Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cafodd dros 27,500 cilogram (60,000 pwys) o gerrig mâl eu cludo i stiwdio Mount Ebo ar gyfer y ddrama Feiblaidd

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Cynhyrchu Fideos ar Gyfer Rhaglen Cynhadledd Ranbarthol 2020 “Llawenha Bob Amser!”

Cynhyrchu Fideos ar Gyfer Rhaglen Cynhadledd Ranbarthol 2020 “Llawenha Bob Amser!”

AWST 10, 2020

 Mae fideos ein cynadleddau rhanbarthol yn cyffwrdd ein calonnau ac yn ein helpu ni i ddeall yr hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu yn well. Mae gan Gynhadledd Ranbarthol 2020 “Llawenha Bob Amser!” 114 fideo, gan gynnwys y 43 anerchiad gan aelodau’r Corff Llywodraethol a’u helpwyr. A ydych chi erioed wedi meddwl faint o ymdrech a chost sydd ynghlwm wrth gynhyrchu’r fideos hyn?

 Defnyddiodd bron i 900 o’n brodyr a’n chwiorydd o bedwar ban byd eu hamser a’u sgiliau i helpu i gynhyrchu’r rhaglen hon. Rhwng pawb, fe wnaethon nhw dreulio bron i 100,000 o oriau ar y prosiect dros gyfnod o ddwy flynedd. Roedd hyn yn cynnwys y 70,000 o oriau oedd eu hangen i gwblhau’r ddrama Feiblaidd 76 munud Nehemeia: Llawenydd Jehofa Yw Dy Nerth.

 Fel gallwch chi ei ddychmygu, roedd ’na gostau sylweddol ynghlwm wrth edrych ar ôl costau byw y gwirfoddolwyr hunanaberthol, yn ogystal â’r cymorth technegol, yr offer, a’r cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer gorffen y gwaith.

 “Mae Pwyllgor Addysgu’r Corff Llywodraethol yn awyddus iawn i gael amrywiaeth o ddiwylliannau a lleoliadau yn ein fideos. Mae hyn yn helpu i adlewyrchu natur ryngwladol ein brawdoliaeth,” meddai Jared Gossman, sy’n gweithio gyda Gwasanaethau Sain a Fideo. “I gyrraedd y nod hwn, gweithiodd 24 tîm mewn 11 o wahanol wledydd gyda’i gilydd ar y prosiect hwn. Mae ymdrech fyd-eang o’r fath yn gofyn am dipyn go lew o adnoddau, cynllunio, a chydlynu.”

 Mae angen offer a setiau arbenigol er mwyn cynhyrchu llawer o’n fideos. Er enghraifft, cafodd y setiau ar gyfer Nehemeia: Llawenydd Jehofa Yw Dy Nerth eu hadeiladu yn stiwdio Mount Ebo ger Patterson, Efrog Newydd, UDA. Er mwyn gwneud y gorau o gyfraniadau gwerthfawr a rhoi gwedd hanesyddol gywir i’r fideo, adeiladodd y brodyr ddarnau set ysgafn wedi’u dylunio i efelychu waliau Jerwsalem gynt. Cafodd pob darn ei greu allan o ffrâm bren chwe metr (20 tr) o uchder, wedi ei orchuddio â sbwng wedi ei beintio i edrych fel carreg. Gallai’r “waliau” hyn gael eu symud ar gyfer gwahanol olygfeydd, felly roedd angen llai o setiau. Er hynny, roedd angen bron $100,000 (UD) i adeiladu setiau ar gyfer y ddrama yn unig. a

 Mae gwybod y manylion hyn yn cynyddu ein gwerthfawrogiad am raglen cynhadledd ranbarthol eleni. Rydyn ni’n sicr bydd yr ymdrech ynghlwm wrth gynhyrchu’r rhaglen hon yn dod â bloedd o fawl i Jehofa o bedwar ban byd. Diolch am eich cyfraniadau hael i’r gwaith byd-eang drwy donate.pr418.com a ffyrdd eraill.

a Cafodd y setiau ar gyfer Nehemeia: Llawenydd Jehofa Yw Dy Nerth eu creu cyn y pandemig COVID-19. Doedd dim angen cadw pellter cymdeithasol ar y pryd.