Neidio i'r cynnwys

Bydd Pob Un yn Cario Ei Lwyth Ei Hun”

Bydd Pob Un yn Cario Ei Lwyth Ei Hun”

“Bydd Pob Un yn Cario Ei Lwyth Ei Hun”

“Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb droston ni’n hunain o flaen Duw.”—RHUFEINIAID 14:12.

1. Pa gyfrifoldeb roedd yn rhaid i’r tri Hebread ifanc ei dderbyn?

 ROEDD tri Hebread ifanc ym Mabilon yn gorfod gwneud penderfyniad pwysig iawn. A ddylen nhw ufuddhau i Frenin Babilon ac addoli delw enfawr? Neu a ddylen nhw wrthod a chael eu taflu i ffwrnais o dân? Doedd dim amser i Shadrach, Meshach, ac Abednego ofyn i rywun am gyngor. Roedden nhw’n gwybod beth i’w wneud. Heb oedi, dywedon nhw wrth y Brenin: “Does gynnon ni ddim bwriad addoli eich duwiau chi, na’r ddelw aur dych chi wedi ei chodi.” (Daniel 3:1-18) Roedd penderfyniad y tri Hebread yn dangos eu bod nhw wedi derbyn y cyfrifoldeb i gario eu llwyth ei hunain.

2. Pwy benderfynodd ar gyfer Peilat ynglŷn â Iesu Grist, ac a oedd hynny’n golygu nad oedd Peilat yn gyfrifol?

2 Tua chwe chan mlynedd wedyn, cafodd dyn ei gyhuddo o flaen llywodraethwr. Wrth iddo ystyried yr achos, daeth i’r casgliad bod y dyn yn ddieuog. Ond roedd y dorf yn mynnu iddo gael ei ddienyddio. Doedd y llywodraethwr ddim am adael i hynny ddigwydd, ond oherwydd y pwysau, gwrandawodd ar y dorf. Gan olchi ei ddwylo, dywedodd: “Rydw i’n ddieuog o waed y dyn hwn.” Yna, anfonodd y dyn i ffwrdd i gael ei ladd. Yn lle cymryd y cyfrifoldeb o wneud penderfyniad ynglŷn â Iesu Grist, gwnaeth Pontius Peilat adael i eraill benderfynu ar ei ran. Er bod Peilat wedi golchi ei ddwylo, roedd yn dal yn gyfrifol am beth ddigwyddodd i Iesu.—Mathew 27:11-26; Luc 23:13-25.

3. Pam na ddylen ni adael i bobl eraill benderfynu ar ein rhan?

3 Beth amdanat ti? Pan mae’n rhaid i ti wneud penderfyniad, wyt ti fel y tri Hebread, neu wyt ti’n gadael i eraill benderfynu ar dy ran? Dydy gwneud penderfyniadau ddim yn hawdd. Mae’n rhaid bod yn aeddfed er mwyn gwneud y dewis iawn. Er enghraifft, mae’n rhaid i rieni wneud penderfyniadau ar ran eu plant bach. Wrth gwrs, mae’n anodd iawn gwneud penderfyniad pan mae’n rhaid inni bwyso a mesur nifer o ffactorau gwahanol. Er bod y rhai “sydd â’r cymwysterau ysbrydol” yn gallu ein helpu i gario ein “beichiau,” dydyn nhw ddim yn gallu penderfynu ar ein rhan. Ein cyfrifoldeb ni ydy hynny. (Galatiaid 6:1, 2) Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb droston ni’n hunain o flaen Duw,” a “bydd pob un yn cario ei lwyth ei hun.” (Rhufeiniaid 14:12; Galatiaid 6:5) Sut gallwn ni wneud hynny? Yn gyntaf, mae’n rhaid inni gydnabod bod angen help arnon ni, ac wedyn dysgu sut i wneud penderfyniadau da.

Beth Sy’n Rhaid Inni Ei Gael?

4. Beth mae anufudd-dod Adda ac Efa yn ei ddysgu inni am wneud penderfyniadau?

4 Yn fuan ar ôl i Dduw greu Adda, fe wnaeth y pâr cyntaf benderfyniad a ddaeth â chanlyniadau trychinebus. Dewison nhw fwyta ffrwyth coeden gwybodaeth da a drwg. (Genesis 2:16, 17) Beth oedd sail eu penderfyniad? “Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i’w fwyta . . . felly dyma hi’n cymryd peth o’i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i’w gŵr oedd gyda hi, a dyma fe’n bwyta hefyd.” (Genesis 3:6) Roedd penderfyniad Efa yn un hunanol. Gwnaeth hyn ddylanwadu ar Adda i wneud yr un peth. O ganlyniad i hyn, rydyn ni i gyd yn pechu ac yn marw. (Rhufeiniaid 5:12) Gallwn ni ddysgu gwers bwysig o anufudd-dod Adda ac Efa: Os nad ydyn ni’n dilyn arweiniad Duw, rydyn ni’n tueddu i wneud penderfyniadau drwg.

5. Pa arweiniad mae Jehofa wedi ei roi inni, a sut gallwn ni elwa ohono?

5 Rydyn ni mor falch bod Jehofa wedi rhoi arweiniad inni. Mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Wrth wyro i’r dde neu droi i’r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi’n dweud: ‘Dyma’r ffordd; ewch y ffordd yma!’” (Eseia 30:21) Mae Jehofa yn siarad â ni drwy ei Air, y Beibl. Mae’n rhaid inni astudio’r Ysgrythurau a chael gwybodaeth gywir. Er mwyn inni wneud penderfyniadau da, mae’n rhaid inni gael “bwyd solet [sydd] yn perthyn i bobl aeddfed.” Hefyd mae’n rhaid “dysgu i ddefnyddio [ein] gallu meddyliol i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg.” (Hebreaid 5:14) Rydyn ni’n gwneud hynny drwy roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu yng Ngair Duw.

6. Beth sydd ei angen er mwyn i’n cydwybod weithio’n iawn?

6 Mae’r gydwybod yn rhan bwysig o’n gallu i wneud penderfyniadau. Mae’n ein helpu ni i wahaniaethu rhwng y da a’r drwg, ac yn gallu ein cyhuddo neu ein hesgusodi. (Rhufeiniaid 2:14, 15) Ond er mwyn i’n cydwybod weithio’n iawn, mae angen ei hyfforddi gan ddefnyddio Gair Duw a thrwy roi’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu ar waith. Os nad ydyn ni’n gwneud hynny, mae’n debyg y byddwn ni’n gwneud penderfyniadau gwael, drwy ddilyn traddodiadau lleol a barn y bobl o’n cwmpas. Beth fydd yn digwydd i’r gydwybod os ydyn ni’n ei hanwybyddu dro ar ôl tro ac yn mynd yn erbyn gorchmynion Duw? Bydd yn stopio ein pigo ni pan ydyn ni’n gwneud pethau anghywir ac yn troi’n debyg i groen sydd “wedi ei serio gan haearn poeth” ac wedi colli pob teimlad. (1 Timotheus 4:2) Ar y llaw arall, bydd cydwybod sydd wedi ei hyfforddi gan Air Duw yn ein cadw ni’n ddiogel.

7. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn penderfynu’n ddoeth?

7 Os ydyn ni am wneud penderfyniadau doeth, mae’n rhaid inni gael gwybodaeth gywir am y Beibl, a bod â’r gallu i roi egwyddorion ar waith. Yn lle gwneud penderfyniadau byrbwyll, mae’n bwysig inni feddwl yn ofalus a chwilio’r Beibl am arweiniad. Os bydd rhaid inni wneud penderfyniad sydyn—fel roedd Shadrach, Meshach, ac Abednego yn gorfod gwneud—byddwn ni’n barod os ydyn ni’n gwybod egwyddorion y Beibl yn dda ac wedi hyfforddi ein cydwybod. Gad inni ystyried rhai esiamplau.

Cwmni Pwy Byddwch Chi’n Ei Ddewis?

8, 9. (a) Pa egwyddorion sy’n dangos pa mor bwysig yw osgoi cwmni drwg? (b) Ydy cadw cwmni drwg yn cyfeirio yn unig at gymdeithasu yn uniongyrchol â phobl anfoesol? Eglura.

8 “Peidiwch â chael eich camarwain,” ysgrifennodd yr apostol Paul. “Mae cwmni drwg yn difetha arferion da.” (1 Corinthiaid 15:33) Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Dydych chi ddim yn rhan o’r byd.” (Ioan 15:19) Felly fyddwn ni ddim yn dewis yn ffrindiau bobl sydd yn anfoesol yn rhywiol, yn odinebwyr, yn lladron, yn bobl sy’n meddwi ac yn y blaen. (1 Corinthiaid 6:9, 10) Wrth inni ddysgu mwy am y Beibl, rydyn ni’n dod i ddeall bod cadw cwmni pobl fel hyn mewn ffilmiau, ar y teledu, ar y we, neu mewn llyfrau, yn gallu bod yr un mor beryglus. Mae’r un peth yn wir am gymdeithasu â’r rhai sy’n twyllo eraill drwy guddio pwy ydyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.—Salm 26:4.

9 Ond beth am gymdeithasu â’r rhai sydd yn foesol lân ond sydd heb roi ffydd yn Nuw? Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r byd cyfan yn gorwedd yng ngafael yr un drwg.” (1 Ioan 5:19) Mae hyn yn ein helpu ni i weld nad pobl anfoesol yw’r unig gwmni drwg. Felly peth doeth fyddai dewis pobl sy’n caru Jehofa yn ffrindiau.

10. Beth fydd yn ein helpu i wneud penderfyniadau call ynglŷn â chymdeithasu â’r byd?

10 Mae’n amhosib inni osgoi pob cyswllt â’r byd ac nid yw Jehofa yn gofyn inni wneud hynny. (Ioan 17:15) Mae cymryd rhan yn y weinidogaeth a mynd i’r ysgol neu’r gwaith, i gyd yn gofyn am ryw gyswllt â phobl yn y byd. Efallai bydd yn rhaid i Gristion sy’n briod ag anghrediniwr gymdeithasu â’r byd yn fwy aml. Ond bydd defnyddio ein gallu meddyliol yn ein helpu ni i weld bod gwahaniaeth mawr rhwng cymdeithasu yn angenrheidiol â phobl yn y byd a’u dewis nhw yn ffrindiau agos. (Iago 4:4) O ganlyniad, byddwn ni’n gallu gwneud penderfyniadau call ynglŷn â chymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol, neu dreulio amser gyda’n cyd-weithwyr ar ôl oriau gwaith.

Dewis Gwaith

11. Beth dylen ni ei ystyried yn gyntaf, cyn dewis gwaith?

11 Bydd rhoi egwyddorion y Beibl ar waith yn ein helpu ni i benderfynu sut byddwn ni’n ‘darparu ar gyfer y rhai sy’n aelodau o’n teulu.’ (1 Timotheus 5:8) Y peth cyntaf inni ei ystyried yw pa fath o waith y byddwn ni’n ei wneud. Ni allwn ni ddewis gwaith sy’n gofyn inni wneud rhywbeth sy’n mynd yn erbyn gorchmynion Duw. Felly fyddai Cristnogion ddim yn gwneud gwaith sy’n golygu addoli eilunod, dwyn neu gamddefnyddio gwaed. Yn yr un modd, fyddwn ni ddim yn dweud celwydd na thwyllo eraill, hyd yn oed os bydd ein cyflogwr yn gofyn inni wneud hynny.—Actau 15:29; Datguddiad 21:8.

12, 13. Heblaw am y math o waith, pa ffactorau eraill dylen ni eu hystyried wrth ddewis gwaith?

12 Ond beth os nad yw’r gwaith eu hun yn mynd yn erbyn unrhyw orchymyn penodol oddi wrth Dduw? Wrth inni ddod i ddeall y Beibl yn well, gwelwn fod angen inni ystyried pethau eraill hefyd. Fyddai’r gwaith yn golygu cefnogi busnes sy’n hyrwyddo rhywbeth sydd yn groes i egwyddorion y Beibl, fel, er enghraifft, ateb y ffôn mewn safle gamblo? Mae hefyd yn bwysig inni ystyried pwy fydd yn ein talu, a lle byddwn ni’n gweithio. Er enghraifft, a fyddai Cristion sydd â chwmni peintio yn derbyn contract i beintio eglwys?—2 Corinthiaid 6:14-16.

13 Beth petai ein cyflogwr yn derbyn contract i beintio eglwys? Mewn achos o’r fath, bydd rhaid inni ystyried faint o gyfrifoldeb byddwn ni’n ei ysgwyddo am y gwaith ac i ba raddau byddwn ni’n rhan o’r prosiect. A beth am waith sydd yn wasanaeth cyffredin i bawb, fel, er enghraifft, dosbarthu’r post mewn cymuned sydd yn cynnwys rhai llefydd sydd yn hyrwyddo gweithgareddau anghywir? Bydd geiriau Mathew 5:45 yn ein helpu. Mae’n bwysig inni ystyried sut bydd gwneud y gwaith ddydd ar ôl dydd yn effeithio ar ein cydwybod. (Hebreaid 13:18) Er mwyn gwneud penderfyniadau da ynglŷn â’n gwaith, mae angen hyfforddi ein cydwybod.

“Gwrando Arno Fe Bob Amser”

14. Beth dylen ni ei ystyried wrth wneud penderfyniadau?

14 Pan fyddwn ni’n penderfynu ar bethau fel addysg neu driniaethau meddygol, yn gyntaf mae’n rhaid inni weld beth mae’r Beibl yn ei ddweud ac yna ystyried sut i roi ei gyngor ar waith. Dywedodd y Brenin Solomon: “Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.”—Diarhebion 3:5, 6.

15. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth y Cristnogion cynnar ynglŷn â gwneud penderfyniadau?

15 Yn aml, mae ein penderfyniadau’n effeithio ar eraill ac mae’n rhaid inni ystyried hynny. Er enghraifft, nid oedd y Cristnogion yn y ganrif gyntaf o dan Gyfraith Moses bellach. Felly roedden nhw’n gallu dewis bwydydd nad oedden nhw’n gallu eu bwyta o dan y Gyfraith. Sut bynnag, ysgrifennodd yr apostol Paul ynglŷn â chig oedd yn gysylltiedig ag eilun addoliad: “Os ydy bwyd yn gwneud i fy mrawd faglu, fydda i byth eto yn bwyta cig, fel na fydda i’n achosi i fy mrawd faglu.” (1 Corinthiaid 8:11-13) Roedd Paul yn annog y Cristnogion cynnar i ystyried sut byddai eu penderfyniadau yn effeithio ar eraill. Ni ddylai ein penderfyniadau wneud i eraill faglu.—1 Corinthiaid 10:29, 32.

Ceisia Ddoethineb Duw

16. Sut mae gweddi yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau?

16 Mae’n bwysig inni weddïo cyn gwneud penderfyniadau. Ysgrifennodd Iago: “Os oes gan unrhyw un ohonoch chi ddiffyg doethineb, fe ddylai ddal ati i ofyn i Dduw a bydd yn cael ei roi iddo, oherwydd mae ef yn rhoi’n hael i bob un heb weld bai arno.” (Iago 1:5) Gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa yn gwrando ar ein gweddïau ac yn rhoi inni’r doethineb sydd ei angen er mwyn gwneud penderfyniadau da. Wrth inni siarad â Jehofa am ein pryderon, bydd ei ysbryd glân yn ein helpu i ddeall yr ysgrythurau’n well a dod â nhw yn ôl i’n cof.

17. Sut gall pobl eraill ein helpu ni i wneud penderfyniadau?

17 A ydy pobl eraill yn gallu ein helpu ni i wneud penderfyniadau? Ydyn. Mae Jehofa wedi rhoi brodyr a chwiorydd aeddfed inni yn y gynulleidfa. (Effesiaid 4:11, 12) Gallwn ni ofyn iddyn nhw am help i wneud penderfyniadau pwysig. Gall y rhai sy’n deall y Beibl yn dda ein helpu i benderfynu’n ddoeth ac i wneud “yn siŵr o beth yw’r pethau mwyaf pwysig.” (Philipiaid 1:9, 10) Ond cofia, paid â gofyn i eraill benderfynu ar dy ran. Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.

A Fydd y Canlyniadau Wastad yn Dda?

18. Beth gallwn ni ei ddweud am ganlyniad penderfyniad da?

18 A fydd penderfyniadau sydd wedi eu seilio ar y Beibl wastad yn arwain at ganlyniadau da? Byddan, yn y tymor hir, er bydd pethau efallai’n anodd yn y tymor byr. Roedd Shadrach, Meshach, ac Abednego yn gwybod y gallen nhw gael eu lladd am wrthod addoli’r ddelw enfawr. (Daniel 3:16-19) Yn yr un modd, ar ôl i’r apostolion ddweud wrth y Sanhedrin Iddewig y bydden nhw’n ufuddhau i Dduw fel rheolwr yn hytrach nag i ddynion, cawson nhw eu chwipio cyn cael eu rhyddhau. (Actau 5:27-29, 40) Hefyd, “mae damweiniau’n gallu digwydd i bawb,” a chael effaith negyddol ar ganlyniadau ein penderfyniadau. (Pregethwr 9:11) Os ydyn ni’n dioddef mewn rhyw ffordd, er ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad iawn, gallwn fod yn hyderus y bydd Jehofa yn ein helpu ni i ddyfalbarhau, a bydd yn ein bendithio ni yn y pen draw.—2 Corinthiaid 4:7.

19. Sut gallwn dderbyn y cyfrifoldeb o gario ein llwyth ein hun wrth wneud penderfyniadau?

19 Pan fyddwn ni’n gwneud penderfyniadau, mae’n rhaid inni chwilio am egwyddorion yn y Beibl, ac yna defnyddio ein gallu meddyliol i’w rhoi ar waith. Rydyn ni’n hapus iawn bod Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân, a’n brodyr a’n chwiorydd aeddfed yn y gynulleidfa i’n helpu ni. Gyda’r pethau hyn i gyd i’n helpu, byddwn ni’n gallu ysgwyddo’r cyfrifoldeb i gario ein llwyth ein hun a gwneud penderfyniadau da.

Beth Wnest Ti Ei Ddysgu?

• Beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn penderfynu’n ddoeth?

• Sut mae deall y Beibl yn dda yn effeithio ar bwy rydyn ni’n eu dewis yn ffrindiau?

• Pa ffactorau pwysig dylen ni eu hystyried wrth benderfynu ynglŷn â gwaith?

• Pa help sydd ar gael i’n helpu ni i wneud penderfyniadau?

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Llun]

Mae anufudd-dod Adda ac Efa yn dysgu gwers bwysig inni

[Llun]

Cyn gwneud penderfyniadau pwysig, chwilia am egwyddorion yn y Beibl