Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bobl Ifanc, Ceisiwch Fywyd Ystyrlon

Bobl Ifanc, Ceisiwch Fywyd Ystyrlon

“Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi.”—SALM 16:11.

CANEUON: 133, 89

1, 2. Sut mae esiampl Tony yn dangos ei bod hi’n bosib inni wneud newidiadau yn ein bywydau?

CAFODD Tony ei fagu heb dad. Roedd yn fyfyriwr yn yr ysgol uwchradd, ond doedd ganddo fawr ddim o ddiddordeb yn yr hyn roedd yn ei ddysgu. Mewn gwirionedd, roedd yn meddwl am adael heb raddio. Ar y penwythnosau, byddai Tony’n mynd i’r sinema neu’n treulio amser gyda’i ffrindiau. Doedd ddim yn berson treisgar nac yn gaeth i gyffuriau, ond doedd ganddo ddim pwrpas mewn bywyd. Doedd Tony ddim hyd yn oed yn sicr a oedd Duw’n bodoli neu beidio. Un diwrnod, gwnaeth Tony gwrdd â dau o Dystion Jehofa a dyma’n mynegi ei amheuon am Dduw iddyn nhw. Rhoddon nhw ddau lyfryn iddo i’w darllen— A Gafodd Bywyd ei Greu? a The Origin of Life—Five Questions Worth Asking.

2 Y tro nesaf y daethon nhw i weld Tony, roedd ei feddwl wedi newid yn llwyr. Roedd wedi darllen y llyfrynnau gymaint fel eu bod nhw wedi plygu a’u crychu. Dywedodd Tony wrth y Tystion: “Mae’n rhaid bod ’na Dduw.” Dechreuodd astudio’r Beibl, a, dros amser, newidiodd ei agwedd tuag at fywyd. Cyn iddo ddechrau astudio, doedd Tony ddim yn fyfyriwr da, ond fe ddaeth yn un o’r myfyrwyr gorau yn yr ysgol! Roedd hyd yn oed y prifathro yn syfrdan. Dywedodd wrth Tony: “Mae dy agwedd a dy farciau wedi gwella cymaint. Ai oherwydd dy fod ti’n treulio amser gyda Thystion Jehofa mae hyn wedi digwydd?” Dywedodd Tony bod hynny’n wir a rhannodd yr hyn roedd yn ei ddysgu gyda’r prifathro. Gwnaeth Tony raddio o’r ysgol a heddiw mae’n arloesi’n llawn amser ac yn was gweinidogaethol. Mae Tony’n hapus iawn fod ganddo Dad cariadus nawr, Jehofa!—Salm 68:5.

GWRANDA AR JEHOFA A LLWYDDO

3. Pa gyngor mae Jehofa’n ei roi i bobl ifanc?

3 Mae profiad Tony yn ein hatgoffa bod Jehofa yn caru pobl ifanc. Mae eisiau iti gael bywyd llwyddiannus a bodlon, felly mae’n dy annog i gofio “dy Grëwr tra rwyt yn ifanc.” (Pregethwr 12:1) Dydy hyn ddim bob amser yn hawdd, ond mae hi’n bosib. Gyda help Duw, gelli di gael bywyd llwyddiannus tra dy fod ti’n ifanc ac yn hwyrach ymlaen pan fyddi di’n oedolyn. I’n helpu i ddeall hyn yn well, byddwn ni’n trafod yr hyn a helpodd yr Israeliaid i goncro Gwlad yr Addewid a’r hyn a roddodd y nerth i Dafydd i ennill yn erbyn Goliath.

4, 5. Pa wersi pwysig gallwn ni eu dysgu o sut gwnaeth yr Israeliaid goncro Canaan ac o sut gwnaeth Dafydd ennill yn erbyn Goliath? (Gweler y lluniau agoriadol.)

4 Pan oedd yr Israeliaid ar fin mynd i mewn i Wlad yr Addewid, pa gyfarwyddiadau roddodd Jehofa iddyn nhw? A ofynnodd iddyn nhw ddod yn filwyr gwell ac i’w hyfforddi eu hunain ar gyfer rhyfel? Naddo! (Deuteronomium 28:1, 2) Dywedodd wrthyn nhw am fod yn ufudd iddo a dibynnu arno. (Josua 1:7-9) Efallai doedd y cyngor hwn ddim yn gwneud synnwyr i’r bobl, ond hwn oedd y cyngor gorau posib i’r Israeliaid. Dro ar ôl tro, gwnaeth Jehofa helpu ei bobl i goncro’r Canaaneaid. (Josua 24:11-13) Mae ufuddhau i Dduw yn gofyn am ffydd, ond mae’r ffydd honno bob tro yn arwain at lwyddiant. Roedd hynny’n wir yn y gorffennol, ac mae’n wir heddiw.

5 Rhyfelwr mawr oedd Goliath. Roedd bron yn dri metr o daldra, ac roedd yn cario arfau peryglus. (1 Samuel 17:4-7) Ar y llaw arall, dim ond ffon dafl a ffydd yn Nuw oedd gan Dafydd. Byddai person heb ffydd yn meddwl bod Dafydd yn hurt i geisio brwydro yn erbyn Goliath! Ond, Goliath oedd yn hurt mewn gwirionedd.—1 Samuel 17:48-51.

6. Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

6 Yn yr erthygl flaenorol, gwnaethon ni drafod pedwar peth sy’n gallu ein gwneud ni’n hapusach ac yn fwy llwyddiannus mewn bywyd. Dysgon ni fod rhaid inni ofalu am ein hangen ysbrydol, gwneud ffrindiau da sy’n caru Duw, gosod amcanion ystyrlon, a thrysori’r rhyddid mae Duw yn ei roi inni. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod mwy o ffyrdd y gallwn ni elwa o wneud y pethau da hynny. Felly, gad inni ystyried rhai o’r egwyddorion yn Salm 16.

GOFALA AM DY ANGEN YSBRYDOL

7. (a) Sut byddet ti’n disgrifio person ysbrydol? (b) Beth oedd cyfran Dafydd, a sut roedd yn effeithio arno?

7 Mae gan berson ysbrydol ffydd yn Nuw ac mae’n ceisio gweld pethau fel mae Duw yn eu gweld. Mae’n gadael i Jehofa lywio ei fywyd ac mae’n benderfynol o fod yn ufudd iddo. (1 Corinthiaid 2:12, 13) Mae Dafydd yn esiampl dda o berson sydd â’i fryd ar bethau ysbrydol. Canodd: “Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran.” (Salm 16:5, BCND) Roedd Dafydd yn ddiolchgar am ei gyfran, ei berthynas agos â Duw, a gwnaeth droi ato am loches. (Salm 16:1) O ganlyniad, roedd yn gallu dweud: “Dw i’n gorfoleddu!” Ei gyfeillgarwch agos â Jehofa oedd yn dod â’r hapusrwydd mwyaf i Dafydd!—Darllen Salm 16:9, 11.

8. Pa bethau sy’n gallu gwneud dy fywyd yn ystyrlon?

8 Fydd pobl sy’n canolbwyntio ar arian neu ar bleser byth yn teimlo’r llawenydd a oedd gan Dafydd. (1 Timotheus 6:9, 10) Mae brawd o Ganada yn dweud: “Mae gwir foddhad yn dod, nid o beth rydyn ni’n gallu ei gael allan o fywyd, ond o beth rydyn ninnau’n gallu ei roi i’r un sy’n rhoi pob rhodd da, Jehofa Dduw.” (Iago 1:17) Os wyt ti’n meithrin ffydd yn Jehofa ac yn ei wasanaethu, bydd gen ti fywyd sy’n wir yn ystyrlon ac yn llawn boddhad. Felly, sut gelli di gryfhau dy ffydd? Mae angen iti dreulio amser gyda Jehofa drwy ddarllen ei Air, edrych ar y pethau hyfryd mae wedi eu creu, a meddwl am ei rinweddau, gan gynnwys ei gariad tuag atat ti.—Rhufeiniaid 1:20; 5:8.

9. Sut gelli di adael i Air Duw dy fowldio di?

9 Weithiau mae Duw yn dangos ei gariad tuag aton ni drwy ein cywiro ni pan fydd angen, fel mae tad cariadus yn ei wneud. Roedd Dafydd yn gwerthfawrogi’r ddisgyblaeth hon a dywedodd: “Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau’n fy hyfforddi.” (Salm 16:7, BCND) Roedd Dafydd yn myfyrio ar feddyliau Duw ac yn eu mabwysiadu. Roedd yn caniatáu i feddyliau Duw ei fowldio, hynny yw, roedd yn gadael iddyn nhw ei newid a’i helpu i fod yn berson gwell. Pan fyddi di’n gwneud yr un peth, bydd dy gariad dithau tuag at Dduw a dy awydd i’w blesio yn tyfu, a byddi di’n dod yn Gristion aeddfed. Pan fydd chwaer o’r enw Christin yn gwneud ymchwil ac yn myfyrio ar yr hyn mae’n ei ddarllen, mae hi’n dweud ei bod hi’n teimlo fel petai Jehofa wedi sicrhau bod y pethau hynny’n cael eu cofnodi ar ei chyfer hi’n benodol!

10. Fel y dysgwn ni o Eseia 26:3, sut bydd bod yn berson ysbrydol yn dy helpu?

10 Os wyt ti’n berson ysbrydol, byddi di’n gweld y byd a’i ddyfodol yn yr un ffordd â Duw. Jehofa sy’n rhoi’r wybodaeth a’r ddirnadaeth arbennig hyn iti. Pam? Mae eisiau iti wybod beth sy’n bwysig mewn bywyd, sut i wneud penderfyniadau da, a sut i edrych i’r dyfodol heb ofn! (Darllen Eseia 26:3.) Mae brawd o’r enw Joshua, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, yn dweud os wyt ti’n aros yn agos at Jehofa, byddi di’n gweld yn glir beth sy’n bwysig a beth sydd ddim.

GWNA FFRINDIAU DA

11. Sut roedd Dafydd yn dewis ei ffrindiau?

11 Darllen Salm 16:3. Roedd Dafydd yn gwybod sut i ffeindio ffrindiau da. Roedd yn dewis pobl a oedd yn caru Jehofa i fod yn ffrindiau iddo, ac roedd wrth ei fodd gyda nhw. Dywedodd fod ei ffrindiau yn “bobl dduwiol” oherwydd roedden nhw’n ceisio dilyn safonau moesol lân Duw. Roedd salmydd arall yn teimlo’r un ffordd am ddewis ffrindiau ac ysgrifennodd: “Dw i’n ffrind i bawb sy’n dy ddilyn di, ac yn gwneud beth rwyt ti’n ei ofyn.” (Salm 119:63) Fel y gwnaethon ni drafod yn yr erthygl ddiwethaf, gelli dithau hefyd ddarganfod llawer o ffrindiau da ymhlith y bobl sy’n caru Jehofa ac sy’n ufuddhau iddo. Ac wrth gwrs, does dim rhaid i dy ffrindiau fod yr un oedran â thi.

12. Pam roedd Dafydd a Jonathan yn ffrindiau da?

12 Doedd Dafydd ddim wedi dewis bod yn ffrindiau â rhai’r un oed ag ef yn unig. Elli di feddwl am un o ffrindiau agos Dafydd? Efallai dy fod ti’n meddwl am Jonathan. Mae’r cyfeillgarwch rhwng Dafydd a Jonathan yn un o’r rhai mwyaf hardd y gelli di ddarllen amdano yn y Beibl. Ond, oeddet ti’n gwybod bod Jonathan tua 30 o flynyddoedd yn hŷn na Dafydd? Felly, pam roedden nhw’n ffrindiau mor dda? Roedd eu cyfeillgarwch yn seiliedig ar ffydd yn Nuw. Roedden nhw hefyd yn parchu ei gilydd ac yn gwerthfawrogi rhinweddau da ei gilydd, fel y dewrder roedd y ddau ohonyn nhw wedi ei ddangos wrth ymladd yn erbyn gelynion Duw.—1 Samuel 13:3; 14:13; 17:48-50; 18:1.

13. Sut gelli di wneud mwy o ffrindiau? Rho esiampl.

13 Fel Dafydd a Jonathan, gallwn ninnau fod wrth ein boddau pan fyddwn ni’n dewis ffrindiau sy’n caru Jehofa ac sy’n rhoi eu ffydd ynddo. Mae Kiera, sydd wedi bod yn gwasanaethu Duw am lawer o flynyddoedd, yn dweud: “Dw i wedi gwneud ffrindiau efo pobl ar draws y byd, pobl o wahanol gefndiroedd a diwylliannau.” Pan fyddi di’n gwneud yr un peth, byddi di’n gweld drosot ti dy hun sut mae’r Beibl a’r ysbryd glân yn ein gwneud ni’n un teulu o addolwyr byd eang.

GOSODA AMCANION YSTYRLON

14. (a) Sut gelli di osod amcanion ystyrlon yn dy fywyd? (b) Beth mae rhai ifanc yn ei ddweud am eu hamcanion?

14 Darllen Salm 16:8. I Dafydd, gwasanaethu Duw oedd y peth pwysicaf yn ei fywyd. Os wyt ti’n efelychu Dafydd pan wyt ti’n gosod amcanion ac yn wastad yn meddwl am beth mae Jehofa eisiau iti, bydd dy fywyd yn llawn boddhad. Mae brawd o’r enw Steven yn dweud: “Mae gweithio tuag at gyrraedd nod, ei gyflawni, ac yna edrych yn ôl ar y cynnydd rydw i wedi ei wneud yn dod â boddhad imi.” Mae brawd ifanc o’r Almaen sydd bellach yn gwasanaethu mewn gwlad arall yn dweud: “Pan dw i’n hen, dw i ddim eisiau edrych yn ôl ar fy mywyd a gweld fy mod i wedi canolbwyntio arnaf i fy hun yn unig.” Wyt ti’n teimlo’r un ffordd? Felly, defnyddia dy alluoedd a dy dalentau i anrhydeddu Duw ac i helpu pobl eraill. (Galatiaid 6:10) Gosoda amcanion yn dy wasanaeth i Jehofa a gofynna i Jehofa dy helpu i gyrraedd yr amcanion hynny. Gelli di fod yn sicr y bydd yn ateb dy weddi!—1 Ioan 3:22; 5:14, 15.

15. Pa amcanion gelli di eu gosod i ti dy hun? (Gweler y blwch “ Amcanion i Feddwl Amdanyn Nhw.”)

15 Beth yw rhai o’r amcanion y gelli di eu gosod? Beth am geisio ateb yn dy eiriau dy hun yn y cyfarfodydd? Neu, beth am osod y nod o arloesi neu wasanaethu yn y Bethel? Gelli di hefyd geisio dysgu iaith newydd fel dy fod ti’n gallu ei defnyddio i rannu’r newyddion da gyda mwy o bobl. Mae Barak, brawd ifanc sy’n gwasanaethu’n llawn amser, yn dweud: “Mae codi bob bore gan wybod fy mod i’n rhoi fy holl nerth i Jehofa yn deimlad sydd ddim yn dod o unrhyw waith arall.”

TRYSORA DY RYDDID

16. Sut roedd Dafydd yn teimlo am gyfreithiau ac egwyddorion Jehofa, a pham?

16 Darllen Salm 16:2, 4. (BCND) Fel y gwnaethon ni ddysgu yn yr erthygl ddiwethaf, pan ydyn ni’n byw yn ôl cyfreithiau ac egwyddorion Duw, rydyn ni’n cael gwir ryddid. Rydyn ni’n dysgu caru’r hyn sy’n dda a chasáu’r hyn sy’n ddrwg. (Amos 5:15) Dywedodd Dafydd am Jehofa: “Nid oes imi ddaioni ond ynot ti.” Daioni ydy rhinweddau a safonau moesol rhagorol. Mae daioni Jehofa yn effeithio ar bopeth mae’n ei wneud, ac mae popeth da sydd gennyn ni yn dod oddi wrtho. Gweithiodd Dafydd yn galed i efelychu Duw ac i garu beth mae Jehofa’n ei garu. Ond, gwnaeth Dafydd hefyd ddysgu i gasáu beth sy’n ddrwg yng ngolwg Duw. Un o’r pethau hynny ydy eilunaddoliaeth, sef addoli rhywun neu rywbeth yn hytrach na Jehofa. Mae eilunaddoliaeth yn iselhau bodau dynol ac yn cymryd yr anrhydedd sy’n perthyn i Jehofa a’i roi i rywun neu i rywbeth arall.—Eseia 2:8, 9; Datguddiad 4:11.

17, 18. (a) Beth ddywedodd Dafydd am ganlyniadau drwg gau addoliad? (b) Pam mae llawer o bobl heddiw “yn cael llwyth o drafferthion”?

17 Yn adeg y Beibl, roedd anfoesoldeb rhywiol yn aml yn rhan o gau addoliad. (Hosea 4:13, 14) Roedd llawer o bobl yn hoffi gau addoliad oherwydd roedden nhw’n mwynhau bod yn anfoesol, ond a oedd addoliad o’r fath yn eu gwneud nhw’n hapus? Ddim o gwbl! Dywedodd Dafydd fod y rhai sy’n addoli gau dduwiau “yn cael llwyth o drafferthion!” Roedd y bobl hynny yn aberthu eu plant i gau dduwiau hyd yn oed! (Eseia 57:5) Roedd Jehofa’n casáu eu creulondeb. (Jeremeia 7:31) Petaset ti wedi byw yn y dyddiau hynny, byddet ti wedi bod yn ddiolchgar iawn petasai dy rieni wedi bod yn addoli Jehofa!

18 Heddiw, mae llawer o gau grefyddau yn derbyn anfoesoldeb rhywiol, gan gynnwys cyfunrhywiaeth. Efallai fod bywyd anfoesol yn gwneud i bobl feddwl eu bod nhw’n rhydd, ond mewn gwirionedd maen nhw’n “cael llwyth o drafferthion!” (1 Corinthiaid 6:18, 19) Wyt ti wedi sylwi ar hyn? Felly, os wyt ti’n berson ifanc, gwranda ar dy Dad nefol. Profa i ti dy hun fod ufuddhau i Dduw yn dda iti. Meddylia’n ofalus am y canlyniadau drwg sy’n dod o anfoesoldeb. Byddi di’n gweld dydy’r pleser dros dro ddim werth y niwed sy’n dilyn. (Galatiaid 6:8) Mae Joshua, y soniwyd amdano’n gynharach, yn dweud: “Gallwn ni ddefnyddio ein rhyddid mewn unrhyw ffordd rydyn ni eisiau, ond dydy ei gamddefnyddio ddim yn ein gwneud ni’n hapus.”

19, 20. Pa fendithion fydd yn dod i bobl ifanc sy’n rhoi eu ffydd yn Jehofa ac yn ufuddhau iddo?

19 Dywedodd Iesu: “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi ei ddangos i chi, dych chi’n ddilynwyr go iawn i mi. Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.” (Ioan 8:31, 32) Diolch i Jehofa, rydyn ni’n rhydd rhag dylanwad gau grefydd, anwybodaeth, ac ofergoeledd. Yn y dyfodol, rydyn ni’n edrych ymlaen at y “rhyddid bendigedig fydd Duw’n ei roi i’w blant.” (Rhufeiniaid 8:21) Gelli di fwynhau rhywfaint o’r rhyddid hwnnw nawr drwy ddilyn dysgeidiaethau Crist. Drwy wneud hyn, byddi di’n dod i “wybod beth sy’n wir” (Ni biau’r print trwm.) nid yn unig drwy ddysgu am y gwirionedd ond drwy fyw’r gwirionedd!

20 Felly, trysora’r rhyddid mae Duw’n ei roi i ti. Defnyddia’r rhyddid hwnnw’n ddoeth. Mae’n gallu dy helpu di i wneud penderfyniadau nawr ac yn gallu rhoi’r dyfodol gorau iti. Mae un brawd ifanc yn dweud: “Mae defnyddio dy ryddid yn ddoeth pan wyt ti’n ifanc yn helpu’n fawr iawn yn nes ymlaen pan wyt ti’n wynebu penderfyniadau mawr, fel dewis swydd addas neu benderfynu a ddylet ti briodi neu aros yn sengl am gyfnod.”

21. Sut gelli di gael y bywyd go iawn?

21 Yn yr hen system hon, mae hyd yn oed bywyd braf yn fyr. Does neb ar y ddaear yn gwybod beth fydd yn digwydd yfory. (Iago 4:13, 14) Felly, y peth gorau gelli di ei wneud ydy gwneud dewisiadau a fydd yn dy helpu i gael y bywyd go iawn—bywyd tragwyddol ym myd newydd Duw. (1 Timotheus 6:19) Dydy Jehofa ddim yn gorfodi neb i’w wasanaethu. Ein penderfyniad personol ydy addoli Duw neu ddim. Felly, dewisa Jehofa fel dy gyfran drwy agosáu ato bob dydd, a thrwy drysori’r holl “bethau da” mae’n eu rhoi iti. (Salm 103:5) Bydda’n sicr fod Jehofa yn gallu rhoi llawenydd a hapusrwydd iti am byth!—Salm 16:11.