Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Ewch, . . . a Gwnewch Ddisgyblion o’r Holl Genhedloedd”

“Ewch, . . . a Gwnewch Ddisgyblion o’r Holl Genhedloedd”

“Ewch, . . . a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy . . . , a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi.”—MATHEW 28:19, 20.

CANEUON: 141, 97

1, 2. Pa gwestiynau sy’n codi o ddarllen geiriau Iesu yn Mathew 24:14?

RHAGFYNEGODD Iesu y byddai newyddion da’r Deyrnas yn cael eu pregethu i bawb yn ystod y dyddiau diwethaf. (Mathew 24:14) Fel Tystion Jehofa, rydyn ni’n adnabyddus ar draws y byd am ein gwaith pregethu. Mae rhai pobl yn hoff o’r neges rydyn ni’n ei phregethu, ond nid yw hynny’n wir am bawb. Ond mae hyd yn oed rhai nad yw’n hoff o’r neges yn ein parchu oherwydd ein gwaith. Rydyn ni’n honni mai ni sy’n gwneud y gwaith a ragfynegwyd gan Iesu. Oes gennyn ni’r hawl i ddweud hynny? Sut gallwn ni fod yn sicr mai ein gwaith ni yw’r gwaith roedd Iesu yn sôn amdano?

2 Mae llawer o grwpiau crefyddol yn honni eu bod nhw’n pregethu neges Iesu. Ond iddyn nhw, mae hynny’n golygu rhoi pregeth yn yr eglwys, ar y teledu, ar y Rhyngrwyd, neu sôn wrth eraill efallai am sut dysgon nhw am Iesu. Mae eraill yn credu bod helpu pobl mewn angen a gwirfoddoli eu sgiliau fel meddygon, nyrsys, neu athrawon yn ffyrdd o bregethu. Ond, ai dyma’r gwaith pregethu yr oedd Iesu yn ei drafod?

3. Yn ôl Mathew 28:19, 20, pa bedwar peth y mae’n rhaid i ddilynwyr Iesu eu gwneud?

3 A oedd Iesu eisiau i’w ddisgyblion ddisgwyl i bobl ddod atyn nhw? Nac oedd! Ar ôl ei atgyfodiad, dywedodd Iesu wrth gannoedd o’i ddilynwyr: “Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy . . . , a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi.” (Mathew 28:19, 20) Felly, a ninnau’n ddilynwyr Iesu, mae angen inni wneud pedwar peth. Mae’n rhaid inni wneud disgyblion, eu bedyddio nhw, a’u dysgu nhw. Ond yn gyntaf, mae’n rhaid inni fynd at y bobl. Dywed un ysgolhaig Beiblaidd: “Mae ‘mynd’ yn waith i bob crediniwr, p’un ai ar draws y stryd neu ar draws y moroedd.”—Mathew 10:7; Luc 10:3.

4. Beth mae bod yn “bysgotwyr dynion” yn ei gynnwys?

4 Beth roedd Iesu yn ei ddisgwyl gan ei ddisgyblion? A oedd yn dymuno iddyn nhw bregethu ar eu pennau eu hunain, neu’n dymuno iddyn nhw gael eu trefnu fel grŵp? Fe fyddai’n amhosibl i unigolyn bregethu i’r “holl genhedloedd,” felly byddai’n rhaid i’w ddisgyblion gael eu trefnu fel grŵp. Dyna beth oedd Iesu yn ei feddwl pan ofynnodd i’w ddisgyblion fod yn “bysgotwyr dynion.” (Darllen Mathew 4:18-22.) Nid oedd Iesu yn cyfeirio at un pysgotwr yn defnyddio lein bysgota ac abwyd, yn disgwyl i’r pysgodyn gael ei fachu. Yn hytrach, roedd Iesu’n sôn am bysgota â rhwydau. Mae’r math yna o bysgota yn gofyn am waith caled, trefn, a llawer o bobl yn cyd-weithio.—Luc 5:1-11.

5. Pa bedwar cwestiwn sydd angen inni eu hateb, a pham?

5 Er mwyn adnabod pwy sy’n pregethu’r newyddion da heddiw, mae’n rhaid inni ateb y pedwar cwestiwn hyn:

  • Pa neges y dylai dilynwyr Iesu ei phregethu?

  • Beth ddylai eu cymell nhw i bregethu?

  • Pa ddulliau y dylen nhw eu defnyddio?

  • Pa mor eang y dylai’r gwaith fod, ac am ba hyd y dylai bara?

Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn ein helpu i adnabod pwy sy’n gwneud y gwaith achubol hwn, ac yn ein gwneud ni’n fwy penderfynol o ddal ati i bregethu.—1 Timotheus 4:16.

BETH DDYLAI’R NEGES FOD?

6. Pam y gelli di fod yn sicr fod Tystion Jehofa yn pregethu’r neges gywir?

6 Darllen Luc 4:43. Roedd Iesu’n pregethu’r “newydd da am deyrnas Dduw,” ac mae’n dymuno i’w ddisgyblion wneud yr un peth. Pa grŵp o bobl sy’n pregethu’r neges hon i bawb? Dim ond Tystion Jehofa! Mae hyd yn oed pobl nad ydyn nhw’n hoff iawn ohonon ni yn cyfaddef hynny. Er enghraifft, ystyria’r hyn a ddywedodd offeiriad, sydd wedi byw mewn llawer o wledydd. Ym mhob gwlad, gofynnodd yr offeiriad i’r Tystion ddweud pa neges maen nhw’n ei phregethu. Dywedodd yr offeiriad, “Roedden nhw i gyd mor dwp, rhoddon nhw i gyd yr un ateb: ‘Newyddion da’r Deyrnas.’” Mewn gwirionedd, nid yw sylwadau’r offeiriad yn profi ein bod ni’n dwp, ond maen nhw’n profi ein bod ni’n unedig fel gwir Gristnogion. (1 Corinthiaid 1:10) Teyrnas Dduw yw prif neges Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa. Mae’r cylchgrawn hwn ar gael mewn 254 o ieithoedd gyda bron i 59,000,000 o gopïau ar gyfartaledd yn cael eu hargraffu, sy’n golygu mai hwn yw’r cylchgrawn â’r cylchrediad mwyaf yn y byd!

Tystion Jehofa yw’r unig bobl sy’n pregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw

7. Sut rydyn ni’n gwybod nad yw clerigwyr y Gwledydd Cred yn pregethu’r neges gywir?

7 Nid yw clerigwyr y gwledydd cred yn pregethu am Deyrnas Dduw. Os ydyn nhw’n siarad am y Deyrnas, mae llawer ohonyn nhw’n dweud mai rhyw deimlad yn ein calonnau ydy hi. (Luc 17:21) Nid ydyn nhw’n dysgu bod y Deyrnas yn llywodraeth nefol sy’n cael ei rheoli gan Iesu. Fel arfer, maen nhw’n sôn am Iesu adeg y Nadolig neu’r Pasg. Dydyn nhw ddim yn egluro y bydd y Deyrnas yn datrys problemau dynolryw nac yn cael gwared ar holl ddrygioni’r byd yn fuan. (Datguddiad 19:11-21) Yn amlwg, nid yw arweinwyr y gwledydd cred yn gwybod yr hyn y bydd Iesu yn ei wneud fel Brenin Teyrnas Dduw. Ac oherwydd nad ydyn nhw’n deall neges Iesu, dydyn nhw ddim yn deall pam y dylen nhw bregethu chwaith.

BETH DDYLAI EIN CYMELL NI I BREGETHU?

8. Beth na ddylai ein cymell ni i bregethu?

8 Ni ddylai disgyblion Iesu bregethu er mwyn ennill arian nac er mwyn codi adeiladau mawr crand. Dywedodd Iesu: “Derbyn-iasoch heb dâl, rhowch heb dâl.” (Mathew 10:8) Felly nid busnes yw’r gwaith pregethu. (2 Corinthiaid 2:17) Ni ddylai disgyblion Iesu fynnu cyflog am eu gwaith pregethu. (Darllen Actau 20:33-35.) Er bod cyfarwyddyd Iesu yn hollol eglur, mae’r rhan fwyaf o eglwysi yn mynd ar gyfeiliorn drwy gasglu arian er mwyn cynnal yr eglwysi a thalu’r clerigwyr a’r gweithwyr eraill. O ganlyniad, mae llawer o arweinwyr y Gwledydd Cred wedi dod yn gyfoethog iawn.—Datguddiad 17:4, 5.

Nid busnes yw’r gwaith pregethu

9. Sut mae Tystion Jehofa wedi dangos eu bod nhw’n pregethu am y rhesymau iawn?

9 Ydy Tystion Jehofa yn trefnu casgliadau yn Neuaddau’r Deyrnas neu yn eu cynadleddau? Nac ydyn! Mae eu gwaith yn cael ei gynnal gan gyfraniadau gwirfoddol. (2 Corinthiaid 9:7) Y llynedd, treuliodd Tystion Jehofa bron i ddwy biliwn o oriau yn pregethu’r newyddion da ac yn cynnal dros naw miliwn o astudiaethau Beiblaidd bob mis. Nid ydyn nhw’n cael eu talu am eu gwaith pregethu ac maen nhw’n hapus i ddefnyddio eu harian eu hunain i wneud y gwaith hwn. Wrth sôn am waith Tystion Jehofa, dywedodd un ymchwilydd: “Y prif nod yw pregethu a dysgu.” Dywedodd hefyd nad yw Tystion Jehofa yn talu clerigwyr. Felly, os nad ydyn ni’n pregethu er mwyn ennill arian, beth sydd yn ein cymell ni? Rydyn ni’n gwneud y gwaith hwn o’n gwirfodd oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa ac yn caru pobl. Mae hyn yn cyflawni’r broffwydoliaeth yn Salm 110:3. (Darllen, beibl.net.)

PA DDULLIAU Y DYLID EU DEFNYDDIO?

Rydyn ni’n pregethu le bynnag y mae’r bobl (Gweler paragraff 10)

10. Pa ddulliau a ddefnyddiodd disgyblion Iesu i bregethu?

10 Pa ddulliau a ddefnyddiodd Iesu a’i ddisgyblion i bregethu? Aethon nhw i le bynnag yr oedd y bobl. Er enghraifft, pregethon nhw ar y stryd ac yn y farchnad. Gwnaethon nhw hefyd geisio siarad â phobl yn eu cartrefi. (Mathew 10:11; Luc 8:1; Actau 5:42; 20:20, beibl.net) Roedd pregethu o dŷ i dŷ yn ffordd drefnus o gyrraedd pobl o bob math.

11, 12. Sut mae ymdrechion y Gwledydd Cred yn cymharu ag ymdrechion Tystion Jehofa o ran pregethu’r newyddion da?

11 Ydy eglwysi’r Gwledydd Cred yn pregethu’r newyddion da fel y gwnaeth Iesu? Fel arfer, mae clerigwyr cyflogedig yn rhoi pregeth i’r aelodau. Nid yw’r arweinwyr hynny yn gwneud disgyblion newydd, ond yn ceisio cadw’r aelodau sydd ganddyn nhw’n barod. Ar adegau, maen nhw wedi ceisio annog eu haelodau i bregethu. Er enghraifft, yn y flwyddyn 2001, ysgrifennodd y Pab Ioan Pawl II lythyr yn dweud y dylai aelodau’r eglwys bregethu’r Efengyl a meithrin yr un sêl â’r apostol Paul, a ddywedodd: “Gwae fi os na phregethaf yr Efengyl!” Yna, dywedodd y Pab y dylai’r gwaith pregethu hwn gael ei wneud nid yn unig gan nifer bach o bobl sydd wedi derbyn hyfforddiant, ond gan bob aelod o’r eglwys. Fodd bynnag, dim ond ychydig o bobl sydd wedi dilyn yr anogaeth honno.

12 Beth am Dystion Jehofa? Nhw yn unig sy’n cyhoeddi bod Iesu wedi bod yn rheoli fel Brenin er 1914. Maen nhw’n ufudd i orchymyn Iesu ac yn rhoi blaenoriaeth i’r gwaith pregethu. (Marc 13:10) Mae’r llyfr Pillars of Faith—American Congregations and Their Partners yn dweud bod y gwaith pregethu yn bwysig iawn i Dystion Jehofa. Dywedodd hefyd eu bod nhw’n ceisio helpu pobl sy’n llwglyd, yn sâl, ac yn unig, ond dydyn nhw byth yn anghofio mai pregethu am ddiwedd y drefn hon a dysgu pobl am iachawdwriaeth yw eu prif nod. Mae Tystion Jehofa yn parhau i bregethu’r neges honno ac i efelychu dulliau pregethu Iesu a’i ddisgyblion.

PA MOR EANG Y DYLAI’R GWAITH FOD, AC AM BA HYD Y DYLAI BARA?

13. Pa mor eang y dylai’r gwaith pregethu fod?

13 Dywedodd Iesu y byddai ei ddilynwyr yn pregethu ac yn dysgu’r newyddion da “drwy’r byd i gyd.” Cawson nhw eu gorchymyn i wneud disgyblion o’r “holl genhedloedd.” (Mathew 24:14; 28:19, 20) Mae hynny’n golygu y byddai’n rhaid i’r newyddion da gael eu pregethu ym mhob cwr o’r byd.

14, 15. Beth sy’n profi bod Tystion Jehofa wedi cyflawni proffwydoliaeth Iesu o ran pregethu’n eang? (Gweler y lluniau agoriadol.)

14 Dim ond Tystion Jehofa sydd wedi cyflawni proffwydoliaeth Iesu ynglŷn â phregethu’r newyddion da ledled y byd. Pam rydyn ni’n dweud hynny? Yn yr Unol Daleithiau, mae tua 600,000 o glerigwyr, ond mae tua 1,200,000 o Dystion Jehofa yn pregethu’r newyddion da yn y wlad honno. Yn fyd-eang, mae tua 400,000 o offeiriaid Catholig, ond mae dros 8 miliwn o Dystion Jehofa yn pregethu’r newyddion da mewn 240 o wledydd. Mae’n glir felly fod Tystion Jehofa yn pregethu’r newyddion da ar draws y byd, ac mae hynny’n anrhydeddu Jehofa!—Salm 34:1; 51:15.

15 Fel Tystion Jehofa, ein nod yw pregethu’r newyddion da i gynifer o bobl ag y medrwn ni cyn i’r diwedd ddod. I helpu gyda’r gwaith hwn, rydyn ni wedi cyfieithu a chyhoeddi miliynau o lyfrau, cylchgronau, taflenni, a gwahoddiadau i’r Goffadwriaeth a’r cynadleddau mewn dros 700 o ieithoedd. Rydyn ni’n cynnig y rhain i bobl yn rhad ac am ddim. Y llynedd, cyhoeddon ni tua 4.5 biliwn o gyhoeddiadau am y Beibl. Rydyn ni hefyd wedi argraffu dros 200 miliwn o gopïau o’r New World Translation of the Holy Scriptures mewn 130 o ieithoedd a mwy. Ac mae ein gwefan swyddogol ar gael mewn dros 750 o ieithoedd. Dim ond Tystion Jehofa sy’n gwneud y gwaith rhyfeddol hwn.

16. Sut rydyn ni’n gwybod bod gan Dystion Jehofa ysbryd Duw?

16 Am ba hyd y byddai’r gwaith pregethu yn para? Dywedodd Iesu y byddai’n para nes i’r diwedd ddod. Fel Tystion Jehofa, rydyn ni wedi medru parhau yn y gwaith hwn trwy gydol y dyddiau diwethaf dim ond oherwydd ysbryd glân Jehofa. (Actau 1:8; 1 Pedr 4:14) Gall rhai pobl grefyddol ddweud: “Mae gennyn ni’r ysbryd glân.” Ond ydyn nhw’n medru gwneud y gwaith y mae Tystion Jehofa yn ei wneud yn ystod y dyddiau diwethaf hyn? Mae rhai grwpiau wedi ceisio pregethu fel yr ydyn ni yn ei wneud, ond wedi methu. Mae eraill yn fodlon pregethu, ond am gyfnod byr yn unig. Ac mae eraill yn pregethu o dŷ i dŷ, ond dydyn nhw ddim yn cyhoeddi newyddion da’r Deyrnas. Felly, dydyn nhw ddim yn gwneud y gwaith a gychwynnodd Iesu.

PWY SY’N PREGETHU’R NEWYDDION DA HEDDIW?

17, 18. (a) Pam y gallwn ni fod yn sicr mai Tystion Jehofa sy’n pregethu newyddion da’r Deyrnas heddiw? (b) Sut mae’n bosibl inni barhau yn y gwaith hwn?

17 Felly pwy sy’n pregethu newyddion da’r Deyrnas heddiw? Dim ond Tystion Jehofa! Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Oherwydd ein bod ni’n cyhoeddi’r neges gywir, sef newyddion da’r Deyrnas. Yn ein gweinidogaeth, rydyn ni’n chwilio am bobl, felly rydyn ni’n defnyddio’r dulliau cywir. Rydyn ni’n cael ein cymell gan y rhesymau cywir, hynny yw, rydyn ni’n caru Jehofa ac yn caru pobl. Mae ein gwaith pregethu yn eang iawn oherwydd ein bod ni’n pregethu i bobl o bob cenedl ac iaith. Ac fe fyddwn ni’n parhau i bregethu newyddion da’r Deyrnas hyd y diwedd!

18 Rhyfeddol yw gweld y gwaith aruthrol mae pobl Jehofa yn ei wneud i bregethu’r newyddion da yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond sut mae’n bosibl inni wneud yr holl waith hwn? Mae’r apostol Paul yn egluro: “Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu’r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy’n ei blesio fe.” (Philipiaid 2:13, beibl.net) Gad i Jehofa barhau i roi inni’r nerth angenrheidiol er mwyn inni wneud ein gorau i ddal ati i bregethu’r newyddion da!—2 Timotheus 4:5.