Neidio i'r cynnwys

MEDI 28, 2023
GWERINIAETH DDEMOCRATAIDD Y CONGO

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd Diwygiedig yn Lingala, ynghyd â Llyfrau o’r Beibl Mewn Chwe Iaith Arall

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd Diwygiedig yn Lingala, ynghyd â Llyfrau o’r Beibl Mewn Chwe Iaith Arall

Ddydd Mawrth, 29 Awst, 2023, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd diwygiedig ei ryddhau yn Lingala. Hefyd cafodd rhannau o Cyfieithiad y Byd Newydd eu rhyddhau yn yr ieithoedd Alwr, Cinandeg, Cipende, Cisongeg, Citwba, ac Wrwwnd. Rhoddodd y Brawd Mark Sanderson anerchiad i 75,715 o bobl yn ystod y Gynhadledd Ranbarthol yn Martyr’s Stadium yn Kinshasa, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Gwyliodd 219,457 o bobl eraill y rhaglen a gafodd ei ffrydio i 53 o Neuaddau Cynulliad a lleoliadau eraill ledled y diriogaeth sydd o dan ofal y gangen. Cafodd copïau printiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd diwygiedig yn Lingala, ac o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Cisongeg, eu dosbarthu. Bydd copïau printiedig yn yr ieithoedd eraill ar gael yn y dyfodol. Roedd y cyfieithiadau newydd i gyd ar gael yn syth i’w lawrlwytho mewn fformat digidol. Cafodd y cyfieithiadau canlynol eu rhyddhau:

Alwr (o’r Ysgrythurau Hebraeg: Genesis-Job, Caniad Solomon)

  • Mae tua 1,750,000 o bobl yn siarad Alwr, a’r rhan fwyaf yn byw ym Mahagi

  • Mae 1,609 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 45 o gynulleidfaoedd Alwr eu hiaith

  • Dechreuodd Tystion Jehofa gyfieithu cyhoeddiadau i’r iaith Alwr yn 2013

  • Mae’r swyddfa gyfieithu yn Bunia

Cinandeg (Ysgrythurau Groeg Cristnogol)

  • Mae tua 903,000 o siaradwyr Cinandeg yn Ituri a Gogledd Kivu

  • Mae 4,793 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 78 o gynulleidfaoedd Cinandeg eu hiaith

  • Dechreuodd Tystion Jehofa gyfieithu cyhoeddiadau i’r Cinandeg ym 1998

  • Mae’r swyddfa gyfieithu yn Butembo

Cipende (o’r Ysgrythurau Hebraeg: Genesis, Exodus, Lefiticus, Barnwyr, Ruth, Cyntaf ac Ail Samuel, a Chaniad Solomon)

  • Mae tua dwy filiwn o bobl yn siarad Cipende yn nhaleithiau Kasai, Kwango, a Kwilu

  • Mae 3,349 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 88 o gynulleidfaoedd Cipende eu hiaith

  • Dechreuodd Tystion Jehofa gyfieithu cyhoeddiadau i’r Cipende ym 1996

  • Mae’r swyddfa gyfieithu yn Kikwit

Cisongeg (o’r Ysgrythurau Hebraeg: Genesis, Exodus, a Chaniad Solomon. Hefyd yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol)

  • Mae tua miliwn o bobl yn siarad Cisongeg yn bennaf yn nhalaith Lomami

  • Mae 1,043 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 31 o gynulleidfaoedd Cisongeg eu hiaith

  • Dechreuodd Tystion Jehofa gyfieithu cyhoeddiadau i’r Cisongeg yn 2006

  • Mae’r swyddfa gyfieithu yn Kinshasa

Citwba (o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol: Mathew, Marc, Rhufeiniaid, Cyntaf ac Ail Corinthiaid, Galatiaid, a Philipiaid)

  • Mae mwy na 12 miliwn o bobl yn siarad Citwba yn neheubarth Gweriniaeth y Congo, a hefyd yn Angola a Gabon

  • Mae 2,137 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 30 o gynulleidfaoedd Citwba eu hiaith

  • Cafodd y swyddfa gyfieithu ar gyfer yr iaith Citwba ei hagor yn Pointe-Noire yn 2019

Lingala (Cyfieithiad y Byd Newydd Diwygiedig)

  • Mae mwy na 40 miliwn o bobl yn siarad Lingala

  • Mae 74,023 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 1,266 o gynulleidfaoedd Lingala eu hiaith

  • Dechreuodd Tystion Jehofa gyfieithu cyhoeddiadau i’r Lingala yn y 1960au

  • Cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd ei ryddhau yn Lingala yn 2009

  • Mae’r swyddfa gyfieithu yn Kinshasa

Wrwwnd (o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol: Mathew, Marc, Rhufeiniaid, a Cyntaf Corinthiaid)

  • Mae tua 153,000 o bobl yn siarad Wrwwnd, yn bennaf yn nhalaith Lualaba

  • Mae 553 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 19 o gynulleidfaoedd Wrwwnd eu hiaith

  • Dechreuodd Tystion Jehofa gyfieithu cyhoeddiadau i’r Wrwwnd ym 1994

  • Mae’r swyddfa gyfieithu yn Kolwezi

Bydd y cyfieithiadau diwygiedig a newydd yn help mawr i’r brodyr a chwiorydd sy’n gweithio yn y meysydd lle mae pobl yn siarad yr ieithoedd hyn. Dywedodd un cyhoeddwr sy’n siarad Citwba: “Yn aml iawn, roedd pobl yn anfodlon gwrando arnon ni oherwydd nad oedden ni’n defnyddio cyhoeddiadau yn eu hiaith nhw. Er enghraifft, pan oedden ni’n darllen adnodau o’r Beibl yn Ffrangeg, doedden nhw ddim yn deall. Ond, hyd yn oed os nad ydy pobl yn gallu darllen yn dda, gyda’r cyfieithiad newydd byddan nhw’n gallu gwrando ar Air Duw a chael budd ohono.” Soniodd un darllenwr am fanteision Cyfieithiad y Byd Newydd diwygiedig yn Lingala, gan ddweud: “Bydd rhannu brawddegau syml gyda phobl yn y weinidogaeth yn debyg i rannu trysorau.”

Roedd 75,715 yn bresennol ar gyfer y gynhadledd yn Kinshasa

Rydyn ni’n hyderus y bydd Jehofa yn bendithio ein gwaith wrth i’n brodyr a chwiorydd gael hyd i’r rhai sydd “yn awyddus i glywed gair Duw.”—Actau 13:7.