Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Comstock Images/Stockbyte via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Pa Arweinydd Byddwch Chi’n Ei Ddewis?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Pa Arweinydd Byddwch Chi’n Ei Ddewis?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae pobl yn gwneud penderfyniadau pwysig am eu harweinwyr.

 Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Dim ond hyn a hyn gall arweinwyr dynol ei wneud

 Mae’r Beibl yn nodi un terfyn arbennig sydd ar bob arweinydd dynol.

  •   “Paid trystio’r rhai sy’n teyrnasu​—dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub. Mae’r anadl yn mynd allan ohono, ac mae’n mynd yn ôl i’r pridd; a’r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!”—Salm 146:3, 4.

 Bydd hyd yn oed yr arweinwyr gorau yn marw yn y pen draw. Ac ni allan nhw sicrhau y bydd y rhai sydd yn eu dilyn yn parhau â’r gwaith da.—Pregethwr 2:18, 19.

 Yn ôl y Beibl, nid oedd Duw yn bwriadu i fodau dynol reoli eu hunain.

  •   “[Ni] all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd.”—Jeremeia 10:23.

 A oes unrhyw un yn gallu bod yn arweinydd da heddiw?

Arweinydd wedi ei benodi gan Dduw

 Mae’r Beibl yn esbonio bod Duw wedi penodi arweinydd galluog y gallwn ymddiried ynddo’n llwyr: Iesu Grist. (Salm 2:6) Iesu ydy Brenin Teyrnas Dduw, sef llywodraeth sydd yn rheoli o’r nef.—Mathew 6:10.

 A fyddwch chi’n dewis Iesu’n arweinydd? Mae’r Beibl yn dangos pam mae gwneud hynny mor bwysig:

  •   “Plygwch, a thalu teyrnged i’r mab [Iesu Grist]; neu bydd [Duw] yn digio a cewch eich difa pan fydd yn dangos mor ddig ydy e. Mae pawb sy’n troi ato am loches wedi eu bendithio’n fawr!”—Salm 2:12.

 Mae’n amser penderfynu. Mae proffwydoliaethau’r Beibl yn dangos bod Iesu wedi dechrau rheoli yn y flwyddyn 1914, a bod Teyrnas Dduw yn mynd i ddisodli pob llywodraeth ddynol yn fuan.—Daniel 2:44.

 I ddysgu mwy am sut gallwch chi gefnogi Iesu fel arweinydd, darllenwch yr erthygl “Dewiswch Gefnogi Teyrnas Dduw Nawr!