Neidio i'r cynnwys

MAI 10, 2022
ISRAEL

Rhyddhau fersiwn cyfan o Cyfieithiad y Byd Newydd mewn Hebraeg Cyfoes

Rhyddhau fersiwn cyfan o Cyfieithiad y Byd Newydd mewn Hebraeg Cyfoes

Yn ddiweddar, cafodd holl gynulleidfaoedd Hebraeg eu hiaith yn nhiriogaeth cangen Israel wybod y byddai fersiwn cyfan o Cyfieithiad y Byd Newydd ar gael mewn Hebraeg Cyfoes i’w lawrlwytho mewn fformatiau digidol gan ddechrau ar Fai 2, 2022. Bydd copïau printiedig ar gael ym mis Medi 2022.

Mae’r fersiwn hwn yn cyfuno’r cyfieithiad o’r Ysgrythurau Hebraeg a gafodd ei ryddhau yn 2020 gyda fersiwn diwygiedig o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Dyma’r tro cyntaf i Cyfieithiad y Byd Newydd fod ar gael mewn Hebraeg cyfoes mewn un gyfrol. Mae trosi’r Ysgrythurau Hebraeg i Hebraeg cyfoes yn helpu darllenwyr i ddirnad ystyr yr hen destun ysbrydoledig, sydd bellach yn anodd i’r rhan fwyaf o ddarllenwyr ei ddeall.

Dywedodd un aelod o’r tîm cyfieithu: “Dydy hi ddim yn hawdd i’n darllenwyr ddod o hyd i gyfieithiadau o’r Beibl mewn Hebraeg cyfoes, yn enwedig yr Ysgrythurau Hebraeg. Felly, roedden ni wrth ein boddau i dderbyn fersiwn cyfan o Cyfieithiad y Byd Newydd gyda’i holl nodweddion hardd, yn enwedig y llu o gyfeiriadau ymyl y ddalen, a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o’r Beibl.”

“Diolchwn i Jehofa am yr anrheg,” meddai aelod arall o’r tîm cyfieithu. “Bydd hyn yn helpu Tystion Jehofa a phawb arall sy’n siarad Hebraeg, i glosio at ein Tad nefol.”—Iago 4:8.