Neidio i'r cynnwys

MEDI 3, 2020
NEWYDDION BYD-EANG

Cynhadledd 2020—Y Gynhadledd Gyntaf i Gael ei Darlledu Ledled y Byd

Cynhadledd 2020—Y Gynhadledd Gyntaf i Gael ei Darlledu Ledled y Byd

Yn ystod Gorffennaf ac Awst 2020, roedd miliynau o’n brodyr a chwiorydd, ynghyd ag eraill, yn unedig wrth wylio’r gynhadledd 2020.

Roedd Tystion Jehofa yn awyddus i fynychu’r gynhadledd “Llawenha Bob Amser!” a oedd am gael ei chynnal yn neuaddau cynulliad ac yn lleoliadau eraill mewn 240 o wledydd. Er mwyn ceisio diogelu iechyd y rhai oedd am fynychu, yn hytrach na chynnal cynadleddau rhanbarthol, penderfynodd y Corff Llywodraethol ddarlledu’r rhaglen yn ddigidol ledled y byd. Dyma’r tro cyntaf ers 1897 i’r gyfundrefn beidio â chynnal cynhadledd fyw.

Dywedodd Kenneth Cook, Jr., aelod o’r Corff Llywodraethol: “Pan gafodd y cynadleddau rhanbarthol eu canslo, ein nod oedd trefnu un digwyddiad rhyngwladol y gall pawb ei fynychu ar yr un pryd. Roedden ni’n gwybod bod angen paratoi y rhaglen mewn cannoedd o ieithoedd o fewn pedwar mis. Fel arfer byddai prosiect o’r fath yn cymryd blwyddyn neu fwy i’w gynllunio a’i gwblhau. Roedden ni’n hapus iawn pan gafodd rhan gyntaf y rhaglen ei rhyddhau mewn tua 400 iaith ar Orffennaf 6, 2020. ‘Dyn ni’n disgwyl i’r rhaglen fod ar gael mewn 511 iaith!”

Yn sôn am fuddion y rhaglen ddigidol, dywedodd un chwaer sy’n rhiant sengl gyda thri o blant: “Er bod ni’n colli’n frodyr a chwiorydd, mae ‘di bod yn wych i’r plant. Mae gwylio’r rhaglen mewn darnau bach wedi helpu nhw i ganolbwyntio. Os maen nhw angen egwyl, ‘dyn ni’n gallu rhewi’r fideo. Does neb yn colli eiliad. Roedd sesiwn Dydd Gwener yn pwysleisio bod plant yn debyg i saethau, ac mae angen anelu nhw at fywyd hapus yng ngwasanaeth Jehofa. Mae’r fformat digidol yn helpu fi i wneud hynny.”—Salm 127:4.

Mae’r gynhadledd hanesyddol hon wedi denu sylw’r cyfryngau rhyngwladol. Er enghraifft, dywed Robert Hendriks, sydd yn arolygu’r Swyddfa Wybodaeth Gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau: “Ysgrifennodd llawer o newyddiadurwyr erthyglau am y gynhadledd. Esboniodd yr erthyglau fod ein cyfundrefn wedi defnyddio technoleg i ddarlledu’r gynhadledd a chadw pawb yn saff.”

Mae’r gynhadledd 2020 “Llawenha Bob Amser!” wedi profi mewn ffordd newydd a chyffrous mai Jehofa yw ein Haddysgwr Mawr.—Eseia 30:20.