Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 3: Beth Sy’n Dal Fi’n Ôl?

A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 3: Beth Sy’n Dal Fi’n Ôl?

 Ydy’r syniad o gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio yn dy wneud di’n nerfus? Os felly, bydd yr erthygl hon yn dy helpu di i ddod dros yr ofnau hynny.

Yn yr erthygl hon

 Beth os ydw i’n gwneud camgymeriad difrifol ar ôl cael fy medyddio?

 Y rheswm dros y pryder: Efallai dy fod ti’n adnabod rhywun sydd wedi pechu’n ddifrifol ac wedi cael ei ddiarddel. (1 Corinthiaid 5:11-13) Hwyrach dy fod ti’n poeni y bydd hyn yn digwydd i ti.

 “Pan ddechreuais i feddwl am gael fy medyddio, roedd y syniad o wneud cawl o bethau yn codi ofn arna i. O’n i’n jest yn meddwl, petasai hynny’n digwydd, fyddai’n adlewyrchu’n ddrwg ar fy rhieni.”—Rebekah.

 Adnod allweddol: “Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a . . . troi’n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.”—Eseia 55:7.

 Meddylia am hyn: Er bod drwgweithredwyr diedifar yn cael eu diarddel o’r gynulleidfa, mae Jehofa yn estyn trugaredd i’r rhai sy’n edifarhau yn ostyngedig ac yn derbyn disgyblaeth.—Salm 103:13, 14; 2 Corinthiaid 7:11.

 Y ffaith amdani yw: Er dy fod ti’n amherffaith, mi elli di wrthsefyll temtasiwn gyda help Duw. (1 Corinthiaid 10:13) Wedi’r cyfan, pwy sy’n penderfynu sut byddi di’n gweithredu? Ti? Neu rywun arall?

 “O’n i’n poeni am wneud camgymeriad difrifol ar ôl bedydd. Ond wedyn wnes i sylweddoli y byddwn i’n gwneud camgymeriad petaswn i’n dal yn ôl rhag cael fy medyddio. Des i i’r casgliad na ddylwn i adael i’r petai-a-phetasai sy’n perthyn i yfory fy nal i’n ôl heddiw.”—Karen.

 Y gwir yw: Os wyt ti’n dewis gwneud hynny, mi elli di osgoi pechodau difrifol—fel y mae’r rhan fwyaf o weision Jehofa yn ei wneud.—Philipiaid 2:12.

 Angen mwy o help? Gweler “Sut Galla’i Wrthsefyll Temtasiwn?

 Beth os ydw i’n ofni’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda bedydd?

 Y rheswm dros y pryder: Er enghraifft, efallai dy fod ti’n adnabod rhai ifanc sydd wedi symud oddi cartref yn bell o’u ffrindiau a’u teuluoedd er mwyn gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. Rwyt ti’n pryderu y bydd pobl yn disgwyl iti wneud yr un peth.

 “Mae bedydd yn agor y drws i lawer o freintiau ysbrydol, ond dydy rhai pobl jest ddim yn barod i wneud mwy eto, neu does ganddyn nhw ddim yr amgylchiadau i wneud hynny.”—Marie.

 Adnod allweddol: “Dylai pob un dalu sylw i’w weithredoedd ei hun, ac yna y bydd ganddo achos i lawenhau ynddo ef ei hun yn unig, ac nid mewn cymhariaeth â rhywun arall.”—Galatiaid 6:4.

 Meddylia am hyn: Yn hytrach na chymharu dy hun ag eraill, canolbwyntia ar y geiriau ym Marc 12:30: “Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon.”

 Sylwa y dylet ti wasanaethu Jehofa â’th holl galon di—nid calon neb arall. Os wyt ti wir yn caru Jehofa, mi fyddi di’n ffeindio ffyrdd i’w wasanaethu’r gorau fedri di.

 “Tra bod bedydd yn gam pwysig, dydy o ddim yn faich trwm. Os wnei di gadw cwmni da, mi fyddan nhw yno i dy helpu di. Bydd cymryd mwy o gyfrifoldebau fesul tipyn yn dy wneud di’n hapusach. Byddai osgoi cael dy fedyddio yn niweidiol iti.”—Julia.

 Y gwir yw: Os wnei di feithrin gwerthfawrogiad am y cariad mae Jehofa wedi ei ddangos iti, bydd hynny yn dy ysgogi di i roi dy orau iddo.—1 Ioan 4:19.

 Angen mwy o help? Gweler How Responsible Am I?

 Beth os ydw i’n teimlo nad ydw i’n haeddu gwasanaethu Jehofa?

 Y rheswm dros y pryder: Jehofa yw Sofran y bydysawd; mae dynion yn ddim mewn cymhariaeth! Hwyrach dy fod ti wedi amau nad ydy Jehofa yn gwybod dy fod ti’n bodoli.

 “Gan fod fy rhieni yn Dystion Jehofa, o’n i’n poeni fy mod i wedi ‘etifeddu’ fy nghyfeillgarwch â Jehofa oddi wrthyn nhw, a bod Jehofa heb fy nhynnu ato’n bersonol.”—Natalie.

 Adnod allweddol: “Does yr un dyn yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad, a wnaeth fy anfon i, yn ei ddenu.”—Ioan 6:44.

 Meddylia am hyn: Gall y ffaith dy fod ti’n ystyried bedydd ddangos bod Jehofa yn dy dynnu i berthynas mwy clòs ag ef. Wyt ti eisiau ymateb i’r gwahoddiad hwnnw?

 Cofia hefyd, mai Jehofa—nid ti nac unrhyw un arall—sy’n gosod y safon ar gyfer y rhai y bydd ef yn eu tynnu. Ac mae ei Air yn dy sicrhau di: “Nesewch at Dduw, ac fe fydd yntau’n nesáu atoch chi.”—Iago 4:8.

 “Mae’r ffaith dy fod ti’n gwybod am Jehofa ac wedi cael dy dynnu ato yn brawf ei fod yn dy garu. Felly, os wyt ti’n meddwl nad wyt ti’n haeddu ei wasanaethu, atgoffa dy hun nad yw e’n cytuno. Ac mae Jehofa bob amser yn iawn.”—Selina.

 Y gwir yw: Os wyt ti’n cwrdd â gofynion y Beibl ar gyfer bedydd, yna rwyt ti’n gymwys i addoli Jehofa. A chofia, mae ef yn haeddu dy addoliad.—Datguddiad 4:11.

 Angen mwy o help? Gweler “Pam Dylwn i Weddïo?