Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Parcha “Beth Mae Duw Wedi’i Uno”

Parcha “Beth Mae Duw Wedi’i Uno”

“Ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi ei uno!”—MARC 10:9.

CANEUON: 131, 132

1, 2. Beth ddylai Hebreaid 13:4 ein hysgogi i’w wneud?

RYDYN ni i gyd eisiau parchu Jehofa. Mae’n haeddu ein parch, ac mae’n addo ein parchu ninnau. (1 Samuel 2:30; Diarhebion 3:9; Datguddiad 4:11) Y mae hefyd eisiau inni barchu pobl eraill, fel swyddogion y llywodraeth. (Rhufeiniaid 12:10; 13:7) Ond mae ’na rywbeth penodol sydd yn enwedig yn haeddu ein parch. Hynny yw, priodas.

2 Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Dylai priodas gael ei barchu gan bawb, a ddylai person priod ddim cysgu gyda neb arall.” (Hebreaid 13:4) Nid rhyw ddatganiad cyffredinol am briodas oedd hyn gan Paul. Roedd yn dweud wrth Gristnogion fod rhaid iddyn nhw barchu priodas, a’i thrysori. Ai dyna ydy dy agwedd dithau tuag at briodas, yn enwedig at dy briodas dy hun os wyt ti wedi priodi?

3. Pa gyngor pwysig roddodd Iesu ynglŷn â phriodas? (Gweler y llun agoriadol.)

3 Os wyt ti’n ystyried priodas yn rhywbeth gwerthfawr, rwyt ti’n dilyn esiampl dda iawn. Roedd Iesu ei hun yn parchu priodas. Pan ofynnodd y Phariseaid iddo am ysgariad, soniodd am yr hyn a ddywedodd Duw am y briodas gyntaf: “Felly bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn cael ei uno â’i wraig.” Ychwanegodd Iesu: “Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi ei uno!”—Darllen Marc 10:2-12; Genesis 2:24.

4. Beth oedd pwrpas Jehofa ar gyfer priodas?

4 Roedd Iesu’n cytuno mai Duw oedd wedi sefydlu priodas ac y dylai fod yn rhywbeth parhaol. Pan drefnodd Duw y briodas gyntaf, ni ddywedodd wrth Adda ac Efa eu bod nhw’n gallu ysgaru. Yn hytrach, ei fwriad oedd bod “y ddau” yn aros yn unedig mewn priodas am byth.

NEWIDIADAU DROS DRO MEWN PRIODAS

5. Sut gwnaeth marwolaeth effeithio ar briodas?

5 Rwyt ti’n gwybod, fodd bynnag, fod llawer o bethau wedi newid ar ôl i Adda bechu. Un o’r pethau a wnaeth newid oedd bod pobl yn dechrau marw, ac effeithiodd hyn ar briodas. Esboniodd yr apostol Paul wrth Gristnogion fod marwolaeth yn dod â phriodas i ben a bod y cymar sy’n dal yn fyw yn rhydd i ailbriodi.—Rhufeiniaid 7:1-3.

Mae’r Gyfraith yn dangos fod Duw yn trysori priodas

6. Beth mae Cyfraith Moses yn ein dysgu am agwedd Duw tuag at briodas?

6 Roedd y Gyfraith a roddodd Duw i Israel yn cynnwys manylion am briodas. Er enghraifft, roedd dyn o Israel yn gallu cael mwy nag un wraig. Roedd yr arfer hon yn bodoli hyd yn oed cyn i Dduw roi’r Gyfraith. Ond, roedd y Gyfraith yn gwarchod merched a phlant rhag cael eu cam-drin. Er enghraifft, petai dyn o Israel yn priodi caethferch ac yn nes ymlaen yn priodi ei ail wraig, roedd yn dal yn gorfod gofalu am anghenion ei wraig gyntaf fel o’r blaen. Roedd Duw yn disgwyl iddo barhau i’w gwarchod hi a gofalu amdani. (Exodus 21:9, 10) Dydyn ni ddim yn dilyn Cyfraith Moses heddiw. Ond, mae’n dangos inni fod Duw yn trysori priodas. Yn sicr, mae hyn yn ein helpu i barchu priodas.

7, 8. (a) Beth oedd y Gyfraith yn ei ddweud am ysgaru yn ôl Deuteronomium 24:1? (b) Beth ydy safbwynt Jehofa ynglŷn ag ysgaru?

7 Beth oedd y Gyfraith yn ei ddweud am ysgaru? Er nad oedd Jehofa erioed wedi bwriadu i ŵr a gwraig ysgaru, roedd y Gyfraith yn caniatáu i ddyn o Israel ysgaru ei wraig petai’n “darganfod rhywbeth am ei wraig sy’n codi cywilydd arno.” (Darllen Deuteronomium 24:1.) Doedd y Gyfraith ddim yn manylu ar y math o bethau a fyddai’n “codi cywilydd.” Ond, mae’n rhaid ei fod yn rhywbeth cywilyddus neu ddifrifol iawn, ac nid trosedd fach yn unig. (Deuteronomium 23:14) Yn anffodus, erbyn dyddiau Iesu, roedd llawer o’r Iddewon yn ysgaru eu gwragedd “am unrhyw reswm.” (Mathew 19:3) Dydyn ni byth eisiau meithrin y fath honno o agwedd.

8 Yn nyddiau’r proffwyd Malachi, cyffredin oedd i ddyn ysgaru ei wraig gyntaf, efallai er mwyn priodi merch iau nad oedd yn gwasanaethu Jehofa. Ond, roedd Duw wedi dangos yn glir beth oedd yn ei feddwl am ysgaru. Dywedodd: “Dw i’n casáu ysgariad.” (Malachi 2:14-16) Dydy safbwynt Duw ddim wedi newid ers y cychwyn, pan ddywedodd fod gŵr “yn cael ei uno â’i wraig. Byddan nhw’n dod yn uned deuluol newydd.” (Genesis 2:24) A gwnaeth Iesu gefnogi safbwynt ei Dad ynglŷn â phriodas pan ddywedodd: “Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi’i uno.”—Mathew 19:6.

YR UNIG RESWM DROS YSGARU

9. Beth ydy ystyr geiriau Iesu yn Marc 10:11, 12?

9 Gallai rhai ofyn, ‘A oes unrhyw reswm priodol i Gristion ysgaru ac ailbriodi?’ Sylwa ar beth ddywedodd Iesu: “Mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu. Ac os ydy gwraig yn ysgaru ei gŵr er mwyn priodi dyn arall, mae hithau’n godinebu.” (Marc 10:11, 12; Luc 16:18) Yn amlwg, roedd Iesu’n parchu priodas, ac roedd eisiau i eraill wneud yr un peth. Petai dyn yn ysgaru ei wraig ffyddlon ac yn ailbriodi, byddai ef yn godinebu. Byddai’r un peth yn wir petai dynes yn ysgaru ei gŵr ffyddlon. Y rheswm ydy, nid yw ysgaru ar ei ben ei hun yn rhoi terfyn ar briodas. Mae Duw yn dal yn ystyried y cwpl “yn uned.” Hefyd, dywedodd Iesu, petai dyn yn ysgaru ei wraig ddieuog, byddai hi mewn peryg o odinebu. Sut gallai hynny fod? Wel, bryd hynny, gallai dynes a oedd wedi cael ysgariad deimlo bod rhaid iddi ailbriodi am resymau ariannol. Byddai priodas fel ’na yr un fath â godinebu.

10. Beth ydy’r unig reswm y gallai Cristion gael ysgariad a bod yn rhydd i ailbriodi?

10 Dysgodd Iesu y gallai person gael ysgariad am un rheswm yn unig: “Wir i chi, mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.” (Ni biau’r print trwm; Mathew 19:9) Gwnaeth Iesu yr un pwynt am anfoesoldeb rhywiol yn y Bregeth ar y Mynydd. (Mathew 5:31, 32) Yn y ddau achos, cyfeiriodd Iesu at fod “yn anffyddlon,” hynny yw, anfoesoldeb rhywiol. Gallai anfoesoldeb rhywiol gynnwys pechodau fel godineb, puteindra, perthynas rywiol rhwng unigolion dibriod, cyfunrhywiaeth, a bwystfileiddiwch. Er enghraifft, petai dyn priod yn cyflawni anfoesoldeb rhywiol, gallai ei wraig benderfynu cael ysgariad neu beidio. Petai hi’n ei ysgaru, fyddai Duw ddim yn eu hystyried yn gwpl priod mwyach.

11. Pam gallai Cristion benderfynu peidio ag ysgaru hyd yn oed petai ei gymar wedi cyflawni anfoesoldeb rhywiol?

11 Sylwa doedd Iesu ddim yn dweud bod rhaid i’r cymar dieuog gael ysgariad petai’r cymar arall yn cyflawni anfoesoldeb rhywiol. Er enghraifft, gallai’r wraig ddewis aros yn briod i’w gŵr er ei fod wedi cyflawni anfoesoldeb rhywiol. Pam? Efallai ei bod hi’n dal i’w garu a’i bod hi’n fodlon maddau iddo a gweithio gydag ef i wella eu priodas. Hefyd, petai hi’n cael ysgariad a ddim yn ailbriodi, byddai rhai anawsterau’n codi. Er enghraifft, beth am ei hanghenion materol a rhywiol? A fyddai hi’n teimlo’n unig? Sut byddai’r ysgariad yn effeithio ar ei phlant? A fyddai’n anoddach i’w magu nhw yn y gwir? (1 Corinthiaid 7:14) Felly, byddai cymar dieuog sy’n dewis cael ysgariad yn wynebu anawsterau difrifol.

12, 13. (a) Beth ddigwyddodd ym mhriodas Hosea? (b) Pam gwnaeth Hosea dderbyn Gomer yn ôl, a beth allwn ei ddysgu o’i briodas?

12 Mae profiad y proffwyd Hosea yn dysgu llawer inni am agwedd Duw tuag at briodas. Dywedodd Duw wrth Hosea am briodi dynes o’r enw Gomer, a fyddai yn nes ymlaen yn cael ei hadnabod fel “gwraig sy’n puteinio” ac yn cael “plant siawns.” Cafodd Gomer a Hosea fachgen. (Hosea 1:2, 3) Yn nes ymlaen, cafodd Gomer ferch a mab arall, gyda dyn arall mae’n debyg. Er bod Gomer wedi godinebu mwy nag unwaith, arhosodd Hosea yn briod iddi. Yn y pen draw, gwnaeth hi adael Hosea a dod yn gaethferch. Ond, gwnaeth Hosea ei phrynu yn ôl. (Hosea 3:1, 2) Gwnaeth Jehofa ddefnyddio Hosea i ddangos sut roedd Ef wedi maddau i Israel sawl gwaith ar ôl i’r genedl fod yn anffyddlon iddo ac addoli duwiau eraill. Beth allwn ni ei ddysgu o briodas Hosea?

13 Os ydy cymar Cristion yn cyflawni anfoesoldeb, bydd rhaid i’r Cristion dieuog wneud penderfyniad. Dywedodd Iesu y byddai gan y cymar dieuog reswm dilys dros gael ysgariad ac y byddai wedyn yn rhydd i ailbriodi. Ond, ni fyddai’n anghywir i’r cymar dieuog ddewis maddau i’w gŵr neu i’w wraig. Gwnaeth Hosea gymryd Gomer yn ôl. Ar ôl iddi fynd yn ôl at Hosea, dywedodd ef wrthi na fyddai hi’n gallu cael perthynas rywiol gydag unrhyw ddyn arall. Ni chafodd Hosea gyfathrach rywiol gyda Gomer am gyfnod. (Hosea 3:3) Ond, yn y pen draw, mae’n rhaid fod Hosea wedi cael cyfathrach rywiol gyda’i wraig unwaith eto. Roedd hyn yn cynrychioli’r ffordd roedd Duw yn fodlon derbyn yr Israeliaid yn ôl a pharhau i gael perthynas â nhw. (Hosea 1:11; 3:3-5) Beth mae hyn yn ei ddysgu inni am briodas heddiw? Petai’r cymar dieuog yn dechrau cael perthynas rywiol gyda’r cymar euog unwaith eto, byddai hynny’n dangos bod y cymar dieuog wedi maddau iddo ef neu iddi hi. (1 Corinthiaid 7:3, 5) Wedyn, ni fyddai unrhyw reswm dilys iddyn nhw ysgaru. Ar ôl hynny, dylai’r gŵr a’r wraig gydweithio a helpu ei gilydd i weld priodas fel mae Duw yn ei gweld.

PARCHA BRIODAS HYD YN OED PAN FYDD ’NA BROBLEMAU DIFRIFOL

14. Yn ôl 1 Corinthiaid 7:10, 11, beth allai ddigwydd mewn priodas?

14 Dylai pob Cristion barchu priodas fel mae Jehofa ac Iesu yn ei wneud. Ond, weithiau dydy rhai pobl ddim yn gwneud hyn, oherwydd ein bod ni i gyd yn amherffaith. (Rhufeiniaid 7:18-23) Felly, nid yw’n syndod inni fod rhai o’r Cristnogion cynnar wedi cael problemau difrifol yn eu priodasau. Ysgrifennodd Paul: “Ddylai gwraig ddim gadael ei gŵr.” Ond, digwyddodd hynny weithiau.—Darllen 1 Corinthiaid 7:10, 11.

Sut gall cwpl achub eu priodas? (Gweler paragraff 15)

15, 16. (a) Pa nod y dylai cwpl anelu ato pan fydd ’na broblemau yn eu priodas, a pham? (b) Sut mae hyn yn berthnasol os nad ydy’r cymar yn addoli Jehofa?

15 Ni wnaeth Paul esbonio pa sefyllfaoedd a oedd wedi achosi i gyplau wahanu. Ond mae’n amlwg, er enghraifft, nad y gŵr yn godinebu oedd y broblem. Neu, byddai gan y wraig reswm dros ysgaru ac ailbriodi. Ysgrifennodd Paul y dylai gwraig sy’n gwahanu oddi wrth ei gŵr “aros yn ddibriod neu fynd yn ôl at ei gŵr.” Felly, yng ngolwg Duw, roedd y cwpl yn dal yn briod. Yn ôl Paul, pa bynnag broblemau roedd cwpl yn eu hwynebu, os nad oedd un ohonyn nhw wedi godinebu, dylen nhw geisio cymodi, hynny yw, datrys eu problemau ac aros gyda’i gilydd. Gallen nhw ofyn i’r henuriaid am help. Fyddai’r henuriaid ddim yn cymryd ochr, ond gallan nhw gynnig cyngor ymarferol o’r Beibl.

16 Ond, beth os nad ydy cymar y Cristion yn addoli Jehofa? Pan fydd problemau yn eu priodas, ydy gwahanu yn dderbyniol? Fel y gwelon ni yn gynharach, mae’r Beibl yn dweud bod anfoesoldeb rhywiol yn rheswm dilys dros ysgaru. Ond dydy’r Beibl ddim yn dweud am ba resymau y byddai cwpl yn gwahanu. Ysgrifennodd Paul: “Os oes gan Gristion wraig sydd ddim yn credu ond sy’n dal yn fodlon byw gydag e, ddylai’r dyn hwnnw ddim gadael ei wraig.” (1 Corinthiaid 7:12, 13) Mae hyn yn berthnasol heddiw hefyd.

17, 18. Pam mae rhai Cristnogion wedi aros yn briod hyd yn oed pan oedden nhw’n wynebu anawsterau difrifol?

17 Ond, mewn rhai achosion, mae gŵr “sydd ddim yn credu” wedi dangos nad yw’n “fodlon byw gyda” ei wraig. Er enghraifft, efallai ei fod yn ei cham-drin yn gorfforol ddifrifol, hyd yn oed i’r pwynt y mae hi’n teimlo bod ei hiechyd neu ei bywyd mewn perygl. Efallai ei fod yn gwrthod ei chefnogi hi ynghyd â’r teulu yn faterol, neu’n ei gwneud hi’n amhosib iddi wasanaethu Duw. Mewn achosion o’r fath, efallai bydd gwraig Gristnogol yn gwneud penderfyniad personol nad ydy’r gŵr yn “fodlon byw gyda hi” a bod ymwahanu yn angenrheidiol, er gwaethaf beth mae’r gŵr yn ei ddweud. Ond, mae Cristnogion eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg wedi penderfynu aros gyda’u cymar. Maen nhw wedi ymdopi a cheisio gweithio ar eu priodas. Pam byddan nhw’n dewis gwneud hynny?

18 Petai cwpl yn gwahanu mewn sefyllfa o’r fath, byddan nhw’n dal yn briod ac yn wynebu’r anawsterau gwnaethon ni sôn amdanyn nhw’n gynharach. Rhoddodd yr apostol Paul reswm arall i gyplau aros gyda’i gilydd. Ysgrifennodd: “Mae bywyd y gŵr sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei berthynas â’i wraig o Gristion, a bywyd gwraig sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei pherthynas hi â’i gŵr sy’n Gristion. Petai fel arall byddai eich plant chi’n ‘aflan’, ond fel hyn, maen nhw hefyd yn lân.” (1 Corinthiaid 7:14) Gwnaeth llawer o Gristnogion benderfynu aros gyda’u cymar doedd ddim yn addoli Jehofa er bod y sefyllfa’n anodd iawn. Roedden nhw mor hapus eu bod nhw wedi gwneud yr aberth honno pan ddaeth eu gŵyr neu eu gwragedd yn Dystion Jehofa yn nes ymlaen.—Darllen 1 Corinthiaid 7:16; 1 Pedr 3:1, 2.

19. Pam mae ’na gymaint o briodasau llwyddiannus yn y gynulleidfa Gristnogol?

19 Rhoddodd Iesu gyngor am ysgaru, a rhoddodd yr apostol Paul gyngor am wahanu. Roedd y ddau ohonyn nhw eisiau i weision Duw barchu priodas. Ar draws y byd heddiw, mae ’na lawer o briodasau llwyddiannus yn y gynulleidfa Gristnogol. Mae’n debyg fod ’na lawer o gyplau hapus yn dy gynulleidfa di, lle mae gwŷr ffyddlon yn caru eu gwragedd ac mae gwragedd cariadus yn parchu eu gwŷr. Maen nhw i gyd yn dangos y gall priodas fod yn barchus. Ac rydyn ninnau’n hapus fod miliynau o wŷr a gwragedd yn profi bod geiriau Duw yn wir: “Bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.”—Effesiaid 5:31, 33.