Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Heddwch Perffaith Duw y “Tu Hwnt i Bob Dychymyg”

Mae Heddwch Perffaith Duw y “Tu Hwnt i Bob Dychymyg”

“Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod eich calonnau.”—PHILIPIAID 4:7.

CANEUON: 112, 58

1, 2. Beth ddigwyddodd i Paul a Silas yn Philipi? (Gweler y llun agoriadol.)

DYCHMYGA’R sefyllfa. Roedd hi tua hanner nos. Roedd dau genhadwr, Paul a Silas, yn y rhan fwyaf dwfn a thywyll o’r carchar yn ninas Philipi. Doedden nhw ddim yn gallu symud oherwydd bod eu traed mewn cyffion, ac roedd eu cefnau’n brifo ar ôl cael eu curo. (Actau 16:23, 24) Yn gynharach y diwrnod hwnnw, roedd torf o bobl wedi gafael yn Paul a Silas a’u llusgo i’r farchnad. Yno, gwnaethon nhw eu rhoi ar dreial. Rhwygon nhw ddillad y dynion oddi amdanyn nhw a churo eu cefnau â ffyn. (Actau 16:16-22) Am anghyfiawnder! Roedd Paul yn ddinesydd Rhufeinig, ac yn haeddu cael treial swyddogol. *—Gweler y troednodyn.

2 Tra oedden nhw yn y carchar, efallai fod Paul wedi meddwl am yr hyn a oedd wedi digwydd y diwrnod hwnnw ac am y bobl yn Philipi. Yn wahanol i lawer o ddinasoedd roedd Paul wedi ymweld â nhw, doedd dim synagog yn y ddinas hon. Felly, roedd yr Iddewon yn gorfod addoli y tu allan i giatiau’r ddinas wrth ymyl afon. (Actau 16:13, 14) Ai oherwydd nad oedd deg o ddynion Iddewig yn y ddinas, sef y nifer oedd ei angen er mwyn cael synagog? Roedd pobl Philipi yn falch iawn o fod yn ddinasyddion Rhufeinig. (Actau 16:21) Efallai dyna pam doedden nhw ddim yn meddwl y gallai Paul a Silas, a oedd yn Iddewon, fod yn ddinasyddion Rhufeinig hefyd. Dydyn ni ddim yn gwybod yn bendant, ond rydyn ni’n gwybod bod Paul a Silas wedi eu taflu i’r carchar ar gam.

3. Pa gwestiynau a oedd efallai’n mynd trwy feddwl Paul pan gafodd ei luchio i’r carchar, ond pa agwedd oedd ganddo?

3 Efallai fod Paul hefyd wedi mynd i feddwl am sut y daeth i Philipi yn y lle cyntaf. Ychydig o fisoedd ynghynt, roedd Paul ar yr ochr arall i’r Môr Egeaidd, yn Asia Leiaf. Tra oedd yno, roedd yr ysbryd glân wedi ei rwystro sawl gwaith rhag pregethu mewn rhai ardaloedd. Roedd fel petai’r ysbryd glân yn ei wthio i gyfeiriad arall. (Actau 16:6, 7) Ond i le? Tra oedd yn Troas, cafodd Paul weledigaeth a oedd yn dweud wrtho: “Tyrd draw i Macedonia.” Roedd ewyllys Jehofa’n amlwg! Felly, aeth Paul yn syth i Macedonia. (Darllen Actau 16:8-10.) Ond beth ddigwyddodd nesaf? Yn fuan ar ôl iddo gyrraedd Macedonia, cafodd Paul ei garcharu! Pam gwnaeth Jehofa adael i hynny ddigwydd i Paul? Am faint y byddai’n rhaid iddo aros yn y carchar? Hyd yn oed os oedd Paul wedi meddwl am y pethau hyn, arhosodd yn ffyddlon ac yn llawen. Roedd ef a Silas yn “gweddïo ac yn canu emynau o fawl.” (Actau 16:25) Roedd heddwch Duw wedi tawelu eu calonnau a’u meddyliau.

4, 5. (a) Sut gall ein sefyllfa ni fod yn debyg i sefyllfa Paul? (b) Sut gwnaeth sefyllfa Paul newid yn annisgwyl?

4 Wyt ti wedi teimlo fel Paul? Efallai dy fod ti wedi gofyn i Dduw dy helpu di i wneud penderfyniad a thithau’n teimlo dy fod ti’n dilyn arweiniad yr ysbryd glân. Ond wedyn, cododd llawer o broblemau neu roedd rhaid iti wneud newidiadau mawr yn dy fywyd. (Pregethwr 9:11) Nawr, pan wyt ti’n meddwl am y sefyllfa, efallai dy fod ti’n gofyn pam y mae Jehofa wedi gadael i rai pethau ddigwydd. Beth all dy helpu i ddal ati ac ymddiried yn llawn yn Jehofa? Bydd yr hyn a ddigwyddodd nesaf i Paul a Silas yn rhoi’r ateb inni.

5 Tra oedd Paul a Silas yn canu, digwyddodd llawer o bethau annisgwyl. Yn gyntaf, tarodd daeargryn pwerus. Agorodd drysau’r carchar ar unwaith. Yna, llaciodd rhwymau’r carcharorion i gyd. Nesaf, stopiodd Paul warchodwr y carchar rhag iddo ei ladd ei hun, a chafodd y dyn hwnnw a’i deulu cyfan eu bedyddio. Yn gynnar y bore wedyn, anfonodd swyddogion y ddinas ddynion i nôl Paul a Silas o’r carchar a gofyn iddyn nhw adael y ddinas heb godi twrw. Pan ddysgodd y swyddogion mai dinasyddion Rhufeinig oedd Paul a Silas, sylweddolon nhw eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad mawr, a dyma nhw’n arwain Paul a Silas allan eu hunain. Ond cyn i Paul a Silas adael y ddinas, gwnaethon nhw fynnu mynd i ddweud hwyl fawr wrth Lydia, eu chwaer newydd. A defnyddion nhw’r cyfle i gryfhau’r brodyr eraill yn Philipi. (Actau 16:26-40) Yn fwyaf sydyn roedd popeth wedi newid!

MAE TU HWNT I’N DEALL NI

6. Beth byddwn ni nawr yn ei drafod gyda’n gilydd?

6 Beth ddysgwn ni o’r digwyddiadau hynny? Gall Jehofa wneud pethau annisgwyl, felly does dim rhaid inni bryderu pan ydyn ni’n wynebu treialon. Rydyn ni’n gwybod bod y wers honno wedi cael dylanwad mawr ar Paul oherwydd yr hyn a ysgrifennodd Paul yn ei lythyr at y brodyr yn Philipi ynglŷn â phryder a heddwch Duw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod geiriau Paul yn Philipiaid 4:6, 7. (Darllen.) Wedyn, byddwn ni’n ystyried hanesion eraill o’r Beibl sy’n sôn am Jehofa yn gwneud pethau annisgwyl. Yn olaf, byddwn ni’n trafod sut gall yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi” ein helpu i wynebu treialon gan ddibynnu’n llwyr ar Jehofa.

Gall Jehofa wneud pethau annisgwyl, felly, does dim rhaid inni bryderu pan ydyn ni’n wynebu treialon

7. Pa wers roedd Paul yn ei dysgu i’r brodyr yn Philipi, a beth gallwn ni ei ddysgu?

7 Pan ddarllenodd y brodyr yn Philipi lythyr Paul, beth roedden nhw’n ei feddwl amdano? Mae’n debyg fod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cofio’r hyn a ddigwyddodd i Paul a Silas yn ogystal â’r ffordd annisgwyl y gwnaeth Jehofa eu helpu. Pa wers roedd Paul yn ei dysgu iddyn nhw yn ei lythyr? Dyma’r wers: Peidiwch â phoeni. Gweddïwch, ac yna byddwch chi’n derbyn yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg.” Beth mae hynny’n ei olygu? Mae rhai Beiblau’n dweud “y tu hwnt i’n breuddwydion” neu “yn well na holl gynllunio dynol.” Felly, roedd Paul yn dweud bod yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi” yn fwy rhyfeddol nag y gallwn ni ei ddychmygu. Weithiau dydyn ni ddim yn gwybod yr ateb i’n problemau, ond mae Jehofa’n gwybod. Ac fe all wneud rhywbeth annisgwyl.—Darllen 2 Pedr 2:9.

8, 9. (a) Er bod Paul wedi dioddef anghyfiawnder yn Philipi, pa ganlyniadau da a ddaeth wedyn? (b) Pam roedd y brodyr yn Philipi yn gallu dibynnu ar eiriau Paul?

8 Mae’n rhaid fod llythyr Paul wedi cryfhau’r brodyr yn Philipi wrth iddyn nhw feddwl am yr hyn roedd Jehofa wedi ei wneud er eu lles dros y deng mlynedd diwethaf. Er bod Jehofa wedi gadael i Paul a Silas ddioddef anghyfiawnder, roedd y digwyddiadau hynny’n helpu i “amddiffyn a rhannu’r newyddion da.” (Philipiaid 1:7) Fyddai’r swyddogion yn Philipi byth yn meiddio gwrthwynebu’r gynulleidfa Gristnogol newydd. Oherwydd bod Paul efallai wedi dweud ei fod yn ddinesydd Rhufeinig, roedd y disgybl Luc yn medru aros yn Philipi ar ôl i Paul a Silas adael. Roedd Luc wedyn yn gallu rhoi help ychwanegol i’r Cristnogion newydd yn Philipi.

9 Pan ddarllenodd y brodyr yn Philipi lythyr Paul, roedden nhw’n gwybod nad barn bersonol oedd ei eiriau. Roedd Paul wedi wynebu treialon eithafol. Hyd yn oed wrth ysgrifennu at y brodyr, roedd yn garcharor yn ei dŷ yn Rhufain. Ond, dangosodd fod heddwch Duw ganddo o hyd.—Philipiaid 1:12-14; 4:7, 11, 22.

PAID Â PHOENI

10, 11. Beth sy’n rhaid inni ei wneud os ydyn ni’n poeni am broblem, a beth gallwn ni ei ddisgwyl?

10 Beth all ein helpu ni i beidio â phoeni, ac i gael yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi”? Mae geiriau Paul yn dangos mai gweddi yw’r ateb pan ydyn ni’n poeni. Felly, pan ydyn ni’n pryderu, mae’n rhaid inni droi ein pryderon yn weddïau. (Darllen 1 Pedr 5:6, 7.) Wrth iti weddïo ar Jehofa, bydda’n hyderus ei fod yn dy garu. Rho ddiolch iddo am bob bendith rwyt ti’n ei derbyn. A phaid byth ag anghofio bod Jehofa yn gallu “gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni’n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!”—Effesiaid 3:20.

11 Fel Paul a Silas, efallai y cawn ni’n synnu gan yr hyn mae Jehofa’n ei wneud i’n helpu. Efallai, ni fydd yn rhywbeth trawiadol, ond bydd yn cyfateb yn union i’r angen. (1 Corinthiaid 10:13) Dydy hynny ddim yn golygu y dylen ni ymlacio, gwneud dim byd, ac aros i Jehofa ddatrys pob problem inni. Mae’n rhaid inni weithredu’n unol â’n gweddïau. (Rhufeiniaid 12:11) Mae ein gweithredoedd yn profi ein bod ni o ddifrif ac yn rhoi cyfle i Jehofa ein bendithio. Dylen ni gofio bod Jehofa’n gallu gwneud llawer mwy na’r hyn rydyn ni’n gofyn amdano neu’n ei ddisgwyl. Weithiau, mae’n ein synnu drwy wneud rhywbeth annisgwyl. Felly, gad inni ystyried rhai esiamplau a fydd yn dangos bod Jehofa’n gallu gwneud pethau annisgwyl er ein lles.

ESIAMPLAU O BETHAU ANNISGWYL

12. (a) Beth wnaeth Heseceia pan ddaeth Senacherib yn ei erbyn? (b) Beth ddysgwn ni o’r ffordd y gwnaeth Jehofa ddatrys y broblem?

12 Yn y Beibl, mae llawer o esiamplau lle mae Jehofa wedi gwneud pethau annisgwyl. Er enghraifft, pan oedd Heseceia’n frenin ar Jwda, gwnaeth brenin Asyria, Senacherib, ymosod ar Jwda a threchu pob dinas heblaw am Jerwsalem. (2 Brenhinoedd 18:1-3, 13) Yna, ymosododd Senacherib ar Jerwsalem. Beth wnaeth y Brenin Heseceia? Yn gyntaf, gweddïodd ar Jehofa a gofynnodd i’r proffwyd Eseia am gyngor. (2 Brenhinoedd 19:5, 15-20) Nesaf, dangosodd Heseceia ei fod yn rhesymol drwy dalu’r arian roedd Senacherib yn mynnu ganddo. (2 Brenhinoedd 18:14, 15) Yn olaf, paratôdd Heseceia’r ddinas ar gyfer gwarchae hir. (2 Cronicl 32:2-4) Sut daeth y sefyllfa i ben? Anfonodd Jehofa angel i ddinistrio 185,000 o filwyr Senacherib mewn un noson. Doedd hyd yn oed Heseceia ddim yn disgwyl hynny!—2 Brenhinoedd 19:35.

Beth ddysgwn ni o’r hyn a ddigwyddodd i Joseff?—Genesis 41:42 (Gweler paragraff 13)

13. (a) Beth ddysgwn ni o’r hyn a ddigwyddodd i Joseff? (b) Pa beth annisgwyl a ddigwyddodd i Sara?

13 Ystyria beth ddigwyddodd i’r dyn ifanc Joseff. Tra oedd mewn cell yn yr Aifft, fyddai Joseff ddim wedi dychmygu y byddai’n dod yn ail i’r dyn mwyaf pwerus yn yr Aifft nac y byddai Jehofa’n ei ddefnyddio i achub ei deulu rhag newyn. (Genesis 40:15; 41:39-43; 50:20) Roedd gweithredoedd Jehofa y tu hwnt i ddisgwyliadau Joseff. Meddylia hefyd am hen nain Joseff, Sara. A oedd y Sara oedrannus yn disgwyl y byddai Jehofa yn caniatáu iddi roi genedigaeth i’w mab ei hun yn hytrach na derbyn plentyn ei morwyn? Roedd genedigaeth Isaac y tu hwnt i’w dychymyg.—Genesis 21:1-3, 6, 7.

14. Pa hyder sydd gennyn ni yn Jehofa?

14 Dydyn ni ddim yn disgwyl i Jehofa ddileu pob problem cyn y byd newydd. A dydyn ni ddim yn mynnu bod Jehofa’n gwneud pethau anhygoel yn ein bywydau ni. Ond, rydyn ni’n gwybod bod Jehofa wedi helpu ei weision ffyddlon mewn ffyrdd arbennig yn y gorffennol. Ac nid yw Duw wedi newid. (Darllen Eseia 43:10-13.) Oherwydd hynny, gallwn fod yn sicr y bydd yn rhoi’r nerth sydd ei angen inni i wneud ei ewyllys. (2 Corinthiaid 4:7-9) Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiamplau Heseceia, Joseff, a Sara? Gall Jehofa ein helpu mewn unrhyw sefyllfa, os ydyn ni’n aros yn ffyddlon iddo.

Gall Jehofa ein helpu mewn unrhyw sefyllfa, os ydyn ni’n aros yn ffyddlon iddo

15. Beth fydd yn ein helpu i deimlo heddwch Duw hyd yn oed wrth inni wynebu problemau, a sut mae hyn yn bosibl?

15 Sut gallwn ni deimlo heddwch Duw hyd yn oed wrth inni wynebu problemau? Mae’n rhaid cadw’n agos at Jehofa. Mae perthynas o’r fath yn bosibl dim ond oherwydd aberth pridwerthol Iesu Grist. Un o weithredoedd anhygoel Jehofa yw’r pridwerth. Oherwydd y pridwerth, mae’n gallu maddau inni, a gallwn ninnau gael cydwybod lân ac agosáu ato.—Ioan 14:6; Iago 4:8; 1 Pedr 3:21.

MAE’N GWARCHOD EIN CALON A’N MEDDWL

16. Beth fydd yn digwydd pan gawn ni heddwch Duw? Eglura.

16 Beth fydd yn digwydd pan gawn ni’r “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg”? Mae’r Beibl yn dweud y bydd yn “gwarchod” ein calonnau a’n meddyliau. (Philipiaid 4:7) Yn yr iaith wreiddiol, roedd y gair “gwarchod” yn ymadrodd milwrol a oedd yn cyfeirio at grŵp o filwyr wedi eu haseinio i amddiffyn dinas. Roedd pobl Philipi’n cael eu hamddiffyn gan grŵp o’r fath. Roedden nhw’n cysgu’n braf o wybod bod y ddinas yn ddiogel. Mewn ffordd debyg, pan fydd heddwch Duw gennyn ni, dydyn ni ddim yn poeni ac rydyn ni’n dawel ein hysbryd. Rydyn ni’n gwybod bod Jehofa yn ein caru ni a’i fod yn dymuno inni lwyddo. (1 Pedr 5:10) Ac mae hynny yn ein gwarchod rhag cael ein llethu gan bryder neu ddigalondid.

17. Beth fydd yn ein helpu i ymddiried yn Jehofa yn ystod y gorthrymder mawr?

17 Cyn bo hir, bydd y gorthrymder mawr yn dod ar bawb ar y ddaear. (Mathew 24:21, 22) Dydyn ni ddim yn gwybod yn union beth fydd yn digwydd i ni fel unigolion. Ond, does dim rhaid inni boeni’n ormodol am yr adeg honno. Er nad ydyn ni’n gwybod pob dim y bydd Jehofa yn ei wneud, rydyn ni’n adnabod ein Duw. Rydyn ni’n gwybod am y pethau a wnaeth yn y gorffennol ar gyfer ei weision ffyddlon. Rydyn ni wedi gweld bod Jehofa yn sicrhau y bydd ei ewyllys yn cael ei gyflawni, beth bynnag sy’n digwydd. Ac efallai y bydd yn gwneud hynny mewn ffordd annisgwyl! Felly, bob tro mae Jehofa yn gwneud rhywbeth droson ni, rydyn ni’n profi mewn ffordd newydd yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg.”

^ Par. 1 Mae’n ymddangos bod Silas hefyd yn ddinesydd Rhufeinig.—Actau 16:37.