyn ni’n amherffaith ac yn byw ym myd Satan, felly, hawdd fyddai dechrau meddwl ac ymddwyn fel pobl y byd. Gellir cymharu hyn i nofio mewn afon a’r cerrynt yn ein tynnu ni i’r cyfeiriad anghywir. Mewn sefyllfa o’r fath, byddai’n rhaid inni gasglu ein holl nerth er mwyn nofio’n erbyn y llif. Yn yr un modd, mae’n rhaid i ninnau weithio’n galed i wrthod dylanwad byd Satan. Ond beth sydd a wnelo’r gwaith pregethu â hyn? Drwy siarad am Jehofa a’i Air, canolbwyntiwn ar yr hyn sy’n dda a phwysig, yn hytrach nag ar bethau a fyddai’n gwanhau ein ffydd. (Philipiaid 4:8) Mae’r gwaith pregethu yn cryfhau ein ffydd drwy ein hatgoffa o addewidion Duw a’i safonau cariadus. Y mae hefyd yn ein helpu i feithrin rhinweddau sy’n angenrheidiol ar gyfer ein hamddiffyn ein hunain rhag Satan a’i fyd.—Darllenwch Effesiaid 6:14-17.

Wrth inni gadw’n brysur yng ngwaith Jehofa, nid oes gennyn ni’r amser i bryderu gormod am ein problemau

13. Sut mae brawd yn Awstralia yn teimlo am y gwaith pregethu?

13 Wrth inni gadw’n brysur yn pregethu, yn astudio, ac yn helpu eraill yn y gynulleidfa, cawn ein hamddiffyn oherwydd nad oes gennyn ni’r amser i bryderu gormod am ein problemau. Meddai Joel, o Awstralia: “Mae’r gwaith pregethu yn fy helpu i beidio â cholli fy ngafael ar realiti. Mae’n fy atgoffa o’r anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu a’r buddion sydd wedi dod imi wrth roi egwyddorion y Beibl ar waith. Mae’r gwaith pregethu yn fy helpu i aros yn ostyngedig; mae’n rhoi cyfle imi ddibynnu ar Jehofa ac ar fy mrodyr a’m chwiorydd.”

14. Pam mae dyfalbarhau yn y weinidogaeth yn dangos bod ysbryd Duw gyda ni?

14 Mae pregethu yn ein gwneud ni’n fwy sicr fod ysbryd Duw gyda ni. Er enghraifft, dychmyga dy fod ti’n dosbarthu bara i bobl yn dy gymuned. Nid wyt yn derbyn cyflog ac mae’n rhaid iti dalu dy gostau. Ar ben hynny, nid yw’r rhan fwyaf o’r bobl eisiau’r bara ac mae eraill yn dy gasáu di am ddod â’r bara iddyn nhw. Am faint y byddet ti’n para yn y gwaith hwnnw? Yn gyflym iawn, byddet ti’n digalonni, ac yn rhoi’r gorau iddi. Ond, mae llawer ohonon ni’n parhau yn y gwaith pregethu flwyddyn ar ôl blwyddyn, er bod hyn yn mynnu ein harian a’n hamser ac er bod pobl, weithiau, yn gwneud sbort am ein pennau, neu’n ddig wrthyn ni. Mae hyn i gyd yn profi bod ysbryd Duw gyda ni.

BENDITHION SY’N DOD O GYDWEITHIO Â DUW

15. Sut mae’r gwaith pregethu yn gysylltiedig ag ewyllys Duw ar gyfer dynolryw?

15 Sut mae’r gwaith pregethu yn gysylltiedig ag ewyllys Jehofa? Bwriad Duw oedd i bobl fyw am byth, ac ni newidiodd ei fwriad er i Adda bechu. (Eseia 55:11) Trefnodd Duw inni gael ein rhyddhau rhag pechod a marwolaeth. Sut? Daeth Iesu i’r ddaear ac aberthu ei fywyd. Ond er mwyn elwa ar ei aberth, mae’n rhaid i bobl ufuddhau i Dduw. Felly, dysgodd Iesu bobl eraill am ofynion Duw, a dywedodd wrth ei ddisgyblion i wneud yr un fath. Drwy bregethu a helpu eraill i ddod yn ffrindiau â Duw, rydyn ni’n gweithio’n uniongyrchol ag Ef yn y gwaith pwysig a chariadus hwn o achub pobl rhag pechod a marwolaeth.

16. Beth sydd a wnelo’r gwaith pregethu â gorchmynion pwysicaf Duw?

16 Pan fyddwn ni’n helpu eraill i ddarganfod y ffordd sy’n arwain at fywyd tragwyddol, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n eu caru nhw ac yn caru Jehofa. Ei ddymuniad yw “gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd.” (1 Timotheus 2:4) Pan ofynnodd un o’r Phariseaid am orchymyn pwysicaf Duw, atebodd Iesu: “‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl.’ Dyma’r gorchymyn cyntaf a’r pwysicaf. Ac y mae’r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’” (Mathew 22:37-39) Drwy bregethu’r newyddion da, rydyn ni’n ufuddhau i’r gorchmynion hyn.—Darllenwch Actau 10:42.

17. Sut rwyt ti’n teimlo am dy fraint o bregethu’r newyddion da?

17 Rydyn ni’n bobl freintiedig iawn! Mae Jehofa wedi rhoi gwaith inni sy’n dod â llawenydd, sy’n dod â ni’n agosach ato ef ac at ein brodyr, ac sy’n amddiffyn ein perthynas ag ef. Mae’r gwaith hwn hefyd yn rhoi’r cyfle inni ddangos ein cariad tuag at Dduw a phobl eraill. Mae gan bob un o’r miliynau o weision Jehofa ei amgylchiadau unigryw. Ond, boed yn hen neu’n ifanc, yn gyfoethog neu’n dlawd, yn gryf neu’n wan, rydyn ni’n gwneud cymaint ag y medrwn ni i rannu ein ffydd ag eraill. Rydyn ni’n cytuno â Chantel o Ffrainc, sy’n dweud: “Mae’r Un mwyaf nerthol yn y bydysawd, Creawdwr pob dim, y Duw hapus, yn dweud wrtha’ i: ‘Dos! A siarada! Siarada drosof i, a gwna hynny o’r galon. Rwy’n rhoi fy nerth iti, fy Ngair y Beibl, cymorth o’r nefoedd, cyd-weithwyr ar y ddaear, hyfforddiant, a chyfarwyddyd manwl ac amserol.’ Braint aruthrol yw gwneud ewyllys Jehofa a gweithio gyda’n Duw!”