Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

“Gwnaeth Troseddu a Chariad at Arian Achosi Llawer o Boen Imi”

“Gwnaeth Troseddu a Chariad at Arian Achosi Llawer o Boen Imi”
  • Ganwyd: 1974

  • Gwlad Enedigol: Albania

  • Hanes: Lleidr, gwerthwr cyffuriau, a charcharor

FY NGHEFNDIR

 Ces i fy ngeni yn Tiranë, prifddinas Albania. Roedd fy nheulu yn dlawd, ond oedd fy nhad yn ddyn gonest oedd yn gweithio oriau hir i ofalu amdanon ni. Ond er ei holl waith caled, oedden ni dal yn ofnadwy o dlawd. O’n i’n poeni am hyn hyd yn oed pan o’n i’n blentyn. Drwy’r rhan fwyaf o mhlentyndod doedd gen i ddim esgidiau ac yn aml doeddwn i ddim yn cael digon o fwyd.

 Wnes i ddechrau dwyn pan o’n i’n ifanc iawn. O’n i’n meddwl fy mod i’n helpu i ofalu am y teulu. Yn y pen draw, ges i fy nal gan yr heddlu. Felly ym 1988, pan o’n i’n 14 oed, ges i fy anfon i ysgol ar gyfer troseddwyr ifanc. Wnes i dreulio dwy flynedd yno, a dysgu sut i weldio. Ar ôl imi adael, o’n i eisiau ennill bywoliaeth mewn ffordd onest; ond, o’n i’n methu ffeindio swydd. Roedd ’na lawer o bobl yn Albania heb waith oherwydd y problemau gwleidyddol ar y pryd. Wnes i ddigalonni ac felly ailgysylltu â hen ffrindiau a dechrau dwyn eto. Yn y pen draw, ces i a fy ffrindiau ein harestio a’n dedfrydu i dair blynedd yn y carchar.

 Ar ôl imi ddod allan o’r carchar, wnes i barhau i droseddu. Roedd economi Albania wedi dymchwel, ac roedd ’na anhrefn llwyr drwy’r holl wlad. Yn ystod y cyfnod anesmwyth hwnnw, mi wnes i lot o arian drwy wneud pethau anghyfreithlon. Ar ôl un lladrad arfog, lle gwnaeth dau o fy ffrindiau gael eu harestio, wnes i ffoi o’r wlad er mwyn osgoi mynd i’r carchar am amser hir. Erbyn hynny, oedd gen i wraig o’r enw Julinda, ac roedden ni newydd gael babi.

 Aethon ni i Loegr yn y diwedd. O’n i wedi bwriadu dechrau bywyd newydd gyda fy ngwraig a fy mab, ond oedd yr hen arferion wedi gwreiddio’n ddwfn. Ymhen dim, o’n i’n troseddu eto—tro yma, yn gwerthu cyffuriau ac yn delio ag arian mawr.

 Sut oedd Julinda yn teimlo am y ffaith fy mod i’n gwerthu cyffuriau? Wna i adael iddi hi ddweud wrthoch chi: “Wrth dyfu i fyny yn Albania, o’n i’n breuddwydio am beidio bod yn dlawd. O’n i’n fodlon trio unrhyw beth er mwyn cael bywyd gwell. O’n i’n meddwl byddai arian yn gwella ein bywydau, felly o’n i’n cefnogi Artan yn llwyr gyda’i gelwyddau, ei ddwyn, a’i werthu cyffuriau—unrhyw beth i wneud arian.”

“O’n i’n cefnogi Artan yn llwyr gyda’i gelwyddau, ei ddwyn, a’i werthu cyffuriau.”—Julinda

 Yna, yn 2002, newidiodd ein bywydau, a daeth ein cynlluniau a’n breuddwydion i ben yn sydyn. Ces i fy nal yn cludo llwyth o gyffuriau a ches i fy ngharcharu unwaith eto.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Roedd y Beibl wedi dechrau effeithio ar fy mywyd heb imi hyd yn oed sylweddoli. Ynghynt, yn y flwyddyn 2000, roedd Julinda wedi cyfarfod Tystion Jehofa a dechrau astudio’r Beibl gyda nhw. Doedd trafod y Beibl ddim yn apelio ata i; o’n i’n meddwl ei fod yn ddiflas. Ond roedd Julinda wrth ei bodd. Esboniodd hi: “Dw i’n dod o deulu crefyddol, ac o’n i’n caru ac yn parchu’r Beibl. Ers o’n i’n ifanc, o’n i eisiau gwybod beth roedd yn ei ddysgu, felly o’n i’n awyddus iawn i astudio’r Beibl gyda’r Tystion. Oedd llawer o ddysgeidiaethau’r Beibl yn gwneud synnwyr perffaith imi. Gwnaeth yr hyn o’n i’n ei ddysgu fy helpu i wneud newidiadau yn fy mywyd. Ond, doedd ’na fawr ddim newid yn fy agwedd tuag at arian—hynny ydy, nes i Artan gael ei arestio. Oedd hynny’n ergyd imi. Yn sydyn, nes i sylweddoli bod yr hyn roedd y Beibl yn ei ddweud am arian yn wir. Oedden ni wedi gwneud popeth allen ni i’w gael, ond oedden ni byth yn hapus. Wedyn wnes i ddeall fy mod i angen dilyn safonau Duw yn llwyr.”

 Yn 2004 ges i fy rhyddhau o’r carchar, ac yn fuan wedyn wnes i drio gwerthu cyffuriau unwaith eto. Ond, roedd agwedd Julinda wedi newid, a gwnaeth rhywbeth a ddywedodd hi wneud imi gallio: “Dw i ddim eisiau dy bres di ddim mwy. Dw i eisiau fy ngŵr yn ôl, a dw i eisiau i dad fy mhlant fod yna iddyn nhw.” Ges i sioc, ond oedd hi’n llygad ei lle. O’n i wedi treulio blynyddoedd i ffwrdd o fy nheulu. Wnes i hefyd meddwl am yr holl boen oedd mynd ar ôl arian yn anonest wedi achosi imi. Felly, wnes i benderfynu newid fy ffyrdd a thorri cysylltiad gyda fy hen ffrindiau.

 Daeth y trobwynt mwyaf pan es i i un o gyfarfodydd Tystion Jehofa gyda fy ngwraig a’r ddau fab. Gwnaeth y bobl gynnes a chyfeillgar yno greu argraff arna i. Yn y pen draw, wnes i ddechrau astudio’r Beibl.

O’n i’n arfer meddwl, petasen ni’n gyfoethog, bydden ni’n hapus

 Wnes i ddysgu o’r Beibl bod “ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi . . . achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain.” (1 Timotheus 6:9, 10) O’n i’n gwybod o brofiad pa mor wir oedd yr adnod honno! O’n i wir yn difaru’r camgymeriadau o’n i wedi eu gwneud yn y gorffennol am eu bod nhw wedi achosi gymaint o boen i fi a fy nheulu. (Galatiaid 6:7) Pan wnes i ddysgu gymaint mae Jehofa a’i Fab Iesu yn ein caru ni, wnes i ddechrau newid fy mhersonoliaeth. Wnes i ddechrau meddwl mwy am bobl eraill yn hytrach na fi fy hun, a threulio mwy o amser gyda fy nheulu.

FY MENDITHION

 Dw i wedi elwa o ddilyn cyngor y Beibl: “Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi!—byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi.” (Hebreaid 13:5) Bellach mae gen i heddwch meddwl a chydwybod lân. Mae hyn wedi rhoi math o lawenydd imi o’n i erioed wedi ei brofi o’r blaen. Mae fy mhriodas yn gryfach, ac rydyn ni’n agosach fel teulu.

 O’n i’n arfer meddwl, petasen ni’n gyfoethog, bydden ni’n hapus. Bellach dw i’n gweld yn glir sut gwnaeth troseddu a chariad at arian achosi llawer o boen imi. Dydyn ni ddim yn gyfoethog yn ariannol, ond dw i’n teimlo ein bod ni wedi ffeindio rhywbeth sy’n llawer pwysicach yn ein bywydau—bod yn ffrind i Jehofa Dduw. Mae ei addoli fel teulu yn ein gwneud ni’n wirioneddol hapus.

Gyda fy nheulu yn un o gynadleddau Tystion Jehofa