Teithiau Tywys Bethel
Dewch ar daith dywys o gwmpas ein swyddfeydd cangen, sy’n aml yn cael eu galw’n Bethel. Mewn llawer o swyddfeydd mae arddangosfeydd hunan-dywys i’w gweld.
Teithiau Tywys Wedi Ailgychwyn: Mewn llawer o wledydd, mae teithiau tywys yn ein swyddfeydd cangen wedi ailgychwyn ers Mehefin 1, 2023. Am fanylion, cysylltwch â’r swyddfa gangen hoffech chi ymweld â hi. Plîs peidiwch ag ymweld os ydych chi’n cael prawf positif am COVID-19, os oes gynnoch symptomau annwyd neu ffliw, neu os ydych chi’n ddiweddar wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd wedi cael prawf positif am COVID-19.
Yr Unol Daleithiau
Gwybodaeth am Deithiau Tywys
Arddangosfeydd
Arddangosfeydd Hunan-Dywys Warwick
Y Beibl a’r Enw Dwyfol. Yn yr arddangosfa hon cewch weld detholiad o Feiblau prin sy’n dangos sut mae enw Duw wedi ei gadw yn yr Ysgrythurau er gwaethaf ymdrechion i’w ddileu. Mewn oriel sy’n troi, cewch weld Beiblau prin ac arteffactau sy’n berthnasol i’r Beibl.
Pobl Sy’n Dwyn Enw Jehofa. Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno hanes gweledol etifeddiaeth ysbrydol Tystion Jehofa. Mae’n cynnwys arteffactau, graffigau, a hanesion person cyntaf sy’n dangos sut mae Jehofa wedi arwain, dysgu, a threfnu ei bobl i wneud ei ewyllys fesul cam.
Pencadlys—Ffydd ar Waith. Mae’r arddangosfa ryngweithiol hon yn esbonio gwaith pwyllgorau’r Corff Llywodraethol a sut maen nhw’n helpu Tystion Jehofa i ddilyn cyfarwyddiadau Ysgrythurol i gwrdd gyda’i gilydd, i wneud disgyblion, i dderbyn bwyd ysbrydol, ac i ddangos cariad tuag at ei gilydd.
Cyfeiriad a Rhif Ffôn