Neidio i'r cynnwys

Gwarchod Bywyd Gwyllt a’r Amgylchedd yn Warwick

Gwarchod Bywyd Gwyllt a’r Amgylchedd yn Warwick

Mae Tystion Jehofa wedi cychwyn adeiladu eu pencadlys byd-eang newydd yn agos at Sterling Forest Lake (Blue Lake), mewn ardal wledig yn Nhalaith Efrog Newydd. Sut maen nhw’n amddiffyn y cynefin a’r anifeiliaid gwyllt yno?

Adeiladodd y Tystion ffens dros dro o amgylch y safle adeiladu er mwyn rhwystro nadroedd rhuglo’r coed (crotalus horridus), crwbanod cloriog y dwyrain (terrapene carolina carolina), a chrwbanod y coed (glyptemys insculpta) rhag dod i mewn a chael eu niweidio. I rwystro’r anifeiliaid rhag cael eu dal yn y lle gwaith mae’r ffens yn cael ei chadw o dan reolaeth. Wedi cwblhad y gwaith adeiladu, bydd y ffens yn ddiangen a bydd unrhyw neidr ruglo sydd yn cael ei darganfod yn rhy agos i’r adeiladau yn cael ei adleoli’n ddiogel gan arbenigwr.

Robin las y dwyrain

Cafodd y coed eu cynaeafu yn ystod y gaeaf er mwyn osgoi aflonyddu tymor nythu robin las y dwyrain. Ar ddiwedd y gwaith adeiladu, bydd y Tystion yn gosod blychau nythu yn yr ardal i ddenu’r adar yn ôl.

Mae’r cycyllog cyfanddail (scutellaria integrifolia) mewn perygl o ddiflannu. Felly, rhwng mis Hydref a mis Mawrth bydd y Tystion yn clirio a llunio’r tir er mwyn i unrhyw hadau’r planhigyn hwn chwalu ac egino yn effeithiol. Mae’r cynllun hwn yn cael ei ddilyn er nad yw’r planhigyn hwn wedi cael eu darganfod ar safle prosiect Warwick ers 2007.

Mae Sterling Forest Lake, sydd yn ymyl y safle, yn gartref i nifer o adar dŵr, ac i bysgod fel y brithyll, y picrel, y draenogyn dŵr croyw, ac eraill. Er mwyn diogelu’r llyn, mae’r dylunwyr wedi dewis amrywiaeth o ddulliau adeiladu gwyrdd. Maen nhw’n cynnwys toeau sydd yn addas i blannu planhigion a fydd yn puro’r dŵr glaw a lleihau maint y dŵr ffo. Hefyd, mae’r planhigion naturiol o amgylch y llyn yn cael eu hamddiffyn a’u cadw yn ddiogel.

Dywedodd un o’r Tystion sydd yn ymwneud â’r gwaith hwn, “Er bod gwneud hyn yn cymryd mwy o amser a chynllunio, rydyn ni’n benderfynol o amddiffyn yr ecosystem ar y safle yn Warwick.”