Neidio i'r cynnwys

Helpu ein Perthnasau i Wasanaethu Jehofa

Helpu ein Perthnasau i Wasanaethu Jehofa

“DOS adre at dy deulu a dywed wrthyn nhw am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti, a sut mae wedi bod mor drugarog,” meddai Iesu Grist. Mae’n debyg ei fod yn ardal Gadara ar y pryd, i’r de-ddwyrain o Fôr Galilea, yn siarad â dyn oedd eisiau ei ddilyn. Mae geiriau Iesu yn dangos ei fod yn deall bod pobl yn hoffi rhannu’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw â’u perthnasau.—Marc 5:19.

Mae pobl yn dal i deimlo’r un ffordd heddiw, er bod hynny’n fwy amlwg mewn rhai diwylliannau nag eraill. Felly, pan fydd rhywun yn dechrau addoli’r gwir Dduw, fel arfer mae’n awyddus i sôn am ei ffydd newydd wrth ei deulu. Ond sut dylai rhywun fynd ati? Sut gallwn ni gyrraedd calonnau perthnasau sydd â chrefydd wahanol, neu sydd ddim yn credu yn Nuw o gwbl? Mae’r Beibl yn rhoi cyngor ymarferol.

“DŶN NI WEDI DOD O HYD I’R MESEIA”

Yn y ganrif gyntaf, un o’r rhai cyntaf i adnabod Iesu fel y Meseia oedd Andreas. Beth wnaeth Andreas? Y “peth cyntaf wnaeth e wedyn oedd mynd i chwilio am ei frawd Simon, a dweud wrtho, ‘Dŷn ni wedi dod o hyd i’r Meseia.’” Aeth Andreas â Simon Pedr at Iesu, gan roi’r cyfle iddo ddod yn un o ddisgyblion Iesu.—Ioan 1:35-42.

Tua chwe blynedd yn ddiweddarach, pan oedd Pedr yn Jopa, cafodd wahoddiad i fynd i Gesarea i ymweld â swyddog yn y fyddin yno o’r enw Cornelius. Pwy arall oedd yn y tŷ pan gyrhaeddodd Pedr a’i gyfeillion? “Roedd Cornelius yn disgwyl amdanyn nhw, ac wedi galw ei berthnasau a’i ffrindiau draw.” Rhoddodd Cornelius gyfle i’w berthnasau glywed Pedr yn siarad a phenderfynu wedyn drostyn nhw eu hunain.—Act. 10:22-33.

Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd roedd Andreas a Cornelius yn trin eu perthnasau?

Ni wnaeth Andreas na Cornelius adael pethau i hap a damwain. Fe wnaeth Andreas gyflwyno Pedr i Iesu, a rhoddodd Cornelius gyfle i’w berthnasau wrando ar Pedr. Ni wnaethon nhw roi pwysau ar eu teuluoedd, na cheisio dylanwadu’n slei arnyn nhw i wneud iddyn nhw ddilyn Crist. Dylen ni ddilyn eu hesiampl. Efallai byddwn yn gallu rhannu ychydig o wybodaeth gyda’n perthnasau a chreu cyfle iddyn nhw glywed neges y Beibl a dod i adnabod ein cyd-gredinwyr. Ond rydyn ni’n parchu eu hawl i ddewis ac yn osgoi rhoi pwysau arnyn nhw. Ystyriwch esiampl Jürgen a Petra, gŵr a gwraig yn yr Almaen.

Astudiodd Petra y Beibl gyda Thystion Jehofa ac ymhen amser cafodd ei bedyddio. Roedd ei gŵr, Jürgen, yn swyddog yn y fyddin. Ar y dechrau, nid oedd Jürgen yn hapus iawn am benderfyniad ei wraig. Ond yn y pen draw, daeth i gredu bod y Tystion yn dysgu’r gwir o’r Beibl. Ymgysegrodd i Jehofa a heddiw, mae’n gwasanaethu fel henuriad. Pa gyngor mae’n ei roi am sut i gyffwrdd â chalonnau eich perthnasau sydd â chrefydd wahanol?

Dywed Jürgen: “Dylen ni beidio â gorfodi’r mater a boddi ein perthnasau gyda gwybodaeth am y Beibl. Mae hyn yn gallu ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw dderbyn y gwir. Yn y tymor hir, gwell inni gynnig tameidiau bach blasus bob hyn a hyn. Mae hefyd yn syniad da inni gyflwyno ein perthnasau i frodyr sydd tua’r un oedran ac sydd â diddordebau tebyg. Mae hyn yn codi pontydd.”

“Dylen ni beidio â gorfodi’r mater a boddi ein perthnasau gyda gwybodaeth am y Beibl.”—Jürgen

Ymatebodd yr apostol Pedr a theulu Cornelius yn gyflym i neges y Beibl. Ond roedd eraill angen mwy o amser i wneud penderfyniad.

BETH AM FRODYR IESU?

Roedd sawl aelod o deulu Iesu yn rhoi ffydd ynddo yn ystod ei fywyd ar y ddaear. Er enghraifft, mae’n bosib bod yr apostolion Iago ac Ioan yn gefndryd i Iesu, a bod eu mam, Salome, yn fodryb iddo. Mae’n bosib mai hi oedd yn un o’r gwragedd a oedd yn “defnyddio eu harian i helpu i gynnal Iesu a’i ddisgyblion.”—Luc 8:1-3.

Ond nid oedd pob aelod o deulu Iesu yn credu ynddo ar y dechrau. Er enghraifft, tua blwyddyn ar ôl i Iesu gael ei fedyddio, daeth tyrfa o bobl i wrando arno mewn tŷ. Ond “pan glywodd ei deulu am hyn, dyma nhw’n penderfynu fod rhaid rhoi stop ar y peth. ‘Mae’n wallgof’, medden nhw.” Yn ddiweddarach, pan ofynnodd ei hanner frodyr am ei gynlluniau i fynd i Jerwsalem, ni roddodd Iesu ateb clir iddyn nhw. Pam felly? Oherwydd “doedd . . . ei frodyr ei hun ddim yn credu ynddo.”—Marc 3:21; Ioan 7:5.

Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu yn trin ei berthnasau? Nid oedd yn digio pan ddywedodd eraill ei fod yn wallgof. Hyd yn oed ar ôl iddo gael ei ladd a’i atgyfodi, ceisiodd Iesu helpu ei deulu drwy ymddangos i’w hanner brawd Iago. Mae’n rhaid bod hyn wedi argyhoeddi Iago, a’r hanner brodyr eraill, mai Iesu oedd y Meseia. O ganlyniad, roedden nhw i gyd gyda’r apostolion ac eraill mewn ystafell yn Jerwsalem pan dderbyniwyd yr ysbryd glân. Ymhen amser, roedd Iago ac un arall o hanner brodyr Iesu, sef Jwdas, yn gwneud gwaith pwysig yng ngwasanaeth Jehofa.—Act. 1:12-14; 2:1-4; 1 Cor. 15:7.

MAE ANGEN AMSER AR RAI

“Amynedd, amynedd, a mwy o amynedd, dyna beth sy’n llwyddo orau.”—Roswitha

Fel yn y ganrif gyntaf, mae’n cymryd cryn dipyn o amser i rai dderbyn neges y Beibl. Cymerwch Roswitha, er enghraifft, a oedd yn aelod selog o’r Eglwys Gatholig Rufeinig pan gafodd ei gŵr ei fedyddio yn un o Dystion Jehofa ym 1978. Yn fenyw ddiffuant, roedd Roswitha yn anghytuno’n ffyrnig â’i gŵr. Ond dros y blynyddoedd, newidiodd ei hagwedd a daeth i gredu bod y Tystion yn dysgu’r gwir. Yn 2003, cafodd hi ei bedyddio. Beth a’i helpodd? Yn lle digio wrthi am ei wrthwynebu, rhoddodd gŵr Roswitha gyfle iddi newid ei barn. Beth mae Roswitha yn ei ddweud? “Amynedd, amynedd, a mwy o amynedd, dyna beth sy’n llwyddo orau.”

Cafodd Monika ei bedyddio ym 1974, a daeth ei dau fab yn Dystion tua deng mlynedd yn ddiweddarach. Er nad oedd ei gŵr, Hans, yn eu gwrthwynebu, ni chafodd ef ei fedyddio tan 2006. O edrych yn ôl, beth fyddai cyngor y teulu? “Glynwch yn ffyddlon wrth Jehofa, a pheidiwch â chyfaddawdu ar faterion ffydd.” Wrth gwrs, roedd yn bwysig i’r teulu atgoffa Hans eu bod nhw’n dal i’w garu. A doedden nhw byth yn colli ffydd y byddai’n derbyn eu ffydd yn y pen draw.

MWYNHAU DŴR Y BYWYD

Dywedodd Iesu fod y gwir yn debyg i ddŵr sy’n rhoi bywyd tragwyddol. (Ioan 4:13, 14) Rydyn ni eisiau i’n perthnasau fwynhau dŵr clir y gwir. Ond fydden ni ddim eisiau tywallt cymaint o ddŵr i lawr eu gyddfau nes eu bod nhw’n tagu. Gan amlaf, y ffordd rydyn ni’n esbonio ein ffydd sy’n penderfynu a ydyn nhw’n mwynhau neu beidio. Mae’r Beibl yn dweud bod “person cyfiawn yn meddwl cyn ateb,” a bod “person doeth yn meddwl cyn siarad; mae ei eiriau yn dwyn perswâd.” Sut gallwn ni roi’r cyngor hwn ar waith?—Diar. 15:28; 16:23.

Efallai bydd gwraig eisiau esbonio ei ffydd i’w gŵr. Os ydy hi’n “meddwl cyn ateb,” bydd hi’n gallu dewis ei geiriau yn ofalus. Ddylai hi ddim rhoi’r argraff o fod yn hunangyfiawn neu’n nawddoglyd. Drwy ddewis ei geiriau yn ofalus, bydd yr awyrgylch yn y cartref yn fyw heddychlon. Pryd bydd y gŵr yn hapus i siarad? Pa fath o bethau sydd o ddiddordeb iddo? Oes ganddo ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, gwleidyddiaeth, neu chwaraeon? Sut mae’n bosib iddi ennyn ei ddiddordeb yn y Beibl a hefyd parchu ei farn a’i deimladau? Bydd meddwl am y pethau hyn yn ei helpu hi i fod yn gall.

Ond mae cyrraedd calonnau ein perthnasau sydd ddim yn Dystion yn gofyn am fwy nag esbonio ein ffydd fesul dipyn. Mae’n rhaid inni fyw ein pregeth.

BYDDWCH YN ESIAMPL DDA

Dywed Jürgen, y soniwyd amdano uchod: “Byddwch yn gyson wrth roi egwyddorion y Beibl ar waith yn eich bywyd bob dydd. Bydd eich teulu yn sylwi ar eich ymddygiad, er efallai na fydden nhw’n fodlon cyfaddef hynny.” Mae Hans, a gafodd ei fedyddio tua 30 mlynedd ar ôl ei wraig, yn cytuno. “Mae gosod esiampl dda yn hynod o bwysig, fel bod y teulu yn gweld sut mae’r gwir wedi ein newid er gwell.” Dylai ein teulu allu gweld bod y gwir yn ein gwneud ni’n wahanol i bobl eraill, a hynny mewn ffordd gadarnhaol, yn hytrach na negyddol.

“Mae gosod esiampl dda yn hynod o bwysig, fel bod y teulu yn gweld sut mae’r gwir wedi ein newid er gwell.”—Hans

Rhoddodd yr apostol Pedr gyngor da i wragedd nad yw eu gwŷr yn credu’r un fath â nhw: “Dylech chi’r gwragedd priod ymostwng i’ch gwŷr. Wedyn bydd y dynion hynny sy’n gwrthod credu neges Duw yn cael eu hennill gan y ffordd dych chi’n ymddwyn, heb i chi orfod dweud gair. Byddan nhw’n dod i gredu wrth weld eich bywydau duwiol a glân chi. Dim y colur ar y tu allan sy’n eich gwneud chi’n ddeniadol, na phethau fel steil gwallt, tlysau aur a dillad ffasiynol. Beth sy’n bwysig ydy’r hyn ydych chi’r tu mewn—y math o harddwch fydd byth yn diflannu, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna beth sy’n werthfawr yng ngolwg Duw.”—1 Pedr 3:1-4.

Ysgrifennodd Pedr fod modd i wraig ddylanwadu’n dda ar ei gŵr drwy ei hymddygiad fel Cristion. Mae chwaer o’r enw Christa wedi bod yn ceisio dilyn y cyngor hwn ers iddi gael ei bedyddio ym 1972. Er bod ei gŵr wedi astudio gyda’r Tystion yn y gorffennol, nid yw wedi penderfynu gwasanaethu Jehofa hyd yn hyn. Y mae’n dod i’r cyfarfodydd o bryd i’w gilydd, ac yn mwynhau cwmni rhai yn y gynulleidfa. Maen nhw, yn eu tro, yn parchu ei hawl i ddewis. Sut mae Christa yn ceisio cyrraedd ei galon?

“Dw i’n benderfynol o gadw at ffordd Jehofa. Dw i’n gobeithio bydd fy esiampl dda yn dwyn perswâd ar fy ngŵr, ‘heb i mi ddweud gair.’ Os bydd fy ngŵr eisiau gwneud rhywbeth, a hynny ddim yn erbyn egwyddorion y Beibl, byddaf yn ceisio ei blesio. Ac, wrth gwrs, dw i’n parchu ei hawl i ddewis ac yn gadael pethau yn nwylo Jehofa.”

Mae esiampl Christa yn dangos pa mor bwysig yw bod yn rhesymol. Mae hi’n cadw ei pherthynas â Jehofa yn gryf drwy fynd i’r cyfarfodydd a chael rhan yn y weinidogaeth. Ond eto, mae hi’n gwybod pa mor bwysig yw treulio amser gyda’i gŵr a dangos ei bod yn ei garu. Mae angen i ni i gyd fod yn hyblyg ac yn rhesymol wrth ddelio â pherthnasau nad ydyn nhw’n gwasanaethu Jehofa. Mae’r Beibl yn dweud bod “amser penodol i bopeth.” Mae hyn yn cynnwys treulio amser gyda’r teulu, yn enwedig gŵr neu wraig sydd â chrefydd wahanol. Mae treulio amser gyda’n gilydd yn ein helpu ni i gyfathrebu’n well. A bydd hyn yn helpu ein cymar i beidio â theimlo’n unig neu’n genfigennus.—Preg. 3:1.

PEIDIWCH AG ANOBEITHIO

“Mae’n bwysig inni barhau i garu ein perthnasau a gweddïo drostyn nhw,” meddai Holger, y cafodd ei dad ei fedyddio ugain mlynedd ar ôl gweddill y teulu. Dywed Christa ei bod hi’n ‘dal i obeithio y bydd ei gŵr yn derbyn y gwir a dechrau gwasanaethu Jehofa.’ Rydyn ni’n cadw agwedd bositif tuag at ein perthnasau ac yn dal i obeithio y byddan nhw’n dod i wasanaethu Jehofa ryw ddiwrnod.

Rydyn ni eisiau cadw perthynas dda gydag aelodau’r teulu er mwyn eu helpu nhw i dderbyn neges y Beibl. Ymhob ffordd, dylen ni fod “yn garedig . . . A dangos y parch fyddai Duw am i chi ei ddangos atyn nhw.”—1 Pedr 3:15, 16.