Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cariad—Rhinwedd Werthfawr

Cariad—Rhinwedd Werthfawr

CAFODD yr apostol Paul ei ysbrydoli i ysgrifennu am naw rhinwedd sy’n tarddu o’r ysbryd glân. (Galatiaid 5:22, 23) Mae’r rhinweddau hyn yn cael eu galw’n ffrwyth yr ysbryd. * (Gweler y troednodyn.) Maen nhw hefyd yn rhan o’r “bywyd newydd,” sef y bersonoliaeth newydd y mae’n rhaid i Gristnogion ei gwisgo. (Colosiaid 3:10) Fel mae coeden yn cynhyrchu ffrwyth ar ôl cael ei dyfrio, bydd person yn dangos y rhinweddau hyn pan fydd yr ysbryd glân yn dylanwadu ar ei fywyd.—Salm 1:1-3.

Y rhinwedd gyntaf y soniodd Paul amdani ydy cariad. Pa mor werthfawr yw’r rhinwedd hon? Dywedodd Paul y byddai’n “dda i ddim” heb gariad. (1 Corinthiaid 13:2) Ond beth yw cariad, a sut gallwn ni ei feithrin a’i ddangos bob dydd?

BETH YW CARIAD?

Er ei bod hi’n anodd esbonio beth yw cariad, mae’r Beibl yn disgrifio sut mae person cariadus yn meddwl ac yn ymddwyn. Er enghraifft, mae person cariadus yn “amyneddgar” ac yn “garedig,” a’r hyn “sy’n ei wneud e’n llawen ydy’r gwir.” Pan fydd person yn gariadus, mae “bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.” Mae’n gofalu am bobl, ac mae’n ffrind ffyddlon. Ond, pan na fydd rhywun yn dangos cariad, mae’n genfigennus, yn falch, yn gwneud pethau anweddus, yn hunanol, ac yn anfaddeugar. Yn hytrach, rhaid inni ddangos cariad go iawn tuag at eraill, y math o gariad sydd ddim “yn mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg.”—1 Corinthiaid 13:4-8.

JEHOFA A IESU—ESIAMPLAU PERFFAITH

“Cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) Mae ei holl weithredoedd yn profi hynny. Ei weithred fwyaf o gariad tuag at ddynolryw oedd anfon Iesu i’r ddaear i ddioddef ac i farw droson ni. Dywedodd yr apostol Ioan: “Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo. Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.” (1 Ioan 4:9, 10) Oherwydd cariad Duw, mae’n bosibl inni gael maddeuant am ein pechodau ac inni gael gobaith a bywyd.

Dangosodd Iesu gariad tuag at ddynolryw drwy aberthu ei fywyd er mwyn gwneud ewyllys Duw. Meddai’r apostol Paul: “A beth mae Duw eisiau ydy i ni gael ein glanhau o’n pechod am fod Iesu y Meseia wedi ei aberthu ei hun un waith ac am byth.” (Hebreaid 10:9, 10) Ni allai yr un person ddangos cariad o’r fath. Dywedodd Iesu: “Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau.” (Ioan 15:13) A all pobl amherffaith efelychu’r cariad mae Jehofa a Iesu wedi ei ddangos? Gallwn! Gad inni ystyried sut.

BYW “BYWYDAU LLAWN CARIAD”

Anogaeth Paul yw: “Dilynwch esiampl Duw, gan eich bod yn blant annwyl iddo. Dylech fyw bywydau llawn cariad, yn union fel gwnaeth y Meseia ein caru ni a marw yn ein lle ni.” (Effesiaid 5:1, 2) Beth mae’n ei olygu i “fyw bywydau llawn cariad”? Mae’n golygu dangos cariad drwy’r amser. Rydyn ni’n gwneud mwy na dweud ein bod ni’n caru pobl. Dangoswn gariad drwy’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Ysgrifennodd Ioan: “Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad!” (1 Ioan 3:18) Er enghraifft, rydyn ni’n pregethu’r “newyddion da am deyrnasiad Duw” oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa ac yn caru’n cymydog. (Mathew 24:14; Luc 10:27) Rydyn ni hefyd yn byw “bywydau llawn cariad” pan ydyn ni’n amyneddgar, yn garedig, ac yn faddeugar. Rydyn ni’n rhoi ar waith gyngor y Beibl: “Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi.”—Colosiaid 3:13.

Ond, os ydyn ni’n rhoi cyngor i rywun, dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni’n ddigariad. Er enghraifft, er mwyn stopio eu plant rhag crio, mae rhai rhieni yn gwneud beth bynnag mae’r plentyn yn gofyn amdano. Ond, bydd rhiant sy’n caru ei blentyn yn gadarn pan fydd angen. Mewn ffordd debyg, er mai cariad ydy Duw, mae’n “disgyblu’r rhai mae’n eu caru.” (Hebreaid 12:6) Felly, peth cariadus yw disgyblu pan fydd rhaid. (Diarhebion 3:11, 12) Ond cofia, rydyn ni i gyd yn amherffaith ac weithiau’n anghofio dangos cariad. Felly mae yna le inni i gyd wella. Sut gallwn ni wneud hyn? Gad inni ystyried tair ffordd.

SUT GALLWN NI FEITHRIN CARIAD?

Yn gyntaf, gofynna am ysbryd glân Duw, sy’n cynhyrchu cariad. Dywedodd Iesu fod Jehofa yn rhoi’r “Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn iddo.” (Luc 11:13) Felly, os ydyn ni’n gweddïo am yr ysbryd glân a chaniatáu iddo ein helpu, gallwn fod yn sicr y byddwn ni’n dod yn fwy cariadus. (Galatiaid 5:16) Er enghraifft, os wyt ti’n henuriad, gelli di ofyn am yr ysbryd glân i dy helpu i fod yn gariadus wrth roi cyngor o’r Beibl. Neu os wyt ti’n rhiant, gelli di ofyn am ysbryd Duw i dy helpu i ddisgyblu dy blant, nid mewn ffordd flin, ond mewn ffordd gariadus.

Yn ail, myfyria ar sut dangosodd Iesu gariad hyd yn oed pan oedd eraill yn ei gam-drin. (1 Pedr 2:21, 23) Pan fydd rhywun yn gwneud cam â thi neu pan fydd anghyfiawnder yn digwydd, gofynna i ti dy hun, ‘Beth fyddai Iesu’n ei wneud?’ Profodd chwaer o’r enw Leigh fod gofyn y cwestiwn hwnnw’n ei helpu i feddwl cyn gweithredu. Dywedodd hi: “Un tro, gwnaeth un o fy nghyd-weithwyr anfon e-bost at bawb yn y gweithle yn dweud pethau negyddol amdana’ i a’r gwaith roeddwn i’n ei wneud. Roedd hynny’n brifo i’r byw. Ond wedyn, gofynnais i mi fy hun, ‘Sut gallaf efelychu Iesu wrth ddelio gyda’r person yma?’ Ar ôl meddwl am beth fyddai Iesu’n ei wneud, penderfynais anghofio am y mater yn lle gwneud môr a mynydd o’r peth. Yn nes ymlaen, dysgais fod y person wedi bod yn delio â phroblem iechyd difrifol a’i bod hi o dan lot o straen. Gwnes i ddod i’r casgliad nad oedd hi’n wir feddwl y pethau gwnaeth hi eu hysgrifennu. Roedd myfyrio ar esiampl Iesu o ddangos cariad hyd yn oed pan oedd yn cael ei gam-drin wedi fy helpu i ddangos cariad tebyg yn fy sefyllfa i.” Os ydyn ni’n efelychu Iesu, byddwn ni bob amser yn dangos cariad tuag at eraill.

Yn drydydd, dysga sut i ddangos cariad hunanaberthol. Dyma’r math o gariad sy’n amlygu gwir ddilynwyr Iesu. (Ioan 13:34, 35) Dangosodd Iesu’r math hwn o gariad, a gosododd esiampl berffaith inni ei dilyn. Sut felly? Drwy adael y nefoedd, fe’i rhoddodd ei hun “yn llwyr i wasanaethu eraill,” a “hyd yn oed i farw.” (Philipiaid 2:5-8) Pan ydyn ni’n efelychu cariad hunanaberthol Iesu, bydd ein meddyliau a’n teimladau yn dod yn fwy tebyg i’w rai ef, a byddwn yn rhoi anghenion pobl eraill o flaen ein hanghenion ni ein hunain.

BUDDION O DDANGOS CARIAD

Mae yna lawer o fuddion sy’n dod o ddangos cariad. Gad inni ystyried ddwy enghraifft:

Sut gallwn ni gael budd o ddangos cariad?

  • EIN BRAWDOLIAETH FYD-EANG: Oherwydd ein bod ni’n caru ein gilydd, rydyn ni’n gwybod byddai’r brodyr a’r chwiorydd mewn unrhyw gynulleidfa yn y byd yn rhoi croeso cynnes inni petaen ni’n ymweld â nhw. Bendith fawr yw gwybod bod “cyd-Gristnogion drwy’r byd” yn dy garu! (1 Pedr 5:9) Dim ond ymhlith pobl Dduw y gwelwn gariad fel hyn.

  • HEDDWCH: Oherwydd ein bod ni’n goddef beiau ein gilydd, rydyn ni’n byw mewn heddwch. (Effesiaid 4:2, 3) Rydyn ni’n profi’r heddwch hwn yn ein cyfarfodydd, ein cynulliadau, a’n cynadleddau. Wyt ti’n cytuno bod heddwch o’r fath yn rhywbeth unigryw yn y byd rhanedig hwn? (Salm 119:165; Eseia 54:13) Pan fyddwn ni’n ceisio heddwch ag eraill, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n eu caru, ac mae hynny’n plesio ein Tad nefol.—Salm 133:1-3; Mathew 5:9.

“MAE CARIAD . . . YN ADEILADU”

Ysgrifennodd Paul: “Mae cariad . . . yn adeiladu.” (1 Corinthiaid 8:1) Beth mae hynny’n ei olygu? Yn 1 Corinthiaid pennod 13, mae Paul yn egluro sut mae cariad yn adeiladu. Mae cariad yn ceisio lles pobl eraill. Mae cariad yn gofalu am anghenion pobl eraill. (1 Corinthiaid 10:24; 13:5) Ac oherwydd ei fod yn ystyriol, yn amyneddgar, ac yn garedig, mae’n adeiladu teuluoedd cariadus a chynulleidfaoedd unedig.—Colosiaid 3:14.

Mae yna lawer o ffyrdd i ddangos cariad tuag at eraill, ond ein cariad tuag at Dduw yw’r cariad mwyaf gwerthfawr ac adeiladol. Pam? Oherwydd bod ein cariad tuag ato yn ein gwneud ni’n unedig! Mae pobl o bob cefndir, hil, ac iaith yn addoli Jehofa “gyda’i gilydd.” (Seffaneia 3:9) Gad inni fod yn benderfynol o ddangos y rhinwedd werthfawr hon, sy’n rhan o ffrwyth yr ysbryd, bob dydd.

^ Par. 2 Hon yw’r erthygl gyntaf mewn cyfres o naw a fydd yn trafod pob un rinwedd o ffrwyth yr ysbryd.