Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BYDDWCH WYLIADWRUS!

Argyfwng Ffoaduriaid​—Miliynau yn Ffoi Wcráin

Argyfwng Ffoaduriaid​—Miliynau yn Ffoi Wcráin

 Dechreuodd Rwsia ymosod yn filwrol ar Wcráin ar Chwefror 24, 2022, gan achosi argyfwng dyngarol dybryd wrth i sifiliaid ffoi’r ymladd. a

 “Roedd ’na fomiau’n disgyn a ffrwydriadau. Roedd hi’n codi cymaint o ofn arna i fel fy mod i’n ei chael hi’n anodd ei roi mewn geiriau. Pan glywson ni fod ’na drenau arbennig i helpu ni i ffoi, wnaethon ni benderfynu gadael. Roedd rhaid inni roi popeth pwysig mewn un bag bach. Dim ond un i bob unigolyn ar gyfer pethau fel dogfennau, ffisig, dŵr, a snaciau. Gadawon ni bopeth arall ar ôl a gwneud ein ffordd i’r orsaf wrth i fomiau ffrwydro o’n cwmpas ni.”—Nataliia, o Kharkiv, Wcráin.

 “Doedden ni ddim yn credu y byddai ’na ryfel, tan y funud olaf. Clywais i ffrwydriadau o rannau eraill o’r ddinas, ac roedd y ffenestri’n ysgwyd. Wnes i benderfynu gadael, gan gymryd dim ond y pethau o’n i’n eu gwir angen. Gadewais y tŷ am 8:00 yn y bore a dal trên i Lviv ac wedyn bws i Wlad Pwyl.”—Nadija, o Kharkiv, Wcráin.

Yn yr erthygl hon

 Beth yw’r gwir resymau dros yr argyfwng ffoaduriaid?

 Dechreuodd yr argyfwng ffoaduriaid yn Wcráin oherwydd ymosodiad milwrol gan Rwsia. Ond mae’r Beibl yn datgelu’r rhesymau sylfaenol dros bob argyfwng ffoaduriaid:

  •   Mae llywodraethau dynol yn fyd-eang wedi methu â rhoi i bobl yr hyn maen nhw’n ei angen. Mae’r rhai mewn grym yn aml yn defnyddio eu hawdurdod i orthrymu pobl.—Pregethwr 4:1; 8:9.

  •   Mae gan Satan y Diafol, “tywysog y byd hwn,” gymaint o ddylanwad ar ddynolryw, nes bod y Beibl yn dweud bod y “byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg.”—Ioan 14:30; 1 Ioan 5:19.

  •   Yn ogystal â’r problemau sydd wedi plagio’r ddynoliaeth ers canrifoedd, rydyn ni bellach yn byw mewn cyfnod a gafodd ei ragfynegi yn y Beibl: “Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn.” (2 Timotheus 3:1) Ac ar ben hyn i gyd, byddai’r cyfnod hwnnw yn sefyll allan am fod ’na gymaint o ryfeloedd, trychinebau naturiol, prinder bwyd, a phlâu—pethau sy’n achosi i bobl ffoi.—Luc 21:10, 11.

 Ble gall ffoaduriaid ffeindio gobaith?

 Mae’r Beibl yn dweud bod ein Creawdwr, Jehofa b Dduw, yn caru ffoaduriaid ac yn teimlo dros bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi. (Deuteronomium 10:18) Mae’n addo datrys problemau ffoaduriaid drwy ei lywodraeth nefol, sy’n cael ei galw’n Deyrnas Dduw. Bydd y Deyrnas honno yn disodli pob llywodraeth ddynol. (Daniel 2:44; Mathew 6:10) Bydd Jehofa yn defnyddio ei Deyrnas i gael gwared ar Satan y Diafol. (Rhufeiniaid 16:20) Bydd y llywodraeth honno’n teyrnasu dros y ddaear gyfan, gan wneud i ffwrdd â’r rhaniadau sy’n cael eu hachosi gan ffiniau cenedlaethol. Bydd y ddynoliaeth gyfan yn un teulu unedig. Fydd neb yn gorfod ffoi o’i gartref byth eto. Mae’r Beibl yn addo: “Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn. Mae’r ARGLWYDD holl-bwerus wedi addo’r peth!”—Micha 4:4.

 Dim ond Teyrnas Dduw all sicrhau na fydd argyfwng ffoaduriaid yn digwydd byth eto. Bydd Jehofa’n defnyddio ei Deyrnas i gael gwared ar y problemau sy’n gorfodi pobl i ffoi. Ystyriwch rai esiamplau:

  •   Rhyfel. Mae Jehofa yn “dod â rhyfeloedd i ben.” (Salm 46:9) I ddarganfod sut bydd Duw yn dod â rhyfeloedd i ben, darllenwch yr erthygl Peace on Earth—How Will It Come?

  •   Gorthrwm a thrais. Bydd Jehofa yn “eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais.” (Salm 72:14) I ffeindio allan sut gall pobl newid agweddau sydd wedi gwreiddio’n ddwfn ynddyn nhw, darllenwch y gyfres o erthyglau sy’n dwyn y teitl “Torri’r Cylch o Gasineb.”

  •   Tlodi. Bydd Jehofa yn “achub y rhai sy’n galw arno mewn angen, a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu.” (Salm 72:12) I weld sut bydd Duw yn cael gwared ar dlodi unwaith ac am byth, darllenwch yr erthygl “Ydy System Economaidd Deg yn Bosib?

  •   Prinder bwyd. Bydd “digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.” (Salm 72:16) I weld sut bydd Duw yn sicrhau na fydd neb yn llwgu, darllenwch yr erthygl A World Without Hunger?

 All y Beibl helpu ffoaduriaid heddiw?

 Yn bendant. Yn ogystal â rhoi gobaith sicr i ffoaduriaid am y dyfodol, mae’r Beibl hefyd yn gallu eu helpu â’r heriau maen nhw’n eu hwynebu nawr.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae’r person call yn fwy gofalus.”—Diarhebion 14:15.

 Ystyr: Meddyliwch o flaen llaw am y peryglon gallech chi eu hwynebu, a sut byddwch chi’n mynd ati i amddiffyn eich hun. Gwyliwch allan am droseddwyr sy’n ceisio cymryd mantais o ffoaduriaid sy’n anghyfarwydd â’u hardal newydd.

 Egwyddor o’r Beibl: “Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.”—1 Timotheus 6:8.

 Ystyr: Peidiwch â chanolbwyntio ar bethau materol. Byddwch chi’n llawer hapusach os ydych chi’n fodlon â phethau sylfaenol bywyd.

 Egwyddor o’r Beibl: “Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi.”—Mathew 7:12.

 Ystyr: Byddwch yn amyneddgar ac yn garedig. Bydd hynny’n eich helpu i ennill parch a chael eich derbyn gan y gymuned leol.

 Egwyddor o’r Beibl: “Peidiwch byth talu’r pwyth yn ôl.”—Rhufeiniaid 12:17.

 Ystyr: Peidiwch â gadael i ddicter achosi ichi dalu’r pwyth yn ôl os cewch chi’ch trin yn wael. Byddai hynny ond yn gwneud pethau’n waeth.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.”—Philipiaid 4:13, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

 Ystyr: Rhowch y flaenoriaeth i Dduw yn eich bywyd, a gweddïwch arno. Gall Ef roi’r nerth rydych chi’n ei angen i ymdopi.

 Egwyddor o’r Beibl: “Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau.”—Philipiaid 4:6, 7.

 Ystyr: Gofynnwch i Dduw roi heddwch meddwl ichi beth bynnag yw eich sefyllfa. Gweler yr erthygl Philippians 4:6, 7—‘Do Not Be Anxious About Anything.’

a Y diwrnod ar ôl yr ymosodiad, gwnaeth Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR) roi’r lefel argyfwng uchaf i’r sefyllfa. O fewn 12 diwrnod yn unig, roedd dros ddwy filiwn wedi ffoi o Wcráin i wledydd cyfagos. Hefyd, roedd miliwn o bobl wedi gorfod gadael eu tai a ffoi i ran arall o’r wlad.

b Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?