Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

Mae’r adnodd hwn ar gyfer astudio’r Beibl wedi cael ei baratoi i’ch helpu chi i ddysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud ar amryw bynciau, gan gynnwys pam rydyn ni’n dioddef, beth sy’n digwydd inni ar ôl inni farw, sut gallwn ni gael bywyd teuluol hapusach, a mwy.

Ai Bwriad Duw Oedd Hyn?

Efallai eich bod chi’n gofyn pam mae cymaint o broblemau heddiw. A wyddoch chi fod y Beibl yn sôn am newidiadau mawr ar y gorwel a fydd yn newid y byd er gwell?

PENNOD 1

Beth Yw’r Gwir am Dduw?

Ydych chi’n meddwl bod gan Dduw ddiddordeb personol ynoch chi? Dysgwch amdano a gwelwch sut y gallwch chi nesáu ato.

PENNOD 2

Y Beibl—Llyfr Oddi Wrth Dduw

Sut gall y Beibl eich helpu gyda’ch problemau? Pam gallwch chi roi ffydd ym mhroffwydoliaethau’r Beibl?

PENNOD 3

Beth Yw Pwrpas Duw ar Gyfer y Ddaear?

A fydd pwrpas Duw i droi’r ddaear yn baradwys yn cael ei wireddu? Os felly, pryd?

PENNOD 4

Pwy Yw Iesu Grist?

Dysgwch pam mai Iesu yw’r Meseia, o le y daeth, a pham mai ef yw unig-anedig fab Jehofa.

PENNOD 5

Y Pridwerth—Anrheg Fwyaf Duw

Beth yw’r pridwerth? Beth mae’n ei olygu i chi?

PENNOD 6

Lle Mae’r Meirw?

Dysgwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am gyflwr y meirw a pham mae pobl yn marw.

PENNOD 7

Gobaith Sicr ar Gyfer Eich Anwyliaid Sydd Wedi Marw

Ydych chi wedi cael profedigaeth? A fyddwch yn gweld eich anwyliaid eto? Gwelwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am yr atgyfodiad.

PENNOD 8

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Mae Gweddi’r Arglwydd yn gyfarwydd i lawer. Beth yw ystyr y geiriau: ‘Deled dy Deyrnas’?

PENNOD 9

Ydyn Ni’n Byw yn “y Dyddiau Diwethaf”?

Ystyriwch sut mae ymddygiad pobl o’n cwmpas yn dangos ein bod ni’n byw yn “y dyddiau diwethaf” y mae sôn amdanyn nhw yn y Beibl.

PENNOD 10

Sut Mae Ysbryd-Greaduriaid yn Effeithio Arnon Ni?

Mae’r Beibl yn sôn am angylion a chythreuliaid. Ydy’r fath bethau’n bod? Ydyn nhw’n gallu effeithio ar eich bywyd?

PENNOD 11

Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

Mae llawer yn rhoi’r bai ar Dduw am yr holl ddioddefaint yn y byd. Beth rydych chi’n ei feddwl? Gwelwch beth mae Duw yn ei ddweud am ddioddefaint.

PENNOD 12

Byw Mewn Ffordd Sy’n Plesio Duw

Mae’n bosibl byw mewn ffordd sy’n plesio Duw. Gallwch hyd yn oed fod yn ffrind iddo.

PENNOD 13

Agwedd Duw at Fywyd

Beth yw barn Duw ar erthylu, trallwyso gwaed, a bywyd anifeiliaid?

PENNOD 14

Sut i Gael Bywyd Teuluol Hapus

Mae cariad Iesu yn esiampl dda i wŷr, gwragedd, rhieni, a phlant. Beth rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth Iesu?

PENNOD 15

Addoliad y Mae Duw yn ei Gymeradwyo

Ystyriwch chwe nodwedd sy’n ein helpu i weld pwy sy’n dilyn gwir grefydd.

PENNOD 16

Sefwch yn Gadarn o Blaid Gwir Addoliad

Pa her sydd ynghlwm wrth rannu eich daliadau ag eraill? Sut gallwch esbonio heb ddigio neb?

PENNOD 17

Nesáu at Dduw Drwy Weddïo

Ydy Duw yn gwrando ar ein gweddïau? Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw mae’n rhaid ichi ddeall yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddysgu am weddi.

PENNOD 18

Bedydd a’ch Perthynas â Duw

Pa gamau dylech eu cymryd i fod yn gymwys ar gyfer eich bedyddio’n Gristion? Gwelwch beth mae’n ei olygu a sut mae rhywun yn cael ei fedyddio.

PENNOD 19

Arhoswch yng Nghariad Duw

Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am bob peth y mae Duw wedi ei wneud droston ni?

ATODIAD

Yr Enw Dwyfol—Ei Ddefnydd a’i Ystyr

Mae llawer o gyfieithiadau o’r Beibl yn hepgor yr enw Jehofa. Pam? Pa mor bwysig yw defnyddio enw Duw?

ATODIAD

Mae Proffwydoliaeth Daniel yn Rhagfynegi Dyfodiad y Meseia

Fwy na 500 o flynyddoedd o flaen llaw, datgelodd Duw pryd yn union y byddai’r Meseia yn dod. Dysgwch am y broffwydoliaeth ddiddorol hon!

ATODIAD

Iesu Grist—Y Meseia Addawedig

Cyflawnodd Iesu holl broffwydoliaethau’r Beibl ynglŷn â’r Meseia. Edrychwch yn eich Beibl i weld sut y cafodd pob manylyn o’r proffwydoliaethau hyn eu gwireddu.

ATODIAD

Y Gwir am y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân

Mae llawer o bobl yn credu bod dysgeidiaeth y Drindod i’w gweld yn y Beibl. Ydy hynny’n wir?

ATODIAD

A Ddylai Cristnogion Ddefnyddio’r Groes Wrth Addoli?

Ai ar groes y bu farw Iesu? Gwelwch yr ateb yn y Beibl.

ATODIAD

Swper yr Arglwydd—Dathliad Sy’n Anrhydeddu Duw

Mae Cristnogion dan orchymyn i ddathlu Coffadwriaeth marwolaeth Crist. Pryd a sut y dylen ni wneud hyn?

ATODIAD

“Enaid” ac “Ysbryd”—Beth Yw Gwir Ystyr y Termau Hyn?

Mae llawer yn credu bod rhywbeth anweledig yn gadael y corff ar ôl marwolaeth, ac yn parhau i fyw. Beth mae Gair Duw yn ei ddweud?

ATODIAD

Beth Yw Sheol a Hades?

Mae rhai cyfieithiadau o’r Beibl yn trosi’r geiriau Sheol a Hades fel “bedd” neu “uffern.” Beth yw gwir ystyr y geiriau hyn?

ATODIAD

Beth Yw Dydd y Farn?

Dysgwch sut y bydd Dydd y Farn yn fendith i bobl ffyddlon.

ATODIAD

1914—Blwyddyn Arwyddocaol ym Mhroffwydoliaethau’r Beibl

Pa dystiolaeth o’r Beibl sy’n dangos bod 1914 yn flwyddyn arwyddocaol?

ATODIAD

Pwy Yw Mihangel yr Archangel?

Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni pwy yw’r archangel pwerus hwn. Dysgwch fwy amdano ac am yr hyn y mae’n ei wneud nawr.

ATODIAD

Adnabod “Babilon Fawr”

Mae llyfr Datguddiad yn sôn am ddynes o’r enw “Babilon Fawr.” Ai dynes go iawn ydy hi? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud amdani?

ATODIAD

A Gafodd Iesu ei Eni ym Mis Rhagfyr?

Ystyriwch sut byddai’r tywydd pan gafodd Iesu ei eni. Beth mae hynny’n ei ddweud wrthon ni?

ATODIAD

A Ddylen Ni Ddathlu Gwyliau?

Beth yw gwreiddiau llawer o’r gwyliau sy’n boblogaidd yn eich ardal chi? Efallai byddwch yn synnu o weld yr ateb.