Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Caredigrwydd—Mewn Gair a Gweithred

Caredigrwydd—Mewn Gair a Gweithred

PAN fydd pobl eraill yn ein trin ni mewn ffordd garedig, rydyn ni’n teimlo’n dda. Mae gwybod eu bod nhw’n gofalu amdanon ni yn ein cysuro. Gan ein bod ni’n ddiolchgar pan fydd eraill yn garedig tuag aton ni, sut gallwn ninnau ddysgu bod yn garedig?

Mae person caredig yn gofalu am bobl eraill ac yn dangos hynny yn y pethau mae ef yn eu dweud ac yn eu gwneud. Mae hyn yn golygu ei fod yn gwneud mwy na dangos cwrteisi yn unig. Yn hytrach, mae hefyd yn trin eraill mewn ffordd garedig oherwydd mae’n eu caru nhw ac eisiau deall sut maen nhw’n teimlo. Yn bwysicach byth, mae caredigrwydd yn rhan o ffrwyth ysbryd glân Duw. (Galatiaid 5:22, 23) Mae Jehofa eisiau inni fod yn garedig, felly gad inni weld sut mae ef a’i Fab wedi dangos caredigrwydd a sut gallwn ninnau ddilyn eu hesiampl.

MAE JEHOFA YN GAREDIG TUAG AT BAWB

Mae Jehofa yn garedig tuag at bawb, hyd yn oed y “bobl anniolchgar a drwg.” (Luc 6:35) Er enghraifft, mae Jehofa yn “gwneud i’r haul dywynnu ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn a’r rhai sydd ddim.” (Mathew 5:45) Mae hyd yn oed pobl sydd ddim yn credu mai Jehofa ydy’r Creawdwr yn gallu elwa ar ei garedigrwydd a chael mesur o hapusrwydd yn eu bywydau.

Enghraifft dda o garedigrwydd Jehofa ydy’r hyn a wnaeth ef ar gyfer Adda ac Efa. Ychydig ar ôl iddyn nhw bechu, dyma nhw’n “rhwymo dail coeden ffigys at ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw’u hunain.” Ond roedd Jehofa’n gwybod bod angen iddyn nhw gael dillad a fyddai’n eu hamddiffyn yn well y tu allan i ardd Eden, oherwydd roedd y tir o dan felltith ac yn llawn “drain ac ysgall.” Felly, yn ei garedigrwydd, gwnaeth Jehofa greu “dillad o grwyn anifeiliaid” ar eu cyfer.—Genesis 3:7, 17, 18, 21.

Er bod Jehofa yn garedig tuag at “y drwg a’r da,” mae’n garedig tuag at ei weision ffyddlon yn enwedig. Er enghraifft, yn ystod yr amser pan oedd Sechareia’n broffwyd, roedd angel yn poeni oherwydd bod yr Israeliaid wedi stopio adeiladu teml Jehofa yn Jerwsalem. Gwrandawodd Jehofa ar yr angel a “dweud pethau caredig” wrtho. (Sechareia 1:12, 13) Gwnaeth Jehofa drin y proffwyd Elias mewn ffordd debyg. Ar un adeg, roedd y proffwyd yn teimlo mor isel ac unig nes iddo ofyn i Jehofa ei roi i farwolaeth. Gwnaeth Jehofa ddangos bod teimladau Elias yn bwysig iddo ac anfonodd angel i’w gryfhau. Hefyd, fe wnaeth galonogi’r proffwyd a dangos iddo nad oedd ar ei ben ei hun. Gwnaeth caredigrwydd Jehofa gryfhau Elias i ddal ati yn ei aseiniad. (1 Brenhinoedd 19:1-18) Ond, o holl weision Jehofa, pwy fyddet ti’n ei ddweud sydd wedi efelychu ei garedigrwydd yn y ffordd orau?

ROEDD IESU’N GAREDIG IAWN

Pan oedd Iesu ar y ddaear, roedd pobl yn gallu gweld ei fod yn garedig iawn. Doedd byth yn llym nac yn ceisio gorfodi pobl i wneud beth oedd ef eisiau iddyn nhw ei wneud. Roedd yn gofalu am eraill a dywedodd: “Dewch ata i, bawb sy’n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi . . . Mae fy iau i yn gyfforddus.” (Mathew 11:28-30) Oherwydd iddo fod mor garedig, roedd pobl yn ei ddilyn le bynnag yr aeth. Yn ei dosturi, gwnaeth Iesu roi bwyd iddyn nhw, eu hiacháu nhw, a dysgu “llawer o bethau” am ei Dad iddyn nhw.—Marc 6:34; Mathew 14:14; 15:32-38.

Roedd Iesu’n deall teimladau pobl ac yn eu trin mewn ffordd garedig ac ystyriol. Hyd yn oed pan nad oedd yn gyfleus, gwnaeth Iesu helpu pawb a ddaeth ato. (Luc 9:10, 11) Meddylia am beth ddigwyddodd yn achos y ddynes a gwaedlif arni. Roedd hi eisiau cael ei hiacháu, felly gwnaeth hi gyffwrdd â dillad Iesu. Ond, yn ôl Cyfraith Moses, ddylai hi ddim wedi gwneud hynny oherwydd ei bod hi’n aflan. (Lefiticus 15:25-28) Beth oedd ymateb Iesu? Ni wnaeth siarad â hi mewn ffordd flin. Roedd yn gallu gweld ei bod hi’n ofnus, ac roedd Iesu’n teimlo tosturi drosti oherwydd ei bod hi wedi bod yn dioddef am 12 mlynedd. Dywedodd wrthi: “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti! Mae’r dioddef ar ben.” (Marc 5:25-34) Roedd Iesu’n hynod o garedig!

MAE PERSON CAREDIG YN HELPU ERAILL

Yn yr esiamplau rydyn ni wedi eu trafod, rydyn ni wedi dysgu bod rhywun caredig yn gwneud pethau i helpu pobl eraill. Gwnaeth Iesu bwysleisio pa mor bwysig ydy hyn yn ei ddameg am y Samariad trugarog. Roedd rhywun wedi ymosod ar Iddew, dwyn ei eiddo, ei guro, a’i adael i farw ar ochr y lôn. Daeth Samariad heibio a theimlo tosturi dros y dyn, er bod y Samariaid a’r Iddewon yn casáu ei gilydd. Roedd caredigrwydd yn ei ysgogi i helpu’r dyn druan. Gwnaeth rwymo ei glwyfau a mynd ag ef i lety. Gwnaeth y Samariad dalu i berchennog y llety am iddo ofalu am yr Iddew a chynnig talu am unrhyw gostau eraill hefyd.—Luc 10:29-37.

Bydd caredigrwydd yn ein hysgogi i fod yn ystyrlon ac yn galonogol mewn gair a gweithred. Dywed y Beibl: “Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.” (Diarhebion 12:25) Pan fydd caredigrwydd a daioni yn ein hysgogi i ddweud pethau calonogol i eraill, byddwn ni’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapusach. * (Gweler y troednodyn.) Bydd ein geiriau adeiladol yn dangos ein bod ni’n eu caru nhw ac yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw ymdopi â phroblemau mewn bywyd.—Diarhebion 16:24.

SUT I FOD YN GAREDIG

Mae gan bob un ohonon ni’r gallu i ddangos caredigrwydd oherwydd bod Duw wedi creu bodau dynol ar ei ddelw ef. (Genesis 1:27) Er enghraifft, gwnaeth Jwlius, y swyddog ym myddin Rhufain a oedd yn gyfrifol am fynd â’r apostol Paul i Rufain, drin Paul “yn garedig iawn,” ac fe wnaeth ganiatáu iddo “fynd i weld ei ffrindiau,” a oedd yn ninas Sidon, er mwyn “iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen.” (Acts 27:3) Pan oedd Paul ac eraill mewn llongddrylliad yn ystod y daith honno, roedd y bobl ym Malta “yn hynod garedig” a gwnaethon nhw dân er mwyn iddyn nhw gynhesu. (Actau 28:1, 2) Gwnaeth y bobl hyn rywbeth da. Ond, er mwyn gwneud Jehofa’n hapus, mae’n rhaid i bobl fod yn garedig drwy’r amser, nid yn achlysurol yn unig.

Mae Jehofa eisiau i garedigrwydd fod yn rhan o’n personoliaeth a’n ffordd o fyw. Dyna pam mae’n dweud wrthyn ni am ddangos caredigrwydd. (Colosiaid 3:12) Ond, nid yw’n hawdd bod yn garedig bob amser. Pam ddim? Efallai dydyn ni ddim yn dangos caredigrwydd oherwydd ein bod ni’n swil, yn ansicr, neu braidd yn hunanol. Neu efallai ein bod ni’n cael trafferth dangos caredigrwydd tuag at bobl sy’n ein trin ni’n ddrwg. Ond, os ydyn ni’n gweddïo am yr ysbryd glân ac yn ceisio efelychu Jehofa, gallai ef ein helpu i fod yn wirioneddol garedig.—1 Corinthiaid 2:12.

Sut gallwn ni wybod beth i weithio arno er mwyn bod yn fwy caredig? Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n gwrando’n astud ar bobl eraill ac yn ceisio deall sut maen nhw’n teimlo? Ydw i’n sylwi pan fydd angen help ar eraill? Pryd oedd y tro diwethaf imi fod yn garedig tuag at rywun sydd ddim yn perthyn imi nac yn ffrind agos?’ Wedyn, gosoda nod, fel dod i ddysgu mwy am y bobl o dy gwmpas di, yn enwedig y rhai yn y gynulleidfa. Drwy wneud hyn, gelli di ddod i wybod am eu hanawsterau a’u hanghenion. Nesaf, ceisia ddangos caredigrwydd tuag at eraill fel rwyt ti eisiau iddyn nhw ei ddangos tuag atat ti. (Mathew 7:12) Yn olaf, gofynna i Jehofa am help, ac fe fydd yn bendithio dy ymdrechion i fod yn berson caredig.—Luc 11:13.

BETH YW EFFAITH CAREDIGRWYDD?

Pan wnaeth Paul restru’r pethau a oedd yn ei wneud yn weinidog da, un ohonyn nhw oedd caredigrwydd. (2 Corinthiaid 6:3-6) Roedd pobl yn hoffi Paul oherwydd ei fod yn dweud ac yn gwneud pethau caredig, ac roedden nhw’n teimlo ei fod yn gofalu amdanyn nhw. (Actau 28:30, 31) Mewn ffordd debyg, os ydyn ninnau’n garedig, efallai bydd eraill eisiau dysgu mwy am y gwirionedd. Pan fyddwn ni’n garedig tuag at bobl o bob math, hyd yn oed y rhai sy’n ein trin ni’n gas, efallai bydd hynny’n cyffwrdd â’u calonnau ac efallai byddan nhw’n newid eu hagwedd. (Rhufeiniaid 12:20) Mewn amser, mae’n bosib byddan nhw eisiau dysgu am y Beibl hyd yn oed.

Ym Mharadwys, bydd pawb yn garedig tuag at ei gilydd. Bydd y bobl sydd wedi eu hatgyfodi yn cael eu trin yn garedig, rai ohonyn nhw am y tro gyntaf. Bydd hyn yn sicr o’u hysgogi i fod yn garedig tuag at eraill. Yn wir, ni fydd unrhyw un sy’n angharedig neu sydd ddim eisiau helpu pobl eraill yn cael byw o dan Deyrnas Dduw. Dim ond pobl gariadus a charedig fydd yn byw am byth ym Mharadwys. (Salm 37:9-11) Bydd y byd yn lle hollol saff a heddychlon! Ond, hyd yn oed cyn yr adeg honno, gallwn ni gael budd o fod yn garedig. Sut?

BUDDION BOD YN GAREDIG

Mae’r Beibl yn dweud: “Mae person caredig yn gwneud lles iddo’i hun.” (Diarhebion 11:17) Mae pobl yn hoffi treulio amser gyda rhywun sy’n garedig, ac maen nhw fel arfer yn ei drin ef yn garedig hefyd. Dywedodd Iesu: “Y mesur dych chi’n ei ddefnyddio i roi fydd yn cael ei ddefnyddio i roi’n ôl i chi.” (Luc 6:38) Felly mae’n hawdd i berson caredig ddod o hyd i ffrindiau da a’u cadw.

Dywedodd yr apostol Paul wrth y gynulleidfa yn Effesus: “Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd.” (Effesiaid 4:32) Pan fydd pawb yn y gynulleidfa yn garedig ac yn dosturiol, mae’r gynulleidfa yn dod yn gryf ac yn unedig. Dydyn ni byth eisiau bod yn feirniadol o’n brodyr, hel clecs amdanyn nhw, na dweud rhywbeth cas neu sbeitlyd hyd yn oed o ran sbort. Yn hytrach, dylai’r hyn rydyn ni’n ei ddweud fod yn fuddiol ac yn galonogol drwy’r amser. (Diarhebion 12:18) O ganlyniad, bydd y gynulleidfa’n gwasanaethu Jehofa yn llawen.

Fel rydyn ni wedi dysgu, rhinwedd ydy caredigrwydd sy’n cael ei dangos ym mhob dim rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud. A phan fyddwn ni’n garedig, rydyn ni’n efelychu ein Duw cariadus a hael, Jehofa. (Effesiaid 5:1) Mae hyn yn gwneud ein cynulleidfa yn gryfach ac yn ysgogi eraill i’w wasanaethu ef hefyd. Felly, gad inni wneud popeth a allwn ni er mwyn helpu eraill i weld bod Tystion Jehofa yn bobl garedig!

^ Par. 13 Yn y dyfodol, byddwn ni’n trafod daioni mewn erthygl arall yn y gyfres hon am ffrwyth ysbryd glân Duw.