Neidio i'r cynnwys

Ymateb Addfwyn i Weinidogion Candryll

Ymateb Addfwyn i Weinidogion Candryll

 Arolygwr cylchdaith oedd Artur, ac ar un ymweliad yn Armenia sylwodd doedd y gynulleidfa ddim yn tystiolaethu’n gyhoeddus â throlïau eto. Felly er mwyn eu hannog nhw i roi cychwyn arni, gwnaeth Artur a’i wraig Anna osod yr esiampl. Un diwrnod, aethon nhw allan gyda brawd arall o’r enw Jirayr, a gosod troli lenyddiaeth yn un o ardaloedd prysur tref fach leol.

 Cawson nhw lwyddiant ar y troli yn syth, wrth i bobl ddangos diddordeb a chymryd llenyddiaeth. Ond roedden nhw hefyd wedi tynnu sylw gwrthwynebwyr. Daeth dau weinidog at y troli, a heb air o rybudd gwnaeth un ohonyn nhw gicio’r troli drosodd. Yna, trodd ar Artur, a’i slapio yn ei wyneb gan daro ei sbectol i’r llawr. Aeth Artur, Anna, a Jirayr ati i drio tawelu tymer y gweinidogion. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth. Dechreuodd y ddau weinidog sathru ar y troli, gan anfon y llenyddiaeth i bobman. Y peth nesaf, roedden nhw’n rhegi ar y Tystion, ac yn eu bygwth nhw cyn troi ar eu sodlau, a cherdded i ffwrdd.

 Aeth Artur, Anna, a Jirayr i’r orsaf heddlu leol i gwyno ac esbonio beth oedd wedi digwydd. Tra oedden nhw yno, gwnaethon nhw hefyd sôn am y Beibl wrth rai o’r plismyn a staff eraill oedd yno. Roedd y prif swyddog heddlu eisiau gwybod mwy am beth oedd wedi digwydd, felly aethon nhw i’w swyddfa. O glywed bod Artur heb daro yn ôl, ac yntau’n ddyn cryf, roedd y swyddog eisiau gwybod mwy am ddaliadau’r Tystion. Gwnaeth hynny arwain at sgwrs a barodd am bedair awr! Creodd hynny gymaint o argraff arno, dywedodd: “Am grefydd wych! Dw i’n barod i ymuno â chi!”

Artur ac Anna

 Y diwrnod wedyn, aeth Artur yn syth yn ôl ati i dystiolaethu. Daeth dyn oedd wedi gweld popeth a ddigwyddodd y diwrnod cynt ato, a’i ganmol am beidio â gwylltio na tharo yn ôl. Dywedodd ei fod bellach wedi colli bob parch tuag at y gweinidogion.

 Y noson honno, galwodd y prif swyddog Artur yn ôl i’r orsaf heddlu. Ond doedd ef ddim eisiau trafod beth ddigwyddodd​—roedd ganddo fwy o gwestiynau am y Beibl. Ar ben hynny, dyma ddau blismon arall yn ymuno â’r sgwrs.

 Y diwrnod ar ôl hynny, galwodd Artur ar y prif swyddog unwaith eto i ddangos fideos am y Beibl iddo. A dyma’r swyddog yn gofyn i blismyn eraill ddod i mewn i wylio’r fideos hefyd.

 Am fod y gweinidogion wedi ymddwyn mewn ffordd mor ofnadwy, clywodd llawer o blismyn am y gwir am y tro cyntaf. Ar ôl hynny, roedd ganddyn nhw feddwl uchel o’r Tystion.