Neidio i'r cynnwys

CYFWELIAD | ANTONIO DELLA GATTA

Pam Gadawodd Offeiriad Ei Eglwys

Pam Gadawodd Offeiriad Ei Eglwys

Ar ôl astudio yn Rhufain am naw mlynedd, cafodd Antonio Della Gatta ei ordeinio yn offeiriad ym 1969. Yn ddiweddarach, gwasanaethodd fel rheithor, neu bennaeth, ar goleg offeiriadol yn agos i Napoli, Yr Eidal. Yn ystod ei amser yno, ac ar ôl llawer o astudiaeth a myfyrio, daeth i’r casgliad fod y grefydd Gatholig ddim wedi ei seilio ar y Beibl. Rhannodd hanes ei daith ysbrydol gyda’r cylchgrawn Deffrwch!

Sut fath o blentyndod gest ti?

Ces i fy ngeni yn Yr Eidal ym 1943. Wnes i dyfu i fynnu gyda fy mrodyr a chwiorydd mewn pentref bach lle roedd fy nhad yn ffermwr a saer coed. Cawson ni ein magu i fod yn Gatholigion da.

Pam oeddet ti eisiau dod yn offeiriad?

Pan o’n i’n fachgen, oeddwn i’n wrth fy modd yn gwrando ar yr offeiriad yn yr eglwys. Ces i fy hudo gan eu lleisiau, yn ogystal â’u defodau trawiadol. O’n i’n benderfynol o ddod yn offeiriad. Wrth droi’n 13 oed, aeth fy mam â fi i ysgol breswyl a oedd yn paratoi bechgyn ar gyfer astudiaethau uwch ar gyfer yr offeiriadaeth.

A oedd dy hyfforddiant yn cynnwys astudio’r Beibl?

Rhywfaint, ond dim llawer. Pan o’n i’n 15, cefais gopi o’r Efengylau gan un o fy athrawon—sef hanesion hanesyddol o fywyd a gweinidogaeth Iesu—a darllenais i’r llyfr sawl gwaith. Pan o’n i’n 18, mi es i Rufain i astudio yn y prifysgolion esgobol, sydd o dan awdurdod uniongyrchol y pab. Wnes i astudio Lladin, Groeg, hanes, athroniaeth, seicoleg, a diwinyddiaeth. Er inni adrodd adnodau o’r Beibl, a chlywed darlleniadau o’r Beibl mewn pregeth ar ddyddiau Sul, wnaethon ni ddim astudio’r Beibl ei hun.

Ddest ti’n rheithor. Oedd hynny’n golygu dysgu eraill?

Gwaith gweinyddol oedd e, rhan fwyaf o’r amser. Ond mi wnes i ddysgu dosbarthiadau ar ordinhadau Ail Gyngor Y Fatican.

Pam wnest ti ddechrau amau’r eglwys?

Oedd tri pheth yn peri trafferth imi. Roedd yr eglwys yn ymwneud â gwleidyddiaeth. Oedd yr eglwys yn cau llygaid i’r ffaith fod clerigwyr a phlwyfolion yn cambihafio. A doedd rhywbeth ddim cweit yn iawn gyda rhai o’r dysgeidiaethau Catholig. Er enghraifft, sut gallai Duw cariad gosbi pobl am byth ar ôl iddyn nhw farw? Ac ydy Duw wir eisiau inni ailadrodd gweddïau cannoedd o weithiau gyda llaswyr, neu rosari? *

Beth wnest ti nesaf?

Gyda dagrau yn llifo, gweddïais am arweiniad. Prynais gopi o’r Beibl Jerwsalem Catholig, a oedd newydd gael ei gyhoeddi yn Eidaleg, a wnes i ddechrau ei ddarllen. Un fore Sul, wrth imi hongian fy ngwisg ar ôl yr Offeren, daeth dau ddyn i’r coleg. Gwnaethon nhw gyflwyno eu hunain imi fel Tystion Jehofa. Mi wnaethon ni siarad am fwy nag awr am y Beibl a sut mae adnabod y gwir grefydd.

Pa fath o argraff wnaeth yr ymwelwyr arnat ti?

O’n i’n edmygu eu hargyhoeddiad a’r ffordd roedden nhw’n gallu cyfeirio at adnodau mewn fersiwn Catholig o’r Beibl mewn chwinciad. Yn hwyrach ymlaen, dechreuodd Tyst arall o’r enw Mario ymweld â mi. Roedd e’n amyneddgar ac yn ffyddlon. Bob bore Sadwrn, glaw neu hindda, roedd e’n canu cloch y coleg am naw o’r gloch.

Beth oedd yr offeiriaid eraill yn meddwl am yr ymweliadau?

Wnes i estyn wahoddiad iddyn nhw ymuno yn ein trafodaethau, ond doedd yr un ohonyn nhw’n cymryd astudio’r Beibl o ddifri. Ar y llaw arall, oeddwn i wrth fy modd. O’n i’n dysgu pethau rhyfeddol, fel pam bod Duw yn caniatáu drygioni a dioddefaint—rhywbeth o’n i wedi pendroni drosto ers blynyddoedd.

A wnaeth dy benaethiaid ceisio dy berswadio i beidio ag astudio’r Beibl?

Ym 1975, wnes i ymweld â Rhufain sawl gwaith i esbonio fy safbwynt. Wnaeth y clerigwyr uwch geisio newid fy ffordd o feddwl, ond wnaeth yr un ohonyn nhw ddefnyddio’r Beibl. Yn y diwedd, ar Ionawr 9, 1976, ysgrifennais at Rufain gan ddweud nad oeddwn i bellach yn ystyried fy hun yn Gatholig. Deuddydd wedyn, wnes i adael y coleg a chymryd trên er mwyn mynd i fy nghyfarfod cyntaf gyda Thystion Jehofa, a oedd yn digwydd bod yn gynulliad gyda sawl gynulleidfa yn bresennol. Roedd pob dim mor wahanol i’r hyn roeddwn i wedi arfer ag e! Roedd pob Tyst â’i Feibl ei hun, a phawb yn dilyn y siaradwyr wrth iddyn nhw drafod amryw bynciau.

Beth oedd dy deulu yn meddwl am hyn i gyd?

Oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn fy ngwrthwynebu’n chwyrn. Ond ges i wybod bod un o fy mrodyr yn astudio gyda’r Tystion yn Lombardi, ardal yng ngogledd yr Eidal. Wnes i alw i’w weld e, a wnaeth y Tystion yno fy helpu i gael gwaith a rhywle i fyw. Hwyrach y flwyddyn honno, ces i fy medyddio fel un o Dystion Jehofa.

O’r diwedd, dw i wir yn teimlo fy mod i wedi closio at Dduw

Wyt ti’n difaru dy benderfyniad?

Dim o gwbl! O’r diwedd, dw i wir yn teimlo fy mod i wedi closio at Dduw, am fod yr hyn dwi’n gwybod amdano wedi ei seilio ar y Beibl, nid ar athroniaeth na thraddodiad yr eglwys. A bellach, dw i’n gallu dysgu eraill gydag argyhoeddiad ac yn gwbl ddiffuant.

^ Par. 13 Mae’r Beibl yn rhoi atebion clir i’r cwestiynau hyn, a llawer o gwestiynau eraill hefyd. . Edrychwch o dan DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > ATEBION I GWESTIYNAU AM Y BEIBL.