Neidio i'r cynnwys

Henuriaid Cristnogol—Cyd-weithwyr er Ein Llawenydd

Henuriaid Cristnogol—Cyd-weithwyr er Ein Llawenydd

“Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn.”—2 COR. 1:24

1. Pam roedd Paul yn hapus o glywed am y Cristnogion yng Nghorinth?

YN Y flwyddyn 55 OG, clywodd yr apostol Paul fod dadl wedi codi ymhlith y brodyr yng Nghorinth. Roedd Paul yn eu caru nhw fel mae tad yn caru ei blant, felly anfonodd lythyr i’w cywiro. (1 Cor. 1:11; 4:15) Hefyd, gofynnodd Paul i’w ffrind, Titus, fynd i’w gweld nhw ac yna dod i borthladd Troas a dweud wrtho beth oedd wedi digwydd. Rai misoedd yn ddiweddarach, roedd Paul wedi cyrraedd Troas ond nid oedd Titus yno. Gan ei fod yn dal i boeni am y Corinthiaid, hwyliodd i Macedonia ac yno, er mawr lawenydd iddo, oedd Titus. Dywedodd Titus fod y brodyr yng Nghorinth wedi rhoi cyngor Paul ar waith ac yn wir eisiau ei weld. Ar ôl clywed hyn, roedd Paul yn “hapusach fyth.”—2 Cor. 2:12, 13; 7:5-9.

2. (a) Beth ddywedodd Paul wrth y Corinthiaid am ffydd a llawenydd? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod?

2 Yn fuan wedyn, ysgrifennodd Paul lythyr arall at y Corinthiaid, gan ddweud: “Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn, a sefyll yn gadarn am eich bod wedi credu drosoch eich hunain.” (2 Cor. 1:24) Beth roedd Paul yn ei olygu? A sut mae’r geiriau hynny’n effeithio ar henuriaid Cristnogol heddiw?

EIN FFYDD A’N LLAWENYDD

3. (a) Beth roedd Paul yn ei olygu pan ysgrifennodd fod Cristnogion ‘yn sefyll yn gadarn am eu bod wedi credu drostyn nhw eu hunain’? (b) Sut mae’r henuriaid yn efelychu esiampl Paul heddiw?

3 Soniodd Paul am ddwy rinwedd bwysig i Gristion, sef ffydd a llawenydd. Ynglŷn â ffydd, ysgrifennodd: “Dŷn ni ddim eisiau’ch fforsio chi i gredu. . . . Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael . . . sefyll yn gadarn am eich bod wedi credu drosoch eich hunain.” Roedd Paul yn gwybod bod y brodyr yng Nghorinth yn gwasanaethu Duw oherwydd eu ffydd eu hunain, nid oherwydd ffydd Paul na neb arall. Roedd yn sicr eu bod nhw’n caru Duw ac eisiau gwneud y peth iawn. Felly, nid oedd angen i Paul geisio rheoli ffydd ei frodyr. (2 Cor. 2:3) Heddiw, mae’r henuriaid yn efelychu Paul drwy gydnabod ffydd eu brodyr a’u cariad tuag at Dduw. (2 Thes. 3:4) Nid ydyn nhw’n creu rheolau llym ar gyfer y gynulleidfa. Yn hytrach, maen nhw’n helpu eu brodyr i benderfynu ar sail egwyddorion o’r Beibl ac i ddilyn arweiniad cyfundrefn Jehofa. Nid yw’r henuriaid yn ceisio rheoli ffydd eu brodyr.—1 Pedr 5:2, 3.

4. (a) Beth roedd Paul yn ei olygu pan ysgrifennodd: “Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn”? (b) Sut mae henuriaid yn efelychu agwedd Paul heddiw?

4 Dywedodd Paul hefyd: “Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn.” Am bwy roedd Paul yn siarad? Roedd Paul yn siarad am y rhai oedd wedi gweithio’n galed gydag ef i helpu’r Corinthiaid. Sut rydyn ni’n gwybod hyn? Oherwydd yn yr un llythyr, roedd Paul yn sôn am “y neges roeddwn i a Silas a Timotheus yn ei chyhoeddi . . . sef y neges am Iesu y Meseia.” (2 Cor. 1:19) Hefyd, pan oedd Paul yn sôn am “gyd-weithwyr” yn ei lythyrau, roedd yn cyfeirio at y rhai oedd yn gweithio’n galed gydag ef yn y gwaith pregethu, sef rhai fel Apolos, Acwila, Prisca, Timotheus, Titus, ac eraill. (Rhuf. 16:3, 21; 1 Cor. 3:6-9; 2 Cor. 8:23) Felly, drwy ddweud: “Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn,” roedd Paul yn dweud bod ef a’i gyd-weithwyr eisiau helpu pawb yn y gynulleidfa i wasanaethu Duw yn hapus. Heddiw, mae’r henuriaid eisiau gwneud cymaint ag y gallan nhw i helpu eu brodyr i addoli’r “ARGLWYDD yn llawen.”—Salm 100:2; Phil. 1:25.

5. Pa gwestiwn a ofynnwyd i rai brodyr a chwiorydd? Beth dylet ti ei wneud wrth inni drafod eu hatebion?

5 Yn ddiweddar, gofynnwyd i frodyr a chwiorydd ffyddlon mewn gwahanol wledydd, “Beth mae’r henuriaid wedi ei ddweud neu ei wneud sydd wedi dy helpu di i fod yn llawen?” Byddwn yn trafod eu hatebion yn yr erthygl hon. Wrth i ni wneud hyn, meddylia am bethau mae’r henuriaid wedi eu gwneud sydd wedi dy helpu di i fod yn llawen. Hefyd, meddylia am sut gelli di wneud dy gynulleidfa yn un hapus.

‘COFIWCH FI HEFYD AT PERSIS ANNWYL’

6, 7. (a) Sut gall henuriaid efelychu Iesu, Paul ac esiamplau eraill o’r Beibl? (b) Pam mae ein brodyr a chwiorydd yn hapusach pan fydd eraill yn cofio eu henwau?

6 Mae llawer o frodyr a chwiorydd yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n hapus pan fydd henuriaid yn dangos diddordeb ynddyn nhw. Un ffordd gall henuriaid wneud hyn yw drwy efelychu esiamplau Dafydd, Elihw ac Iesu (Darllen 2 Samuel 9:6; Job 33:1; Luc 19:5) Roedd y dynion hyn yn dangos bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn pobl eraill drwy ddefnyddio eu henwau. Roedd Paul hefyd yn gwybod ei bod hi’n bwysig iddo gofio a defnyddio enwau ei frodyr a chwiorydd. Ar ddiwedd un o’i lythyrau, cyfeiriodd Paul at fwy na 25 o’i frodyr a chwiorydd wrth eu henwau. Un o’r rhain oedd y chwaer Persis. Dywedodd Paul amdani: ‘Cofiwch fi hefyd at Persis annwyl.’—Rhuf. 16:3-15.

7 Mae rhai henuriaid yn ei chael hi’n anodd cofio enwau. Ond pan fydd henuriaid yn gwneud yr ymdrech i gofio, mae’r brodyr a chwiorydd yn teimlo eu bod nhw’n bwysig. (Ex. 33:17, BC) Mae’r brodyr a chwiorydd yn teimlo’n hapus pan fydd yr henuriaid yn defnyddio eu henwau wrth gymryd eu sylwadau yn ystod y cyfarfodydd.—Cymhara Ioan 10:3.

GWEITHIODD “YN ARBENNIG O GALED DROS YR ARGLWYDD”

8. Ym mha ffordd bwysig roedd Paul yn efelychu esiamplau Jehofa ac Iesu?

8 Dangosodd Paul ei fod yn caru ei frodyr a chwiorydd drwy eu canmol. Dyna ffordd arall y mae henuriaid yn gallu helpu eu brodyr a chwiorydd i wasanaethu Duw yn llawen. Felly, yn yr un llythyr at y Corinthiaid, dywedodd Paul: “Dw i wir yn falch ohonoch chi.” (2 Cor. 7:4) Gallwn fod yn sicr bod geiriau Paul wedi cyffwrdd â chalonnau ei frodyr yng Nghorinth. Roedd Paul hefyd yn canmol cynulleidfaoedd eraill am eu gwaith da. (Rhuf. 1:8; Phil. 1:3-5; 1 Thes. 1:8) Yn ei lythyr at y gynulleidfa yn Rhufain, soniodd Paul am Persis gan ddweud ei bod hi wedi “gweithio’n arbennig o galed dros yr Arglwydd.” (Rhuf. 16:12) Mae’n rhaid bod y geiriau hyn wedi calonogi Persis yn fawr! Roedd Paul yn efelychu Jehofa ac Iesu yn y ffordd roedd yn calonogi eraill.—Darllen Marc 1:9-11; Ioan 1:47; Dat. 2:2, 13, 19.

9. Pam mae rhoi a derbyn canmoliaeth yn gwneud i bobl yn y gynulleidfa deimlo’n hapusach?

9 Mae’r henuriaid heddiw yn gwybod pa mor bwysig yw dweud wrth eu brodyr a chwiorydd faint maen nhw’n eu gwerthfawrogi. (Diar. 3:27; 15:23) Pan fydd henuriad yn canmol ei frodyr, mae’n dangos ei fod yn gofalu amdanyn nhw ac yn gweld eu gwaith caled. Mae’n bwysig bod y brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa yn clywed yr henuriaid yn rhoi canmoliaeth. Dywed chwaer yn ei phum-degau: “Pur anaml dw i’n cael fy nghanmol yn y gwaith. Mae’r awyrgylch yn oeraidd ac yn gystadleuol. Felly, pan fydd henuriad yn fy nghanmol i am y gwaith dw i’n ei wneud yn y gynulleidfa, mae’n rhoi nerth newydd i mi. Mae’n gwneud i mi deimlo bod fy Nhad nefol yn fy ngharu.” Roedd brawd a oedd yn dad sengl i ddau o blant yn teimlo’r un fath pan roddodd henuriad ganmoliaeth iddo. Dywedodd ef: “Rhoddodd geiriau’r henuriad hwb mawr i mi!” Pan fydd henuriaid yn rhoi canmoliaeth, mae’n codi calonnau’r brodyr a chwiorydd ac yn eu helpu nhw i wasanaethu Jehofa yn llawen, “heb flino.”—Esei. 40:31.

GOFALWCH AM YR HOLL BRAIDD

10, 11. (a) Sut gall henuriaid efelychu esiampl Nehemeia? (b) Sut gall henuriad gryfhau ffydd ei frodyr a chwiorydd?

10 Ym mha ffordd arall gall henuriaid ddangos cariad at eu brodyr a’u helpu nhw i wasanaethu Jehofa yn llawen? Maen nhw’n ymateb yn gyflym i roi help i’r rhai sydd mewn angen. (Darllen Actau 20:28, BCND.) Yn hyn o beth, maen nhw’n efelychu gweision ffyddlon Duw yn amser y Beibl. Er enghraifft, pan welodd Nehemeia fod rhai o’i frodyr yn ddigalon, aeth ati’n syth i’w calonogi. (Neh. 4:14) Mae’r henuriaid heddiw eisiau gwneud yr un peth. Pan welan nhw fod eu brodyr yn ddigalon, maen nhw’n gwneud eu gorau i’w calonogi. Mae’r henuriaid yn ceisio ymweld â’u brodyr a chwiorydd yn eu cartrefi i rannu “rhyw fendith ysbrydol” gyda nhw. (Rhuf. 1:11) Sut gall yr henuriaid wneud hyn?

11 Mae’n bwysig i henuriad gymryd amser i feddwl am ei frodyr a chwiorydd cyn ymweld â nhw. Pa heriau maen nhw’n eu hwynebu? Beth galla’ i ddweud i’w calonogi? Pa adnodau neu esiamplau o’r Beibl fydd yn eu helpu? Bydd meddwl o flaen llaw yn helpu henuriad i gael sgwrs ystyrlon yn hytrach nag un am bethau dibwys yn unig. Pan fydd henuriad yn ymweld â brodyr a chwiorydd, mae’n gwrando’n astud ac yn gadael iddyn nhw siarad. (Iago 1:19) Dywed un chwaer: “Mae’n gysur mawr i mi i gael henuriaid sy’n gwrando arna i o ddifri.”—Luc 8:18.

Mae’r henuriaid yn meddwl am sut i’n calonogi cyn ymweld â ni

12. Pwy yn y gynulleidfa sydd angen anogaeth a pham?

12 Pwy sydd angen anogaeth yr henuriaid? Dywedodd Paul wrth yr henuriaid: “Gofalwch . . . am yr holl braidd.” Yn wir, mae angen anogaeth ar bawb yn y gynulleidfa, gan gynnwys y rhai sydd wedi bod yn gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon am flynyddoedd. Pam felly? Er bod ganddyn nhw ffydd gref, weithiau maen nhw’n teimlo bod pwysau’r byd yn ormod iddyn nhw. Mae’r brodyr a’r chwiorydd hyn hefyd angen help. Gad i ni weld beth ddigwyddodd i Dafydd pan wynebodd sefyllfa beryglus iawn.

DAETH ABISHAI I HELPU DAFYDD

13. (a) Pryd penderfynodd Ishbi-benob ymosod ar Dafydd? (b) Sut gwnaeth Abishai achub Dafydd?

13 Yn fuan ar ôl i Dafydd gael ei eneinio’n frenin, safodd wyneb yn wyneb â chawr o’r enw Goliath, un o’r Reffaiaid. Roedd Dafydd yn ddewr ac fe laddodd y cawr. (1 Sam. 17:4, 48-51; 1 Cron. 20:5, 8) Flynyddoedd wedyn, mewn brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, roedd Dafydd yn wynebu cawr arall. Ei enw ef oedd Ishbi-benob ac roedd ef hefyd yn un o’r Reffaiaid. (2 Sam. 21:16) Ond y tro hwn, gwnaeth y cawr bron â lladd Dafydd. Pam? Nid oedd Dafydd wedi colli ei ddewrder, ond mae’r Beibl yn dweud ei fod wedi “blino’n lân.” Pan welodd Ishbi-benob bod Dafydd wedi blino, penderfynodd ymosod arno. Ond cyn iddo ymosod, “dyma Abishai (mab Serwia) yn dod i helpu Dafydd a tharo’r Philistiad a’i ladd.” (2 Sam. 21:15-17) Bu bron i Dafydd farw! Mae’n rhaid bod Dafydd yn ddiolchgar iawn i Abishai am gadw llygad arno ac achub ei fywyd. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn?

14. (a) Sut gallwn ni aros yn ffyddlon wrth wynebu treialon? (b) Sut gall yr henuriaid helpu eraill i aros yn ffyddlon ac yn llawen? Rho esiampl.

14 Ledled y byd, mae pobl Jehofa yn ceisio gwasanaethu Duw er bod Satan yn gwneud pethau’n anodd. Mae rhai ohonon ni wedi wynebu heriau sy’n debyg i gewri. Ond drwy drystio yn Jehofa, roedd gynnon ni’r nerth i aros yn ffyddlon, fel cafodd Dafydd nerth i ladd Goliath. Ond ar adegau, gallwn deimlo bod pwysau’r byd yn ein digalonni. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, gall y pwysau fod yn ormod inni. Gall yr henuriaid weld sut rydyn ni’n teimlo a rhoi help i ni pan fydd angen. Wedyn, gallwn ni barhau i wasanaethu Jehofa yn llawen. Mae llawer ohonon ni wedi elwa ar hyn. Dywed arloeswraig yn ei chwedegau: “Peth amser yn ôl, doeddwn i ddim yn teimlo’n dda iawn ac roedd y weinidogaeth yn fy mlino. Sylwodd un o’r henuriaid nad oedd llawer o egni gen i a daeth i siarad â fi. Dangosodd rai adnodau imi a chawson ni sgwrs adeiladol. Wnes i roi ei awgrymiadau ar waith ac roedd hyn yn help mawr.” Ychwanegodd: “Roedd yr henuriad mor garedig, yn sylwi fy mod i’n wan ac yn rhoi help i mi.” Mae’n galonogol iawn i wybod bod yr henuriaid yn sylwi arnon ni ac yn barod i’n helpu ni, fel y gwnaeth Abishai helpu Dafydd.

ROEDDEN NHW’N GWYBOD BOD PAUL YN EU CARU

15, 16. (a) Pam roedd y brodyr a chwiorydd yn caru Paul? (b) Pam rydyn ni’n caru ein henuriaid cariadus?

15 Mae’r henuriaid yn gweithio’n galed iawn. Ar adegau, byddan nhw’n colli cwsg yn gweddïo am ac yn gofalu am y gynulleidfa. (2 Cor. 11:27, 28) Ond, fel Paul, mae’r henuriaid yn hapus i gyflawni eu cyfrifoldebau. Ysgrifennodd Paul at y Corinthiaid: “Dw i’n fwy na pharod i wario’r cwbl sydd gen i arnoch chi—a rhoi fy hun yn llwyr i chi.” (2 Cor. 12:15) Oherwydd ei gariad tuag at ei frodyr, roedd Paul yn fodlon defnyddio ei egni i’w cryfhau. (Darllen 2 Corinthiaid 2:4; Phil. 2:17; 1 Thes. 2:8) Nid yw’n syndod bod y brodyr yn caru Paul cymaint!—Act. 20:31-38.

16 Rydyn ni hefyd yn caru ein henuriaid cariadus ac yn diolch i Jehofa amdanyn nhw. Rydyn ni’n falch eu bod nhw’n cymryd diddordeb ym mhob un ohonon ni ac yn dod i’n gweld ni i roi anogaeth. Ac rydyn ni’n ddiolchgar eu bod nhw’n barod i’n helpu ni pan fydd pwysau’r byd yn teimlo’n ormod inni. Mae henuriaid o’r fath yn gweithio gyda ni er ein llawenydd.