Neidio i'r cynnwys

Aelodau’r Corff Llywodraethol yn rhoi anerchiad y Goffadwriaeth: (chwith) y Brawd Anthony Morris yn rhoi anerchiad i’r teulu Bethel; (de uchaf) y Brawd Geoffrey Jackson a (de isaf) y Brawd Mark Sanderson yn rhoi anerchiadau i’w cynulleidfaoedd drwy gynhadledd fideo o’u hystafelloedd

EBRILL 10, 2020
NEWYDDION BYD-EANG

Coffadwriaeth Marwolaeth Iesu 2020—Ym Methel yr Unol Daleithiau

Coffadwriaeth Marwolaeth Iesu 2020—Ym Methel yr Unol Daleithiau

Ar Ebrill 7, 2020, yng nghanol pandemig y coronafirws, fe wnaeth Tystion Jehofa ledled y byd gadw Coffadwriaeth marwolaeth Iesu Grist. Fel y dywedodd y Brawd Steven Lett o’r Corff Llywodraethol: “Does dim firws, neu bandemig yn y byd sy’n gallu ein stopio ni rhag dangos ein diolchgarwch am yr hyn mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud droston ni, neu rhag cadw Swper yr Arglwydd.” Sut roedd hynny’n wir eleni?

Hon yw’r gyntaf mewn cyfres o erthyglau Newyddion a fydd yn disgrifio sut llwyddodd y brodyr ledled y byd i gadw’r Goffadwriaeth yn ystod pandemig y coronafirws. Yn yr erthygl gyntaf, byddwn yn ystyried sut y cadwyd y Goffadwriaeth ym mhencadlys Tystion Jehofa ac yn swyddfa gangen yr Unol Daleithiau.

Er mwyn ufuddhau i gyfyngiadau’r llywodraeth ar ymgasglu yn gyhoeddus, penderfynodd y Corff Llywodraethol y byddai un rhaglen ar gyfer y Goffadwriaeth ar gael i bawb yn y teulu Bethel. Rhoddwyd yr anerchiad o’r awditoriwm yn Warwick gan y Brawd Anthony Morris. Roedd pob aelod o’r teulu Bethel yn yr Unol Daleithiau yn gallu gwylio’r rhaglen o’u hystafelloedd eu hunain. Er mai nifer fach sy’n cymryd yr elfennau, fe wnaeth Swyddfa’r Bethel ddarparu’r bara a’r gwin i bawb yn y teulu.

Elfennau’r goffadwriaeth yn barod i aelodau’r teulu Bethel

Roedd aelodau’r teulu Bethel hefyd yn gallu cysylltu â’u cynulleidfaoedd eu hunain i wylio rhaglen y Goffadwriaeth drwy gynhadledd fideo. Ar ben hynny, roedd rhai henuriaid sy’n aelodau’r teulu Bethel yn gallu rhoi anerchiad y Goffadwriaeth drwy gynhadledd fideo.

Cwpl sy’n gwasanaethu yn y Bethel yn Wallkill yn cadw’r Goffadwriaeth yn eu hystafell

Dywedodd llawer yn y teulu Bethel mai hon oedd un o’r Coffadwriaethau fwyaf cofiadwy erioed. Er nad oedden nhw’n medru cwrdd wyneb yn wyneb, fe deimlon nhw’r undod rhwng y brodyr a’r chwiorydd drwy’r byd wrth gofio cariad rhyfeddol ein Duw, Jehofa, a’i Fab annwyl, Iesu Grist.—Ioan 3:16; Mathew 20:28.